Wici'r Holl Ddaear 2022, Cymru

Cystadleuaeth ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir gan brosiectau Wicimedia yw Wici'r Holl Ddaear (Wiki Loves Earth), gyda 30 o wledydd yn cystadlu. Eleni daeth Cymru'n ail i'r Almaen yn y gystadleuaeth, gyda 30 o gystadluwyr yn uwchlwytho'u lluniau i Gomin Wicimedia. Mae'n rhaid i'r lluniau cael eu cymryd mewn mannau cadwraethol.

Yn 2022 ymunodd Llywodraeth Cymru fel un o gefnogwyr yr ymgyrch, ynghyd a'r tri Parc Cenedlaethol a Ramblers Cymru. Unwaith eto, trefnwyd yr ymgyrch gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Wikimedia UK, Wici Môn, Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, ac ymhlith y partneriaid roedd: Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri, a Clwb Mynydda Cymru a Llên Natur.[1]

Daeth Cymru'n ail yn y gystadleuaeth, allan o 39 o wledydd. Cyfrannwyd 5,035 o ffotograffau gyda llawer ohonynt yn awyrluniau a hynny gan 30 o gyfrannwyr. Mae ystadegau Cymru a gweddill y byd i'w gweld ar wikiloves.toolforge.org.

Enillwyr o Gymru, 2022[2] golygu

  • Cyntaf: Defnyddiwr:Mjw999
  • Ail: Defnyddiwr:Naff14
  • Trydydd: Defnyddiwr:Suntooth
Rhai ffotograffau eraill o Gymru

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. gw. Comin; adalwyd 24 Mehefin 2022.
  2. Gwefan y Prosiect ar Comin; adalwyd 5 Rhagfyr 2023.