Papa Westray
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Papa Westray, hefyd Papay. Mae'n un o'r mwyaf gogleddol o'r ynysoedd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 65.
Math | ynys, plwyf sifil yn yr Alban |
---|---|
Poblogaeth | 90, 90 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 9.18 km², 885 ha |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 59.35306°N 2.890986°W |
Hyd | 7 cilometr |
Mae fferi yn cysylltu'r ynys a Kirkwall ar y brif ynys, Mainland ac ag ynys Westray. Ceir maes awyr bychan yma hefyd, gydag awyren yn hedfan i Kirkwall a Westray. Mae gwarchodfa RSPB yn rhan ogleddol yr ynys. Ymhlith hynafiaethau'r ynys mae Knap of Howar, gweddillion fferm o'r cyfnod Neolithig, yn dyddio o tua 3500 CC.