Wicipedia:Cwrteisi

Colofn felen Un o egwyddorion Wicipedia (a 4ydd Colofn Wicipedia) yw bod cwrteisi tuag at ddefnyddwyr eraill yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau cydweithredu effeithiol a phositif. Dylid cofio fod gan bob defnyddiwr ddewis sut i ymateb i ddefnyddiwr arall os bydd anghytundeb ynghylch cynnwys erthyglau. Dylid canolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach nag ar y defnyddiwr, er mwyn ffocysu ar wella'r gwyddoniadur ac er mwyn cynnal amgylchedd golygu pleserus.

Mae'r polisi hwn yn disgrifio safonau ymddygiad disgwyliedig ar gyfer defnyddwyr pan fyddant yn cyfathrebu â defnyddwyr eraill, a ffyrdd addas o ddelio â phroblemau a allai godi. Mae'n berthnasol i'r holl gyfathrebu ar Wicipedia, gan gynnwys tudalennau sgwrs erthyglau a defnyddwyr, mewn crynodebau golygu, ac mewn unrhyw drafodaeth arall gyda neu amdano Wicipedwyr eraill.

Y prif egwyddorion yw:

  • Osgoi Ymosodiadau personol
  • Osgoi sylwadau hiliol
  • Osgoi rhegfeydd neu iaith eithafol
  • Osgoi bychanu cyfranwyr eraill oherwydd camgymeriadau iaith neu ddewis o eiriau
  • Osgoi sylwadau sy'n dibrisio cyfraniadau defnyddiwr ar sail ei aelodaeth o grŵp ethnig neu grefyddol
  • Osgoi bygythiadau, yn cynnwys bygythiadau o achos cyfreithiol

Anghwrteisi

golygu

Mae anghwrteisi'n cynnwys ymosodiadau personol, anfoesgarwch, ac ymddygiad bygythiol sy'n tarfu ar y prosiect ac yn arwain at straen a gwrthdaro gwrthgynhyrchiol. Mae pob golygydd yn ddynol, yn medru gwneud camgymeriadau, ac felly nid yw ambell fân achos o anghwrteisi yn bryder mawr. Fodd bynnag, mae patrwm ymddygiadol o anghwrteisi parhaus yn tarfu ar y prosiect ac yn annerbyniol, a gallai arwain at flocio os yw'r sefyllfa'n gwaethygu. Gall un weithred unigol o anghwrteisi fod yn ddigon weithiau i arwain at flocio os yw'r digwyddiad yn ddigon difrifol: er enghraifft, mae sarhad geiriol neu regi difrifol at ddefnyddiwr arall, neu fygythiad yn erbyn cyfrannwr arall yn gallu arwain at flocio heb ystyried a yw'r digwyddiad yn rhan o batrwm mwy.

Yn gyffredinol, ceisiwch ddeall a sefyllfa ac osgowch ymateb wrth ddelio ag anghwrteisi. Os yw pobl eraill yn anghwrtais, byddwch yn ystyrlon (mae pobl yn dweud pethau cas pan maent wedi digio) yn hytrach nag yn feirniadol, a pheidiwch â bod yn anghwrtais yn eich ymateb iddynt. Os oes angen, tynnwch eu sylw at y sylwad yr ydych yn ystyried yn anghwrtais, a gwnewch e'n glir eich bod eisiau symud ymlaen a ffocysu ar y mater o gynnwys yr erthygl. Cofiwch ei fod yn bosib nad oedd y golygydd wedi golygu eu sylwad mewn ffordd anghwrtais - golygir Wicipedia gan bobl o nifer o gefndiroedd gwahanol, ac mae safonau pobl yn amrywiol. Ystyriwch hefyd yr opsiwn o anwybyddu esiamplau unigol o anghwrteisi, gan symud ymlaen at drafod cynnwys erthygl.

Nid yw'r polisi hwn yn arf i'w ddefnyddio yn erbyn defnyddwyr eraill. Mae mynnu bod golygydd yn cael eu cosbi am esiampl fechan o anghwrteisi, neu i ystyried beirniadaeth adeiladol fel ymosodiad, ynddo ei hun yn medru tarfu ar y prosiect, a gallai arwain at rybuddion neu flocio os yw'n parhau.

