Wicipedia:Wici Cymru/Rheolwr

Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru

Ar 02 Mehefin 2013 penodwyd Robin Owain yn Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru.

Ar y 13 Mehefin 2013 hysbyswyd y swydd hon. Mae'r Disgrifiad Swydd, Ffurflen Gais a manylion eraill ar gael o'r brif swyddfa yn Llundain ac ar eu gwefan yn fama. Mae hyn yn dilyn penderfyniad gwreiddiol Bwrdd WMUK i gefnogi prosiect Llwybrau Byw! ar 11 Mai 2013. Sylwer mai ar 26 o Fehefin y bydd y cyfweliad, fel a ddywedir yn y fersiynnau Saesneg.

Hysbyseb yn y Cymro (arlein)
Hysbyseb yn y Cymro (arlein)
Manylion
  • Adrodd yn ôl i Brif Weithredwr WMUK
  • Cytundeb 12 mis.
  • Cyflog: £25,000 - £29,500 (wedi'i sefydlu ar 4.5 diwrnod yr wythnos) yn ddibynnol ar brofiad.
  • Pensiwn: i'w dalu'n uniongyrchol gan WMUK ar eu graddfa arferol.
  • Oriau: 36 awr yr wythnos.
  • Gwyliau: 5 wythnos a gwyliau cyhoeddus.
  • Rôl Rheolwr Cymru fydd cyflawni nodau ac amcanion y prosiect o fewn cyfyngiadau amser ac arian.
Nod

Nod y prosiect ydy arfogi cymunedau lleol gyda sgiliau syml Wicipedia a'i chwaer-brosiectau a hynny yn y siroedd sy'n ffinio gyda Llwybr yr Arfordir er mwyn:

• gwella'r wybodaeth bresennol sydd ar gael i'n cymunedau, busnesau ac ymwelwyr ar Wicipedia / Wikipedia a'i chwaer-brosiectau;

• datblygu Wicipedia / Wikipedia a'i chwaer-brosiectau o ran erthyglau sy'n ymwneud â Llwybr yr Arfordir mewn ffordd tebyg i'r hyn a gyflawnwyd gyda Pedia Trefynwy.

• annog y defnydd o gynnwys rhydd (wedi'i drwyddedu ar CC-BY-SA neu drwydded agored arall sy'n caniatáu y defnydd o Wicipedia / Wikipedia (a'i chwaer-brosiectau) gan drydydd person, i hyrwyddo datblygiadau mewn masnach gymunedol drwy dwristiaeth diwylliannol.

• creu man cyswllt yng Nghymru ar gyfer Wikimedia UK.

• cefnogi gwaith y gymuned Wici ehangach o fewn Cymru.

Chwaneg i ddilyn. Mae'r manylion llawn yn fama.