Whangarei

(Ailgyfeiriad o Whangārei)

Whangārei (Maorïeg: [faŋaːˈɾɛi]) yw'r ddinas fwyaf gogleddol yn Seland Newydd a hi yw prifddinas talaith Northland. Poblogaeth y ddinas oedd 31,000 ym 1965.[1]

Whangarei
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth52,600, 50,784, 54,400 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00, UTC+13:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWhangarei District Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Arwynebedd57.06 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.725°S 174.3236°E Edit this on Wikidata
Cod post0110, 0112 Edit this on Wikidata
Map

Trigolion gwreiddiol, brodorol yr ardal oedd llwyth Parawhau y Maori. Dechreuwyd diwydiant torri coed yno ym 1839, and ffoi wnaeth y mewnfudwyr o Ewrop ym 1845 rhag rhyfel ym Mae’r Ynysoedd rhwng y bobl Maori a’r fyddin Brydeinig. Erbyn 1855 roedd yno ffermydd a pherllannau yno, a datblygodd dref fechan gan gynnwys porthladd (lle mae Basn y Dref heddiw) a oedd yn allforio coed a glo.

Cyrhaeddodd gwaith sment Portland Whangarei ym 1885 a phurfa olew Penrhyn Marsden ym 1964. Daeth Whangerei’n ddinas ym 1965. Cyrhaeddodd rheilffordd o Auckland ym 1925 a phriffordd ddigonol erbyn 1934.[2]

Cyfeiriadau

golygu