Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Emyn a ysgrifennwyd gan Ann Griffiths yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd a gennir yn aml ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda. Mae'n gân serch i Dduw, yn hiraethu amdano, ac am fod yn bur ac yn ffyddlon iddo. Credir i'r emyn gael ei ysgrifennu yn dilyn pregeth gan John Parry gyda Caniad Solomon 5:10 yn destun - 'Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil'.
Mae'r cyfeiriad at 'fyrtwydd' mae'n debyg yn seiliedig ar Sechareia 1:8, sef gweledigaeth o ŵr ar farch coch yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, sef symbol o Grist yn amddiffyn ei bobl.
|