Wicipedia:Wici Cymru

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    
Noddwr Wici Cymru

* Cofnodion * Cyfansoddiad * Partneriaid * Hyfforddiant


Newyddion:

Tri Wicimediwr llawn amser: Aled Powell, Robin Owain a Marc Haynes
  • 11 Mawrth 2014. Cyfarfod o dri Wicimediwr yn Llundain.


  • Rhagfyr 2013: Cynghrair Meddalwedd Cymru'n cychwyn hyfforddi sgiliau Wicimedia.


  • Rhagfyr 2013. Coleg Menai Llandrillo. Robin Owain yn hyfforddi 27 o ddarlithwyr Techoleg Gwybodaeth y coleg.
Coleg Menai Llandrillo, Rhagfyr 2013


  • Rhagfyr 2013. 890 o erthyglau newydd yn cael eu rhoi ar Wicipedia Cymraeg fel rhan o'r prosiect Llwybrau Byw!


  • 17 Gorffennaf 2013:
    Gwales gwales.com yn caniatau i'w hadolygiadau gael eu defnyddio ar Wicipedia Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cytuno i Wicipedia gyhoeddi pob un o'u hadolygiadau: 3249 ohonyn nhw. Mae mwy a mwy o gynnwys agored yn dod i'r fei a bydd hyn yn gwella hygyrched adolygiadau o'r fath. Does dim rhaid derbyn yr adolygiad yn slafaidd fodd bynnag, os oes adolygydd arall yn anghytuno, ond noder y ffynonellau a'r ddadl yn wrthrychol, niwtral! Er bod hawl i atgynhyrch adolygiadau unigol yn bodoli cyn hyn, mae'r caniatad a dderbyniwyd yn rhoi yr hawl i Wicipedia gyhoeddi'r cwbwl ar drwydded CC-BY-SA.


  • 02 Mehefin 2013:
    Penodi Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru. Penodwyd Rheolwr i arwain y prosiect Llwybrau Byw; ei enw yw Robin Owain a bydd yn cychwyn ar y gwaith yn ystod y dyddiau nesaf. Bydd angen nifer o hyfforddwyr atodol i fwrw mlaen a'r gwaith, ac felly os oes gennych ddiddordeb, gadewch iddo wybod drwy ebost wici Llywelyn2000 (sgwrs). Bydd y nawdd gan Lywodraeth Cymru yn talu eich cyflog a'ch costau.


  • 13 Mehefin 2013:
    Rheolwr Wikimedia UK, Cymru. Mae Wikimedia UK yn chwilio am berson i gyflawni'r swydd hon am gyfnod o flwyddyn. Mae'r swydd bellach wedi'i hysbysebu yn golwg360, Y Cymro a llefydd eraill. Dyddiad cau: 21 Mehefin am 10.00 y bore. Mae'r ffurflen gais ar gael o swyddfa WMUK yn Llundain, neu drwy ebostio'r Prifweithredwr: jon.davies@wikimedia.org.uk. Bydd y person yn cael ei gyflogi gan WMUK ac yn cael ei secondio i Wici Cymru i reoli Prosiect Llwybrau Byw! a datblygiadau eraill. Mae'r Gymraeg yn hanfodol i'r swydd, a cheir yr holl fanylion yma ar wefan Wikimedia UK.



  • 23 Ebrill:
    Mae Barry Morgan wedi cytuno i fod yn un o ddau Noddwr y Wicipedia Cymraeg. Croeso cynnes i chi at y criw! Mae'n ymuno gyda Rhys Ifans sydd hefyd yn un o hoelion wyth y Wici!


Ar 12 Medi 2012 sefydlwyd y gymdeithas i gefnogi a datblygu Wicipedia a'i chwiorydd a'r defnydd o gynnwys rhydd yng Nghymru: Wici Cymru.

Gwnaed hyn gan mai criw o unigolion oedd golygyddion Wicipedia Cymraeg, heb gorff ffurfiol i'w clymu. Mae Wikimedia UK (Wicifryngau DU) yn bodoli, wrth gwrs, gyda'r Saesneg yn iaith bob dydd. Bellach, mae gennym gorff Cymraeg i'n huno.

Prif amcanion Wici Cymru ydy:

  • hybu, hyrwyddo a chefnogi’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru.
  • hyrwyddo'r cysyniad o ledaenu holl wybodaeth y byd i bawb, am ddim drwy hyrwyddo'r defnydd o 'gynnwys agored' neu ‘gynnwys * rhyddhau gwybodaeth addysgol (testun, delweddau, fideo ayb) ar drwydded CC-BY-SA neu ei debyg

Prif iaith y gymdeithas ydy'r Gymraeg. Prif Noddwyr y gymdeithas ydy Rhys Ifans a Barry Morgan.

Rydym yn chwilio am logo i Wici Cymru, a cheir Blog annibynol am hyn yn fama. Mae'r canlynol yn cyfuno jig-so Wicipedia a map o Gymru... yn cerdded ymlaen!