Whatever People Say I Am, That's What I'm Not
Whatever People Say I Am, That's What I'm Not yw albwm gyntaf y band yr Arctic Monkeys sy'm dod o Sheffield. Rhyddhawyd yr albwm yr y 23ain o Ionawr 2006. Cafodd yr albwm ei enw o'r ffilm Saturday Night and Sunday Morning. Dyma oedd yr albwm a werthodd gyflymaf ers albwm gyntaf Oasis 'Definitely Maybe' a ryddhawyd ym 1994. Gwerthodd yr albwm dros 360,000 o gopïau yn ystod ei wythnos gyntaf ac ers hynny mae wedi mynd yn albwm platinwm bedair gwaith yn y Deyrnas Unedig gan ennill Gwobrau Mercury yn 2006.
Mae'r albwm yn cynnwys caneuon o EP gwreiddiol y band, 'Five Minutes with Arctic Monkeys', yn ogystal â'u dwy sengl gyntaf a'u rhifau un "I Bet You Look Good on the Dancefloor" a "When the Sun Goes Down".