Watcyn Wyn

athro, bardd, a phregethwr
(Ailgyfeiriad o Watkin Hezekiah Williams)

Pregethwr, bardd, nofelydd, emynydd ac ysgolfeistr enwog iawn yn ei ddydd oedd Watcyn Wyn, enw llawn Watkin Hezekiah Williams (18441905), a aned ger Brynaman yn Sir Gaerfyrddin.

Watcyn Wyn
FfugenwWatcyn Wyn Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Mawrth 1844 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, glöwr, athro Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Glowr oedd ar ôl gadael ysgol yn gynnar, ond fe aeth ati i addysgu ei hun. Sefydlodd ysgol, sef Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman a roddodd gyfle i nifer fawr o fechgyn fedru mynd i'r weinidogaeth.

Roedd Watcyn Wyn yn eisteddfodwr brwd ac yn adnabod nifer o ffigyrau mawr yr oes. Er nad oes llawer o werth parhaol i'r rhan fwyaf o'i gerddi, ysgrifennodd hunangofiant - Adgofion Watcyn Wyn - sy'n cynnwys adrannau am ei blentyndod a llencyndod yn ardal Brynaman.

Ar y cyd ag Elwyn Thomas ysgrifennodd ddwy nofel ramantaidd yn ogystal.

Llyfryddiaeth golygu

 
Watcyn Wyn

Gwaith Watcyn Wyn golygu

  • Caneuon (1871)
  • Hwyr Ddifyrion (1883)
  • Cân a Thelyn (1895)
  • (gyda Elwyn Thomas) Nansi merch y pregethwr dall (1906)
  • (gyda Elwyn Thomas) Irfon Meredydd (1907)
  • Adgofion Watcyn Wyn, golygwyd gan Gwili (Y Cwmni Cyhoeddiadol Addysgol, Merthyr Tudful, 1907)

Astudiaethau golygu

  • Bryan Martin Davies, Rwy'n gweld o bell (1980). Astudiaeth.
  • Pennar Griffiths, Cofiant Watcyn Wyn (1915)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.