Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 2 Hydref 2013
Cofnodion 2 Hydref; Wetherspoons, Rhuthun.
- Yn bresennol
- Elfed (Cadair), Huw (Trysorydd), Phil (Ysgrifennydd), Robin (Rheolwr), Aled, Gwyn a Les.
- 1. Ymddiheuriadau
Llinos, Martin Is-Gadeirydd), Tom, Rhys ac Eleri.
- Derbyniwyd y cofnodion
- Adroddiad y Rheolwr
Cafwyd adroddiad ysgrifenedig ac ar lafar gan y Rheolwr
- Y Coleg Cymraeg
Trafodwyd y datblygiadau diweddaraf a chafwyd sêl bendith y pwyllgor arnynt.
- WiciAddysg; Tachwedd 1 a 2 yng Nghaerdydd
Trafodwyd yr enwau posibl i draddodi'r anerchiad agoriadol
- Cynghrair Meddalwedd Cymru
Cytunwyd i fynd ymlaen gyda'r bartneriaeth
- Materion ariannol
Adroddwyd fod y drefn ariannol yn eu lle gyda'r canlynol yn gwiro'r wybodaeth: Huw (Trysorydd), Terry (Gweinyddwr) ac Eleri (Trysorydd Ymgynghorol)
- Materion eraill
- Paratoi datganiad i'r wasg ar ddau o'r materion uchod a chael cyngor gan Gwmni marchnata / PR
- Trefnu noson hyfforddi mewn ystafell TG pwrpasol
- Anrhydeddu Rhys Ifans
- Yswiriant a phenodi cyfriwyr siartredig. Dim gwrthwynebiad i'r cwmni lleol a gyflwynodd amcanbris
- Cyflwynwyd y targedau a gyflawnwyd hyd yma:
Llythyrau’n cefnogi • Derbyniwyd 32 gohebiaeth gadarnhaol
Llythyr hysbysu • Danfonwyd 30 llythyr dwyieithog yn hysbysu pob cyngor sir o apwyntiad y Rheolwr • Atodwyd crynodeb o’r prosiect
Disgrifiadau swydd • Rheolwr prosiect • Cydlynydd prosiect • Gweinyddwr
Y Maes llafur hyfforddi • Crewyd maes llafur i’w ddefnyddio • Hyfforddwyd 10 grwp
Fideos hyfforddi arlein • 25 fideo wedi’u gosod ar Wikimedia Commons (10 hefyd ar You Tube)
Cynghrair Meddalwedd Cymru - Software Alliance Wales • Cytunwyd mewn egwyddor • Drafftiwyd cytundeb ffurfiol • Lluniwyd maes llafur hyfforddi’r hyfforddwyr
6,000 o daflenni dwyieithog ar sgiliau wici • Logo LlwybrauByw! LivingPaths! wedi’i greu • Y daflen wedi’i pharatoi (un rhan am y Golygydd Gweladwy angen ei gadarnhau)
Y pyrth / mynediad • Lansiwyd y porth Cymraeg • Lansiwyd y porth Saesneg • Crewyd erthyglau ar wahân ar 16 islwybr • 3 llwybr lleol ar bob un o'r islwybrau • Sicrhawyd a datblygwyd LivingPaths.org • Cyfeiriwyd LlwybrauByw.org at y Porth Gymraeg
Cynhadledd Destination Management Wales • Cynrychiolaeth ac adborth llawn
Adroddiad ar Ddichonolrwydd • 160 tudalen
- Dyddiad y cyfarfod nesaf
- 6 Tachwedd