Celtic Connections

gŵyl gerddoriaeth Geltaidd a'r byd a gynhelir yn flynyddol yn Glasgow, yr Alban

Gŵyl gerddoriaeth yw Celtic Connections a gychwynnwyd yn 1994 yn Glasgow, yr Alban, ac a gynhelir bob mis Ionawr. Gyda dros 300 o gyngherddau, ceilidhau, sgyrsiau, digwyddiadau am ddim, sesiynau hwyr y nos a gweithdai, mae’r ŵyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Albanaidd draddodiadol ac mae hefyd yn cynnwys artistiaid gwerin, a cherddoriaeth byd rhyngwladol. Mae’r ŵyl yn cael ei chynhyrchu a’i hyrwyddo gan Glasgow Concert Halls. Penodwyd Donald Shaw, un o sylfaenwyr y grŵp gwerin Albanaidd, Capercaillie, yn gyfarwyddwr artistig Celtic Connections yn 2006, swydd a ddaliodd tan 2018.[1].

Celtic Connections
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1994 Edit this on Wikidata
LleoliadGlasgow Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthYr Alban Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.celticconnections.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Roedd Donal Shaw o'r grŵp gwerin Albanaidd, Capercaillie yn gyfarwyddwr artistic i Celtic Connections rhwng 2006-2018

Dimensiwn Geltaidd

golygu

Fel awgrymir wrth yr enw, amlygir cerddoriaeth Geltaidd a dimensiwn pan-Geltaidd yr ŵyl. Mae rhaglen addysgol wrth galon yr ŵyl, sy’n gweld miloedd o blant ysgol yn mynychu cyngherddau boreol am ddim i wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae Celtic Connections hefyd yn parhau i annog talent newydd ac ifanc trwy ei gyfres gyngherddau Traddodiad Ifanc a Lleisiau Newydd, a thrwy gystadleuaeth Llwyfan Agored Danny Kyle.

Mae'n debyg yn hyn o beth i Ŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw a gynhelir bob mis Awst.

Mae Celtic Music Radio yn darlledu’r ŵyl yn ardal Glasgow ac ar y Rhyngrwyd.[2] Mae Celtic Music Radio yn darlledu tua 7 awr yn fyw ar y safle bob dydd. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau ag artistiaid, adolygiadau a rhagflas o gyngherddau a darllediadau byw o gyngherddau, gan gynnwys Llwyfan Agored Danny Kyle.

Sefydlwyd gŵyl Celtic Connections gan Colin Hynd ym 1994 i lenwi bwlch yng nghyfnod tawel arferol Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow ar ôl y Nadolig. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf mewn un lleoliad, gan ddenu tua 32,000 o bobl.

Ym mis Chwefror 2004, dyfarnwyd Gwobr Traddodiad Da i Celtic Connections yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio Two i gydnabod eu cyfraniad eithriadol i gerddoriaeth a diwylliant traddodiadol. Enillodd yr ŵyl hefyd wobr Tartan Clef Nordoff Robbins.

Uwchafbwyntiau

golygu

Yn ei 13eg flwyddyn (2006), llenwodd dros 100,000 o bobl 10 lleoliad a daethpwyd â channoedd o artistiaid i Glasgow o bob rhan o'r byd.

Yn 2008, dathlodd Celtic Connections ei ben-blwydd yn 15 oed, gyda 120,000 o fynychwyr a digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn 14 o leoliadau ar draws Glasgow dros 19 diwrnod.[3].

Mae Celtic Connections yn rhan annatod a deinamig o fywyd diwylliannol Glasgow, gydag effaith economaidd ar y ddinas yn cyrraedd £5.8 miliwn yn 2007. Mae’r effaith hon, a gynhyrchir gan bresenoldeb dros 2000 o gerddorion o bob rhan o’r byd, yn cael ei wobrwyo yn 2015 gan y Gwobr Celf a Diwylliant Gwobrau Inspiring City a ddyfarnwyd gan The Herald a Siambr Fasnach Glasgow.[4]

Mae’r ŵyl yn mynd ati i hyrwyddo cysylltiadau artistig a chyfnewid diwylliannol ar draws gwledydd, wedi’i hybu gan Showcase Scotland a ddaeth â 200 o gynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth o 35 o wahanol wledydd i’r Alban yn ceisio bwcio bandiau Albanaidd ar gyfer gwyliau yn yr Alban a thramor yn 2008.

