Wesley Snipes
Mae Wesley Trent Snipes (ganed 31 Gorffennaf 1962) yn actor, cynhyrchydd ac yn grefftiwr ymladd Americanaidd. Mae ef wedi serennu mewn ffilmiau antur a chyffro, ond mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Blade yn y dair ffilm Blade. Ym 1991, sefydlodd gwmni cynhyrchu o'r enw Amen Ra Films ac is-gwmni, Black Dot Media, er mwyn datblygu prosiectau ffilm a theledu. Mae Snipes wedi bod yn hyfforddi mewn crefft ymladd ers pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed, gan gyrraedd safle pumed dan gwregys ddu yn karate Shotokan.
Wesley Snipes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
31 Gorffennaf 1962 ![]() Orlando ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor teledu, actor ffilm, actor, karateka, athletwr taekwondo, cynhyrchydd ffilm, canwr, actor llwyfan ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon |
Unol Daleithiau America ![]() |
Yn 2008, cafwyd Snipes yn euog o dair trosedd o beidio dychwelyd anfonebau treth incwm ac ar y 24ain o Ebrill, fe'i ddedfrydwyd i dair blynedd o garchar.[1] Ar yr 22ain o Fai, penderfynodd y llys y gallai Snipes barhau i fod yn rhydd tra bod ei apel yn cael ei ystyried.[2].
Dolenni AllanolGolygu
- WesleySnipes.com - Gwefan cefnogwyr Wesley Snipes
- The Snipes Trial - gwefan gan y sylwebydd J.J. MacNab ar achos llys treth incwm Wesley Snipes
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Snipes sentenced to three years Newyddion y BBC. Adalwyd 17-04-2009
- ↑ "Judge allows Wesley Snipes to remain free on bail pending 3 tax convictions ", Welt Online, Adalwyd 17-04-2009