Wicipedia:Wicibrosiect S4C/Datganiadau
Ar y dudalen hon bydd rhestr o ddatganiadau i'r wasg gan S4C yn cael eu cyhoeddi ar drwydded agored. Cofiwch ychwanegu cyfeiriad i'r ffynhonnell wreiddiol! Y diweddaraf ar y top.
2 Awst 2022 - Wyneb newydd yn ymuno â thîm cyflwyno gwasanaeth Cyw
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/52230/wyneb-newydd-yn-ymuno--thm-cyflwyno-gwasanaeth-cyw/
Dafydd Lennon yw cyflwynydd newydd gwasanaeth Cyw.
Bydd Dafydd yn ymuno yng nghyffro gwasanaeth S4C i blant meithrin gydag Elin Haf, Cati Rhys a Griff Daniels.
Bu ei berfformiad cyntaf byw fel rhan o dîm cyflwyno Cyw ar stondin S4C yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion heddiw.
Mae Dafydd yn edrych ymlaen at ddechrau yn ei swydd.
Meddai; "Mae'n teimlo fel fy mod yn ail fyw breuddwyd. Ers i mi ddechrau gweithio gyda phlant, rydw i wedi bod yn meddwl am fod yn gyflwynydd teledu.
"Dwi'n ddiddanwr yn fy nghalon, ac felly mae'r swydd yn teimlo fel cam naturiol, siawns i fod yn greadigol, ond hefyd her alla i ddim aros i fynd i'r afael â hi!
"Ar ôl blynyddoedd o weithio gyda phlant mewn gwahanol swyddi, rwy'n awyddus i ganu (a bach o ddawnsio 'fyd!) gyda phlant Cymru am y tro cyntaf."
Yn wreiddiol o Fro Morgannwg, ond wedi byw a gweithio yn Llundain am bedair blynedd, mae Dafydd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi ail-afael yn ei Gymraeg.
Wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn gweithio fel cymhorthydd gyda phlant dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd yn Llundain, mae Dafydd yn edrych ymlaen i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio'i Gymraeg yn ei waith bob dydd fel cyflwynydd Cyw.
"Dwi wedi gwneud ymdrech i gadw fy Nghymraeg dros y blynyddoedd, naill ai drwy ddefnyddio'r iaith i gyfathrebu gyda theulu a ffrindiau neu wrth ysgrifennu cerddi.
"Dros y misoedd diwethaf, dwi wedi gwneud y Wordle Cymraeg bob bore a dwi'n gwrando ar Radio Cymru bob nos wrth goginio er mwyn ychwanegu at fy ngeirfa." medd Dafydd.
Derbyniodd Dafydd yr alwad am ei benodiad yn ystod clwb Samba swnllyd yr ysgol- nid y lle gorau i glywed y fath newyddion meddai, ond fe ddanfonodd neges at ei fam yn syth gan ddweud "Paid dweud wrth neb, ond, JOB OFFERED!"
Wrth groesawu ei benodiad, dywed Sioned Geraint, Comisiynydd Plant a Dysgwyr S4C: "Mae'n bleser gen i groesawu Dafydd i dîm cyflwyno Cyw a dwi'n edrych ymlaen i blant bach Cymru gael y cyfle i ddod i'w nabod.
"Mae hwn yn apwyntiad cyffrous gyda brwdfrydedd a thalent naturiol Dafydd o gyflwyno yn amlwg.
"Mae cyflwynwyr Cyw yn chwarae rhan fawr ym mywydau ein gwylwyr ifanc, a dwi'n sicr bydd plant bach Cymru wrth eu boddau gydag aelod newydd y tîm.
"Dwi'n dymuno pob hwyl i Dafydd yn ei swydd newydd."
Bydd Dafydd yn ymddangos ar ein sgrîn o Awst 8 ar Cyw o ddydd Llun-Gwener 6:00-12:00.
1 Awst 2022 - S4C yn cyhoeddi tendr i wneud Gogglebocs Cymru yn fersiwn Gymraeg o Gogglebox
Mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus a'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni gan gynnwys drama, rhaglenni dogfen, newyddion, cerddoriaeth, adloniant, chwaraeon byw, a rhaglenni plant.
Fel rhan o ymrwymiad parhaus S4C i ddarparu gwasanaeth amrywiol a chynnwys beiddgar, sy'n adlewyrchu'r Gymru fodern a chyfoes, mae S4C yn falch iawn o gadarnhau heddiw bod ceisiadau ar agor i gwmnïau cynhyrchu dendro am fersiwn Gymraeg o fformat Channel 4 a Studio Lambert o Gogglebox (dan drwydded i S4C gan Studio Lambert).
Y bwriad yw darlledu ddiwedd Hydref 2022 cyn cyfres ddiweddaraf Channel 4. Teitl y fformat hwn fydd Gogglebocs Cymru.
Bydd Gogglebocs Cymru yn chwarae rhan bwysig yn narpariaeth S4C, a bydd y cwmni buddugol yn cydweithio ag S4C, Channel 4 a Studio Lambert i sicrhau llwyddiant y cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg.
Bydd angen i'r castio adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei chyfanrwydd a bydd y gyfres yn rhan o ymgyrch penblwydd S4C yn 40 oed, i ddathlu cymeriadau Cymreig o gwmpas Cymru a siaradwyr Cymraeg yng ngweddill y DU a'r cyffiniau.
Fel rhan o'r broses hon, bydd S4C hefyd yn croesawu syniadau ychwanegol a fydd yn ehangu'r cyrhaeddiad, yn enwedig yn aml-lwyfan ac yn ddigidol.
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, LLinos Griffin-Williams: "Rwyf wrth fy modd bod Channel 4, am y tro cyntaf, wedi gwneud eithriad gydag un o'u fformatau mwyaf gwerthfawr, drwy gytuno i ryddhau Gogglebox yn y DU yn unig i S4C. Fel dau ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, sydd â pherthynas waith agos a chydweithredol, rydym yn falch iawn o gael ei hymddiriedaeth â brand mor bwysig."
1 Awst 2022 - S4C yn cyhoeddi cyfres ob-doc newydd, Mwy Na Daffs a Taffs
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/52227/s4c-yn-cyhoeddi-cyfres-ob-doc-newydd-mwy-na-daffs-a-taffs/
Mae S4C, y darlledwr Cymraeg, wedi comisiynu Mwy na Daffs a Taffs (teitl dros dro),sef cyfres ob-doc 6x40 munud, a gynhyrchir gan Carlam Ltd.
Bydd cynhyrchiad y gyfres newydd hon yn cael ei lansio'n swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol 2022, yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a gynhelir eleni yn Nhregaron, Cymru rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.
Bydd Mwy na Daffs a Taffs (Teitl Dros Dro), yn gweld enwogion teledu realiti, pob un â'i gysylltiad ei hun â Chymru, yn ymgolli'n llwyr yn y diwylliant Cymreig, i daflu goleuni ar y rhagdybiaethau a'r rhagfarnau sydd ganddynt am y Wlad. Nod pob pennod fydd dangos i'n selebs teledu a'r gwylwyr gartref, fod gan y Gymru go iawn lawer mwy i'w gynnig na dim ond Cennin Pedr a Defaid. Am 48 awr byddant yn cael profiad o Gymru mewn ffordd a fydd yn eu herio, eu synnu a'u swyno.
Ymhlith yr enwogion a gyhoeddwyd hyd yma mae Gemma Collins o TOWIE, gyda mwy o enwogion a dylanwadwyr proffil uchel i'w cyhoeddi'n fuan. Bydd gwylwyr yn cael eu harwain drwy'r fformat gan y gyflwynwraig, Miriam Isaac, a fydd i'w gweld gyda'r enwogion drwy gydol eu taith. Ar ddiwedd pob pennod, bydd y cyflwynydd yn wynebu'r enwogion gyda recordiad o'u sylwadau cychwynnol.
Dywedodd Gemma Collins: "Pan dwi'n meddwl am Gymru, dim ond am fywyd y cymoedd dwi'n ei wybod. Ond dwi eisiau gwybod... Oes mwy i Gymru? O'r funud y des i Gymru, y cyfan roeddwn i'n gallu ei arogli oedd glo – yr arogl na allwn i byth ei anghofio – dyma atgof cynharaf fy mhlentyndod."
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: "Mae S4C wedi ymrwymo i gyflwyno ystod amrywiol a bywiog o gynnwys, gan sicrhau rhaglenni perthnasol a chyffrous sy'n gwthio'r ffiniau. Mae Mwy na Daffs and Taffs yn cael ei gomisiynu fel rhan o'n strategaeth newydd sy'n canolbwyntio ar ddod â cyfresi difyr, pryfoclyd sy'n sbarduno trafodaeth ac apêl i gynulleidfaoedd presennol a newydd.
"Rydym am ymgysylltu â dadleuon cenedlaethol ac adlewyrchu Cymru amrywiol, fodern a'i pherthynas â gweddill y byd. Mae'r comisiwn hwn yn dod â thalent boblogaidd eang i'n llwyfannau wrth iddynt herio syniadau am Gymru a Diwylliant Cymru. Ein nod yw darparu cynnwys amrywiol ar gyfer 2023/24, gan symud o sianel llinol yn unig i fod yn ddarlledwr aml-lwyfan â ffocws digidol, gan wneud rhaglenni poblogaidd, cynhwysol a fydd yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd ac yn diddanu ein gwylwyr presennol."
29 Gorffennaf 2022 - S4C yn darlledu dros 90 awr o gynnwys aml lwyfan o’r Eisteddfod Genedlaethol
Bydd S4C yn darlledu'r holl gyffro'r Eisteddfod Genedlaethol o Dregaron trwy gydol yr wythnos ar S4C, ac ar y chwaraewyr.
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 oed, ac fel cartref profiadau Cymru bydd S4C yn dod â holl fwrlwm gŵyl ddiwylliannol mwyaf Ewrop i wylwyr S4C a hynny ar amryw o lwyfannau gwahanol.
Rhwng Sadwrn 30 Gorffennaf a Sadwrn 6 Awst, bydd S4C yn darlledu'n fyw o'r Eisteddfod bob bore ac yn parhau drwy'r dydd gyda sylw llawn i brif seremonïau'r dydd. Bob nos, bydd Mwy o'r Maes yn dod â blas o'r Eisteddfod gyda'r nos ac yn crynhoi uchafbwyntiau'r dydd.
Bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys Eleri Siôn, Tudur Owen, Heledd Cynwal, Mirain Iwerydd, Nia Roberts, Dot Davies a Dylan Ebenezer.
Fe fydd S4C yn cynnig Sedd yn y Pafiliwn i'r rhai sydd ddim yn gallu mynychu'r Eisteddfod yn Nhregaron. Bydd darllediadau byw ac yn ddi-dor o'r llwyfan ar gael ar S4C Clic ac o fewn Categori Cymru ar BBC iPlayer, a bydd is-deitlau Saesneg ar gael.
Meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Rydyn ni'n falch iawn o allu ddod â holl hwyl Eisteddfod Ceredigion i'n gwylwyr ar draws ystod eang o lwyfannau. Bydd ein darllediadau cynhwysfawr yn dilyn holl gyffro'r Eisteddfod – o'r seremonïau i'r bwrlwm ar y maes.
"Bydd pafiliwn S4C hefyd yn llawn gweithgareddau gyda sioeau Cyw a Stwnsh, digwyddiadau arbennig a dangosiad o ddrama newydd S4C yn yr Hydref sef Dal y Mellt."
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, "Os nad ydych chi'n gallu ymuno â ni ar y Maes yn Nhregaron, 'steddwch nôl ac ymlaciwch a mwynhewch yr arlwy arbennig sydd ar S4C drwy gydol yr wythnos. O gystadlu i grwydro'r Maes, fyddwch chi ddim yn colli unrhyw beth o'r ŵyl drwy wylio ar y teledu yr wythnos nesaf."
29 Gorffennaf 2022 - Byddwch yn rhan o’r tymor pêl-droed newydd gyda Sgorio
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/52193/byddwch-yn-rhan-or-tymor-pl-droed-newydd-gyda-sgorio/
Mae Sgorio wedi cyhoeddi'r gemau byw cyntaf fydd yn cael eu dangos yn y tymor pêl-droed newydd.
Bydd o leiaf 35 gêm bêl-droed domestig Cymru i'w gweld ar blatfformau S4C a Sgorio yn ystod y tymor 2022-23, o'r Cymru Premier JD, Cwpan Cymru JD, Cwpan Nathaniel MG a Chynghreiriau Adran Genero.
Bydd camerâu Sgorio ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru ar gyfer y gêm fyw cyntaf rhwng Pontypridd, a enillodd ddyrchafiad o Gynghrair y De JD y tymor diwethaf, a'r Fflint, ar nos Sadwrn 13 Awst. Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C gyda'r gic gyntaf am 5.45yh.
Ar nos Sadwrn 20 Awst, bydd y gêm rhwng Aberystwyth a Met Caerdydd i'w gweld yn fyw ar S4C (Cic gyntaf 5.45yh).
Yr wythnos ganlynol, bydd Sgorio yn dangos tair gêm yn fyw ar-lein mewn wythnos ar draws blatfformau digidol, yn cychwyn gyda'r Bala v Y Drenewydd ar nos Wener 26 Awst (CG 7.45yh), Pen-y-bont v Hwlffordd ar nos Fawrth 30 Awst (CG 7.45yh) a Chaernarfon v Airbus UK ar nos Wener 2 Medi (CG 7.45yh).
Dydd Sadwrn 10 Medi, bydd y gêm rhwng y pencampwyr, Y Seintiau Newydd, a Hwlffordd, yn cael ei ddangos ar-lein ar blatfformau digidol (CG 5.15yh).
Bydd y gemau ar-lein i'w gweld ar S4C Clic, ac ar dudalennau Facebook ac YouTube Sgorio.
Bydd uchafbwyntiau o bob gêm yn y Cymru Premier JD yn cael eu dangos ar raglenni uchafbwyntiau Sgorio bob dydd Llun, ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Sgorio.
Yn ogystal, bydd Sgorio yn cyhoeddi podlediad yn trafod y newyddion pêl-droed diweddaraf yng Nghymru, ac eitemau ar y gêm genedlaethol o lawr gwlad i gêm y merched.
Dilynwch gyfrifon @sgorio ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube i weld y cynnwys diweddaraf.
Bydd rhaglenni Sgorio yn cael ei noddi gan Screwfix yn ystod y tymor 2022-23.
29 Gorffennaf 2022 - Stiwdio Aria - lansio stiwdio Ffilm a Theledu newydd yng Ngogledd Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/52182/stiwdio-aria-lansio-stiwdio-ffilm-a-theledu-newydd-yng-ngogledd-cymru/
Mae stiwdio ffilm a theledu newydd yn cael ei chynllunio yn Ynys Môn i fanteisio ar y nifer cynyddol o gynyrchiadau sy'n cael eu denu i'r lleoliadau godidog ar draws Gogledd Cymru.
Bydd Stiwdio Aria yn agor ar gyfer busnes ym mis Hydref 2022, lle bydd dau lwyfan stiwdio gwrthsain yn cynnig cyfanswm o 20,000 troedfedd sgwâr o ofod ffilmio.
Bydd Stiwdio Aria yn darparu gofod a chyfleusterau deniadol i gwmnïau cynhyrchu sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth, yn ogystal ag i gwmnïau eraill o fewn a thu allan i Gymru sy'n gweld cyfleoedd i ffilmio yn yr ardal.
Bydd yr adnodd stiwdio £1.6m, sydd wedi'i sefydlu gan Rondo Media a changen fasnachol S4C, S4C Digital Media Limited, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn darparu cyfleoedd sylweddol ar gyfer denu buddsoddiad yn y sector creadigol i Ogledd Cymru.
Bydd Stiwdio Aria yn dod yn ganolbwynt ar gyfer datblygu talent a sgiliau gyda chynlluniau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gyrfaoedd yn y sector ffilm a theledu, gan weithio mewn partneriaeth â cholegau, prifysgolion ac asiantaethau hyfforddi cyfryngau ledled Cymru.
Y nod yw datblygu cyfleoedd gwaith llawrydd cynaliadwy ym maes cynhyrchu drama ar draws y sbectrwm cyfan – o drydanwyr, dylunwyr, peintwyr, adeiladu set i golur, gwisgoedd, goleuo, staff cynhyrchu creadigol, cyfarwyddwyr ac actorion ac unigolion ychwanegol.
Bydd y stiwdio yn darparu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel yn yr ardal, gan ddarparu swyddi cynaliadwy i'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa o fewn y sector.
Bydd Stiwdio Aria yn cynorthwyo cynyrchiadau i anelu i fod yn amgylcheddol gynaliadwy drwy ddarparu myrdd o atebion i leihau'r ôl troed carbon yn ystod y broses cynhyrchu.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn darparu cyfleoedd i fusnesau mewn sectorau eraill – darparwyr llety, bwytai ac arlwyo, sgaffaldiau, lleoliadau a chyfleusterau ailgylchu, i enwi dim ond rhai.
Dywedodd Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media "Bydd y buddsoddiad hwn yn hwb mawr i'r diwydiant yng Ngogledd Cymru.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth cangen fasnachol S4C, Cymru Greadigol, Wales Screen, y Comisiwn Ffilmiau Prydeinig a Chyngor Sir Ynys Môn i alluogi'r datblygiad cyffrous hwn i ddwyn ffrwyth.
"Gyda chymaint o bwyslais ar sicrhau twf a buddsoddiad ar draws y diwydiannau creadigol, gwelwn gyfle gwirioneddol yma i greu cyfleuster newydd sbon a fydd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth hir dymor cynaliadwy yn y Gogledd, gan adeiladu ar y sgiliau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal.
"Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ystod eang o bartneriaid i weld Stiwdio Aria yn ffynnu ac yn tyfu."
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle "Mae creu cyfleoedd i feithrin talent yn y sector creadigol ar draws Cymru gyfan yn flaenoriaeth allweddol i S4C ac rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r adnodd gwych hwn yn Ynys Môn.
"Mae gweithio mewn partneriaeth â Rondo Media a Cymru Greadigol ar y buddsoddiad pwysig hwn drwy SDML yn gyfle cyffrous i gefnogi economi Gogledd Cymru.
"Bydd y datblygiad hwn yn denu cynyrchiadau proffil uchel, ac edrychwn ymlaen at greu cyfleoedd yn lleol ac adeiladu ein presenoldeb hyd yn oed ymhellach yng Ngogledd Cymru."
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i Ynys Môn. Mae galw cynyddol am ofod stiwdio bwrpasol a bydd y cyfleuster yma yn rhoi gogledd Cymru ar y map, gan ddarparu gofod y mae mawr ei angen ar gyfer cynyrchiadau lleol a newydd.
"Bydd y stiwdio ffilm a theledu newydd yma yn dod â hwb economaidd enfawr i'r ynys, a dylid teimlo effaith hynny ar draws y gogledd i gyd.
