Westland Sea King

Hofrennydd a gynhyrchwyd gan y cwmni Prydeinig Westland yn y cyfnod o 1969 i 1995 yw'r Westland WS-61 Sea King a oedd yn ailddyluniad trwyddedig o'r hofrennydd o'r un enw a gynhyrchwyd gan y cwmni Americanaidd Sikorsky. Dyluniwyd y ddwy ffurf ar y Sea King yn bennaf ar gyfer cyrchoedd yn erbyn llongau tanfor. Mae ffurf Westland ar yr hofrennydd—a chanddi beiriannau tyrbo-siafft Rolls-Royce Gnome, systemau gwrth-long-danfor yn unol â gofynion y Lluoedd Arfog Prydeinig, a system rheolaeth hedfan gwbl gyfrifiadurol—yn wahanol iawn i'r Sea King gwreiddiol. Ym 1979 cynhyrchwyd hefyd ffurf arall ar y Sea King gan Westland o'r enw Commando ar gyfer cludo lluoedd.

Westland Sea King
Sea King HAR3 yr Awyrlu Brenhinol.
Enghraifft o'r canlynolaircraft family Edit this on Wikidata
MathSea King Edit this on Wikidata
GweithredwrAwstralia, No. 330 Squadron RNoAF Edit this on Wikidata
GwneuthurwrWestland Helicopters Edit this on Wikidata
Hyd17.01 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyflawnai'r Westland Sea King amrywiaeth eang o wasanaethau ar gyfer y Llynges Frenhinol a'r Awyrlu Brenhinol (RAF). Yn ogystal â'i hanes ar faes y gad yn ystod Rhyfel y Falklands (1982), Rhyfel y Gwlff (1990–91), Rhyfel Bosnia (1992–95), Rhyfel Irac (2003–09), a Rhyfel Affganistan (2001–21), mae'r Sea King yn enwog am ei ddefnydd gan adrannau chwilio ac achub y Llynges Frenhinol (mewn lifrai coch a llwyd) a'r RAF (lifrai melyn). Câi'r Sea King hefyd ei addasu yn unol â gofynion y Llynges Frenhinol am awyren y gellir glanio ar longau gyda system radar "rhybudd cynnar" i ganfod awyrennau, llongau, taflegrau, ac ati.

Ar 26 Medi 2018, cafodd y Sea King olaf ei tynnu'n ôl o'i wasanaeth yn y Llynges Frenhinol.[1] Mae hofrenyddion newydd megis yr NHIndustries NH90 a'r AgustaWestland AW101 wedi cymryd lle y nifer fwyaf o hofrenyddion Sea King. Mae'r cwmni HeliOperations o hyd yn hedfan tri hofrennydd Mk 5 Sea King o'i ganolfan yn Ynys Portland, i hyfforddi peilotiaid Llynges yr Almaen.[2] Yn Nhachwedd 2022 cyhoeddwyd y byddai llywodraeth y Deyrnas Unedig yn danfon tri hofrennydd Sea King i Wcráin fel rhan o gynllun cymorth milwrol i wrthsefyll goresgyniad y wlad honno gan Rwsia.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Final flight of the Sea King", Y Llynges Frenhinol (26 Medi 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Tachwedd 2022.
  2. (Saesneg) "Former Royal Navy Sea King Mk5s leased to HeliOperations UK", NavalToday (27 Gorffennaf 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Tachwedd 2022.
  3. (Saesneg) Joe Barnes, "Three British Sea King helicopters sent to Ukraine for first time", The Daily Telegraph (23 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Tachwedd 2022.