Brynaman

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Brynaman. Saif yn ne-ddwyrain y sir, ger y Mynydd Du. Datblygodd oherwydd y diwydiannau glo a haearn yn y 19eg ganrif. Rhennir y pentref yn ddwy gan Afon Aman - i'r gogledd mae Brynaman Uchaf yn Sir Gaerfyrddin tra i'r de mae Brynaman Isaf ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (yn Sir Forgannwg gynt).

Brynaman
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8151°N 3.8714°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Cyn adeiladu'r rheilffordd i fyny Dyffryn Aman o dref Rhydaman, enw traddodiadol y pentref oedd Y Gwter Fawr, a dyna sut yr adnabyddir Brynaman gan George Borrow yn ei lyfr Wild Wales ym 1855. Daw'r enw presennol o "Brynamman House" (cartref John Jones, adeiladwr y rheilfordd). Mae sinema Brynaman yn dal i fod ar agor.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2]

Enwogion golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU