Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 7 Mai 2014

Agenda

1. Croeso ac ymddiheuriadau
2. Derbyn Agenda'r cyfarfod a gynhaliwyd 4 Mawrth, 2014.
3. Materion yn codi o'r cofnodion
4. Adroddiad y Rheolwr
5. Materion yn codi o'r Adroddiad
6. Adroddiad y Cydlynydd Hyfforddi
7. Materion yn codi o'r Adroddiad
8. Materion ariannol
9. Unrhyw fater arall

Materion a drafodwyd

golygu
  1. Ymddiheuriadau: Elfed a Phil
  2. Derbyniwyd y cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd 4 Mawrth, 2014 fel rhai cywir.
  3. Materion yn codi: mynegwyd fod ein cyfarfod gyda'r Coop mewn llaw er mwyn ffurfio Cwmni dielw.
  4. Derbyniwyd adroddiadau'r Rheolwr a diolchwyd iddo am yr holl waith da. Trafodwyd y wefan.
  5. Cafwyd adroddiad gan Aled a thrafodwyd rhai dulliau o annog ychwaneg ar y cyrsiau ee athrawon. Dywedodd fod sawl cwrs wedi'i drefnu gan gynnwys Llangefni, Llandudno, Hwlffordd a Dolgellau.
  6. Trafodwyd Wici Rhuthun a materion ariannol
  7. Dyddiad y cyfarfod nesaf: 11 Mehefin (dydd Mercher)
  8. Diolchwyd i bawb am ddod ac am y baned.

Ceisir trefnu cysylltiad Skype y tro nesaf - cysylltwch gyda Robin ymlaen llaw os carech fod yn rhan.

Yn absenoldeb Phil (ysgrifennydd) cadwyd y cofnodion gan Robin.

Adroddiad y Rheolwr, Chwefror 2014

golygu
11 Llundain. Cyfarfod staff a chynrychiolwyr Sefydliad Wicimedia.
15 Bangor. Cynhadledd Haciaith.
20 Caerfyrddin efo Phil. Penodi Cydlynydd Wicipedia y Coleg Cymraeg.
26 Penfro. Cynhadledd Croeso Cymru efo Aled.

Cytunwyd gyda'r Coleg Cymraeg ynghylch geiriad yr hysbysebu a phenodwyd Cydlynydd Wicipedia: carreg filltir bwysig yn hanes addysg Gymraeg. Cafwyd nifer o gyfarfodydd gyda Ron Bell, Ymlaen Rhuthun ynglyn â'u hawydd i sefydlu 'Wici Rhuthun'; rol Wici Cymru yn hyn yw eu cefnogi pan fo angen. Cychwynodd Aled Powell ar ei swydd fel Cydlynydd Hyfforddi Wicipedia ar y cyntaf o'r mis a chafwyd sawl cyfarfod yn trafod hyd a lled y gwaith. Mae Aled yn cael ei gyflogi gan Wicimedia UK ar secondiad i Wici Cymru.

Adroddiad y Rheolwr, Mawrth 2014

golygu
4 Manceinion. Cyfarfod Mike Peel ac Elfed.
7 Canolfan Grefft, Rhuthun. Cyfarfod efo Jane Gerrard, Cyfarwyddwr y Ganolfan.
11 Llundain efo Marc ac Aled. Swyddfa WMUK.
12 Hyfforddi.
17 Aberystwyth. Cyfarfod Aled Gruffydd Jones, Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r Llyfrgell yn awyddus i gydweithio gyda Wici Cymru mewn sawl maes. Gofynwyd am Adroddiad Dichonolrwydd ar ryddhau ffeiliau ar drwydded agored.
26 - 27 Trefynwy a Chaerdydd.

Ar ddiwedd Mawrth danfonwyd 6,000 o daflenni lliw yn gwahodd busenesau i sesiynnau hyfforddi. Hyd yma mae dros 80 wedi mewngofnodi i'n gwefan hyfforddi, ac wedi nodi eu hawydd. Roedd y cyfarfod staff yn Llundain hefyd yn garreg filltir bwysig, gydag Aled, Marc a MARC a minnau yno ar ran Cymru. Hyd nes y cychwynodd Wici Cymru, nid oedd gan Wicipedia lais cyhoeddus o gwbwl. Argraffwyd hefyd yr ail o'r 5 taflen a gyfieithwyd: 'Gwerthuso Wicipedia'. Mae'r cyntaf 'Taflen i Aelodau' allan ers 2013 a phwysleisiodd Jon Davies, Prif Weithredwr WMUK mor bwysig yw i gael aelodau o Gymru a chynrychiolaeth o Wici Cymru ar WMUK.

Adroddiad y Rheolwr, Ebrill 2014

golygu
3, 7, 15, 16, 28. Rhuthun. Hyfforddi efo Aled.
14 Caerdydd. Cyfarfod prif swyddogion Cadwch Gymru'n Daclus a Marc (Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Wedi fy ymweliad â Chadwch Gymru'n Daclus cafwyd cytundeb y byddant yn annog 150 o grwpiau i gael eu hyfforddi mewn sgiliau Wici.

Rhai Cyrhaeddiadau

golygu
Croateg 1
Llydaweg 506
Ffrangeg 2
Lombard 2
Portugeese 3
Swahili 1
Almaeneg 21
Gaeleg Iwerddon 355
Catalaneg 27
Eidaleg 5
Ocitaneg 7
Gaeleg yr Alban 366
Coreeg 1

Cyfanswm 1,297

Erthyglau newydd yn y Categori 'Llwybrau Byw', Cymraeg: 3,841
Erthyglau newydd yn y Categori 'Llwybrau Byw', Saesneg: 333
Lluniau a uwchlwythwyd i Comin Wicimedia gan ddefnyddwyr: 2,414
Lluniau a uwchlwythwyd i Comin Wicimedia

o gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol: 4,331

Cyfanswm holl ffeiliau newydd: 12,216

Y nifer o bobol sydd wedi'u hyfforddi: 85 / 150

Ar y gweill

golygu
12 Mai: Cyfarfod Hyfforddwyr SAW ar-lein
31 Mai: Wicigyfarfod Caerdydd
31 Gorffennaf: diwedd nawdd y DTBF
8-10 Awst: Wicimania