Traddodiad Wicaidd traddodiadol yw Wica Gardneraidd, a elwir hefyd yn Dewiniaeth Gardneraidd. Enwyd y traddodiad ar ôl Gardner ei hun, a oedd yn was sifil ac ysgolhaig o Loegr a fu farw ym 1964. Mae'n debygol y bathwyd yr enw "Gardneraidd" (Saesneg: Gardnerian) gan Robert Cochrane yn y 1950au neu'r 60au.[1]

Clawr fersiwn cyntaf o lyfr Gardner, Witchcraft Today

Dywedodd Gardner ei fod wedi dysgu credoau ac ymarferion Wica Gardneraidd oddi wrth Gwfen y Fforest Newydd, a dywedodd y cafodd ei dderbyn i mewn i'r cwfen hwnnw ym 1939. Oherwydd hynny, ystyrir Wica Gardneraidd fel y traddodiad cynharaf o Wica, a tharddiad pob traddodiad arall o Wica.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The Rebirth of Witchcraft, Doreen Valiente. Tudalen 122