Wicipedia:Wici Addysg

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

Hyfforddiant sgiliau wici ym Mhrifysgol Abertawe golygu

Ar yr 28ain o Ionawr 2015 cafwyd sesiwn drwy'r dydd o tua 40 o fyfyrwyr a staff yr adran hanes yn dysgu sut i olygu Wicipedia. Ceir manylion llawn yn Gymraeg yma ac ar wefan Wicimedia UK yn fan yma.


Y Coleg Cymraeg golygu

Cyfweliad Golwg 1 Mai 2014

Ym Mehefin 2013 cytunodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn egwyddor (diolch i'w Prif Weithredwr blaenllaw Ioan Matthews) i roi rhai o'u cyhoeddiadau (testun, delweddau, sain a ffilm) ar drwydded agored Comin Creu.

Ar yr 21ain o Ionawr 2014 hysbysebodd y Coleg swydd Cydlynydd Wicipedia ar eu gwefan a phenodwyd Marc Haynes. Dyma grynodeb o'r swydd o'u safle:

Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn, dealltwriaeth dda o faterion yn ymwneud â hawlfraint ac eiddo deallusol a dealltwriaeth o genhadaeth a gweithgareddau Wikimedia a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae profiad o waith trefnu a chydlynu, cynnig hyfforddiant a chymorth i staff academaidd yn ogystal a golygu deunydd ar safleoedd Wici yn angenrheidiol.

Cafwyd partneriaeth hynod o ffrwythlon ac maecynnwys y Wicipedia yn gyfoethocach o'r herwydd. Ceir cofnod o waith Marc dros y chwe mis yma: Wicipedia:Wici Addysg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

. Gweler hefyd y Sgwrs ar yma.

Daeth tymor Marc yn y Coleg i ben, a bydd adroddiad llawn yn dilyn cyn hir. Bu'n dymor llwyddiannus iawn a chafwyd cydweithrediad arbennig gan y Coleg, a llawer o waith wedi'u uwchlwytho i Wicipedia.

Hyfforddi golygu

Cydlynydd Wicimedia Cymru golygu

Aled Powel

Penodwyd Aled Powel yn Brif Hyfforddwr Wicimedia yng Nghymru yn Haf 2014 a chafwyd nifer o gyrsiau ledled Cymru. Yn ychwanegol at hyn, hyfforddwyd 11 o hyfforddwyr 'Cynghrair Meddalwedd Cymru' - sy'n parhau i gynnig cyrsiau sgiliau Wicipedia; efallai mai dyma'r tro cyntaf i gorff hyfforddi proffesiynol ymgymryd â'r gwaith hwn, yn hytrach na Wicipedwyr, fel sy'n arferol.

Hyfforddi'r Hyfforddwyr golygu

Rhai o'r darpar hyfforddwyr ar y cwrs yng Nghaerdydd; Chwefror 2014.

Cynhaliodd WMUK gwrs hyfforddi'r hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar 1 - 2 o Chwefror 2014. Roedd y cwrs ar gyfer aelodau Wikimedia UK a allai ymrwymo'u hunain i hyfforddi ar gyrsiau eraill ar unrhyw un o brosiectau Wikimedia ee Comin, Wicieiriadur neu Wicipedia.

Mae'r canlynol wedi cwbwlhau'r cwrs 'Hyfforddi'r Hyfforddwyr' gan WMUK:

Syniadau pellach golygu

  • Wicipediwr Preswyr yn Adran Addysg Llywodraeth Cymru.
  • Wicipediwr Preswyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri
  • Wicipediwr Preswyr o fewn Awdurdod Lleol, sirol

Llyfrynnau golygu

Fel rhan o'n hymgyrch i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg, mae'r llawlyfrau canlynol wedi'u hargraffu (neu ar y gweill) ac ar gael arlein neu o'n swyddfeydd yng Nghymru neu Lundain:

Wedi eu cyhoeddi golygu

Yn y wasg golygu

Prawf-ddarllenwch os gwelwch yn dda: golygu

  • Sut i olygu Wicipedia
    (How to edit Wikipedia)

Gadewch eich sylwadau ar dudalen Sgwrs y llyfryn, os gwelwch yn dda.

Wedi eu cyfieithu a heb eu prawfddarllen golygu

Hanfodion Hyfforddwyr: Sut i ddefnyddio Wicipedia fel arf dysgu (drafft)
Instructor Basics gwreiddiol

Awgrymiadau o lyfrynnau golygu

Ydy'r deunydd canlynol yn werth ei gyfieithu: [[1]]?

Unrhyw awgrym pellach?