Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 4 Medi
Cofnodion 4 Medi, Awelon, Rhuthun.
- Yn bresennol
- Martin, Huw, Les, Robin, Aled.
- 1. Ymddiheuriadau
Phil, Llinos, Elfed, Gwyn
Yn absenoldeb Elfed, cymerodd Martin y gadair.
- 2. Cofnodion 22 Gorffennaf 2013
- Derbyniwyd y cofnodion a chytunwyd eu bont yn gywir.
- 3. Materion yn codi o'r Cofnodion
- Trafodwyd: Derbyn Polisiau WMUK yn eu cyfanrwydd.
- Penderfynwyd: RO i ddanfon dolennau at y polisiau hanfodol, gan eu trafod yn y cyfarfod nesaf.
- Gan nad yw'r arian yn ei le i dalu, ni chysylltwyd gyda Lilwen / Gwen (teipio'r Cyfansoddiad Elusen)
- 4. Adroddiad y Rheolwr
- Cafwyd adroddiad ar lafar hefyd am rai agweddau ychwanegol.
- Derbyniwyd yr adroddiad.
- 5. Elusen
- Arwyddwyd y ddogfen gofrestru; RO i sicrhau fod y darpar-ymddiriedolwyr hefyd yn arwyddo. RO i'w ddanfon at y sefydliad priodol.
- 6. Swydd Cydgordiwr
- Penderfynwyd peidio a phenodi hyd nes ein bod wedi cofrestru fel elusen.
- RO i greu Disgrifiad Swydd a Hysbyseb yn barod.
- 7. Materion ariannol
- Edrychwyd ar y llif arian a chadarnhawyd y swm ar gyfer y Cydlynydd Hyfforddi.
- Trafodwyd dulliau amrywiol a'r ddau grant gan Lywodraeth Cymru a'u dull gwahanol o dalu: 1. Geovation yn dilyn Anfoneb a 2. DTBF yn dilyn y Dderbyneb.
- 8. Unrhyw fater arall
- Copi o'r Anfoneb a ddanfonwyd at GeoVation i Huw.
- Diolchodd RO i Eleri am ei gofal a'i chyngor gyda'r ochr ariannol.
- Dyddiad y cyfarfod nesaf
- 2 Hydref 2013.