Cydweithrediad a chwrteisi

golygu

Mae gwahaniaeth barn yn naturiol mewn prosiect cydweithredol. Wrth drafod y gwahaniaethau hyn, mae rhai golygwyr yn ymddangos yn llym yn ddiangen wrth iddynt geisio mynegi eu hunain yn ddiflewyn ar dafod. Gall rhai golygwyr eraill ymddangos yn or-sensitif pan mae eu safbwyntiau'n cael eu herio. Ni all geiriau heb sain a heb wyneb ar dudalen sgwrs ac mewn crynodebau golygu gyfleu holl elfennau sgwrs lafar yn llawn, ac weithiau gall hyn arwain at gamddealltwriaeth o sylwadau golygydd arall. Gall sylwad anghwrtais waethygu trafodaeth fywiog i gweryl personol na sydd yn ffocysu ar yr erthygl neu'r broblem ei hun. Mae anghydfodau o'r math hwn yn wastraff amser ac egni, ac yn tanseilio'r amgylchedd gwaith cynhyrchiol a chadarnhaol. Datryswch anghydfodau drwy drafodaeth gwrtais; anghytunwch heb fod yn anghwrtais. Dylai trafodaethau am olygwyr eraill gael eu cyfyngu i drafodaethau cwrtais am eu gweithredoedd.

Disgwylir i olygwyr gydweithio, i atal rhag gwneud ymosodiadau personol, i weithio o fewn fframwaith y polisïau, ac i ymateb i gwestiynau ewyllys da. Ceisiwch drin eich cyd-olygwyr fel cydweithwyr uchel eu parch yr ydych yn gweithio gyda hwy ar brosiect pwysig. Byddwch yn arbennig o groesawgar ac amyneddgar tuag at ddefnyddwyr newydd. Croesawch bobl eraill i olygu erthyglau ond peidiwch ag annog erthyglau an-adeiladol.

Osgoi anghwrteisi

golygu

Gan amlaf, bydd anghwrteisi – neu'r hyn a ystyrir gan rai fel anghwrteisi – yn cael ei achosi gan anghydfodau am gynnwys dadleuol.

  • Byddwch ofalus gyda chrynodebau golygu. Mae crynodebau golygu yn sylwadau cymharol fychan ac ni ellir eu newid ar ôl gwasgu Cadw'r dudalen. Yn aml, cânt eu hysgrifennu ar fryd, yn enwedig os oes rhyfel golygu yn y fantol neu'n digwydd. Pan fo trafodaeth yn poethi yn arbennig, cofiwch esbonio eich golygiad, osgowch sylwadau personol am unrhyw olygydd rydych mewn anghydfod â hwy, ac ystyriwch ddefnyddio'r dudalen sgwrs i esbonio'ch barn chi am y sefyllfa'n fanylach.
  • Esboniwch eich hun. Gellir ystyried peidio ag esbonio golygiadau fel anghwrteisi, waeth fo hynny'n fwriadol neu beidio. Defnyddiwch grynodebau golygu da, a defnyddiwch y dudalen sgwrs os nad yw'r crynodeb golygu'n ddigon mawr neu os oes angen trafodaeth fwy cynhwysfawr ar y pwnc.
  • Byddwch ofalus gyda nodiadau rhybuddio defnyddiwr. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio nodiadau negeseuon i olygwyr rydych mewn anghydfod â hwy a byddwch yn wyliadwrus wrth defnyddio nodiadau negeseuon ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Ystyriwch ddefnyddio neges bersonol yn lle, neu o leiaf yn ogystal â'r nodyn neges.

Dim ymosodiadau personol neu boenydio

golygu

Disgwylir i olygwyr osgoi ymosodiadau personol a phoenydio Wicipedwyr eraill. Mae hyn yn wir am bob Wicipedwr: Mae'r un mor annerbynniol i ymosod ar ddefnyddiwr sydd â hanes o ymddygiad ffôl neu fygythiol ag yw ymosod ar unrhyw ddefnyddiwr arall. Anogwch Wicipedia gymuned ar-lein gadarnhaol: mae pobl yn gwneud camgymeriadau, ond cânt eu hannog i ddysgu ohonynt a newid eu ffordd. Mae ymosodiadau personol a phoenydio yn gwbl groes i'r egwyddor hon, yn niweidio'r gwaith o adeiladu'r gwyddoniadur, ac fel gallai arwain at ddefnyddwyr yn cael eu blocio.

Adnabod anghwrteisi

golygu

Weithiau mae'n anodd penderfynu beth yn union sy'n anghwrtais a beth sydd ddim. Dylai dod i'r fath benderfyniad gynnwys materion megis (i) pa mor ddifrifol yw'r iaith/ymddygiad; (ii) a yw'r ymddygiad yn ddigwyddiad unigol, achlysurol neu rheolaidd; (iii) a oes cais wedi cael ei wneud eisoes i'r defnyddiwr atal yr ymddygiad hwnnw, ac a yw'r cais yn ddiweddar; (iv) a oedd yr ymddygiad o ganlyniad i bryfocio; ac (v) i ba raddau y dylid ymdrin ag ymddygiad eraill ar yr un pryd.

