Wicipedia:Adran Arweiniol

(Ailgyfeiriad o Wicipedia:LEAD)
Llwybr(au) brys:
Wicipedia:LEAD
WP:AA
WP:LEAD

Yr adran cyn y tabl cynnwys a'r pennawd cyntaf o fewn erthygl yw'r adran arweiniol (Saesneg: Lead section, a elwir hefyd y cyflwyniad neu'r "LEAD"). Mae'r adran arweiniol yn gweithio fel cyflwyniad i'r erthygl ac fel crynodeb o agweddau pwysig ar bwnc yr erthygl.

Dylai'r adran arweiniol fedru sefyll ar ei phen ei hun fel trosolwg cryno o'r erthygl gyfan. Dylai ddiffinio'r pwnc, sefydlu'r cyd-destun, egluro pam mae'r pwnc yn ddiddorol neu'n nodedig, a chrynhoi'r pwyntiau pwysicaf, gan gynnwys unrhyw ddadleuon nodedig. Dylai'r pwyslais a roddir i ddeunydd yn yr adran arweiniol adlewyrchu'n fras ei bwysigrwydd i'r pwnc, yn ôl ei ffynonellau dibynadwy, cyhoeddedig, a dylai bri pwnc yr erthygl gael ei sefydlu fel arfer yn y frawddeg gyntaf.

Wrth roi ystyriaeth i greu diddordeb mewn darllen rhagor o'r erthygl, ni ddylai'r adran arweiniol "brofocio" y darllenwr gan awgrymu — ond heb egluro — ffeithiau pwysig a ddaw yn y pen draw yn yr erthygl. Dylai'r adran arweiniol gynnwys dim mwy na phedwar paragraff; dylai gael ei ffynonellau'n ofalus yn briodol, a dylai gael ei hysgrifennu mewn dull clir, cyraeddadwy er mwyn gwahodd i'r darllenwr ddarllen gweddill yr erthygl.

Elfennau'r Adran Arweiniol

golygu

Gall yr adran arweiniol gynnwys elfennau dewisol a gyflwynir yn y drefn ddilynol: dolenni cyfeirio (dolennicyfeirio), tagiau cynnal a chadw, , delweddi, blychau llywio (nodau llywio), testun cyflwyniadol, y tabl o gynnwys, gan symud i bennawd yr adran gyntaf.

Strwythur Cywir yr Adran Aweiniol
{{Defnyddiau eraill}}
{{Copiolygu|erthygl}}
{{Gwybodlen Person|enw=...}}
[[Delwedd:Rhodri_Morgan.jpg|...|Rhodri Morgan]] neu {{Gwybodlen Etholaeth Cymru}}
Gwleidydd Cymreig yw '''Rhodri Morgan'''...
[tabl o gynnwys]
== Adran gyntaf ==

Nodiadau

golygu