The Washington Post
(Ailgyfeiriad o Washington Post)
Papur newydd mwyaf a hynaf Washington, D.C., prifddinas yr Unol Daleithiau, yw The Washington Post.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | daily newspaper, papur newydd, busnes ![]() |
---|---|
Golygydd | Matt Murray ![]() |
Cyhoeddwr | Fred Ryan ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1877 ![]() |
Dechreuwyd | 6 Rhagfyr 1877 ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Washington ![]() |
Perchennog | Jeff Bezos ![]() |
Yn cynnwys | Presidential ![]() |
Sylfaenydd | Stilson Hutchins ![]() |
Aelod o'r canlynol | Inter American Press Association, MDDC Press Association, Virginia Press Association ![]() |
Gweithwyr | 1,000 ![]() |
Isgwmni/au | The Washington Post Writers Group, International Herald Tribune ![]() |
Pencadlys | One Franklin Square ![]() |
Gwefan | https://www.washingtonpost.com/ ![]() |
![]() |
Ar ddechrau'r 1970au, dan olygyddiaeth Ben Bradlee, y gohebyddion Bob Woodward a Carl Bernstein a ddatgelodd rhan yr Arlywydd Richard Nixon yn sgandal Watergate, ac o ganlyniad i'r sgandal hwnnw ymddiswyddodd Nixon yn 1974.
Prynwyd y Post am $250 miliwn gan Jeff Bezos, sylfaenydd Amazon.com, yn 2013. Ers Chwefror 2017, pryd fu'r Arlywydd Donald Trump yn lladd yn gyson ar y cyfryngau – y Post, The New York Times a CNN yn enwedig – argraffir yr arwyddair Democracy Dies in Darkness ar ben y dudalen flaen.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/5/5b/Tudalen_blaen_23-09-05_The_Washington_Post.jpg/220px-Tudalen_blaen_23-09-05_The_Washington_Post.jpg)