Wicipedia:Wici Addysg/Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol

Yn Ionawr 2015 penodwyd Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.


Datganiadau i'r Wasg golygu

gan Y Llyfrgell golygu

Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol

Ceisiwch chwilio am unrhyw bwnc ar y We heb ganfod Wikipedia ymhlith eich prif ganlyniadau! Mae’r gwyddoniadur ar-lein wedi dod yn bell ers iddo ymddangos gyntaf ar 15 Ionawr 2001, gyda channoedd o filiynau o bobl nawr yn ei ddefnyddio bob mis. Cafodd fersiwn yn yr iaith Gymraeg hefyd ei lansio ym mis Gorffennaf 2013 ac mae bellach yn cynnwys dros 60,000 o erthyglau. A’r hyn sydd fwyaf rhyfeddol am Wikipedia yw eich bod nid yn unig yn gallu darllen ei gynnwys, ond hefyd ei olygu ac ychwanegu ato eich hun.

Gyda chynulleidfa mor eang ac fel adnodd sy’n cael ei greu a’i ddatblygu gan ei ddefnyddwyr, mae Wikipedia yn cynnig cyfle gwych i gyflwyno Cymru, ei diwylliant a’i hanes i’w phobl ac i’r byd.

Heddiw, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu penblwydd Wikipedia yn bedair-ar-ddeg trwy gyhoeddi bod Wicipediwr Preswyl wedi ei benodi mewn partneriaeth â Wikimedia UK. Bydd y swydd yn para blwyddyn ac yn ceisio sefydlu perthynas gynaladwy rhwng y Llyfrgell a Wikipedia.

Bydd y Wicipediwr yn edrych ar ddulliau newydd o ymgysylltu â defnyddwyr ac yn cynnal gweithgareddau fel ‘golygathonau’ er mwyn cynorthwyo staff a defnyddwyr y Llyfrgell i gyfrannu at Wikipedia.

Bydd hefyd yn cydweithio yn agos â staff y Llyfrgell i adnabod deunydd o gasgliadau’r Llyfrgell a fyddai’n addas i’w gyfrannu at y fersiynau Cymraeg a Saesneg o Wikipedia er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gymru a’i phobl.

Mae Jason Evans wedi ei benodi i’r swydd a bydd yn dechrau ar ei waith ar 19 Ionawr.


Wikipedian takes up residence at the National Library of Wales

Try searching for any subject on the Web without finding Wikipedia among your top results! The online encyclopedia has come a long way since its first appearance on 15 January 2001, now attracting hundreds of millions of users each month. A version in the Welsh language was also launched in July 2003 and now contains over 60,000 articles. And what is most remarkable about Wikipedia platforms is that you can not only read its content, but also edit and add to it yourselves.

With such a wide audience and as a resource that has been created and developed by its users, Wikipedia offers a great opportunity to present Wales, its culture, its heritage to its people and the world.

Today, the National Library of Wales celebrates Wikipedia’s fourteenth birthday by announcing the appointment of a Wikipedian in Residence in partnership with Wikimedia UK. The post will last a year and aims to establish a sustainable relationship between the Library and Wikipedia.

The Wikipedian will look at new ways of engaging with users and will organise activities such as ‘editathons’ to assist Library staff and users to contribute to Wikipedia.

The Wikipedian will also work closely with staff throughout the Library to identify materials from the Library’s collections that can be contributed to the Welsh and English versions of Wikipedia in order to raise awareness of Wales and its people.

Jason Evans has been appointed to the role and will begin in post on 19 January.


gan Reolwr Wici Cymru golygu

Llyfrgell Genedlaethol Cymru - yn cefnogi Wicipedia

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi penodi Wicipediwr Preswyl ar eu staff, yn llawn amser am gyfnod o flwyddyn. Mae hyn yn dilyn penodiad diweddar Wicipediwr Preswyl yn y Coleg Cymraeg.

Ers Awst 2008, cafwyd partneriaeth anffurfiol rhwng Wicipedia a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thros y blynyddoedd sylweddolwyd mai'r un oedd eu nod: rhoi lluniau, sgans o lawysgrifau, fideos a gwybodaeth eraill am Gymru a'i diwylliant ar drwydded agored fel eu bont i'w cael ledled y byd. Yn y flwyddyn diwethaf mae'r Llyfrgell wedi rhoi tua 5,000 o hen ffotograffau ar drwydded agored Comin creu ('Creative Commons') a ddeilliodd allan o Wicipedia.

Mae'r Wicipedia gwreiddiol yn 14 oed heddiw (15 Ionawr) ac yn mynd o nerth i nerth. Wicipedia Cymraeg (sydd bron yn 12 oed!) yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd gyda chyfartaledd o 2.4 miliwn o dudalennau'n cael eu hagor yn fisol. Ceir dros 280 o wicis mewn ieithoedd eraill a bydd y bartneriaeth hon rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wici Cymru yn cynnig llwyfan arall i drysorau'r genedl.

Dywedodd Elfed Williams, Cadeirydd Wici Cymru, 'Rydym yn ymfalchio yn y Llyfrgell Genedlaethol am y modd mae wedi cofleidio'r byd digidol a gwybodaeth agored.' Yn ôl Robin Llwyd ab Owain, Rheolwr Wikimedia yng Nghymru, 'Mae llawer o lyfrgelloedd yn wynebu problemau enbyd ledled y byd, ond yng Nghatalonia, mae'r genedl gyfan wedi sylweddoli grym Wicipedia ac yn ei defnyddio fel llwyfan i'w cynnwys digidol. Braf ydy gweld Cymru hefyd ar flaen y gad - yn datblygu yn hytrach na ffosileiddio - ac mae llawer o'r diolch i weledigaeth pobl fel yr Athro Aled Gruffydd Jones a'r Dr Dafydd Tudur.'

Bydd y Wicipediwr Preswyl, Jason Evans o Aberystwyth, sy'n llyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau yn ei waith ar 17 Ionawr.

Chwaneg o wybodaeth: Robin Owain, Rheolwr