Mae Wednesday Friday Addams yn aelod o'r teulu Addams ffuglennol, a grëwyd gan y cartŵnydd Charles Addams ar gyfer "The New Yorker".

Christina Ricci fel Wednesday Addams yn The Addams Family (1991)

Yng nghartŵnau Charles Addams, nid oedd enw gan Wednesday ac aelodau eraill o'r teulu. Pan addaswyd y cartŵnau ar gyfer y gyfres deledu The Addams Family, gofynnwyd iddo ddarparu enwau ar gyfer y cymeriadau. Penderfynodd ar yr enw "Wednesday" yn seiliedig ar y llinell o'r rhigwm, "Wednesday's child is full of woe". Wednesday Addams yw plentyn ieuengaf Gomez Addams a Morticia Addams.

Yn y ffilmiau The Addams Family a'r ffilm ddilynol Addams Family Values, portreadir cymeriad Wednesday Addams gan Christina Ricci.

Eginyn erthygl sydd uchod am gymeriad cartŵn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.