Wicipedia:Fandaliaeth
Fandaliaeth ydy ychwanegu, dileu neu newid unrhyw erthygl er mwyn amharu ar ddidwyll-dra'r prosiect. Ni ellir, ac ni fydd fandaliaeth yn cael ei derbyn. Y math mwyaf cyffredin o fandaliaeth yw gosod iaith anweddus neu sylwadu coch lle'r arferai erthygl fod, gwacáu tudalennau'n llwyr neu'n gosod cynnwys cwbl amherthnasol arall.
Ni ystyrir unrhyw weithred a wneir er mwyn ceisio gwella'r prosiect yn fandaliaeth, hyd yn oed os yw'n anghywir. Ni ystyrir golygiadau niweidiol na wnaed yn fwriadol yn fandaliaeth. Er enghraifft, ni fyddai ychwanegu safbwynt personol dadleuol i erthygl unwaith yn fandaliaeth; fodd bynnag, byddai ailosod y safbwynt honno dro ar ôl tro, er gwaethaf sawl rhybudd, yn fandaliaeth. Nid yw pob enghraifft o fandaliaeth yn amlwg, ac nid yw pob newid mawr neu ddadleuol i dudalen yn fandaliaeth: rhaid talu sylw agos iawn i weld a yw'r wybodaeth neu ddata newydd yn gywir neu a yw'n fandaliaeth. Mae angen meddwl yn ofalus a yw'r golygiadau'n fuddiol, niweidiol ond gydag ewyllys da, neu fandaliaeth bur.
Mae fandaleiddio tudalen yn groes i bolisi Wicipedia; rhaid i bobl sylwi arno a delio ag ef; os nad ydych yn medru delio â'r fandaliaeth eich hun, gofynnwch am gymorth wrth ddefnyddwyr eraill. Os welwch chi fod defnyddiwr arall wedi bod yn fandaleiddio Wicipedia, dylech wrthdroi'r newidiadau hyn yn syth; dylech rybuddio'r defnyddiwr hefyd (gweler isod am gyfarwyddiadau penodol.) Dylid rhoi gwybod i Wicipedia:Ymyrraeth gweinyddwr yn erbyn fandaliaeth os yw defnyddiwr yn fandaleiddio Wicipedia'n barhaus, er gwaethaf rhybuddion i beidio, a gall gweinyddwyr eu blocio. Sylwer nad oes angen rhoi rhybudd bob tro; gellir blocio cyfrifon sydd wedi'u creu er mwyn fandaleiddio heb rybudd.
Sut i adnabod fandaliaeth
Y ffordd orau o ddod o hyd i fandaliaeth yw drwy edrych ar cadw golwg ar y newidiadau diweddar, gan ddefnyddio'r ddolen Newidiadau diweddar er mwyn gweld erthyglau sydd wedi'u golygu gan gyfeiriadau IP, neu drwy gadw llygad ar eich rhestr wylio. Mae'r tudalennau beth sy'n cysylltu i'r fan hon ar gyfer Mewnosod testun, Teitl dolen, Headline text, Testun bras, Delwedd:Esiampl.jpg a'r Delwedd:Esiampl.ogg i gyd yn fannau da i ddod o hyd i golygiadau prawf neu fandaliaeth. Mae'r botwm crynodeb golygu awtomatig hefyd yn medru galluogi defnyddwyr i weld fandaliaeth, yn ogystal â'r log camddefnydd. Gallai golygiadau sydd wedi'u tagio gan yr hidlydd camddefnydd gynnwys fandaliaeth hefyd. Fodd bynnag, mae nifer o olygiadau sydd wedi'u tagio yn ddilys, ac felly ni ddylid eu gwrthdroi heb edrych arnynt yn gyntaf.
Delio â fandaliaeth
Os welwch chi fandaliaeth (yn unol â'r diffiniad uchod), y peth hawsaf i wneud yw ei ddileu. Ond byddwch ofalus! Weithiau, gwelir fandaliaeth ar ben fandaliaeth hŷn na sylwyd arno, ac weithiau bydd golygwyr eraill yn gwneud golygiadau heb sylweddoli fod yr erthygl wedi cael ei fandaleiddio, ac weithiau bydd botiaid yn ceisio trwsio difrod gan wneud pethau'n waeth ar ddamwain. Edrychwch ar yr hanes golygu er mwyn sicrhau eich bod yn ei wrthdroi i fersiwn 'lan' o'r dudalen, neu os nad ydych yn siwr ble yn union yw'r man gorau, dyfalwch a gadewch neges ar dudalen sgwrs er mwyn i rywun sy'n fwy cyfarwydd â'r dudalen i ddelio â'r mater - neu gallwch ddileu'r fandaliaeth â llaw, heb orfod gwrthdroi'r dudalen.
Os welwch chi fandaliaeth ar restr o newidiadau (fel y dudalen Newidadau diweddar, yna gwrthdrowch y fandaliaeth yn syth. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r botwm "gwrthdroi" (a'r crynodeb golygyddol awtomatig mae'n cynhyrchu), a nodi mai "golygiad bychan" ydyw. Gallai fod o ddefnydd i wirio hanes y dudalen hefyd er mwyn gweld a oes golygiadau diweddar eraill gan yr un defnyddiwr hefyd yn fandaliaeth. Ceisiwch drwsio pob enghraifft o fandaliaeth a welwch.
Ar gyfer erthyglau newydd, os yw pob fersiwn o'r erthygl yn fandaliaeth pur, tagiwch yr erthygl gyda Nodyn:Dileu cyflym er mwyn ei ddileu'n gyflym.
Os welwch chi fod defnyddiwr wedi ychwanegu fandaliaeth, gallech edrych ar gyfraniadau eraill y defnyddiwr (cliciwch ar "Cyfraniadau'r defnyddiwr" ar y bar ar ochr chwith y sgrîn). Os yw'r mwyafrif neu bob un o'r golygiadau yn fandaliaeth amlwg, a'ch bod yn teimlo fod angen blocio'r defnyddiwr ar frys, gallwch riportio'r defnyddiwr yn syth yn Wicipedia:Ymyrraeth gweinyddwr yn erbyn fandaliaeth. Heblaw am hynny, gallwch adael rhybudd ar dudalen sgwrs y defnyddiwr. Cofiwch y gall unrhyw olygydd sumud negeseuon o'u tudalen sgwrs eu hunain, ac felly efallai mai dim ond yn hanes y dudalen sgwrs y byddant yn ymddangos. Os yw defnyddiwr yn parhau i ddifrodi'r prosiect, riportiwch hwy yn Wicipedia:Ymyrraeth gweinyddwr yn erbyn fandaliaeth. Yna bydd gweinyddwr yn penderfynu a ddylid blocio'r defnyddiwr.
Mewn achosion o fandaliaeth parhaus o gyfeiriad IP anhysbys, mae'n ddefnyddiol i gymryd y camau ychwanegol canlynol:
- Ar gyfer fandaliaeth anhysbys parhaus, yn enwedig pan fo'r cyfeiriad IP wedi'i gofrestru i ysgol neu fath wahanol o ISP, ystyriwch ei ychwanegu i Wicipedia:Ymateb camdriniaeth.