Weird Tales
Cylchgrawn pwlp Americanaidd yw Weird Tales a gafodd ei gyhoeddi gan sawl cwmni, gan gychwyn gyda Rural Publications yn 1923, ac a gyhoeddir o hyd heddiw. Daeth yn enwog am ei straeon arswyd, ffantasi, a ffuglen wyddonol.
Enghraifft o'r canlynol | pulp magazine, semiprozine |
---|---|
Daeth i ben | Medi 1954 |
Golygydd | Farnsworth Wright, Dorothy McIlwraith, Edwin Baird |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1923 |
Dechreuwyd | 1923 |
Lleoliad cyhoeddi | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.weirdtales.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae hanes cyhoeddi Weird Tales yn hir a chymhleth. Y golygydd cyntaf oedd Edwin Baird pan gyhoeddwyd y cylchgrawn gan Rural Publications (1923-1924). Daeth Henneberger a Kline yn olygyddion gyda Chyfrol 4, rhif 2, (Mai 1924). Prynwyd yr hawlfraint gan Popular Fiction a gyhoeddodd y cylchgrawn o 1924 hyd 1938. Yn 1938 cymerwyd y cylchgrawn drosodd eto a sefydlu cyhoeddwyr Weird Tales, Inc. (1938-54). Dyma "oes aur" y cylchgrawn efallai. Yn 1973, ar ôl i'r hawlfraint newid dwylo sawl gwaith ac ailgyhoeddi cyfrolau cynnar gan sawl gwmni, dechreuodd Renown Publications gyfres newydd o Weird Tales gyda Sam Moskowitz yn olygydd. Mae sawl fersiwn o'r cylchgrawn wedi gweld golau'r dydd ers hynny.