Westray
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Westray. Gydag arwynebedd o 18.2 milltir sgwar, hi yw'r chweched ymhlith Ynysoedd Erch o ran maint. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 563. Y prif bentref yw Pierowall.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 588 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 4,713 ha |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 59.3°N 3°W |
Hyd | 11.5 cilometr |
Ymhlith prif adeiladau'r ynys mae Castell Noltland. Cysylltir yr ynys a Kirkwall ar y brif ynys gan awyren. Gellir hefyd hedfan i ynys Papa Westray. Ceir gwasanaeth fferi i Kirkwall hefyd. Mae nifer fawr o adar môr yn nythu ar glogwyni'r ynys, yn cynnwys 60,000 Gwylog a 30,000 Llurs.
Ymhlith y darganfyddiadau pwysicaf yn yr Alban mae "Links of Noltland", pentref Oes Newydd y Cerrig. Mae'r "Gwraig Westray" yn arteffact pwysig o'r safle.
Archie Angel
golyguMae Westray wedi bod yn lleoliad llawer o longddrylliadau dros y canrifoedd. Yn y 1730au, drylliwyd llong Rwsiaidd yno. Roedd darn o'r llongddrylliad â'r enw "Archangel" wedi'i ysgrifennu arno. Yr unig oroeswr oedd babi. Cafodd yr enw "Archie Angel" ac mae ei ddisgynyddion yn dal i fyw yn yr Ynysoedd Erch.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ James Miller (1999). Salt in the Blood: Scotland's Fishing Communities Past and Present (yn Saesneg). Canongate. t. 6.