Artistiaid

golygu
 
Y grŵp Bellowhead yn 2013

Mae rhychwant eang o artistiaid cerddorol wedi perfformio yn yr Ŵyl dros y blynyddoedd gan ddod o du fewn a thu hwnt i'r Alban. Yn eu plith mae: Alan Stivell[5], Julie Fowlis, Joan Baez, Bob Geldof, Clannad, Capercaillie, Denez Prigent, Kornog, Pennoù Skoulm, Luar na Lubre, Kate Rusby, Sinéad O'Connor, Shane MacGowan, Runrig, Eddi Reader, Evelyn Glennie, Carlos Núñez, Altan, Salif Keïta, James Grant, Dougie MacLean, Billy Bragg, Beth Nielsen Chapman, Mariza, Seth Lakeman, kd lang, Steve Earle, Idlewild, Teenage Fanclub, Snow Patrol, Bert Jansch a Bernard Butler, Fran Healy[6], Barbara Dickson, Bobby Womack, Del Amitri, Rhiannon Giddens.

Lleoliadau perfformio

golygu
 
Y Glasgow Royal Concert Hall

Canolbwynt yr ŵyl yw Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow, lle cynhelir perfformiadau ym mhob gofod, o weithdai yn y cynteddau, i berfformiadau gan artistiaid byd-enwog yn y prif awditoriwm. Mae’r Old Fruitmarket, Neuaddau’r Ddinas, ABC, The Tron, The Piping Centre, The Classic Grand, O2 Academy a The Tall Ship hefyd yn cynnal cyngherddau’n rheolaidd. Yn 2014, ychwanegwyd perfformiadau yn y lleoliad tebyg i Arena newydd, The SSE Hydro gyda 13,000 o seddi (25,000 o wylwyr mewn 2 ddiwrnod) a threfnir digwyddiadau mewn cysylltiad â Gemau’r Gymanwlad 2014.

Yn y gorffennol, mae digwyddiadau Celtic Connections wedi cael eu cynnal yn The Barrowlands, The Arches, Tramway ac Eglwys Gadeiriol St Mungo, Glasgow.

Darlledu

golygu

Darlledwyd gŵyl Celtic Connections ar orsaf radio gymunedol Celtic Music Radio. Mae BBC Radio Scotland yn darparu darllediadau helaeth tra bod llawer o straeon hefyd wedi cael eu darlledu ar Radio Borders. Darlledir newyddion prif ŵyl ar sianel Brydeinig BBC Radio 2 ac yn achlysurol ar raglen Cuirm@Celtic ar BBC Alba.[7].

Recordiodd artistiaid albwm byw yno: y grŵp Runrig yn 2000, Richard Thompson yn 2012, Duncan Chisholm yn 2013.

Artistiaid Cymreig

golygu

Ymysg yr artistiaid Cymreig sydd wedi perfformio yn y Celtic Connections mae'r delynores a'r gantores, Gwenan Gibbard.Yn yr Ŵyl yn 2022 cafwyd carfan gref o Gymru gan gynnwys: Eve Goodman, Avanc No Good Boyo, Cynefin, Calan, Pedair (sef, Gwenan Gibbard, Siân James, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym).[8]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ferguson, Brian. "Donald Shaw to 'step aside' as Celtic Connections artistic director". The Scotsman. Cyrchwyd 4 Chwefror 2018.
  2. "Celtic Music Radio – A Festival of Music". celticmusicradio.net. Cyrchwyd 2020-06-08.
  3. "Glasgow, Lanarkshire and West | Celtic Connections draws 120,000". BBC News. Cyrchwyd 2008-02-04.
  4. "City awards to celebrate what makes Glasgow great..." Newsquest Scotland Events. Cyrchwyd 2016-06-14.
  5. "Great Breton". The Scotsman. Cyrchwyd 2004-01-01.
  6. "Glasgow - News, views, gossip, pictures, video - Daily Record". Theglaswegian.co.uk. Cyrchwyd 2014-08-19.
  7. "BBC ALBA - Cuirm @ Celtic". BBC. Cyrchwyd 2015-12-26.
  8. "Wales at Celtic Connections". BBC Music at Celtic Connections. Cyrchwyd 25 Chwefror 2022.

Dolenni allanol

golygu