Wales, Swydd Efrog
pentref a phlwyf sifil yn Ne Swydd Efrog
Pentref a phlwyf sifil yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Wales.[1] Fe'i lleolir ym mwrdeistref fetropolitan Rotherham. Saif yn agos iawn at Draffordd yr M1.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham |
Daearyddiaeth | |
Sir | De Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.33°N 1.29°W |
Cod OS | SK480829 |
Cod post | S26 |
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 7,069.[2]
Mae ganddo yr un enw â Chymru yn Saesneg, o wreiddyn Germanaidd â'r ystyr "estron", a chredir felly i bobl Geltaidd (y Brythoniaid) fyw yno cyn dyfodiad y Saeson ar ddechrau'r 6g.
Ceir trefi a phentrefi o'r enw Wales yng Ngogledd America hefyd.
Enwogion
golygu- Syr William Hewet, Maer Llundain ym 1559
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Awst 2021
- ↑ City Population; adalwyd 12 Awst 2021