Gall yr ymddygiad canlynol i gyd gyfrannu at awyrgylch o anghwrteisi:

1. Anghwrteisi uniongyrchol

  • (a) Anghwrteisi, sarhau, galw enwau, rhegi difrifol neu awgrymiadau anweddus;
  • (b) ymosodiadau personol, gan gynnwys sarhau ar sail hil, ethnigrwydd, rhywioldeb a chrefydd, a chyfeiriadau israddol tuag at ddosbarthiadau cymdeithasol neu genedligrwydd;
  • (c) honiadau annoeth o anonestrwydd;
  • (d) bychanu cyd-olygydd, gan gynnwys defnyddio crynodebau golygu beirniadol neu negeseuon ar dudalennau sgwrs (e.e. "dileu'r malu cachu", "dyna'r peth twpaf dw i wedi gweld erioed");

2. Ymddygiad amghwrtais arall

  • (a) Pryfocio neu ymateb: herio pobl eraill yn fwriadol nes eu bod yn ymddwyn yn anghwrtais hyd yn oed os nad yw'n ymddangos fel be baent yn torri'r rheolau eu hunain;
  • (b) poenydio, gan gynnwys Wiciboenydio, bygythiadau personol neu gyfreithiol, postio gwybodaeth bersonol, postiadau ebost neu parth defnyddiwr dro ar ôl tro;
  • (c) dweud celwydd er mwyn cam-arwain, gan gynnwys hybu gwybodaeth anghywir yn fwriadol;
  • (d) dyfynnu defnyddiwr arall allan o gyd-destun er mwyn rhoi'r argraff fod ganddynt safbwyntiau nad ydynt yn credu.

Yn ogystal â hyn. gall ddiffyg gofal pan yn defnyddio polisïau eraill arwain at wrthdaro a straen. Er enghraifft, gallai gyfeirio at olygiadau a wnaed gydag ewyllys da fel fandaliaeth bery i'r defnyddiwr deimlo eu bod yn cael eu cyhuddo ar gam. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin, a byddwch yn barod i ymddiheurio os ydych yn sylweddoli yr oeddech yn anghywir.


Rhagdybiwch ewyllys da

golygu

Oni bai fod tystiolaeth i'r gwrthwyneb, cymrwch yn ganiataol fod pobl sy'n gweithio ar y prosiect yn ceisio'i wella, ac nid ei ddifa. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, a gan amlaf, mae neges i atgoffa'n ddigonol, ond hyd yn oed pan fod anghydfodau, mae'n bur bosib nad oedd unrhyw nod maleisus gan ddefnyddwyr.

Mor bell ag y mae'n bosib, rhagdybiwch ewyllys da. Nid yw'r canllaw Rhagdybiwch ewyllys da yn galw ar olygwyr i barhau i ragdybio ewyllys da lle ceir tystiolaeth amlwg i'r gwrthwyneb; fodd bynnag, peidiwch a chredu fod mwy o dramgwyddo wedi digwydd os nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi hynny, ac os oes dehongliadau gwahanol o'r dystiolaeth, a'r rheiny'n ddigon credadwy, dewiswch yr esboniad mwyaf positif. Mae ceisio credu'ch cyd-Wicipedwyr yn atal rhai o'r problemau a gwyd wrth gyfathrebu gyda thestun yn unig, ac yn methu defnyddio'r cliwiau llafar a gweledol a ddefnyddir pan yn cyfathrebu wyneb yn wyneb.

Dileu sylwadau anghwrtais

golygu

Os ydych wedi gwneud sylwad anghwrtais, bydd defnyddio unrhyw un o'r opsiynnau canlynol yn cynorthwyo i ddatrys y sefyllfa:

  • Pan fo rhywun yn teimlo bod eich sylwadau wedi bod yn anghwrtais ac nid dyna oedd ein nod, esboniwch yn resymegol beth oeddech yn ei olygu.
  • Croeswch y sylwad (gan ddefnyddio <s>tagiau dileu HTML</s>), er mwyn dangos, yn gyhoeddus, eich bod yn tynnu'r geiriau'n ôl.
  • Gwaredwch y sylwad yn dawel, neu ail-ysgrifennwch y sylwad gan fod yn fwy cwrtais – Gan amlaf mae hyn yn syniad da dim ond os ydych eisiau newid eich sylwad cyn i unrhywun arall ei weld a chael eu brifo gan y sylwad. Os oes rhywun wedi cael eu brifo eisoes, dylech gydnabod y newid gyda sylwad cyflym ar ôl y testun diwygiedig, er enghraifft, Dilewyd y sylwad gan yr awdur.
  • Yn syml, ymddiheuriwch. Nid yw'r opsiwn hwn byth yn brifo unrhywun, a gellir ei ychwanegu i unrhyw un o'r opsiynnau eraill. Hyd yn oed os ydych yn teimlo fod yr hyn sydd gennych i ddweud yn wir, neu fod y defnyddiwr arall wedi cam-ddeall eich sylwad, mae dal modd i chi ymddiheurio am unrhyw ddrwgdeimlad a achoswyd.