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn partneru ag S4C ar y datblygiad cyffrous hwn.
"Mae'n enghraifft arall o sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi'r diwydiant ledled Cymru."
Am fwy o wybodaeth: https://ariafilmstudios.com
20 Gorffennaf 2022 - Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021-22
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/52023/s4c-yn-gweld-cynnydd-pellach-mewn-arferion-gwylio-aml-lwyfan/
Mae S4C wedi gweld twf pellach mewn cynulleidfaoedd sy'n defnyddio ei gwasanaethau dal i fyny, gyda chynnydd o 11.6% y flwyddyn yn y sesiynau gwylio ar ei chwaraewyr.
Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C am y flwyddyn 2021-22 nododd y darlledwr hefyd y bydd buddsoddi helaeth mewn llwyfannau gwylio newydd, ac y byddant yn cyflwyno dulliau newydd o fesur y niferoedd sy'n troi at S4C ar y llwyfannau hynny.
Llwyddodd prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ar draws Facebook, Twitter ac YouTube sicrhau eu horiau gwylio uchaf erioed yn 2021–22, gan gofnodi cynnydd o 42% flwyddyn ar flwyddyn. Yn ystod 2021–22 hefyd, gwyliwyd 366,300 awr o gynnwys ar draws sianeli S4C ar YouTube – cynnydd o 13.5% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C:
"Roedd 2021–22 yn gyfnod o newid unwaith eto i S4C - fe barhaodd y pandemig i effeithio ar ein gweithgareddau ni a'r sector yn ehangach wrth i ni ymateb i newidiadau yng nghyfyngiadau Covid yn ystod y flwyddyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r sector gynhyrchu a staff S4C am eu gwaith diflino wrth addasu yn ystod y pandemig.
"Mae nifer o'r arferion gwylio ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig yn parhau. Yn sicr mae S4C yn dilyn arferion y farchnad, a chynyddu'r defnydd o'n cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau fydd y nod dros y blynyddoedd nesaf. Mae dros 271,000 bellach wedi cofrestru i wylio ar S4C Clic, ac mae rhaglenni plant, chwaraeon a drama yn arwain y ffordd."
Ychwanegodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Wrth i ni barhau i symud tuag at gyhoeddi ar wahanol lwyfannau a gwasanaethau gwylio newydd, byddwn yn adolygu ein mesuryddion i sicrhau ein bod yn deall y tueddiadau gwylio diweddaraf, er mwyn caniatáu i ni dargedu a phersonoli ein cynnwys i'r gynulleidfa briodol.
"Wrth edrych at y dyfodol, byddwn yn dal i ddod â chynnwys beiddgar i Gymru ac adlewyrchu prif ddigwyddiadau o Gymru i boblogaeth Cymru a thu hwnt. Rydym am i S4C fod yn gartref i brofiadau cenedlaethol Cymru, gyda'n cynnwys yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan helpu'r Gymraeg i ffynnu yng Nghymru, y DU a'r farchnad fyd-eang."
Mae nifer o raglenni gwreiddiol a newydd, a ddatblygwyd yma yng Nghymru ar gyfer S4C, wedi ennill gwobrwyon ac wedi cael eu hallforio ledled y byd dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys Am Dro, sydd wedi ei werthu i dros chwe gwlad yn Ewrop yn ogystal â BBC Two, Gwesty Aduniad, sydd bellach yn cael ei gynhyrchu ar gyfer darlledu ar rwydwaith y BBC a Tŷ am Ddim, sy'n gyd-gynhyrchiad gyda Channel 4 a enillodd dair gwobr yn ystod 2021–22 gan gynnwys y 'Rhaglen Ddydd Orau' yng ngwobrau Broadcast, RTS, a BAFTA.
Mae'r adroddiad yn nodi hefyd y bydd S4C, wrth wireddu ei strategaeth newydd, yn sicrhau bod S4C yn gartref i bawb – waeth pwy ydyn nhw neu a ydyn nhw'n siarad yr iaith Gymraeg neu beidio; gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ar draws pob math o aelwydydd.
Bydd yr arlwy yn cynnig rhywbeth i bawb, ac ar gael i bawb drwy ddefnyddio dulliau megis is-deitlo sy'n ei gwneud hi'n haws i wylwyr newydd yng Nghymru a thu hwnt fwynhau y cynnwys. Bydd pwyslais ar gynyddu is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar draws S4C, fel gall unrhyw un fwynhau y cynnwys, beth bynnag eu cefndir.
Mae copi o'r Adroddiad Blynyddol i'w weld yma: https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/48047/adroddiadau-blynyddol/.
19 Gorffennaf 2022 - S4C yn cyflwyno cwpan er cof am Dai Jones, Llanilar
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/51976/s4c-yn-cyflwyno-cwpan-er-cof-am-dai-jones-llanilar/
Mae S4C wedi cyflwyno cwpan coffa heddiw, er cof am y darlledwr a'r ffermwr poblogaidd Dai Jones Llanilar.
Bydd y cwpan yn cael ei gyflwyno i enillwyr y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff, sef hoff gystadleuaeth Dai yn Y Sioe Frenhinol brynhawn ddydd Mawrth 19 Gorffennaf.
Mewn derbyniad arbennig yn adeilad S4C ar faes y Sioe, dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyhoeddi S4C: "Mae'n gwbwl briodol heddi ein bod ni yn dangos ein diolchgarwch am gyfraniad Dai i ddarlledu, ac i fywyd cefn gwlad drwy gyflwyno'r Cwpan Coffa yma i'r Sioe. 'Y Sioe orau yn y byd', yng ngeirie Dai. Roedd e' wrth ei fodd yn cyflwyno o'r maes, a'i gynhesrwydd naturiol a'i ffraethineb yn gwneud i bawb deimlo'n gwbwl gartrefol yn eu gwmni. Dyna oedd y gyfrinach i lwyddiant cyfres Cefn Gwlad, fu ar S4C ers y dechre, ddeugain mlynedd nol, gyda Dai yn feistr wrth y llyw. Roedd e'n apelio at yr hen a'r ifanc, pobol y wlad a'r dre, ac roedd yn ymgorfforiad o'r gorau o gefn gwlad. O'r clos ffarm i lwyfan 'steddfod, o'r Rasys i'r 'piste', ac o Sion a Sian i'r Sioe. Ma'r byd darlledu a chefn gwlad yn sicr yn dlotach o lawer hebddo."
Yn ystod y derbyniad hefyd cyhoeddodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eu bwriad i greu teyrnged barhaol i Dai Jones. Meddai John T Davies:
"Ein bwriad yw creu cofeb maint llawn i Dai ar gornel cylch y Gwartheg ger adeilad y Gwartheg Duon Cymreig. Y lleoliad hwn oedd pulpud Dai drwy gydol wythnos y Sioe. Bydd yn gerflun ac yn gofeb addas i Frenin Bywyd Gwledig Cymru'. Mae'r gymdeithas heddiw yn lansio safle Gofund er mwyn caniatáu i unigolion sydd yn dymuno cyfrannu tuag at gost y cerflun maint byw er cof a chyfraniad Dai Jones Llanilar, gwladgarwr a un o ddarlledwyr mwyaf Cymru. "
15 Gorffennaf 2022 - S4C yn darlledu dros 40 awr o gynnwys o’r Sioe Frenhinol
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 yn ddiweddarach eleni, mae'r sianel yn estyn allan i gynulleidfaoedd yn y DU a ledled y byd gyda darllediadau cynhwysfawr o ddigwyddiad amaethyddol mwyaf Ewrop sef y Sioe Frenhinol.
Mae sioe fawr yn Llanelwedd, Powys yn ôl wythnos nesaf o ddydd Llun 18 - dydd Iau 21 Gorffennaf ar ôl toriad o ddwy flynedd yn dilyn Covid.
Bydd S4C yn cynnig darllediadau ecsgliwsif o'r digwyddiad ar nifer o lwyfannau gydag isdeitlau Saesneg a ffrydiau byw ar dudalennau YouTube a Facebook y sianel.
Fe fydd rhaglenni'r wythnos yn dechrau am 7.30 ar nos Sul, 17 Gorffennaf gyda Rhagflas y Sioe - cyfle i wylwyr fwynhau'r paratoadau munud olaf a chael blas o beth i sydd i'w ddisgwyl yn ystod yr wythnos. Yn dilyn am 8yh, fe fydd rhaglen grefyddol ac ysbrydol S4C sef Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn rhoi'r cyfle i gynulleidfaoedd ymuno yn Moliant y Maes - dathliad crefyddol cyn i'r sioe ddechrau.
Bydd gwasanaeth S4C Y Sioe yn cynnig darllediadau trwy'r dydd o faes y sioe ar S4C a BBC iPlayer gydag isdeitlau Saesneg, gyda ffrwd fyw ychwanegol o'r prif gylch ceffylau o 8.00yb gyda sylwebaeth yn Gymraeg a Saesneg ar S4C YouTube a Facebook Y Sioe. Yn ogystal, fe fydd rhaglen arbennig o uchafbwyntiau bob nos am 9.00yh.
Hefyd, fe fydd cynnwys ar gael i'w wylio ar BBC iPlayer a S4C Clic, gwasanaeth ar alw S4C.
Meddai Prif Weithredwr S4C Siân Doyle: "Rydw i'n wrth fy modd bod Sioe Frenhinol Cymru yn ôl a bod S4C unwaith eto yn mynd i fod yn darlledu'n ecsgliwsif o'r Sioe. Mae hi'n un o'r digwyddiadau blynyddol mwyaf yng Nghymru ac yn brif ddigwyddiad yng nghalendr gwledig Prydain - mae'n denu gwylwyr ac ymwelwyr dros y byd."
"Mae hi hefyd yn un o'r prif ddigwyddiadau yng nghalendr blynyddol S4C, felly rydym ni wrth ein boddau i allu cynnig ystod mor anhygoel o ddarllediadau i'n gwylwyr ble bynnag yn y byd y maen nhw ac ar amser sydd yn gyfleus iddyn nhw."
Mae arlwy'r sioe yn rhan bwysig o ystod eang o raglenni gwledig ac amaethyddol S4C gan gynnwys Cefn Gwlad, Ffermio, Cynefin ac Am Dro, sy'n adlewyrchu bywyd gwledig Cymru.
Bydd S4C hefyd yn cynnal nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymreig gan roi cyfle i wylwyr ddarganfod mwy am gymryd rhan mewn sioeau poblogaidd ac sydd wedi ennill sawl gwobr.
Meddai Siân Doyle: "Rydym yn falch iawn o raglenni gwledig ac amaethyddol poblogaidd S4C sy'n cael eu dangos drwy gydol y flwyddyn - bydd hwn yn gyfle i arddangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig."
Yn ogystal â bod yr unig ddarlledwr i gynnig darllediadau o'r Sioe, bydd S4C yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod gan gynnwys sioeau Cyw a Stwnsh i wylwyr iau.
1 Gorffennaf 2022 - Dilynwch y Cymry yng Ngemau’r Gymanwlad ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/51583/dilynwch-y-cymry-yng-ngemaur-gymanwlad-ar-s4c/
Bydd tîm o 199 o athletwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham eleni a bydd modd dilyn eu holl lwyddiannau dros yr wythnosau nesaf ar S4C.
Am y tro cyntaf erioed, bydd S4C yn darlledu o Gemau'r Gymanwlad gyda rhaglenni uchafbwyntiau bob nos, Birmingham 2022: Cymry yn y Gemau.
Bydd y rhaglenni yn cychwyn ar Nos Iau 28 Gorffennaf gyda rhaglen awr yn edrych ymlaen at y gemau.
O Nos Wener 29 Gorffennaf ymlaen, bydd S4C yn dangos rhaglenni hanner awr yn cynnwys uchafbwyntiau, y newyddion diweddaraf a'r holl straeon o dîm Cymru.
Catrin Heledd a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno'r cyfan, gyda Heledd Anna a Tina Evans yn gohebu ym Birmingham, a Gareth Rhys Owen a Gareth Roberts yn sylwebu ar y campau.
Meddai Catrin Heledd: "Mae Gemau'r Gymanwlad yn dod o gwmpas bob pedair blynedd ac yn gyfle arbennig i athletwyr Cymru gynrychioli'r Ddraig Goch.
"Mae'n gyfle i sêr newydd ddod i'r amlwg a chystadleuwyr profiadol ddangos eu doniau ar y llwyfan mawr, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn serennu y tro hwn.
"Mi fyddwn ni'n dilyn tîm Cymru yn agos iawn ac yn dod â'r holl gyffro o Birmingham, felly gobeithio gallwch chi ymuno â ni bob nos."
Bydd cyfres o ffilmiau byr, Chwedloni, yn cael eu dangos yn yr wythnosau yn arwain at y gemau, yn rhannu profiadau doniol a difyr gan rai o'r unigolion sydd wedi bod yn rhan o'r gemau.
Bydd y ffilmiau yn cael eu ddarlledu ar S4C a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon o ddydd Llun 4 Gorffennaf.
Ar drothwy'r gemau, ar Nos Fawrth 26 Gorffennaf, bydd S4C yn darlledu ffilm arbennig, Cymry'r Gemau, sydd yn dilyn pum aelod o dîm Cymru, wrth iddyn nhw baratoi am y gystadleuaeth.
Bydd y ffilm yn dilyn y taflwr disgen Aled Siôn Davies, y triathletwraig Non Stanford, y bowlwraig lawnt Anwen Butten a'r efeilliaid sy'n cystadlu yn y bocsio, Garan ac Ioan Croft, gan gynnig cipolwg mewn i fywydau prysur y pump a beth mae'n cymryd i gystadlu ar y lefel uchaf.
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Ry'n ni'n torri tir newydd ar S4C drwy ddarlledu o Gemau'r Gymanwlad.
"Bydd ein rhaglenni nosweithiol yn cynnig cyfle i gadw fyny efo hanes Tîm Cymru yn Birmingham yn ogystal â rhannu'r achlysur rhyngwladol arbennig hwn gyda'r gwylwyr gartref.
"Mae'r gemau yn golygu lot fawr i gymaint o athletwyr Cymru ac mi fyddwn ni yno bob dydd i ddangos y gorau o'r cystadlu. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan."
Bydd Birmingham 2022: Cymry yn y Gemau yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru, tra bod Chwedloni a Cymry'r Gemau yn cael eu cynhyrchu gan Orchard.
Dilynwch @S4Cchwaraeon ar Twitter, Facebook ac Instagram am y newyddion diweddaraf yn ystod Gemau'r Gymanwlad.
29 Mehefin 2022 - Diwrnod o gemau Hoci a Phêl-rwyd rhyngwladol ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/51530/diwrnod-o-gemau-hoci-a-phl-rwyd-rhyngwladol-ar-s4c/
Bydd dydd Mawrth 19 Gorffennaf yn ddiwrnod prysur o chwaraeon merched rhyngwladol ar blatfformau digidol S4C.
Gyda Gemau'r Gymanwlad 2022 ar y gorwel, mi fydd S4C yn dangos timau hoci a phêl-rwyd Cymru wrth iddyn nhw orffen eu paratoadau gyda gemau yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru, Caerdydd.
Bydd tîm hoci menywod Cymru yn chwarae yn erbyn De Affrica, gyda'r gêm yn fyw ar-lein am 4.25yh.
Yna, bydd y tîm pêl-rwyd cenedlaethol yn herio'r SPAR Proteas, tîm cenedlaethol De Affrica, am 7.00yh, gyda'r rhaglen yn fyw ar-lein am 6.45yh.
Bydd yr ail brawf rhwng y ddau dîm yn cymryd lle y diwrnod canlynol, ar ddydd Mercher 20 Gorffennaf, gyda'r darllediad yn cychwyn am 6.45yh.
Bydd yr holl gemau i'w gweld yn fyw ar S4C Clic, ar dudalen Facebook S4C Chwaraeon ac ar dudalen YouTube S4C, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar Clic ac YouTube.
20 Mehefin 2022 - S4C yn darlledu pêl-droed domestig Cymru am y pedair mlynedd nesaf
Bydd S4C yn parhau i fod yn gartref i bêl-droed domestig Cymru am y pedair mlynedd nesaf.
Ar ôl dod i gytundeb gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru, mi fydd gemau domestig dynion, merched, a gemau gartref tîm rhyngwladol Dan 21 i'w gweld yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C tan 2026.
Mi fydd 35 gêm yn cael ei ddangos gan Sgorio o gystadlaethau'r dynion, gan gynnwys y Cymru Premier JD, Cwpan Cymru JD a Chwpan Nathaniel MG.
Yn ogystal, mi fydd sawl gêm o gynghreiriau Genero Adran Leagues yn cael eu dangos pob tymor, gyda rhaglen uchafbwyntiau Sgorio yn dangos y gorau o'r holl gynghreiriau pob wythnos.
Wedi sicrhau hawliau i ddangos gemau tîm cenedlaethol y dynion am y ddwy flynedd nesaf yn ddiweddar, mi fydd y cytundeb newydd yn caniatáu S4C i ddangos gemau cartref tîm Dan 21 Cymru yn fyw ac yn ecsgliwsif am y pedair mlynedd nesaf.
Dywedodd Owain Tudur Jones, dadansoddwr Sgorio a chyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i bêl-droed yng Nghymru.
"Mae'r gamp yn fwy poblogaidd nag erioed ac mae Cynghreiriau Cymru Leagues JD ac Adran Leagues Genero yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein chwaraewyr.
"Dyma yw brig y gêm yma yng Nghymru ac mae'r safon yn codi, tymor ar ôl tymor.
"Rydyn ni 'di gweld chwaraewyr rhyngwladol fel Ben Cabango, Dave Edwards a Jazz Richards yn chwarae yn y Cymru Premier JD dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny'n dangos ym mha gyfeiriad mae'r gynghrair yn mynd.
"Mae digon o gemau cyffrous, goliau anhygoel a gelyniaethau mawr, ac mae cyfle i chwarae yn Ewrop ar ddiwedd pob tymor, felly cymaint i unrhyw gefnogwr pêl-droed ei fwynhau."
Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Mae'r cytundeb yma i fod yn ddarlledwyr ecsgliwsif o bêl-droed domestig yn tanlinellu ein statws fel cartref pêl-droed Cymru, ac rydym yn falch iawn o hynny.
"Mae Sgorio yn frand mae cefnogwyr pêl-droed Cymru yn adnabod ac yn ymddiried ynddo.
"Y tymor diwethaf, cafodd 48 gêm ddomestig byw eu dangos ar draws blatfformau Sgorio, gyda dros 12 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys ar-lein Sgorio, ac mae hynny yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth i gefnogwyr presennol y gynghrair, ac i ddenu cefnogwyr y dyfodol.
"Ry'n ni'n falch iawn o barhau gyda'n hymrwymiad i bêl-droed domestig ac i gefnogi cynnydd a thwf y gêm yma yng Nghymru."
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae'n amser da i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru.
"Gobeithio y bydd y ffaith bod Tîm Cenedlaethol y Dynion wedi cyrraedd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn cynyddu'r cyffro sydd ynghlwm â'r gêm yn ddomestig hefyd ar gyfer y tymhorau sydd i ddod.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C yn rhannu perthynas ddiwylliannol bwysig ac adeiladol sy'n fwy na phêl-droed yn unig. Mae'r berthynas hon yn rhan bwysig o wead cymdeithasol Cymru sy'n bwysig i gymaint o bobl ein gwlad.
"Rydym yn edrych ymlaen at brofi mwy o ddarllediadau safonol S4C o'n gemau domestig a'r gornestau rhyngwladol dan 21 dros y pedair blynedd nesaf."
Roedd hi'n flwyddyn llwyddiannus i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Sgorio tymor diwethaf, gyda chynnwys fideo yn denu dros 12.4 miliwn o sesiynau gwylio a dros 10 miliwn o funudau gwylio.
Fe dorrwyd tir newydd yn ogystal, drwy lansio podlediad newydd, fodlediad newydd yn trafod pêl-droed merched, ac fe ddangoswyd gêm o'r ail haen ddomestig am y tro cyntaf.
Mae S4C wedi darlledu'r Cymru Premier JD ers 2008.
15 Mehefin 2022 - 1.2 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys pêl-droed S4C ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae S4C wedi dod â rhai o ddigwyddiadau mawr chwaraeon a gwyliau ieuenctid Cymru i sgriniau a chartrefi Cymru a thu hwnt yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Daeth S4C â Chymru i'r byd drwy ei darllediad o gêm Cwpan y Byd FIFA, lle gwelwyd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn curo Wcráin ac ennill lle yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar - y tro cyntaf iddynt gymhwyso ers 64 mlynedd.
Fe wyliodd mwy o bobl nag erioed y gêm yn Gymraeg ar S4C gan wylio Cymru yn ennill ei lle yng Nghwpan y Byd. Yn ogystal, gwelodd S4C 1.2m o sesiynau gwylio gyda'i chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth y cyhoeddiad heddiw gan Sian Doyle, Prif Weithredwr, S4C yn ei hanerchiad yn nghynhadledd Copa Cyfryngau Cymru.
Bu'r ymgyrch hefyd yn gymorth i Dafydd Iwan, efo'i berfformiad o'i gân 'Yma O Hyd' yn dod i frig siart iTunes y DU yr wythnos ddiwethaf, uwchben caneuon gan artistiaid byd-eang.
Yn y cyfamser, roedd 250,000 o bobl yn gwylio darllediadau llinol S4C o Eisteddfod yr Urdd, gyda chwarter o'r rhain yn gwylio tu allan i Gymru. Yn ogystal, roedd 250,000 wedi gwylio cynnwys Eisteddfod yr Urdd S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.
Daw'r ffigurau wrth i'r sianel baratoi i ddatgelu ei strategaeth newydd cyn ei phen-blwydd yn 40 oed eleni.
Bydd y strategaeth yn ceisio dod â'r genedl ynghyd â chynnwys newydd beiddgar sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth, a dod â chynnwys Cymraeg i'n gwylwyr, ble bynnag maent yn y byd.
Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, "Mae poblogrwydd cynyddol darlledu Cymraeg yn ennill enw da i S4C fel cartref profiadau cenedlaethol Cymru.
"Gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer partneriaethau a chyd-gynyrchiadau rhyngwladol, mae S4C yn dod â Chymru i'r byd ac yn arwain y gwaith mewn oes newydd o ddiddordeb a chyffro byd-eang gyda thalent o Gymru.
"Hoffwn ddymuno'n dda i'r tîm pêl-droed cenedlaethol wrth iddynt baratoi at Qatar ac mae S4C yn edrych ymlaen at bartneru gyda nhw ar y daith."
Mae S4C wedi sicrhau hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus o 2022 hyd at 2024.
10 Mehefin 2022 - Dwy wobr i S4C yng Ngwyl Cyfryngau Celtaidd 2022Lle hoffech chi fod?
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/51202/dwy-wobr-i-s4c-yng-ngwyl-cyfryngau-celtaidd-2022/
Mae S4C wedi llwyddo i gipio dwy wobr yng Ngwyl Cyfryngau Celtaidd 2022 a gynhaliwyd yn Quimper yn Llydaw yr wythnos hon.
Llwyddodd rhaglen ddogfen bry ar y wal Prif Weinidog Mewn Pandemig (Zwwm Films) i gipio'r wobr yn y categori Materion Cyfoes. Bu'r rhaglen unigryw hon yn dilyn bywyd a gwaith Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yng nghanol cyfnod eithriadol pandemig covid-19.
Yn ogystal daeth ffilm animeiddiedig Sol i'r brig yn y categori Rhaglen Blant Orau. Mae'r ffilm sensitif a thwymgalon hon yn ymdrin â galar a chafodd ei ariannu drwy Gronfa Gynulleidfaoedd Cynnwys Pobl Ifanc.
Cynhaliwyd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni yn wedi i'r ŵyl gael ei chynnal ar-lein am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
"Rydym yn falch iawn bod rhaglenni S4C wedi cael cydnabyddiaeth yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, ac wedi dod i'r brig mewn dau gategori cystadleuol.
"Llongyfarchiadau mawr i'r cynhyrchwyr a'r holl dimau talentog sydd wedi gweithio'n ddiwyd ar y rhaglenni yma."
9 Mehefin 2022 - S4C yn darlledu uchafbwyntiau o daith yr haf i Dde Affrica
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/51197/s4c-yn-darlledu-uchafbwyntiau-o-daith-yr-haf-i-dde-affrica/
Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau estynedig o gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn y Springboks ar eu taith yr haf i Dde Affrica.
Bydd y Cymry yn herio pencampwyr y byd dair gwaith yn ystod mis Gorffennaf ac mi fydd rhaglen uchafbwyntiau yn cael ei ddangos am 9.00yh ar ddiwrnod y gemau, yn dilyn cytundeb gyda deiliaid yr hawliau darlledu, Sky Sports.
Mi fydd chwaraewyr Cymru Ken Owens a Sioned Harries ymysg y wynebau adnabyddus fydd yn dadansoddi'r gemau yn ystod y daith.
Mae taith i Dde Affrica yn un o'r heriau anoddaf i unrhyw dîm rygbi rhyngwladol ac mi fydd hwn yn brawf i'r eithaf i dîm Cymru a Wayne Pivac.
Nid yw Cymru erioed wedi ennill yn erbyn y Springboks yn Ne Affrica, felly fe allen nhw greu hanes yr haf yma. Ond er mwyn gwneud hynny, bydd rhaid iddyn nhw fod yn barod am dri gornest corfforol a chaled.
Bydd S4C yno gydag uchafbwyntiau cynhwysfawr o bob gêm a'r holl ymateb, yn ogystal â chyfweliadau ecsgliwsif gydag aelodau carfan Cymru.
Ac wrth i Gymru baratoi ar gyfer pob prawf, bydd cyfrifon @S4Cchwaraeon ar gyfryngau cymdeithasol yn rhannu'r newyddion diweddaraf a chynnwys ecsgliwsif o'r garfan.
Mae'r daith yn cychwyn gyda'r prawf gyntaf yn Loftus Versfeld yn Pretoria ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf.
Bydd yr ail brawf yn cymryd lle yn Stadiwm Toyota yn Bloemfontein ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf, cyn y prawf olaf yn Stadiwm DHL yn Cape Town ar ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf.
Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau S4C yn cael eu cynhyrchu gan Whisper Cymru.
26 Mai 2022 - Cyhoeddi Ysgoloriaeth Newyddion er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n cael eu tangynrychioli
Mae S4C wedi lansio Ysgoloriaeth Newyddion 2022-2023 heddiw ar gyfer myfyriwr sydd am ddilyn cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.
Mae'r Ysgoloriaeth sy'n werth £6,500 yn cael ei glustnodi tuag at ffioedd dysgu, ac yn dilyn y cwrs bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cytundeb tri mis yn adran newyddion digidol S4C.
Bwriad yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu lleisiau newydd sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg.
Eleni mae S4C yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac ymgeiswyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig yn benodol.
Bydd cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw ymgeisydd sydd heb astudio yn y Gymraeg o'r blaen neu sy'n awyddus i gymryd camau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg proffesiynol.
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn wreiddiol mewn teyrnged i'r bardd, nofelydd, newyddiadurwr a'r darlledwr T.Glynne Davies a fu farw yn 1988, ac mae'r ysgoloriaeth wedi cefnogi nifer o dalentau newydd i ddatblygu sgiliau newyddiaduraeth dros y blynyddoedd.
Meddai Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:
"Dyma gyfle unigryw i berson ddechrau ar yrfa newyddiadurol a gweithio ar wasanaeth digidol cyffrous Newyddion S4C.
"Â ninnau wedi lansio gwasanaeth newyddion digidol, mae hwn yn gyfle i ni roi cefnogaeth ariannol i fyfyriwr ddatblygu ei gyrfa a rhoi cyfle euraidd i berson sy'n frwd i weithio yn y maes i gael profiad uniongyrchol o weithio gyda thîm o newyddiadurwyr, a hynny ar wasanaeth cyfoes ac arloesol."
Meddai Nia Edwards Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C:
"Mae datblygu nifer o leisiau o fewn newyddiaduraeth Cymraeg yn holl bwysig ac mae dyletswydd ar S4C i gefnogi'r ymdrechion i sicrhau hyn.
"Mae'n wych felly bod Ysgoloriaeth Newyddion S4C eleni yn ffocysu ar amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn cefnogi talent y dyfodol."
Meddai Sali Collins , Cyfarwyddwr MA Newyddiaduraeth Darlledu, Prifysgol Caerdydd
"Mae Ysgoloriaeth Newyddion S4C yn rhoi cyfle arbennig i fyfyrwyr astudio ar y cwrs MA Newyddion Darlledu blaenllaw yma. Mae hyfforddi, cefnogi ac annog cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr a darlledwyr, o bob cefndir, sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes yn holl bwysig.
"Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth S4C ac yn gobeithio bydd y traddodiad o ddenu myfyrwyr brwdfrydig sy'n dilyn gyrfa eithriadol yn y diwydiant yn hir barhau."
25 Mai 2022 - S4C yn parhau i ddangos gemau tîm pêl-droed Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/51032/s4c-yn-parhau-i-ddangos-gemau-tm-pl-droed-cymru/
Mae S4C wedi sicrhau hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus o 2022 hyd at 2024.
Ar ôl sicrhau cytundeb darlledu gyda UEFA, mi fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn gallu gwylio ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac ymgyrch rhagbrofol UEFA EURO 2024, yn fyw ar Sgorio Rhyngwladol.
Bydd y cytundeb yn cynnwys gemau Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, gan gychwyn gyda'r gêm oddi cartref yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA. Bydd yr holl gemau yn cael eu dangos yn yr iaith Gymraeg ar S4C.
Meddai cyflwynydd Sgorio Rhyngwladol, Dylan Ebenezer: "Yn amlwg, ry'n ni wrth ein boddau fod Sgorio yn mynd i barhau i ddilyn y tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddod â holl angerdd y Wal Goch i ystafelloedd byw, clwbiau pêl-droed a thafarndai'r genedl.
"Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i fod yn gefnogwr Cymru. Mae gennym garfan ifanc a thalentog yn cael eu harwain gan arwyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair dros ben. Allwn ni ddim disgwyl i ddilyn anturiaethau'r tîm unwaith eto."
Meddai Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle: "Rydyn ni'n hynod o falch mai S4C fydd cartref ecsgliwsif i gemau tîm pêl-droed dynion Cymru ar deledu cyhoeddus. Mae hyn wir yn newyddion ffantastig i bêl-droed yng Nghymru ac i'r iaith Gymraeg.
"Rydyn ni yng nghanol cyfnod euraidd i'n tîm cenedlaethol ac mae'n hanfodol ar gyfer tyfiant a datblygiad y gamp bod cefnogwyr yn gallu parhau i fwynhau gemau'r tîm am ddim ar deledu cyhoeddus."
24 Mai 2022 - Wynebau newydd yn ymuno â thîm Tywydd S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/50924/wynebau-newydd-yn-ymuno--thm-tywydd-s4c/
Bydd dwy wyneb newydd yn ymuno gyda thîm Tywydd S4C cyn diwedd y mis.
Bydd Branwen Gwyn a Tanwen Cray yn ymuno gydag Alex Humphreys a Megan Williams i greu tîm tywydd benywaidd cyntaf S4C.
Er i Branwen o Gaerdydd ddechrau ei gyrfa yn gweithio fel cyflwynydd ar amryw o raglenni gwahanol, yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn cynhyrchu a sgriptio ar gyfer gwasanaeth plant S4C, Cyw.
Mae Tanwen Cray o Fro Morgannwg newydd dreulio'r flwyddyn ddiwethaf yn astudio MA Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. "Pan welais i'r hysbyseb, nes i feddwl ar unwaith – ma rhaid fi fynd am hwnna" meddai Branwen.
"Fel pawb, ma'n siŵr – ma gen i ddiddordeb mawr yn y tywydd, ac ma'r tywydd yn cael effaith fawr ar fy hwyliau!
"Dwi'n caru'r haul ac unrhyw gyfle dwi'n cael fe fydda i allan yn yr haul yn gweithio, eistedd a mwynhau!
"Dwi'n edrych mlaen yn fawr at fod nol yn cyflwyno ac at y wefr o gyflwyno'n fyw."
Ychwanegodd Tanwen: "Fi bob amser wedi meddwl mai un o'r swyddi gore mewn darlledu yw cyflwyno'r tywydd achos mae'n gyfle i gyfathrebu gydag ystod eang o wylwyr.
"Mae pawb ohonom a diddordeb yn y tywydd! Ma'r tywydd erbyn hyn yn cwmpasu pwnc mor bwysig hefyd a newid hinsawdd.
"Fi methu aros i ddechrau arni, ac ro'n i mor gyffrous pan glywais i mod i wedi cael y swydd."
Bydd Branwen a Tanwen i'w gweld ar ein sgriniau o ddiwedd mis Mai.
Mae'r tywydd yn rhan o wasanaeth Newyddion S4C ac yn cael ei ddarlledu o adeilad y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.
20 Mai 2022 - Pwy sy’n galw? Y sengl newydd sydd â neges glir am rap Cymreig
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37029/lle-hoffech-chi-fod-s4c-yn-lansio-cefndiroedd-zoom/
Er y bydd wynebau Lloyd Lewis a Dom James yn adnabyddus i rai fel cyfranwyr Hansh, bydd eu prosiect diweddaraf ar y sgrin - sef fideo i'w sengl newydd, Pwy sy'n Galw?, tipyn yn wahanol.
Gyda cherddoriaeth yn elfen bwysig o fywydau'r ddau erioed, mae cyrraedd y nod o ryddhau eu hail sengl, Pwy sy'n Galw?, yn achlysur i'w ddathlu.
Ac mae platfform cerddoriaeth S4C, Lŵp, wedi ychwanegu i'r cyffro trwy gynhyrchu fideo i gyd-fynd â'r trac.
A thrwy gynhyrchu cân fachog, llawn curiadau yn yr iaith Gymraeg, maent yn gobeithio mynd a'r iaith yn bell.
Dywedodd Dom James, sy'n dod o Gaerdydd: "Nes i estyn mas i Lloyd nôl yn 2017 i ofyn iddo gyd-weithio 'da fi ar gerddoriaeth. Mi wnes i ddysgu Cymraeg yn ystod fy amser yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd a Lloyd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl.
"Ers hynny, mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i'r ddau o ni, felly roedd cyfuno'r iaith a cherddoriaeth yn bwysig hefyd."
Yn ôl Lloyd, sydd o Gwmbran: "Roedd Dom eisoes yn gwneud cerddoriaeth gyda Don (Donald Phythian), sydd bellach yn DJ a chynhyrchydd i ni.
Naethon ni greu ein can gyntaf Cymraeg, Sawl Tro, tua blwyddyn yn ôl i berfformio ar raglen Lŵp Curadur Lemfreck.
"Roedd yr ymateb yn anhygoel felly o'n ni'n gwybod roedd bendant lle i ni greu mwy o rap Cymraeg. Penderfynon ni ffocysu ar neud cwpl o ganeuon Cymraeg a dyna lle ddaeth Pwy Sy'n Galw? i fodolaeth."
Er nad oedd y trac wedi ei ryddhau ar blatfformau ffrydio eto, fe wnaeth ddenu sylw un o DJ's mwyaf dylanwadol Cymru, Huw Stephens: "Pan nes i chwarae Pwy Sy'n Galw? ar BBC Radio Cymru, gath y gân yr ymateb gore o unrhyw gân fi wedi chwarae ar y sioe mewn blynyddoedd" meddai Huw.
"Roedd cerddorion, ffans a hyrwyddwyr yn cysylltu yn gofyn; ble alla'i gael y gân yna?! Mae'n wych, a gallai wir ddim aros i glywed be maen nhw'n 'neud nesa."
"Ar ôl ymateb gwych i'r gân o'n ni'n gwybod bod rhaid neud fideo" ychwanegodd Lloyd.
"Wnaeth Lŵp S4C gytuno i helpu ni. Cefais i'r syniad i'r fideo gael ei osod mewn call centre - a wnaeth Owain yn Orchard (cwmni cynhyrchu) helpu i ddatblygu ein syniad.
"Roedd e'n lot o hwyl yn creu'r fideo a fi'n meddwl bod hwnna yn dod ar draws wrth wylio fe."
Yn wir, mae bron yn amhosib peidio symud gyda'r gân, ond mae hefyd yn anfon neges deimladwy am yr iaith gyda llinellau fel: "Heb iaith 'does dim calon", "sefyllfa wedi gwthio fi i godi'r safon" a "teimlo fel Cymro ffug".
Yn dilyn llwyddiant y trac, beth yw'r cam nesa i Lloyd a Dom James?
"Dechrau ein siwrne yw Pwy Sy'n Galw?" meddai Lloyd.
"Bwriad ni fel triawd yw i cario 'mlaen creu a rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg a gweld pa mor bell allwn ni fynd ag e.
"Mae gyda ni lot o ddigwyddiadau a sets yn yr haf i edrych ymlaen i - mae'r dyfodol yn gyffrous."
Felly gwyliwch y gofod - bydd siŵr o fod galw mawr am fwy o draciau gan Lloyd a Dom James, yn y cyfamser mwynhewch fideo Pwy Sy'n Galw? ar sianel YouTube Lŵp S4C .
-18 Mai 2022 - Ail gyfres y ddrama Yr Amgueddfa yn symud i gefn gwlad
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/50803/ail-gyfres-y-ddrama-yr-amgueddfa-yn-symud-i-gefn-gwlad/
Mae ffilmio wedi cychwyn ar ail gyfres y ddrama lwyddiannus Yr Amgueddfa - mae'r cyffro y tro hwn wedi symud allan o'r Brifddinas i rai o leoliadau mwyaf eiconig gorllewin Cymru yn Sir Gâr.
Mae Nia Roberts yn ôl fel Dela - mae hi wedi cael secondiad o'r rôl fel cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar ôl digwyddiadau'r gyfres gyntaf. Mae hi nawr yn rhedeg amgueddfa mewn tref wledig ac yn byw gyda'i chariad Caleb (Steffan Cennydd) mewn hen dŷ traddodiadol sy'n hollol wahanol i'r tŷ teuluol moethus yng Nghaerdydd.
Trosedd celf oedd wrth galon cyfres gyntaf Yr Amgueddfa - ac mae'r elfen yna o drosedd celf dal yna o dan y wyneb yn ôl y sgript-wraig Fflur Dafydd.
Meddai Fflur: "Ni'n ffocysu ar drysorau Cymru, ac yn benodol aur Cymru - gan fynd ar ôl cwpwl o wrthrychau o fwynfeydd aur Dolau Cothi ac un gwrthrych hanesyddol ac amhrisiadwy sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dydw i ddim eisiau dweud gormod ar hyn o bryd ond bydd y trysor hwn yn rhan o'r stori a'r dirgelwch."
Bydd y gyfres hon yn cael ei ffilmio mewn sawl lleoliad eiconig yn Sir Gâr sef Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili, Gerddi Botaneg Cymru yn Llanarthne, a Llyn y Fan Fach ger Llanymddyfri.
Bydd sawl cymeriad cyfarwydd o'r gyfres gyntaf yn dychwelyd, sef Elinor (Sharon Morgan) mam Nia, Mags (bellach yn cael ei chwarae gan Bethan Mclean), ei merch. Mae cymeriadau newydd yn yr ail gyfres sef yr artist Mick (Jâms Thomas) a'i ferch Greta (Saran Morgan).
"Mae Mick yn gymeriad diddorol iawn i'w sgwennu," meddai Fflur. "Mae e'n cerfio'r marionettes 'ma mas o bren ac mae rhywbeth eitha' arswydus amdanyn nhw.
"Mae elfen celf gyfoes yn ogystal â chelf hanesyddol. Mae lot o haenau - ni'n edrych ar herbalism, celf, aur - ac mae 'na ochr ysbrydol, oruwchnaturiol ar brydiau. Mae 'na jysd lot o elfennau diddorol - pethau dwyt ti ddim fel arfer yn gweld wedi eu cyfuno mewn drama ar S4C.
Mae'n gyfoes, yn arallfydol bron, ond eto mae'n sôn am y pethau hynafol iawn 'ma ac yn gwbl Gymreig."
Mae cyfres gyntaf Yr Amgueddfa wedi bod yn llwyddiant mawr i gwmni gynhyrchu Boom sydd wedi gwerthu'r gyfres i Brit Box US a Chanada a sianel AXN yn Siapan. Mae'r gyfres hefyd wedi cael ei henwebu yng nghategori Drama yn ngwobrau RTS Cymru 2022 a'r Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022.
Meddai'r cynhyrchydd Paul Jones: "Bydd naws hollol wahanol i'r gyfres hon wrth i Della droi ei chefn ar y ddinas ac ymgartrefu yn Shir Gâr, yng nghanol ei phobol a'i hanes a'i chwedloniaeth."
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Llongyfarchiadau i Paul, Fflur a'r tîm yn Boom a wnaeth greu'r ddrama anhygoel Yr Amgueddfa. Dwi wrth fy modd bod ail gyfres o'r ddrama uchelgeisiol ac unigryw hon a dwi'n sicr bydd y gyfres yma yr un mor llwyddiannus."
Bydd Yr Amgueddfa yn cael ei ddarlledu ar S4C yn ystod tymor y Gaeaf 2022/23.
17 Mai 2022 - Lŵp S4C a Focus Wales yn cyd-weithio i roi llwyfan lleol a llais rhyngwladol i fandiau Cymru
Dros y misoedd nesaf, bydd cyfle i wylio perfformiadau byw gan rhai o fandiau mwyaf blaenllaw Cymru wrth i ail gyfres o Lŵp: Ar Dâp ddod i'r sgrin.
Adwaith, y band clodwiw tri darn o Gaerfyrddin, sy'n agor y gyfres ar nos Fercher 18 Mai am 8.00.
Mae Hollie, Gwenllian a Heledd wedi cymryd seibiant o'u hamserlen gigio prysur i recordio sesiwn stiwdio byw i Ar Dâp.
Mae'r sesiwn yn cynnwys y ddwy sengl newydd, Wedi Blino ac ETO, ynghyd ac ambell ffefryn o'u halbwm cyntaf, Melyn, a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019.
Yn trafod eu llwyddiant, dywedodd basydd y band Gwenllian Anthony: "Ni di neud stwff a sai'n credu bod ni di neud e. Ma'n gwd thing bod ni bach yn laid back neu byswn ni wedi mynd bach yn crazy fel. Ni jyst yn gwerthfawrogi'r opportunities sy'n dod, trafeili a mynd a cherddoriaeth Cymraeg dros y byd."
Ac mae datblygiad cyffrous yn golygu y bydd mwy o fandiau yn elwa o lwyfan rhyngwladol trwy gymryd rhan, wrth i Lŵp gydweithio gyda FOCUS Wales.
Yn ogystal â threfnu'r ŵyl ryngwladol flynyddol yn Wrecsam mae'r cwmni nid-er-elw hefyd yn hyrwyddo artistiaid Cymreig mewn gwyliau showcase dros y byd.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Ein bwriad yw creu sesiwn gyffrous fydd yn gofnod parhaol o gerddorion cyfoes Cymru ar eu gorau.
"FOCUS Wales fydd yn arwain ar gywain artistiaid ar gyfer y gyfres ac yn dod â'u harbenigedd i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd i gerddoriaeth Gymraeg.
"Rydan ni'n hapus iawn i gydweithio efo sefydliad sydd mor ddylanwadol yng Nghymru ac sy'n cefnogi artistiaid i lwyddo yn rhyngwladol."
Meddai Neal Thompson, cyd-sylfaenydd FOCUS Wales: "Mae FOCUS Wales wedi cyffroi i gael cyd-weithio gyda S4C ar y gyfres newydd 'ma.
"Un o'r pethau pwysicaf i ni fel sefydliad ydi creu a chynnig cyfleoedd i artistiaid newydd o Gymru cael cyrraedd cynulleidfa ryngwladol.
"Felly mae cael curadu lein-yp o artistiaid cyfoes, Cymraeg, ar gyfer y gyfres newydd o Lŵp gyda S4C yn bartneriaeth berffaith."
Gyda'r sesiynau ar gael ar S4C, S4C Clic a sianeli Lŵp, bydd y cynnwys ar gael i'w wylio tu hwnt i Gymru.
"Bydd y gyfres yn rhoi recordiadau byw o ansawdd sain a gweledol uchel o artistiaid Cymraeg sydd ar dop eu gêm, ac sydd wedi bod yn rhyddhau neu deithio'n gyson" ychwanegodd Rhodri.
"Ar ôl llwyddiant cyfres gyntaf Lŵp: Ar Dâp, rydyn ni'n anelu i barhau i ddatblygu ar y cynnwys a'i wthio ymhellach."
Mae 9Bach, Tri Hŵr Doeth ac Yr Ods ymhlith y bandiau a recordiodd sesiynau ar gyfer y gyfres gyntaf.
Bydd mwy o fandiau cyffrous yn rhyddhau sesiynau yn fisol dros y misoedd nesaf, felly cadwch lygaid allan ar sianel YouTube Lŵp am y diweddaraf.
Wedi'i lansio yn Awst 2019, mae Lŵp yn blatfform digidol sy'n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg o bob math.
12 Ebrill 2022 - Noson lwyddiannus i S4C yng ngwobrau RTS Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/50397/noson-lwyddiannus-i-s4c-yng-ngwobrau-rts-cymru/
Llwyddodd S4C i gipio nifer o wobrau yn noson wobrwyo RTS Cymru dros y penwythnos.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn noson arbennig yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Caerdydd nos Wener 8 Ebrill.
Meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Llongyfarchiadau mawr i gwmnïau cynhyrchu Chwarel, Boom Cymru, Wildflame a Tinopolis ar eu llwyddiant yng ngwobrau RTS Cymru.
"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau yn dangos ystod gwaith S4C a thalent y sector ac rwy'n falch iawn fod ein cyfresi safonol a rhai o'n timau cynhyrchu talentog yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith." Llwyddodd rhaglen ddogfen ysgytwol John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame) i gyrraedd y brig yng nghategori Newyddion a Materion Cyfoes.
Yn ogystal cipiodd cynhyrchiad Yn y Garej: Philip Mills (Tinopolis) y wobr yn y categori Digidol.
Daeth Rachael Solomon (Boom Cymru) i'r brig hefyd yn y categori Torri Trwodd.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i gwmni Chwarel am gipio'r wobr yn y categori Cyfnod Clo gyda The Great House Giveaway/ Tŷ am Ddim.
Dyma'r pedwerydd gwobr i gwmni Chwarel yn ddiweddar ar ôl cipio gwobr Broadcast Uk, BAFTA, RTS a nawr RTS Cymru hefyd.
6 Ebrill 2022 - Prif Weithredwr newydd S4C yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer llwyddiant byd-eang
Bydd gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn rhan arwyddocaol o strategaeth newydd sbon S4C, meddai Prif Weithredwr newydd y sianel Sian Doyle, wrth i dîm newydd ymuno gyda'r sianel.
Mae S4C wedi cyhoeddi eu hawydd i weithio gyda phartneriaid byd-eang yng ngŵyl MIPTV yn Cannes eleni, gyda'r sianel yn adnabyddus am ei dramâu safonol, rhaglenni dogfen sy'n torri tir newydd, fformatau rhyngwladol a rhaglenni trosedd amserol.
Nod S4C yw darparu cynnwys a gwasanaethau o'r safon uchaf yn y Gymraeg sy'n cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl ar draws ystod o lwyfannau cyfoes.
Mae'r gan S4C restr drawiadol o ddramâu rhyngwladol gan gynnwys Un Bore Mercher, Y Gwyll, Craith a 35 Diwrnod.
Yn lansio'n fuan bydd cyfres ddrama newydd Y Golau wedi'i chyd-gynhyrchu gan Duchess Street Productions/Triongl a'i dosbarthu gan APC Studios a'r ffilm Gwledd a ddangoswyd am y tro cyntaf yn SXSW.
Mae S4C, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, hefyd yn creu argraff gyda fformatau rhyngwladol fel Am Dro a chyd-gynyrchiadau Ty am Ddim sydd wedi cipio sawl gwobr gan gynnwys BAFTA, yr RTS a Broadcast, ac hefyd Gwesty Aduniad a gynhyrchwyd gan Darlun ac a ddosbarthwyd gan All3Media International.
"Rydym yn hynod falch o weithio gyda chynhyrchwyr annibynnol creadigol, a dod o hyd i ffyrdd arloesol o ariannu, cynhyrchu a dosbarthu cynnwys o safon fyd-eang.
"Gyda'n setliad ariannol hirdymor yn ei le rydym yn chwilio am bartneriaid newydd cyffrous.
"Bydd ein strategaeth newydd yn rhoi llwyfan gwych i ni lansio cam nesaf cynlluniau cydweithredol, rhyngwladol sy'n addo dod â'r byd i Gymru a Chymru i'r byd," meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C.
Mae'r sianel wedi ail-strwythuro ei tîm rheoli yn ddiweddar gyda Llinos Griffin-Williams yn ymuno yr wythnos hon fel Prif Swyddog Cynnwys, a Geraint Evans yn camu i rôl newydd fel Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.
Wedi ennill clod mawr yn rhai o brif wobrau cyfryngol y byd yn ddiweddar, bydd tîm S4C yn hyrwyddo Cymru fel cartref cynnwys gwreiddiol creadigol o safon fyd-eang drwy gynnal derbyniad yn Annex Beach, Bd de la Croisette yn Cannes, yn ystod MIPTTV .
5 Ebrill 2022 - Côrdydd yw côr y dydd yn ffeinal Côr Cymru 2022
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/50268/crdydd-yw-cr-y-dydd-yn-ffeinal-cr-cymru-2022/
Ar ôl tair blynedd hir o aros, roedd Côr Cymru yn ôl dros y penwythnos. Wrth y llyw roedd Heledd Cynwal a Morgan Jones yn arwain y gystadleuaeth gorawl yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.
Pum côr oedd yn mynd ben ben a'i gilydd am deitl Pencampwyr Côr Cymru 2022 a phedair mil o bunnau yn y fantol.
Y tri beirniad rhyngwladol, Karen Gibson, Wyn Davies ac Anna Lapwood oedd â'r penderfyniad olaf os taw CF1, Côr Ieuenctid Môn, John's Boys, Heol y March neu Côrdydd oedd am gipio'r teitl eleni.
Bu croeso mawr wrth i ganu corawl byw ddychwelyd, ac medd y beirniad Wyn Davies wrth bendroni dros ei benderfyniad "…am y tro cynta' wi'n meddwl yn y gystadleuaeth, `da ni yn hollol gytûn ar un côr".
Yn fuddugol eleni ac yn ennill teitl Pencampwyr Côr Cymru 2022 oedd Côrdydd, o Gaerdydd, o dan arweiniad Huw Foulkes.
Â'i ben yn ei ddwylo wedi i Wyn Davies gyhoeddi'r enillydd, roedd y sioc yn amlwg i Huw.
"Ennill Côr Cymru yn ddi-os ydi uchafbwynt llwyddiannau Côrdydd.
"Roedd y profiad o rannu llwyfan efo pedwar côr mor safonol yn wefreiddiol.
"Diolch iddyn nhw am gystadleuaeth a hanner. Ma' dod i'r brig yn golygu cymaint ag yn binacl dau ddegawd yn hanes y côr," meddai Huw Foulkes, arweinydd y côr cymysg o Gaerdydd.
"Mae'n deimlad anhygoel" medd Huw Foulkes. "Ar ôl yr holl waith caled, mae'n profi fod hynny yn talu ar ei ganfed.
"Ma' 'niolch i yn enfawr i bob aelod am roi cant y cant tu ôl i bob nodyn a gair."
Dyw ymarfer côr heb ddod heb ei anawsterau oherwydd y pandemig, ond fe ddywedodd Huw Foulkes bod "… cyfnod Covid wedi rhoi her amlwg i gorau.
"Ond wnaeth yr ysfa i fod yn rhan o gôr ddim diflannu ac roedd cael her fel Côr Cymru yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau fod pawb yn dod nôl at ei gilydd."
Cyn y cyhoeddiad mawr, camodd merch fach saith oed, Amelia Anisovych o Wcráin, ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i ganu fersiwn o 'Let it Go' o'r ffilm 'Frozen' ac anthem genedlaethol Wcráin.
Bu cymeradwyaeth wresog i'r ferch fach gyda'r gynulleidfa i gyd ar eu traed. Ymatebodd Huw Foulkes: "Roedd hi'n noson emosiynol ar sawl lefel ac roedd clywed Ameliia yn canu yn cyffwrdd calonnau. Cawson wefr."
Y cwmni teledu Rondo Media sy'n gyfrifol am raglenni Côr Cymru ar gyfer S4C.
2 Ebrill 2022 - Amelia Anisovych yn perfformio yn fyw ar S4C
Bydd Amelia Anisovych merch 7 oed a lwyddodd i gipio calonnau led led y byd yn perfformio yn ffeinal Côr Cymru yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sul.
Fe ganodd Amelia y gân Let it Go allan o'r ffilm Frozen mewn lloches bom o dan y ddaear yn Kyiv. Aeth y fideo hynny yn feiral ac fe gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol led led y byd.
Yn sgil hynny, perfformiodd Amelia hefyd anthem Wcrain mewn cyngerdd elusennol yng Ngwlad Pwyl.
Mae Amelia wedi teithio i Aberystwyth a bydd yn perfformio yr un gan eiconig Let it Go yn ffeinal Cystadleuaeth Côr Cymru yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sul 3 Ebrill.
Meddai Amelia: "Dwi wrth fy modd yn canu, a dwi'n ymarfer bob bore, pnawn a nos! Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd i fi gael perfformio."
Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: "Mae'n fraint arbennig cael croesawu Amelia i Gymru ac i ganu yn Aberystwyth. Mae wedi bod yn benwythnos o gerddoriaeth pwerus ar S4C gyda Chyngerdd Cymru ac Wcrain a ffeinal Côr Cymru ac rydyn ni'n falch o gael uno perfformwyr Cymru ac Wcrain gan ymfalchïo yn nhalent Amelia."
Bydd modd gwylio perfformiad Amelia yn ystod rhaglen Côr Cymru 2022 – Y Ffeinal yn fyw ar S4C am 18.45 nos Sul 3 Ebrill.
31 Mawrth 2022 - 16 enwebiad i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/50167/16-enwebiad-i-s4c-yng-ngyl-cyfryngau-celtaidd-2022/
Mae S4C wedi derbyn 16 enwebiad yng Ngwobrau Torc Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022.
Cynhelir yr ŵyl eleni yn Quimper rhwng 7-9 Mehefin, ac mae'r ŵyl yn hyrwyddo'r diwylliannau a'n hieithoedd Celtaidd drwy deledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.
Llwyddodd S4C i ennill dau enwebiad yn y categori plant gyda rhaglen arbennig Calan Gaeaf Deian a Loli a Drygwyl y Meirw (Cwmni Da) a Mabinogiogi: Clustiau'r March (Boom Cymru).
Daeth dau enwebiad hefyd i S4C yn y categori materion cyfoes gyda rhaglen iasol Llofruddiaeth Mike O'Leary (ITV Cymru) a rhaglen amserol bwysig Prif Weinidog mewn Pandemig (Zwwm Films)
Llwyddodd cyfres gomedi Rybish (Cwmni Da) i ennill enwebiad yn y categori Comedi ynghyd â rhaglen bwerus Curadur: Lemfreck (Orchard) yn y categori Cerddoriaeth Fyw.
Cyrhaeddodd cyfres boblogaidd Bwyd Epic Chris (Cwmni Da) y rhestr fer yn y categori adloniant Ffeithiol a rhaglen emosiynol John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame) yn y categori Dogfen Nodwedd.
Cyrhaeddodd dwy o raglenni cyfres ffeithiol S4C DRYCH y rhestr fer hefyd yn y categori Dogfen Unigol sef DRYCH: Byw heb freichiau (Zwwm Films) a DRYCH: Chwaer Fach Chwaer Fawr (Dogma)
Daeth llwyddiant hefyd i ddramâu S4C gyda chyfres bwerus Fflur Dafydd, Yr Amgueddfa (Boom Cymru) yn cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cyfres Ddrama, drama eiconing Grav (Regan Developments) yn y categori Drama Unigol a Hen Wragedd a Ffyn (It's My Shout) yng nghategori Drama Fer.
Llwyddodd rhaglen Terfysg yn y Bae (Tinopolis) i gyrraedd y rhestr fer yn y categori Hanes, a Stori Jimmy Murphy (Docshed) yng nghategori Dogfen Chwaraeon.
Yn ogystal llwyddodd comisiwn amserol Blwyddyn Covid: Lleisiau Cymru (Kailash Films) i ennill enwebiad yng ngwobr fawr yr Ŵyl sef categori Ysbryd yr Ŵyl.
Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C:
"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r ŵyl eleni.
"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws ein amserlen. Pob lwc i bawb fis Mehefin."
18 Mawrth 2022 - S4C yn llwyfannu Cyngerdd Cymru ac Wcráin
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49987/s4c-yn-llwyfannu-cyngerdd-cymru-ac-wcrin/
Fel gwasanaeth darlledu unigryw Cymraeg mae S4C yn cydlynu ystod o ddigwyddiadau mewn ymateb i'r sefyllfa ddychrynllyd yn Wcráin.
Yn rhan o'r gweithgareddau ac mewn cydweithrediad â DEC Cymru bydd S4C yn darlledu cyngerdd arbennig i godi arian i Apêl Ddyngarol Wcráin DEC Cymru.
Bydd Cyngerdd Cymru ac Wcráin yn cael ei gynnal ar Nos Sadwrn 2 Ebrill yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn cael ei ddarlledu ar S4C yr un noson.
Bydd artistiaid o Gymru ac Wcráin yn perfformio yn y cyngerdd a nifer ohonynt gyda stori neu gyswllt unigryw gyda'r sefyllfa drasig bresennol.
Un o brif artistiaid y noson fydd Yuriy Yurchuk, bariton o Wcráin sydd ar hyn o bryd yn perfformio yn Covent Garden. Daeth Yuriy i amlygrwydd wedi iddo ganu anthem genedlaethol Wcráin tu allan i 10 Downing Street ar ddechrau'r gwrthdaro.
Yn ogystal bydd perfformiadau gwefreiddiol gan y tenor Gwyn Hughes Jones, Côr y Cwm, Côr Glanaethwy, a Chôr Ysgol Plascrug Aberystwyth – ysgol leol sydd â 27 o ieithoedd amrywiol ac sydd â phlant o Wcráin yn ddisgyblion yno.
Hefyd, bydd Contemporary Music Collective yn perfformio yn y gyngerdd. Tanya Harrison sy'n gyfrifol am y grwp - mae Tanya sy'n wreiddiol o Wcráin ond yn byw yng Nghaerdydd bellach wedi cyfansoddi gweddi i Wcráin, a bydd y grwp yn canu'r weddi ar y noson. Bydd mwy o enwau hefyd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
"Dyma gyfle gwych i uno gyda'n gilydd a chofio am erchyllterau gwrthdaro Wcrain drwy bŵer cerddoriaeth ac adloniant." meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C. "Mae amrywiaeth yr artistiaid yn plethu'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin ac ry'n ni'n edrych ymlaen i gefnogi a chyfrannu at ymgyrch ddyngarol DEC Cymru trwy'r cyngerdd unigryw yma."
Dywedodd Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol y DEC yng Nghymru:
"Mae wedi bod yn dorcalonnus gweld yr argyfwng hwn yn datblygu ac yn dwysau yn Wcráin wrth i fwy a mwy o ffoaduriaid groesi'r ffiniau bob dydd gyda dim ond yr hyn y gallent ei gario. Mae'r sefyllfa i'r bobl o fewn Wcráin hefyd yn mynd yn fwyfwy ansicr.
"Ond mae gweithgareddau fel hyn yn cynnig gobaith. Bydd yr arian a godir gan y cyngerdd yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro. Bydd yn danfon neges gref o gariad a chefnogaeth, tra hefyd yn galluogi elusennau'r DEC i ddarparu cymorth brys nawr yn ogystal â helpu i ailadeiladu bywydau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C ac i'r cwmni cynhyrchu Rondo Media am eu cefnogaeth i'r apêl hon."
Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media y cwmni sy'n cynhyrchu'r digwyddiad:
"Wrth i berfformwyr a cherddorion o Wcráin a Chymru rannu'r un llwyfan fe welwn bod diwylliant yn medru pontio gwledydd. Rydym yn hynod ddiolchgar i bob un o'r artistiaid am eu hamser a'u hymroddiad, ac yn falch o fedru cydweithio gyda DEC Cymru ac S4C a chynnig cymorth dyngarol holl bwysig i bobl Wcráin.'
Mae modd archebu tocynnau drwy gysylltu gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar:
01970 62 32 32 neu https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy
14 Mawrth 2022 - S4C a PYST yn lansio cynllun fideos cerddorol newydd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49947/s4c-a-pyst-yn-lansio-cynllun-fideos-cerddorol-newydd/
Mae S4C a chwmni dosbarthu a hyrwyddo PYST wedi cyhoeddi cynllun newydd heddiw er mwyn cefnogi creu fideos cerddorol annibynnol i artistiaid newydd a chreu cyfleon i gyfarwyddwyr ifanc.
Bydd PYST yn gyfrifol am gydlynu'r prosiect gan alluogi cynhyrchu 10 fideo newydd a thargedu artistiaid sy'n cychwyn ar eu taith cerddorol, gyda'r nod hefyd o roi cyfle i dalent cynhyrchu fideo ddatblygu.
"Mae'r buddsoddiad yma yn nyfodol cerddoriaeth a fideo Gymraeg yn gam allweddol.
"Mae cael S4C yn ariannu cynllun fydd yn creu cyfleoedd i rai nad sydd ar hyn o bryd yn cael y cyfleoedd hynny ac sydd hefyd yn arf hyrwyddo gwerthfawr i artistiaid newydd ei ddefnyddio yn gam arall pwysig mewn creu tirwedd fydd yn ysgogi a chefnogi cerddorion a chyfarwyddwyr y dyfodol," meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST.
"Mae datblygu talent o fewn y diwydiannau creadigol yn rhan hanfodol o rôl S4C fel darlledwr cyhoeddus," meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Ar-lein S4C.
"Dwi'n angerddol am roi llwyfan i dalentau cerddorol newydd yn ogystal a datblygu sgiliau cynhyrchwyr ifanc.
"Da ni'n falch iawn o gefnogi PYST gyda'r cynllun hwn fydd, gobeithio, yn gyfraniad gwerth chweil i greu sîn gerddoriaeth hyfyw yng Nghymru."
Yn ôl Branwen Williams o Recordiau I Ka Ching: "Wedi hirlwm y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cynllun hwn yn un hynod gadarnhaol i'n artistiaid a'n bandiau newydd, yn enwedig a hwythau wedi colli degau o gyfleon i sefydlu eu hunain.
"Bydd yn fideos yn dod â'u cerddoriaeth newydd yn fyw, ac fodd o ddenu cynulleidfa newydd, a fydd maes o law yn cryfhau eu statws fel band wrth iddynt ail-gydio yn y perfformio.
Ychwanegodd Gruff Owen o label Libertino "Mae'r cynllun newydd yma rhwng S4C a PYST yn cyffrous ac yn arwyddocaol.
"Mae gwelediad uchelgeisiol PYST yn hanfodol i ddyfodol a datblygiad llewyrchus sîn gerddoriaeth Cymru."
Mwy o wybodaeth: https://amam.cymru/pyst/cronfa-fideos-cerddorol
11 Mawrth 2022 - S4C yn lansio tair bwrsariaeth newydd i gefnogi talent ddarlledu Cymraeg
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49911/s4c-yn-lansio-tair-bwrsariaeth-newydd-i-gefnogi-talent-ddarlledu-cymraeg/
Mae S4C wedi lansio tair bwrsariaeth newydd er mwyn cefnogi datblygiad talent ddarlledu Cymraeg i'r dyfodol a cheisio denu wynebau newydd i ymuno â'r sector gyfryngau yng Nghymru.
Bydd Bwrsariaeth S4C Chwaraeon yn cefnogi un myfyriwr o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig i astudio ar gwrs gradd meistr Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae'r bwrsariaeth wedi'i gefnogi gan gwmnïau cynhyrchu Rondo a Media Atom.
Bydd S4C hefyd yn cefnogi dwy wobr gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – un ysgoloriaeth ar gyfer myfyriwr ar y cwrs gradd baglor Actio, ac un bwrsariaeth ar gyfer myfyriwr iau yn eu Stiwdio Actorion Ifanc.
Bydd y ddwy fwrsariaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n Ddu, Asiaidd neu lleiafrif ethnig, yn anabl, neu o gefndir economaidd-gymdeithasol di-freintiedig.
Meddai Jason Mohammad sy'n cefnogi bwrsariaeth chwaraeon S4C gyda'i bartner busnes Nathan Blake:
"Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag S4C ar y fwrsariaeth hanesyddol hon.
"Mae hon yn foment fawr iawn i'n cwmni newydd JAMS & MR B Productions.
"Rydym wedi ymrwymo i helpu darlledwyr i greu gweithlu amrywiol a chynyddu amrywiaeth wrth wneud rhaglenni ar y sgrin a thu ôl i'r camera.
"Mae S4C wedi bod yn wych wrth weithio gyda ni ar ein huchelgais i helpu i newid bywydau pobl ifanc drwy roi cyfle unigryw iddynt lwyddo ym myd darlledu yng Nghymru."
Ychwanegodd Nathan Blake:
"Mae'r cynllun Bwrsariaeth a gynigir gan S4C, partneriaid a'n cwmni cynhyrchu ein hunain Jams & Mr B yn cyflwyno cyfle sy'n newid bywyd. "Mae ei chreu yn fan cychwyn a fydd yn arwain at gyfleoedd pellach yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n credu y bydd y gronfa addysg ychwanegol hon yn helpu i adeiladu a chreu cydraddoldeb ac amrywiaeth parhaus o fewn y diwydiant dros y blynyddoedd a'r degawdau nesaf.
"Yn unigol gallwn newid bywydau ond gyda'n gilydd gallwn newid y gêm am byth."
Meddai Helena Gaunt, Prifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru:
"Rydym wrth ein bodd bod S4C yn partneru â Choleg Brenhinol Cymru i ddarparu cymorth i fyfyrwyr actio Cymraeg eu hiaith o gefndiroedd a dangynrychiolir.
"Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu gofod cynhwysol a chroesawgar sy'n denu ac yn meithrin unigolion dawnus o gefndiroedd amrywiol.
"Mae cefnogaeth ar gyfer ysgoloriaethau gan sefydliadau fel S4C yn hanfodol i wella hygyrchedd fel nad yw amgylchiadau ariannol byth yn rhwystr i'r ystod eang o dalentau sy'n dechrau ar eu hyfforddiant diwydiant ar y lefel uchaf."
Meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C:
"Mae creu cyfleoedd fel cynnig bwrsariaethau'n gam bach ond pwysig i gefnogi datblygiad talent dyfodol S4C.
"Mae'n bleser gallu gweithio ar y cyd gyda sefydliadau addysgol, cwmnïau cynhyrchu ac arloeswyr fel Jams & Mr B i sicrhau fod talent Cymru yn cael cefnogaeth hollbwysig ar ddechrau taith gyrfa."
Bydd manylion am ysgoloriaethau S4C gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gael yn fuan.
Am fwy o wybodaeth am fwrsariaeth Chwaraeon S4C: https://www.s4c.cymru/cy/chwaraeon/page/49841/bwrsariaeth/
7 Mawrth 2022 - Penodi dau brofiadol i uwch swyddi allweddol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49558/penodi-dau-brofiadol-i-uwch-swyddi-allweddol/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Llinos Griffin-Williams wedi ei phenodi fel Prif Swyddog Cynnwys y sianel tra bo Geraint Evans wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Cyhoeddi.
Mae'r ddwy swydd yn allweddol wrth i'r sianel newid o fod yn ddarlledwr llinol (linear) i fod yn wasanaeth sydd ar gael ar sawl llwyfan digidol.
Bydd Llinos a Geraint yn allweddol wrth i S4C fynd ati i gynllunio'r gwaith trawsnewid fydd yn dod yn sgil y setliad ariannol diweddar.
Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, "Rwyf wrth fyd modd fod rhywun o dalent a phrofiad Llinos yn dod i weithio yn S4C.
"Bydd ei henw da fel gwneuthurwr rhaglenni a'i phrofiad rhyngwladol yn allweddol wrth i ni fynd ati i godi proffil S4C yn rhyngwladol."
Bydd Geraint Evans, sydd ar y funud yn Gyfarwyddwr Cynnwys Dros Dro, yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth gyhoeddi aml-lwyfan er mwyn sicrhau fod cynnwys yn cael ei gomisiynu ar gyfer wahanol rannau o gynulleidfaoedd S4C ac yn cael ei gyfleu ar y llwyfannau mwyaf addas.
Ychwanegodd Siân Doyle: "Mae Geraint yn dod a phrofiad a dealltwriaeth eang o ddarlledu, a'r hinsawdd gyfryngol fydd yn allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer ail 40 mlynedd o fodolaeth S4C.
"Byddwn yn newid ein ffordd o gomisiynu a chyfleu rhaglenni a chynnwys ar gyfer ein wahanol gynulleidfaoedd.
"Ni fyddwn yn darlledu amserlen statig yn unig, ond yn darparu amrywiaeth o gynnwys, yn arbennig ar gyfer rhannau penodol o'r gynulleidfa ar y llwyfannau mwyaf addas ar gyfer y gynulleidfa a'r cynnwys."
Dywedodd Llinos: "Rwyf wrth fy modd yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Cynnwys yn S4C.
"Mae'n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o'r tîm arweinyddol yn ystod cyfnod mor gyffrous ond heriol.
"Mae'r sianel yn rhan o wead diwylliannol a chymdeithasol Cymru ac mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o'r tîm sy'n gyrru'r rhwydwaith i'r llwyfan byd-eang.
"Yn creu cynnwys gwreiddiol diddorol, partneriaethau deinamig a herio rhagdybiaethau."
Dywedodd Geraint: "Mae'n gyfnod cyffrous i gael y dasg o arwain y strategaeth cynnwys a chyhoeddi ar gyfer S4C.
"Mae gennym gymaint o dalent yng Nghymru sy'n cynhyrchu drama, rhaglenni dogfen a fformatau arloesol o ansawdd uchel.
"Yr her i S4C, fel i bob darlledwr arall, yw cyrraedd a gwasanaethu ein cynulleidfa ar y llwyfannau o'u dewis.
"Sefydlwyd S4C 40 mlynedd yn ôl gyda'r bwriad o wasanaethu cynulleidfa Gymraeg ar gyfrwng mwyaf poblogaidd y cyfnod, sef teledu.
"Nawr, mae gennym gyfrifoldeb i fynd â chynnwys Cymraeg y tu hwnt i deledu llinellol traddodiadol i lwyfannau mwyaf poblogaidd ein hamser, gan roi cyfle i'n sector iaith, diwylliant a chynhyrchu ffynnu."
Ar hyn o bryd mae Llinos yn Gyfarwyddwr Creadigol y cwmni cynhyrchu annibynnol o Gaerdydd, Wildflame.
Yn ystod ei chyfnod gyda'r cwmni fe helpodd i arwain y gwaith o symud y cwmni i ddatblygu cynnwys rhyngwladol gyda chytundebau gan ddarlledwyr byd-eang gan gynnwys Discovery+, Paramount+, Smithsonian Channel/ViacomCBS a Science Channel yn ogystal â gwerthu cynnwys i Amazon Prime, Acorn, Brit Box a Nat Geo.
Cyn S4C roedd Geraint Evans yn newyddiadurwr gydag ITV Cymru am 25 mlynedd.
Yn ohebydd ar y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, yna Golygydd y gyfres a Phennaeth Rhaglenni Cymraeg ITV.
Yn ITV, datblygodd nifer o gyfresi ffeithiol a materion cyfoes newydd, fel Y Byd yn ei le, Y Ditectif ac Ein Byd.
Mae wedi derbyn gwobr Bafta Cymru am y rhaglen newyddion a materion cyfoes gorau nifer o weithiau ac mae wedi ennill yr un gydnabyddiaeth o'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
Ers ymuno ag S4C yn 2019 bu'n ail-lansio'r rhaglen drafod boblogaidd Pawb a'i Farn, mae wedi comisiynu nifer o raglenni dogfen materion cyfoes pwerus fel Llofruddiaeth of Mike O'Leary, Prif Weinidog Cymru a Cadw Cyfrinach ac mae wedi bod yn gyfrifol am arwain darpariaeth Newyddion S4C i'r oes ddigidol drwy ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol newydd ar gyfer S4C.
Bydd y ddau yn dechrau y neu swyddi Newydd yn gynnar ym mis Ebrill.
6 Mawrth 2022 - Cynnydd yn oriau gwylio sianeli YouTube S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49554/cynnydd-yn-oriau-gwylio-sianeli-youtube-s4c/
Mae S4C wedi cyhoeddi mai mis Chwefror oedd y mis gorau erioed i holl sianeli YouTube y sianel gyda chynnydd o 35% blwyddyn ar flwyddyn.
Yn ogystal llwyddodd prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ar draws Facebook, Twitter a YouTube i gyrraedd y brig gyda'r oriau gwylio uchaf erioed gan weld cynnydd o 42% blwyddyn ar flwyddyn.
Yn gyrru'r cynnydd ar YouTube oedd rhaglenni Cymru o'r Awyr sef taith hudolus o amgylch glannau Cymru, fideos poblogaidd Yn Y Garej gyda Howard ar sianel Ralio, gemau rygbi Uwch Gynghrair Grŵp Indigo a fideos Caru Canu ar sianel Cyw.
Dywedodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Mae S4C wedi buddsoddi yn helaeth yn ein adran gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ac felly rwy'n falch iawn o weld y cynnydd hwn.
"Wrth i ni roi ein cynulleidfa yng nghalon y sianel a symud ar siwrnai ddigidol rydyn ni am ymateb i anghenion ein gwylwyr a chyhoeddi cynnwys ar blatfformau o'u dewis.
"Ein nod yw sicrhau fod modd i'n gwylwyr wylio ein cynnwys ar pa bynnag blatfform maen nhw'n dymuno pryd bynnag sy'n gyfleus iddyn nhw a bydd ffocws ein gwaith yn sicrhau ein bod yn fwy amlwg nag erioed ar draws yr holl gyfryngau a phlatfformau.
"Rwy'n falch iawn fod ein cynnwys yn apelio i'n gwylwyr a llongyfarchiadau mawr i'r tîm i gyd."
4 Mawrth 2022 - Teyrnged S4C i Dai Jones, Llanilar
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49552/teyrnged-s4c-i-dai-jones-llanilar/
Mae S4C wedi talu teyrnged i'r darlledwr Dai Jones.
Yn rhestr detholion darlledwyr Cymru, mae Dai Jones, Llanilar, ar y brig.
Roedd ganddo'r ddawn naturiol honno o gael y gorau mas o bobl, gan ddefnyddio ei ffraethineb, doniolwch a chynhesrwydd naturiol i gyflwyno myrdd o gymeriadau bythgofiadwy cefn gwlad i gynulleidfa deledu chwilfrydig yn y gyfres fytholwyrdd Cefn Gwlad.
Drwy'r gyfres hon, creodd genre unigryw, gan greu portreadau sensitif o'r bobl yr oedd yn eu cyfarfod heb ddefnyddio'r dulliau confensiynol o gyfweld.
Yn gyflwynydd naturiol ac yn ganwr tenor blaenllaw, gwnaeth ei farc ar gyfresi adloniant teledu fel Noson Lawen ac yn ei flynyddoedd cynnar, y cwis cyplau Sion a Sian, lle daeth ei ddoniau fel cyflwynydd naturiol gynnes i'r amlwg yn gyntaf.
Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Wrth i ni gydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau, rydyn ni'n talu teyrnged i un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru.
"Wedi ei eni yn Llundain ond gyda'i galon yn nwfn yng nghefn gwlad Cymru erioed, roedd Dai yn apelio at bawb o gefndiroedd dinesig a gwledig.
"O'r clos ffarm i lwyfan 'steddfod, ac o'r stiwdio deledu i'r mart, roedd Dai mor gartrefol, a chanddo'r ddawn o wneud pawb arall yn gartrefol yn ei gwmni.
"Bydd y byd darlledu a chefn gwlad yn sicr yn dlotach o lawer hebddo."
4 Mawrth 2022 - ‘Mae yna Le’ yw enillydd Cân i Gymru 2022
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49562/mae-yna-le-yw-enillydd-cn-i-gymru-2022/
Y gân Mae yn Le gan Rhydian Meilir yw enillydd Cân i Gymru 2022.
Cafodd Mae yna Le gan Rhydian Meilir ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2022 ar S4C heno (4 Mawrth) o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Perfformiwyd y gân gan Ryland Teifi.
Mae Rhydian, o Gemaes ger Machynlleth, yn wyneb cyfarwydd iawn i Cân i Gymru.
Mae wedi cyrraedd y rhestr fer yn 2012 gyda Cynnal y Fflam, yn 2019 gyda Gewn ni Weld Sut Eith Hi a llwyddodd gyfansoddi dwy gân ar restr fer 2020, sef Pan Fyddai'n 80 Oed a Tir a'r Môr.
Ryland Teifi oedd yn perfformio'r gân, sy'n deyrnged i natur a phrydferthwch y byd.
Meddai Rhydian:
"Mae'n deimlad emosiynol iawn i ennill, doedd gennai ddim disgwyliadau o gwbl, ond ro'n i awydd un go arall arni.
"Da chi methu cael gwared ohonai! Nes i fwynhau'r caneuon i gyd – roedd y noson fel cyngerdd. Dwi'n falch iawn o Ryland, ac yn falch ei fod wedi rhoi stamp ei hun ar y gân."
Cafodd cystadleuaeth 2022 ei lansio nôl ym mis Tachwedd 2021
Dewisodd panel o bedwar beirniad yr wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru 2022. Eleni, y panel oedd Dafydd Iwan, Betsan Haf Evans, Lily Beau ac Elidyr Glyn.
Ond heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.
Mae Rhydian Meilir yn ennill tlws Cân i Gymru 2022 a'r wobr o £5,000.
Cana Dy Gân oedd y gân a gipiodd yr ail safle a gwobr o £2,000 a Rhyfedd o Fyd oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.
Dywedodd Siôn Llwyd o Avanti Media, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar ran S4C fod cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru wedi tynnu sylw unwaith eto at y talent cerddorol sy'n bodoli yng Nghymru.
"Llongyfarchiadau i Rhydian a Ryland ac i bob un o'r perfformwyr a'r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni - mae wedi bod yn noson anhygoel.
"Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg," meddai Siôn.
4 Mawrth 2022 - S4C yn ymateb i’r sefyllfa yn Wcráin
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49553/s4c-yn-ymateb-ir-sefyllfa-yn-wcrin-/
Er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym yn Wcráin mae S4C wedi comisiynu nifer o raglenni ar fyr rybudd.
Nos Lun 7 Mawrth am 20:00 bydd adroddiad arbennig o'r Byd ar Bedwar gydag Iolo ap Dafydd yn teithio i Wlad Pwyl i glywed am brofiadau rhai o'r miloedd sydd wedi gorfod ffoi o Wcráin.
Nos Fercher 9 Mawrth am 20:00 bydd Betsan Powys yn cyflwyno rhifyn arbennig Pawb a'i Farn.
Bydd cerdd wedi ei chomisiynu yn arbennig gan Mererid Hopwood yn cael ei chyhoeddi ar bob llwyfan S4C yn ystod yr wythnos.
Nos Sul 13 Mawrth bydd rhifyn estynedig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Bydd S4C yn darlledu cyngerdd codi arian ar gyfer Wcráin yn fyw nos Sadwrn, Ebrill 2il.
Darlledwyd apêl Pwyllgor Argyfyngau DEC ar gyfer Wcráin ar S4C [nos Iau] ac mae'n parhau ar gael ar S4C Clic.
Ac wrth gwrs bydd Newyddion S4C yn nosweithiol a'r gwasanaeth Newyddion Digidol yn parhau i roi sylw blaenllaw a chyson i'r diweddara o Wcráin.
Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C "Mae llygaid y byd ar Wcráin. Mae'n bwysig felly fod S4C yn adlewyrchu'r hyn sydd yn digwydd yno, yr hyn mae gwleidyddion Cymru a Phrydain yn ei wneud, a'r ymateb i'r digwyddiadau ar lawr gwlad yng Nghymru. Wrth i'r sefyllfa ddatblygu, bydd ein harlwy ni yn esblygu i adlewyrchu hynny hefyd."
Yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin, a'r sancsiynau rhyngwladol sydd wedi eu gosod ar Rwsia, mae S4C yn torri pob cysylltiad â Rwsia.
Mae'r sianel yn gofyn i'r holl gwmnïau sy'n gwerthu a thrwyddedu rhaglenni ar ei rhan i atal unrhyw gysylltiad pellach. Mae S4C hefyd yn ymchwilio i fuddsoddiadau gan S4C Masnachol i sicrhau nad oes cysylltiad a Rwsia.
Yn ogystal mae'r sianel yn annog yr holl gwmnïau sy'n darparu cynnwys ar ei chyfer i atal unrhyw gysylltiad neu ymwneud pellach gyda Rwsia.
28 Chwefror 2022 - Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth Dechrau Canu Dechrau Canmol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/49239/cyhoeddi-enillydd-cystadleuaeth-dechrau-canu-dechrau-canmol/
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Eirian Dafydd o Gaerdydd sydd wedi ennill cystadleuaeth cyfansoddi geiriau emyn Dechrau Canu Dechrau Canmol.
A hithau'n flwyddyn fawr i gyfres eiconig S4C Dechrau Canu Dechrau Canmol gyda'r gyfres fytholwyrdd yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed eleni, yn rhyfedd ddigon 60 ymgais ddaeth i law ar gyfer cystadleuaeth arbennig i gyfansoddi geiriau i emyn newydd.
Llwyddodd Eirian i gipio y wobr o £200, ac yn ôl y beirniaid, Catrin Alun a'r Prifardd John Gwilym Jones er mwyn ennill ei blwy mae'n rhaid i eiriau emyn fod yn gofiadwy, yn brofiad personol ac yn adlewyrchu ein taith ni fel Cristnogion.
"Roedd na un wedi sefyll mas ac wedi apelio o'r dechrau" meddai John Gwilym Jones.
"Mae'r emyn yn sôn am deimlo'r llaw, y llaw sy'n iachau, wel mae rhywbeth fel'na yn gafael ar unwaith yn enwedig yng nghyfnod y pandemig. "
"Fe wnaeth yr emyn yma fy stopio i yn fy nhracs, a dyna'r unig un wnaeth hynny" ychwanegodd Catrin Alun.
"Mae'r mesur yn wahanol iawn ac ar y dechrau doeddwn i ddim yn siŵr os oedd hynny'n broblem, ond na, dwi'n meddwl fod hynna'n fanteisiol achos bydd rhaid cael tôn newydd."
Meddai Eirian Dafydd: "Ro'n i yn ymwybodol bod nifer o Eglwysi wedi cau dros gyfnod y pandemig, ma na aelodau wedi encilio i ffwrdd ac y syniad o ddod yn ôl oedd gen i ddechrau.
"I fi, roedd hynna yn ffitio i mewn gyda dameg y Mab Afradlon – rhywun yn encilio, ond yn dod yn ôl.
"Mae na hefyd brofiad personol yn rhan o'r ail bennill – pan o'n i'n iau fel nes i dreulio sawl cyfnod yn yr ysbyty ac yn ystod y cyfnod yna fe es i i oedfa gyda'r weinidogaeth i iachau.
"A dyna sydd tu cefn i'r geiriau."
Gyda'r geiriau yn ddiogel felly, mae Dechrau Canu Dechrau Canmol nawr wedi cyhoeddi cystadleuaeth newydd i gyfansoddi emyn dôn i gyd-fynd gyda geiriau Eirian Dafydd.
Bydd gwobr o £200 i'r enillydd a'r gobaith yw y bydd y cyfanwaith newydd yn cael ei berfformio ar Dechrau Canu Dechrau Canmol cyn diwedd y gyfres.
Y dyddiad cau yw 29 Ebrill, ac mae'r manylion i gyd ar wefan S4C. Gallwch hefyd weld geiriau buddugol Eirian Dafydd ar y wefan. https://www.s4c.cymru/cy/cerddoriaeth/dechrau-canu-dechrau-canmol/
18 Chwefror 2022 - Dal y Mellt yn dod yn fyw ar ffurf cyfres ddrama
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/48981/dal-y-mellt-yn-dod-yn-fyw-ar-ffurf-cyfres-ddrama/
Mae S4C wedi cadarnhau mae trosiad o'r nofel boblogaidd, Dal y Mellt, fydd un o'u comisiynau drama ddiweddaraf.
Yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw, mae'r awdur o Drawsfynydd, Iwan 'Iwcs' Roberts', hefyd yn un o'r cynhyrchwyr sy'n gyfrifol am ddod â'r nofel yn fyw.
Er na fydd Dal Y Mellt yn ymddangos ar S4C nes yr Hydref, mae'r broses gynhyrchu eisoes ar waith gyda'r criw wrthi'n ffilmio yng Nghaerdydd, cyn symud i'r gogledd, i Ddulyn ac yna Soho yn Llundain.
"Mi wnes i gyhoeddi fy nofel gyntaf, Dal y Mellt, yn 2019," meddai Iwcs. "O ni'n gwybod yn fy nghalon pan o ni'n sgwennu fod hi'n nofel weledol iawn. Drama oedd hi yn fy mhen cyn i mi ddechrau. Peintio hefo geiriau oeddwn i mewn ffordd.
"O ni wedi dechrau sgwennu yn bell cyn hynny wrth gwrs, pan o ni'n gweithio ar Pobol Y Cwm. Yna, yn 2016 gofynnodd Llŷr Morus, sy'n gynhyrchydd gyda Vox Pictures, i gael gweld y manuscript.
"Mae gan Llŷr glust â llygaid craff - o ni wrth fy modd pan ddywedodd o fod hi'n chwip o nofel a bod ganddo ddiddordeb ei throsi hi.
"Felly, mi wnes i sgwennu'r gyfres ar ben fy hun, gan fynd nôl a 'mlaen at Llŷr dros gyfnod o flwyddyn. Mae'r holl broses yn dipyn o learning curve.
"Daeth Huw Chiswell on board fel cyfarwyddwr. Neu Huw Chisell fel dwi'n ei alw o - achos oedd o'n torri golygfeydd cyfan allan yn ystod y broses o olygu'r sgriptiau!
"Er fod o'n anodd gwneud newidiadau weithiau oherwydd fy 'mhlentyn i' ydio, Huw sy'n iawn wrth gwrs ac mae'n fraint cael gweithio hefo fo. Dwi'n ffodus ofnadwy o gael gweithio hefo pobl sy'n lot mwy profiadol yn y maes.
"Mae'r criw technegol yn ffantastig ac maen nhw'n rhoi eu calon mewn iddo. Da ni'n lwcus iawn efo'r cast sydd wedi cytuno i'w wneud o, mae gen ti; Gwïon Morris Jones fel Carbo, Mark Lewis Jones ydi Mici Ffin, Graham Land sy'n chwarae Les a Siw Hughes yn chware ei fam o, Meri-Jên.
Dyfan Roberts ydi Gronw, mae Lois Meleri-Jones yn chwarae Antonia, Owen Arwyn ydi Dafydd Aldo ac mae Ali Yassine yn chwarae Cidw.
"Dwi erioed wedi bod ar shoot mor hapus. Ac fel cynhyrchydd, mae hynny yn deimlad braf iawn."
Felly i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel eto, pa fath o gyfres fydd Dal y Mellt?
"Oedd pobl yn gofyn, be fydda ti'n cymharu fo hefo; Peaky Blinders, stwff Guy Ritchie? Naci, dwi isio pobl ddweud, mae'n debyg i Dal y Mellt. Dwi'n grediniol mai drama Gymraeg i bobl Cymru ydi hon, achos mae'r Cymry'n haeddu fo.
"Mae Rhys Ifans yn dweud ar flaen y nofel, 'Taith wyllt i berfeddion byd sy'n troi o dan ein trwynau'. O ni'n trio creu bywyd eithaf real a byrlymus. Sefyllfaoedd mae pobl yn cael eu rhoi i mewn ac maen nhw'n trio ffeindio'i ffordd allan ohoni, a 'does neb yn gwybod yn iawn be sy'n mynd ymlaen.
"O ni'n meddwl fod hwnna'n ddiddorol iawn o ran darllenydd, a dyna dwi'n drio gyfleu rŵan i'r gwylwyr. Felly bydd yr addasiad teledu, sef chwe awr o ddrama, yn dryw iawn i'r nofel."
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Dyma gomisiwn cyffrous fydd yn dod â rhywbeth ffres ac egnïol i S4C. Mae cast anhygoel sydd â'r gallu i greu drama all y gynulleidfa wir ymgolli ynddi. Trwy sicrhau fod edrychiad ac arddull y gyfres tipyn yn wahanol i'r arfer o ran goleuo, gwisgoedd a props, mae Vox Pictures wrthi'n cynhyrchu gwaith arbennig iawn.
"Dwi methu aros i gyflwyno'r ddrama i'r gwylwyr yn yr Hydref."
17 Chwefror 2022 - Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2022
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/48945/cyhoeddi-rhestr-fer-cn-i-gymru-2022/
Wrth i Cân i Gymru 2022 agosáu, mae'n amser cyhoeddi'r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth fwyaf ddisgwyliedig Cymru.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth fawreddog a fydd yn cael ei darlledu yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Wener, y 4ydd o Fawrth.
Y panel o arbenigwyr sydd wedi dewis yr wyth can sydd ar y rhestr fer yw Dafydd Iwan, Betsan Haf Evans, Lily Beau ac Elidyr Glyn.
"Difyr iawn oedd cael bod ar y panel eleni, a hynny flynyddoedd lawer ers i mi gael y fraint o'r blaen. Yr argraff ges i oedd bod y safon wedi codi gryn dipyn, a'r amrywiaeth yn rhyfeddol," meddai Dafydd Iwan, y cerddor eiconig sydd ar fin dathlu 60 mlynedd yn y diwydiant.
"O ystyried mai cynnyrch amser hamdden yw'r caneuon hyn, a bod yna lawer o gyfansoddwyr na fyddai byth am gystadlu, mae gennym le i ymfalchïo fel Cymry yn ein creadigrwydd, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed y rownd derfynol."
Mae Elidyr Glyn, enillydd Cân i Gymru 2019, hefyd yn gyffrous: "Mae hi'n fraint cael gwahoddiad i gymryd rhan fel beirniad, a 'dw i'n falch iawn o dderbyn y cyfle hwn i gyfrannu.
"Ar ôl cael cymryd rhan yn y broses o ddewis caneuon ar gyfer rhan ola'r gystadleuaeth, rwy'n awyddus iawn i glywed barn y cyhoedd wrth iddynt bleidleisio am yr enillydd.
"Mae amrywiaeth eang wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni - a dweud y gwir roedd llawer mwy o ganeuon a fuasai hefyd wedi gallu cael lle haeddiannol ar y rhaglen. 'Dw i'n amau y tro hyn y bydd hi'n rhaglen ble bydd gan lawer o bobl fwy nag un ffefryn, ac felly o bosib bydd hi'n gystadleuaeth agos.
"Dw i'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o'r noson unwaith eto, ac yn dymuno pob lwc i bob un o'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr."
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu am y siawns i ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru 2022, yw:
1. Rhyfedd o Fyd gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Geiriau gan Emlyn Gomer Roberts. Elain Llwyd yn perfformio.
2. Cana dy Gân gan Geth Tomos, geiriau gan Geth Robyns. Rhys Owain Edwards yn perfformio.
3. Paid Newid dy Liw gan Mali Hâf a Trystan Hughes. Mali Hâf yn perfformio.
4. Ymhlith y Cewri gan Darren Bolger.
5. Diolch am y Tân gan Carys Eleri a Branwen Munn. FFLOW yn perfformio.
6. Pan Ddaw'r Byd i Ben gan Steve Williams.
7. Mae yna Le gan Rhydian Meilir. Ryland Teifi yn perfformio.
8. Rhiannon gan Siôn Rickard.
Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw'u pleidlais dros y ffôn.
Manylion pleidleisio a thaflen sgôr .
Mae S4C hefyd yn paratoi rhestr chwarae o gyn-enillwyr, fydd ar gael i'w wylio ar sianel YouTube S4C o ddydd Sul 27 Chwefror.
16 Chwefror 2022 - Dechreuad cryf i dymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/48849/taror-100000---dechreuad-cryf-i-dymor-uwch-gynghrair-grp-indigo-ar-s4c/
Fe ddenwyd dros 100,000 o sesiynau gwylio i sianeli digidol S4C ar gyfer pedair gêm rygbi ar-lein gyntaf y tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo.
Er gwaethaf effaith y pandemig ar y tymor, mae cynulleidfa sylweddol yn gwylio'r gemau byw nos Iau ar S4C Clic, YouTube a Facebook. Roedd dros 108,000 o sesiynau gwylio yn ystod y pedair gêm gyntaf, gyda'r cynnwys yn cael eu wylio am gyfanswm o 11,399 o oriau.
Mae clipiau cyfryngau cymdeithasol ar gyfrifon S4C Chwaraeon hefyd wedi bod yn boblogaidd, gyda clip o gais mewnwr Aberafan, Rhodri Lewis, yn erbyn Abertawe, yn cael ei wylio dros 80,000 o weithiau.
Dywedodd Rhodri Lewis: "Roedd e'n deimlad anhygoel yn sgorio nid yn unig fy nghais cyntaf i'r Dewiniaid ond cais fel 'na yn y Talbot Athletic ac o flaen y cefnogwyr cartref.
"Mae'r cais wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi fynegi fy hun ar y cae, boed hynny gydag Aberafan neu'r Gweilch, a gobeithio y gallaf barhau i greu pethau fel hyn yn rheolaidd."
Lauren Jenkins sydd yn cyflwyno'r gemau Indigo Prem, gyda Rhys ap Wiliam a Phil Steele yn rhan o'r tîm sylwebu.
Mae sawl chwaraewr rhyngwladol o'r presennol a gorffennol wedi dadansoddi'r gemau yn ogystal, gan gynnwys Ken Owens, Sioned Harries, James Hook, Nicky Robinson ac Andrew Coombs.
Meddai Lauren Jenkins: "Rydyn ni wedi mwynhau gornestau cofiadwy a cheisiau ardderchog y tymor hwn hyd yma, gyda chais Rhodri Lewis yn erbyn Abertawe yn un o'r uchafbwyntiau.
"Mae gemau byw nos Iau yn cychwyn y penwythnos rygbi ac mae teimlad arbennig gwylio'r gemau o dan y llifoleuadau. Mae'r pandemig wedi amharu ychydig ar y tymor ond mae'n ddyddiau cynnar iawn dal i fod ac mae lot fawr o rygbi i'w fwynhau rhwng nawr a diwedd y tymor."
Bydd gemau byw Indigo Prem yn parhau ar nos Iau 17 Chwefror gyda Chasnewydd v Pontypridd, gyda'r gic gyntaf am 7.30pm.
Mae'r set nesaf o gemau hefyd wedi ei gadarnhau, gyda Glyn Ebwy v Casnewydd yn cael ei ddangos ar nos Iau 24 Chwefror, Abertawe v Llanymddyfri ar nos Iau 3 Mawrth a Pen-y-bont v Pontypridd ar nos Iau 17 Mawrth.
Bydd uchafbwyntiau o'r holl gemau yn cael eu dangos yn dilyn bob penwythnos ar sianel YouTube S4C. Gemau byw ar-lein
Nos Iau 17 Chwefror - Casnewydd v Pontypridd - 7.30yh
Nos Iau 24 Chwefror - Glyn Ebwy v Casnewydd - 7.30yh
Nos Iau 3 Mawrth - Abertawe v Llanymddyfri - 7.30yh
Nos Iau 17 Mawrth - Pen-y-bont v Pontypridd - 7.30yh
8 Chwefror 2022 - Enwebiad Oscar i ffilm animeiddiedig S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/48809/enwebiad-oscar-i-ffilm-animeiddiedig-s4c/
Mae ffilm a ddarlledwyd ar S4C wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer yn enwebiadau'r Oscars eleni.
Mae Affairs of the Art a ddarlledwyd dros gyfnod y Nadolig fel Y Cythraul Celf ar S4C wedi derbyn enwebiad Oscar yn nghategori Y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau.
Mae'r ffilm yn dilyn Beryl, sy'n 59 oed, a sydd wedi bod yn gweithio mewn ffatri ar hyd ei hoes. Mae ganddi obsesiwn llwyr â thynnu lluniau, ac mae ei hobsesiwn â chelf yn cymryd drosodd ei bywyd.
Wedi ei chyfarwyddo gan Joanna Quinn mae'r ffilm eisoes wedi ennill amryw o wobrau led led y byd.
Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Plant S4C:
"Llongyfarchiadau mawr i bawb fu ynghlwm gyda'r animeiddiad arbennig hon.
"Roedd hi'n bleser cael creu fersiwn Gymraeg o ffilm oedd wedi llwyddo i ddal dychymyg gwylwyr led led y byd.
"Pob lwc i'r tîm i gyd gyda'r fersiwn Saesneg o'r ffilm Affairs of the Art yn seremoni'r Oscars eleni."
Cynhelir Seremoni'r Oscars nos Sul 27 Mawrth 2022 yn y Dolby Theatre yn Los Angeles.
18 Ionawr 2022 - Beca Lyne-Pirkis yn ymuno â thîm FFIT Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/48228/beca-lyne-pirkis-yn-ymuno--thm-ffit-cymru/
Bydd FFIT Cymru yn croesawu arbenigwr bwyd newydd i'r tîm ar gyfer y gyfres newydd eleni - y cogydd adnabyddus, Beca Lyne-Pirkis.
Fe fydd Beca, sydd wedi cyflwyno cyfresi coginio ar S4C a chyrraedd rowndiau cyn-derfynol y gyfres The Great British Bake Off, yn ymuno â'r seicolegydd Dr Ioan Rees a'r hyfforddwr personol Rae Carpenter ar gyfer cyfres pump, sy'n cychwyn yn mis Ebrill.
Bydd Beca yn olynu Sioned Quirke, sydd wedi bod yn ddietegydd y gyfres ers pedair blynedd.
Wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn astudio maetheg ac yn hyfforddi gyda'r gwasanaeth iechyd, mi fydd Beca yn cymhwyso i fod yn ddietegydd fis Gorffennaf eleni.
Meddai Beca: "Fi methu aros i gychwyn. Fi wedi gwylio'r gyfres ers y cychwyn ac wedi nabod sawl un o'r cyn-Arweinwyr, a gweld yr effaith bositif mae'r gyfres wedi cael arnyn nhw.
"Mae bwyd yn rhan hanfodol o be allai roi cyngor arno fe fel arbenigwr ond hefyd, dwi'n fam, dwi'n wraig, dwi'n gweithio, dwi'n berson sy'n caru ymarfer corff ac sy'n mwynhau hyfforddi ar gyfer sawl ras a sialensau gwahanol.
"Da ni fel arbenigwyr yn rhannu ein profiadau personol ni i helpu dylanwadu a dangos y ffordd.
"Dwi'n fam brysur ac weithiau mae'n anodd cael cydbwysedd, ond gallai brofi os ydach chi'n cynllunio a bod yn drefnus, does dim rheswm na allech chi fod yn llwyddiannus."
Bydd Beca yn creu ambell rysait newydd i'r arweinwyr eleni ac mi fydd modd eu gweld a'u dilyn ar wefan FFIT Cymru, s4c.cymru/ffitcymru, yn ogystal â gwefan ac ap newydd, Cegin S4C.
Ychwanega Beca: "Fel rhywun sy'n astudio i fod yn ddietegydd ac sydd hefo diddordeb mawr mewn maetheg a choginio, mae'r cyfle i fod yn rhan o'r tîm, creu ryseitiau a cheisio ysbrydoli'r arweinwyr gyda bwyd, yn un ffantastig.
"Ein swydd ni yn bennaf yw i geisio dod a'r cydbwysedd nôl ym mywydau'r arweinwyr.
"Yn amlwg, mae pobl yn fy adnabod i am Bake Off, a dwi'n pobi a bwyta cacennau achos bod o'n rhywbeth dwi'n mwynhau wneud. Dyw cacen ddim yn rhywbeth dyle chi fod yn ofnus ohono!
"Dyle neb deimlo'n euog am fwyta rhywbeth a peidio mwynhau e, ond dyw e ddim yn rhywbeth dyle chi fwyta drwy'r adeg chwaith.
"Fi jyst eisiau cael yr arweinwyr i ddeall bwyd ychydig yn well, a gweld sut mae rhoi gymaint o bethau da yn eich corff yn gallu helpu eich iechyd.
"Dwi hefyd eisiau ysbrydoli hefo ryseitiau a syniadau gwahanol, i ddod a'r excitement yna nôl fewn i goginio a bwyta.
"Mae lot o gynlluniau cyffrous gen i a lot o waith o fy mlaen! Mae 'da fi cwpwl o syniadau ar y gweill!"
Hoffai S4C a Cwmni Da ddiolch i Sioned Quirke am ei holl waith caled a chyfraniad sylweddol i'r gyfres dros y pedair blynedd diwethaf.
Ydych chi eisiau bod yn un o arweinwyr y gyfres newydd o FFIT Cymru? Mae'r ffenest ymgeisio ar agor tan ddydd Sul 6 Chwefror, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru i wneud eich cais ar-lein.
Mae FFIT Cymru yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir, ac yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, bobl anabl neu Fyddar, a bobl sy'n hunaniaethu'n LGBTQ+.
Os hoffwch sgwrs anffurfiol am fwy o wybodaeth, gallwch chi gysyllu â'r tîm cynhyrchu ar ffitcymru@cwmnida.tv.
17 Ionawr 2022 – Ymateb i Setliad Ariannol S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/48212/setliad-ariannol-s4c/
Wrth ymateb i gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol dywedodd Cadeirydd S4C, Rhodri Williams:
"Mae'r setliad yma'n adlewyrchu ffydd y DCMS, a'r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
"O ystyried yr hinsawdd economaidd mae'r setliad ariannol hwn, sy'n dod ar ôl misoedd o drafod rhwng y sianel a'r Llywodraeth, yn rhoi sylfaen dda i S4C gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf.
"Rydym yn diolch i'r Ysgrifennydd Gwladol a'i swyddogion am broses adeiladol a phositif sydd wedi dangos cefnogaeth i uchelgais S4C.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, aelodau seneddol, aelodau Senedd Cymru, aelodau Tŷ'r Arglwyddi a nifer fawr o sefydliadau, cymdeithasau a chyfeillion ar hyd a lled Cymru wnaeth gefnogi'n hachos.
"Roedd dangos fod cefnogaeth drawsbleidiol drwy Gymru benbaladr yn cryfhau achos S4C wrth i ni gyflwyno'n cais i'r DCMS.
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle "Mae hyn yn newyddion gwych i gynulleidfa S4C yng Nghymru a thu hwnt.
"Yng ngoleuni'r cyhoeddiad byddwn nawr yn gweithio yn ofalus er mwyn gwireddu ein cynlluniau ar gyfer 2022-28.
"Byddwn yn edrych sut gallwn drawsnewid ein chwaraewr S4C Clic, sicrhau dosbarthiad ehangach ein cynnwys ar draws llwyfannau digidol, a gwella ein amlygrwydd ar setiau teledu clyfar.
"Mae hyn oll yn adlewyrchu'r newid yn y ffordd mae pobl yn gwylio cynnwys a rhaglenni teledu."
Bydd y drefn ariannu newydd yn dod i fodolaeth o 1 Ebrill 2022, gyda'r setliad yn parhau hyd 31 Mawrth 2028.
4 Ionawr 2022 - S4C yn ymuno â chonsortiwm albert
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/47999/s4c-yn-ymuno--chonsortiwm-albert/
Mae S4C heddiw wedi lansio partneriaeth newydd gydag albert, consortiwm o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr mwyaf y DU.
Bwriad y bartneriaeth newydd yw ymgorffori cynaliadwyedd yn rhan o'r broses gynhyrchu rhaglenni yng Nghymru.
Mae'r cytundeb a gychwynnwyd ar y 1af o Ionawr yn ei gwneud yn orfodol i gwmnïau cynhyrchu ddilyn canllawiau cynaliadwyedd ac amgylcheddol wrth gynhyrchu rhaglenni newydd.
Fel rhan o'r broses bydd gofyn i gwmnïau cynhyrchu sy'n creu cynnwys i S4C i amcangyfrif eu hôl troed carbon a chwblhau proses ardystio albert ar gyfer eu cynyrchiadau.
Bydd cynyrchiadau sy'n gymwys yn cael defnyddio logo albert.
Mae Consortiwm albert hefyd yn cynnig hyfforddiant am ddim sy'n cwmpasu darlun mawr newid yn yr hinsawdd, ei oblygiadau i'r diwydiant teledu a'r hyn y gall unigolion ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth.
"Gyda newid hinsawdd mor dyngedfennol, mae'n holl bwysig fod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o'r ffordd y mae rhaglenni S4C yn cael eu cynhyrchu," meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.
"Mae gennym ddyletswydd i sicrhau ein bod yn cadw ein heffaith amgylcheddol mor isel â phosibl.
"Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ac annog y cynhyrchwyr rydym yn gweithio â nhw i roi blaenoriaeth i gynaliadwyedd tra'n cynhyrchu rhaglenni i S4C. "
Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC: "Mae materion amgylcheddol yn gynyddol bwysig i aelodau TAC ac mae'n rhaid i liniaru newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog yn ein gwaith.
"Rwy'n croesawu y cydweithio rhwng S4C a'r sector cynhyrchu teledu annibynnol i gyflwyno'r cynllun cynhyrchu cynaliadwy albert yn ei threfn gomisiynu."
21 Rhagfyr 2021 - Cronfa o £2m wrth wraidd cefnogaeth S4C a Chymru Greadigol i’r sector sgrîn yng Nghymru
Mae S4C a Chymru Greadigol wedi llofnodi Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth (MoU) sy'n cefnogi datblygiad sector sgrin ddeinamig ac o safon fyd-eang yma yng Nghymru.
Wrth wraidd y cydweithio mae gweledigaeth o sector gynaliadwy ac arloesol.
Mae'r S4C a Chymru Creadigol yn gweithio i gefnogi datblygiad sector sgrin ddeinamig o safon fyd-eang yng Nghymru, sy'n ddwyieithog, yn gynrychioliadol, yn deg ac yn gynhwysol.
Mae S4C a Chymru Creadigol eisoes wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers mis Ionawr 2020, gan gefnogi cymuned gynhyrchu annibynnol Cymru ar y cyd.
Mae'r bartneriaeth eisoes wedi arwain at brosiectau arloesol, gan gynnwys drama newydd S4C Y Golau (The Light in the Hall) sy'n ffilmio yng Nghymru ar hyn o bryd ac sydd i'w darlledu yn fyd-eang o 2022.
Gan adeiladu ar lwyddiant drama o Gymru a'r awydd rhyngwladol am rai gwreiddiol a gomisiynwyd gan S4C gan gynnwys Un Bore Mercher (Keeping Faith,) Craith (Hidden,) a Bang, mae S4C a Chymru Greadigol yn ymrwymo i fuddsoddi hyd at £1m yr un y flwyddyn ar gyfer ffilmiau yn yr iaith Gymraeg.
Mae'r MoU yn nodi sut y bydd y ddwy ochr yn cydweithio'n strategol i sicrhau gwerth ychwanegol i'r sector sgrin Gymraeg.
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Chymru Greadigol ers iddo lansio, ac mae'r MoU heddiw yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn y tymor hir i gefnogi'r sector deledu yng Nghymru wedi Covid ac i sicrhau ein bod yn targedu ein hadnoddau yn effeithiol, yn ychwanegu gwerth at fuddsoddiad ehangach a chanolbwyntio ar y meysydd sydd â'r angen a'r enillion mwyaf.
"Rwy'n arbennig o falch o'n hymrwymiad ar y cyd i ddatblygu dramâu a ffilmiau yn yr iaith Gymraeg.
"Rwyf am i S4C adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chreu casgliad o'r radd flaenaf o ffilmiau Cymraeg i'n cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
"Rydym yr un mor ymrwymedig i weithio gyda Chymru Greadigol i dyfu cynnwys dogfennol ffeithiol a chynnwys Cymraeg gan ddatblygu brand S4C Originals."
"Er mwyn llwyddo yn y nodau hyn, rhaid i gynnwys S4C fod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol, a'i greu gan weithlu a sector sy'n adlewyrchu Cymru heddiw.
"Dyna pam rydyn ni hefyd yn ymrwymo i roi cefnogaeth glir i dalent newydd, yn enwedig o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, i ymsefydlu yn y sector, gan ennill y sgiliau a'r hyfforddiant i lwyddo. "
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Mae'r bartneriaeth hon gyda S4C yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol sy'n anelu at sbarduno twf ar draws y sector gyfan.
"Gan ddatblygu sylfaen sgiliau o'r radd flaenaf, a gweithio tuag at arferion gwaith cynhwysol ein bwriad yw ehangu cefnogaeth a rhoi Cymru ar y blaen fel y lle i leoli cwmnïau a busnesau creadigol.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth i sicrhau y gall y sector sgrin Gymraeg gystadlu'n rhyngwladol.
Ein gweledigaeth yw Cymru sy'n parhau i ddatblygu i fod yn genedl greadigol sy'n arwain y byd -yn ogystal â sicrhau fod ein chynnwys yn adlewyrchu ein gwlad ar y sgrin, ac yn mynd â straeon lleol Cymru i weddill y byd."
Mae'r MoU hwn yn cynrychioli'r camau cyntaf wrth ffurfioli partneriaeth bresennol rhwng Cymru Greadigol a S4C.
Ei fwriad yw adeiladu ar y berthynas gadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru a S4C a'r cysylltiadau cryfach a ffurfiwyd rhwng y ddau sefydliad yn dilyn lansio Cymru Greadigol ym mis Ionawr 2020.
Gallwch weld y ddogfen gyfan yma: https://www.s4c.cymru/media/media_assets/PDF_Memorandum_of_Understanding_between_S4C_and_Creative_Wales_MOU_-_Cymraeg.pdf
20 Rhagfyr 2021 - S4C Clic yn denu chwarter miliwn o gofrestwyr
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/47905/s4c-clic-yn-denu-chwarter-miliwn-o-gofrestwyr/
Mae S4C Clic wedi llwyddo i ddenu 250,000 o gofrestwyr i'r gwasanaeth ar alw.
S4C Clic yw'r lle i wylio holl raglenni S4C ar alw, ac ers datblygu system gofrestru ym mis Mai 2019, mae'r gwasanaeth wedi ehangu ei ddarpariaeth yn sylweddol.
Yn ogystal â chynnig bocs sets o ddramâu newydd a hen glasuron, mae S4C Clic bellach yn dangos chwaraeon byw ecsgliwsif, gan gynnwys rygbi o'r Uwch Gynghrair Grŵp Indigo a Chynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru, a chynnwys penodol i blant, phobl ifanc a dysgwyr.
Mae'r system gofrestru hefyd wedi galluogi S4C Clic i gyfathrebu'n uniongyrchol gyda'r defnyddwyr, gan ddod i ddeall anghenion gwylwyr yn well a chynnig gwasanaeth mwy cyflawn.
Yn sgil y newyddion fod chwarter miliwn o ddefnyddwyr bellach wedi cofrestru i ddefnyddio S4C Clic mewn ychydig dros flwyddyn a hanner, dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:
"Mae hyn yn newyddion ffantastig. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i ehangu yr hyn ry'n ni'n gynnig ar S4C Clic, wrth i fwy a fwy o bobl defnyddio'r gwasanaeth i wylio ein cynnwys.
"Mae datblygu presenoldeb digidol S4C wedi bod yn flaenoriaeth strategol mawr i ni dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r tyfiant aruthrol yn nilyniant S4C Clic wedi galluogi ni i ddod i adnabod ein cynulleidfaoedd hyd yn oed yn well a theilwra ein cynnwys gyda'r gwylwyr ar flaenau ein cof."
"Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i daro'r garreg filltir arbennig yma a gobeithio y gall brand Clic barhau i gryfhau ymhell i mewn i'r dyfodol."
7 Rhagfyr 2021 - S4C yn darlledu gemau Cymru yn y Chwe Gwlad dros y pedair blynedd nesaf
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46946/s4c-yn-darlledu-gemau-cymru-yn-y-chwe-gwlad-dros-y-pedair-blynedd-nesaf/
Mi fydd S4C yn dangos pob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness am y pedair blynedd nesaf.
S4C fydd yr unig le i wylio holl gemau Cymru yn fyw ar ôl sicrhau cytundeb gyda'r BBC ac ITV, prif ddeiliad yr hawliau darlledu.
Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dangos y gemau cyfan, yn ogystal â'r holl ymateb a dadansoddi, gan gychwyn gydag Iwerddon v Cymru ar ddydd Sadwrn 5 Chwefror.
Meddai Catrin Heledd, Cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol: "Mae hyn yn newyddion gwych i rygbi yng Nghymru.
"I lot fawr o gefnogwyr rygbi, y Chwe Gwlad yw uchafbwynt y flwyddyn.
"Mae'n fraint i gael bod yn rhan ohono ac yn ran o'r ddarpariaeth iaith Gymraeg.
"Cymru yw'r pencampwyr presennol ond mae'r gystadleuaeth yn fwy ffyrnig nag erioed.
"Ry'n ni'n gobeithio cael eich cwmni yn Nulyn ar gyfer y gêm agoriadol."
Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, sydd yn gynhyrchiad BBC Cymru, yn dangos dwy o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod 2022, yn ogystal â thair o gemau Cymru yn y Chwe Gwlad Dan 20.
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae'r Chwe Gwlad Guinness yn bencampwriaeth rygbi rhyngwladol sydd yn llawn angerdd a chyffro, ac mi rydyn ni'n hapus iawn i ymestyn ein perthynas hir gyda'r gystadleuaeth.
"Mae'r cytundeb newydd yn cwblhau portffolio rygbi ar S4C, sydd yn cynnwys rygbi colegau, rygbi'r clybiau yn yr Uwch Gynghrair Indigo, rygbi rhanbarthol yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac Ewrop, a rygbi rhyngwladol.
"Mae S4C yn hynod o falch i gefnogi ein timoedd cenedlaethol a rygbi Cymru ar bob lefel."
Meddai Steve Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: "Mae'r darpariaeth o ddarlledu gemau yn yr iaith Gymraeg yn elfen sylfaenol o'n strategaeth ar gyfer rygbi yng Nghymru ac mae'r newyddion yma gan S4C yn cael ei groesawu'n fawr.
"Mae S4C yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi rygbi yng Nghymru, o gemau'r clybiau, i'r timoedd proffesiynol, y timoedd ieuenctid i'r timoedd rhyngwladol y dynion a'r menywod, ac mi rydyn ni'n ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth ym mhob un o'r elfennau yma."
3 Rhagfyr 2021 - Gemau byw o Chwe Gwlad Menywod a Dan 20 ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46724/gemau-byw-o-chwe-gwlad-menywod-a-dan-20-ar-s4c/
Bydd S4C yn dangos gemau byw o Bencampwriaethau Chwe Gwlad Menywod a Dan 20 flwyddyn nesaf.
Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod yn cael ei chwarae yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, mewn ffenestr ar wahân i'r Dynion a'r timoedd Dan 20, ac mi fydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dangos dwy o gemau gartref Cymru yn fyw o Barc yr Arfau.
Bydd Cymru v Ffrainc ar nos Wener 22 Ebrill, i'w gweld yn fyw ar S4C, yn ogystal â'u gêm olaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal, ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill.
Cyn hynny, bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dangos tair gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Y Chwe Gwlad Dan 20.
Bydd gêm agoriadol y Cymry, oddi cartref yn erbyn Iwerddon ar nos Wener 4 Chwefror, i'w gweld yn fyw, cyn y gêm gartref yn erbyn yr Alban ar nos Wener 11 Chwefror.
Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol hefyd yn dangos y gêm oddi cartref yn erbyn Lloegr yn fyw ar nos Wener 25 Chwefror.
Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer pob un o'r gemau drwy wasanaeth y botwm coch. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu Clwb Rygbi Rhyngwladol ar ran S4C.
1 Rhagfyr 2021 – Rygbi byw o Gwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46664/rygbi-byw-o-gwpan-pencampwyr-heineken-a-chwpan-her-epcr-ar-s4c/
Bydd S4C yn dangos gemau byw o Gwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her Ewrop EPCR y tymor hwn.
Bydd dwy gêm byw o Gwpan Pencampwyr Heineken i'w gweld ar S4C, yn ogystal â phob un o pedair gêm y Dreigiau yn y Cwpan Her.
Bydd S4C yn dangos gêm agoriadol y Dreigiau, oddi cartref yn erbyn Perpignan, yn fyw am 5.30yh ar nos Sadwrn 11 Rhagfyr, cyn y gêm o'r ail rownd rhwng Dreigiau a Lyon, ar nos Wener 17 Rhagfyr am 8.00yh, yn fyw o Rodney Parade.
Yn y drydedd rownd, bydd y gêm yng Nghwpan y Pencampwyr rhwng Caerdydd a phencampwyr Lloegr, Harlequins, yn cael ei ddangos yn fyw ar nos Wener 14 Ionawr am 8.00yh, yn ogystal â'r gêm Cwpan Her rhwng Benetton a Dreigiau ar ddydd Sadwrn 15 Ionawr am 3.15yh.
Y gêm yng Nghwpan y Pencampwyr rhwng Scarlets a Bryste, ar nos Sadwrn 22 Ionawr am 5.30yh, fydd i'w gweld yn rownd pedwar.
Ac mi fydd gêm grŵp olaf y Dreigiau, gartref yn erbyn Caerloyw, yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C ar benwythnos Ebrill 8/9/10.
Bydd Rhys ap Wiliam yn arwain y tîm cyflwyno ar gyfer y gemau, gyda Lauren Jenkins yn ohebydd a Gareth Roberts a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu.
Ymysg yr enwau sydd yn dadansoddi'r gemau bydd Sioned Harries, Shane Williams a Mike Phillips. Media Atom fydd yn cynhyrchu'r darllediadau ar ran S4C.
30 Tachwedd 2021 - S4C a Radio Ysbyty Gwynedd ar yr un donfedd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46533/s4c-a-radio-ysbyty-gwynedd-ar-yr-un-donfedd/
Bydd gwrandawyr Radio Ysbyty Gwynedd yn cael clywed mwy am raglenni S4C yn dilyn partneriaeth newydd rhwng y ddau ddarlledwr.
O fis Rhagfyr, bydd cyflwynwyr yr orsaf radio wirfoddol, sydd yn dathlu 45 mlynedd o ddarlledu eleni, yn cynnig cipolwg ar raglenni diweddaraf y sianel genedlaethol drwy gynnal sgyrsiau wythnosol gyda chomisiynydd rhaglenni adloniant S4C, Elen Rhys.
Yn achlysurol bydd rhai o sêr cyfresi S4C hefyd yn sgwrsio gyda'r cyflwynwyr, Terry Phipps a Kevin Williams, i roi cipolwg ecsgliwsif ar y rhaglenni maent yn serennu ynddynt.
Bydd y sgyrsiau yn cael ei hail-adrodd yn ystod yr wythnos ar yr orsaf i sicrhau na fydd cleifion yn yr ysbyty a'r gwrandawyr adref yn methu allan ar y sgyrsiau hwyliog yma.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Mae'n fraint i gael bod ar donfeddi Radio Ysbyty Gwynedd a rhannu'r holl ddatblygiadau a rhaglenni cyffrous S4C gyda'r gwrandawyr.
"Wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig, mae llond sach o raglenni gwych ar y gweill ac felly bydd digonedd i ni ei drin a'i drafod.
"Dw i'n siŵr y cawn ni ddigon o hwyl ar yr awyr a gobeithio y byddwn ni'n gallu dod â gwên i wynebau rhai o gleifion yr Ysbyty."
Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: "Fel gorsaf, rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda S4C ac yn tynnu sylw at y rhaglenni gwych mae nhw'n eu cynnig ar ein sioeau radio.
"Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi datblygu ein gwasanaeth eto eleni gyda mwy o raglenni radio a'n ap newydd.
"Mae'n anrhydedd i ni weithio mewn partneriaeth â S4C, mae'n anrheg Nadolig wych i ni i gyd yn Radio Ysbyty Gwynedd."
26 Tachwedd 2021 -- S4C yn Comisiynu Cyfres Seicolegol Gyffrous Newydd - Y Golau
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46339/s4c-yn-comisiynu-cyfres-seicolegol-gyffrous-newydd-y-golau/
Mae'r darlledwr Cymraeg S4C wedi comisiynu cyfres seicolegol newydd 6 x 60' Y Golau / The Light In The Hall yn cael ei chyd-gynhyrchu gan y cynhyrchwyr annibynnol Duchess Street Productions a Triongl ar y cyd ag APC Studios, a chyda chefnogaeth Cymru Greadigol.
Mewn cynlluniau wedi'u trefnu gan APC Studios, sydd hefyd yn delio â'r gwerthiant ar draws y byd, mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu ar y cyd â Channel 4 a Sundance Now ar gyfer y fersiwn Saesneg i'w darlledu yn y DG a Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd yn y drefn honno.
Mae'r gyfres wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a'i chyfarwyddo gan Andy Newbery (Keeping Faith) a Chris Forster (Hidden), Y Golau / The Light In The Hall a chaiff ei ffilmio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Yr actorion yw Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon, No Offence), Iwan Rheon (Misfits, Game of Thrones) a Joanna Scanlan (After Love, No Offence). Bydd y ffilmio'n dechrau yn yr hydref eleni, a'r bwriad yw darlledu yn 2022.
Roedd y newyddiadurwraig Cat Donato (Roach), yn wreiddiol o'r un dref, erioed wedi cymryd diddordeb yn llofruddiaeth Ela Roberts. I Cat roedd yn fater personol.
Roedd Ela wedi bod yn un o'i ffrindiau, ond cyn ei llofruddio roedd Ela wedi ei diarddel oherwydd hen ffrae wirion rhwng plant yn eu harddegau, ffaith roedd Cat wedi gwneud y gorau i'w hanghofio.
Nid yw Sharon Roberts (Scanlan), mam Ela, erioed wedi gallu peidio â galaru am golli ei merch.
Mae ei hatgofion o'r diwrnod olaf hwnnw yn dal i darfu arni, ac mae Sharon am i'r mater gael ei ddatrys. Joe Pritchard (Rheon), garddwr tawel diymhongar, a gafodd ei arestio am lofruddiaeth Ela ar ôl i'w DNA gael ei ddarganfod yn ei garafán.
Cyfaddefodd Joe iddo ladd Efa, ond roedd yn gwrthod neu'n methu â dweud pam na beth wnaeth e â'i chorff.
Mae'r newyddion am wrandawiad parôl Joe a meddwl y gallai gael ei rhyddhau yn gorfodi'r ddwy wraig i wynebu'r gorffennol a'u rhan yn nyddiau olaf Ela.
I Cat mae'n gyfle i ysgrifennu'r digwyddiadau cywir am y llofruddiaeth, ac i Sharon mae'n gyfle i wynebu'r dyn a laddodd ei phlentyn.
Gyda chynifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb, gallai gweld Joe yn dychwelyd i'r gymuned fod yn ffordd i ddod i waelod dirgelwch unwaith ac am byth. Ond os Joe a laddodd Efa, pam, a ble mae ei chorff?
Bydd Donna Wiffen a Jo Roderick o Duchess Street Productions, Gethin Scourfield a Nora Ostler o Triongl a Laurent Boissel o APC Studios yn cynhyrchu'n weithredol, ynghyd â Gwenllian Gravelle o S4C.
Yn y DG mae'r gyfres wedi'i phrynu gan Nick Lee, Prynu yn Channel 4, Caroline Hollick, Pennaeth Drama yn Channel 4, a chaiff ei goruchwylio gan y Golygydd Comisiynu, Gwawr Lloyd.
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Mae'r ddrama gyffrous hon yn sicr yn addo bod yn un a gaiff ei chofio.
"Gyda chast o sêr a thîm cynhyrchu dawnus, rydyn ni'n ysu am gael cyflwyno Y Golau i wylwyr S4C.
"Hwn fydd ein cyd-gynhyrchiad cyntaf erioed gyda Channel 4, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd ynghyd â Triongl Production Company a Duchess Street Productions ar y gyfres syfrdanol hon."
Meddai Donna Wiffen, Rheolwr Gyfarwyddwr yn at Duchess Street Productions: "Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous iawn i fod yn dod â dawn ysgrifennu arbennig Regina i'r sgrin yn ei chyfres deledu wreiddiol gyntaf.
Mae Nora Ostler, Cynhyrchydd Gweithredol yn Triongl hefyd yn dweud: "Rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio gyda Regina, y cast gwych a'n partneriaid dawnus yn Duchess Street ar y stori gyffrous hon.
"Diolch yn fawr i Gwenllian, S4C ac APC am eu cefnogaeth yn ystod datblygu'r gyfres, ac i C4, Sundance Now a Cymru Greadigol am wneud hyn yn bosibl.
"Edrychwn ymlaen at gael mynd â'r stori rymus hon o Gymru i'r byd."
Meddai Laurent Boissel, Cyd-PSG a Chyd-Sylfaenydd yn APC: "Rydyn ni'n teimlo'n eithriadol o gyffrous yn cael gweithio gyda'r timau dawnus yn Duchess Street a Triongl ar y gyfres ddwyieithog uchelgeisiol hon.
"Mae ymroddiad S4C i'r sioe, ynghyd â chefnogaeth C4 a Sundance Now, yn creu llwyfan darlledu arbennig ar gyfer y gyfres.
"Fel cynhyrchydd rydyn ni'n falch iawn bod yn rhan, ac fel dosbarthwr rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd â'r sioe i wledydd eraill ledled y byd."
Mae Nick Lee, Pennaeth Pwrcasu yn C4, yn ychwanegu: "Mae'r Golau ynghyn! Mae'r stori am anghyfiawnder a dial yn wirioneddol ddifyr. "Mae'n olwg unigryw ar stori gyffro am lofruddiaeth lle mae'r cliwiau, y cymeriadau a'r stori'n symud yn gyflym: drwy ychwanegu cast mor ddawnus mae'n sioe rydyn ni'n falch bod yn bartner ynddi."
Ychwanega Shannon Cooper, Is-lywydd Rhaglennu yn Sundance Now, fel hyn: "Mae'r nodwedd soffistigedig, y troeon cyffrous a'r dyfalu cyson ym mhob munud yn y stori hon yn dyst i ysgrifennu Regina, ac rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio ar y cyd a'r tîm creadigol bywiog hwn a'r cast eithriadol wrth i hon symud o dudalen i dudalen ar y sgrin.
"Rydyn ni'n ddiolchgar i'n partneriaid yn DSP, Triongl, APC, S4C a Channel 4 am ddod â ni ar y daith hon sy'n sicr o fod yn gyffrous."
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cymorth drwy gyllid Cymru Greadigol i'r cynhyrchiad a'r bartneriaeth gyffrous hon rhwng Triongl, S4C, Duchess St, a Channel 4 ac APC.
"Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy a thâl i hyfforddeion, gan ddiogelu ein diwydiant yn y dyfodol, ysgogi buddsoddiad i'r economi leol, a bydd yn arddangos talent, iaith a diwylliant Cymru ledled y DU ac yn rhyngwladol."
22 Tachwedd 2021 -- Dilynwch Uwch Gynghrair Grŵp Indigo gyda gemau byw bob nos Iau ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46083/dilynwch-uwch-gynghrair-grp-indigo-gyda-gemau-byw-bob-nos-iau-ar-s4c/
Bydd S4C yn dangos gemau o'r Uwch Gynghrair Rygbi Grŵp Indigo yn fyw ar-lein bob wythnos y tymor hwn mewn cyfres newydd – Indigo Prem.
Bydd y gemau i'w gweld ar wasanaeth S4C Clic a thudalennau Facebook S4C Chwaraeon ac YouTube S4C.
Y gêm gyntaf o'r 14 rownd bydd Aberafan v Abertawe, am 7.30yh ar nos Iau 9 Rhagfyr.
Yn ogystal â'r gemau byw, bydd rhaglen uchafbwyntiau wythnosol i'w gweld ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C Chwaraeon ac Undeb Rygbi Cymru.
Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno Indigo Prem, gyda Whisper Cymru yn cynhyrchu'r rhaglenni ar ran S4C.
Meddai Lauren Jenkins: "Mae popeth i'w gael yn yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo; chwaraewyr a hyfforddwyr o safon, gelyniaethau ffyrnig a gemau cystadleuol sy'n llawn ceisiau. Dyma'r lefel uchaf o rygbi clybiau Cymru ac mae'n gonglfaen i'r gêm genedlaethol. S4C yw'r unig le i ddilyn yr Uwch Gynghrair, felly ymunwch â ni bob nos Iau."
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae hwn yn fenter newydd cyffrous, un ry'n ni'n gobeithio bydd yn helpu denu gwylwyr newydd i rygbi clybiau Cymru, yn ogystal ag ateb galw cefnogwyr ffyddiog y gynghrair.
"Rydyn ni wedi datblygu ein darpariaeth chwaraeon ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein gemau rygbi, phêl-droed, hoci a phêl-rwyd wedi profi'n boblogaidd. Rydyn ni'n falch iawn i gyd-weithio gyda'r clybiau ac Undeb Rygbi Cymru i gynnig platfform newydd i'r gynghrair."
Meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: "Rydyn ni wedi gweithio yn agos gyda S4C ar gynllun newydd a chyffrous ar gyfer Uwch Gynghrair Grŵp Indigo. Bydd y gwasanaeth hwn yn arddangos y safon uchaf o rygbi clybiau Cymru, a'r gobaith yw y bydd yn denu cynulleidfa newydd, yn ogystal â chefnogwyr ffyddlon i'r gynghrair.
"Bydd holl glybiau'r Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yn ymddangos mewn o leiaf un gêm yn ystod y tymor, mewn slot ddarlledu cyson ar nos Iau.
"Rydyn ni'n disgwyl i'r gemau yma gael eu dangos mewn clybiau rygbi ledled y wlad wrth i'r gystadleuaeth adeiladu tuag at ddiweddglo cyffrous.
"Merthyr yw deiliaid y gynghrair ar ôl ennill y bencampwriaeth yn 2019, cyn i'r tymor olynol gael ei ohirio yn sgil y pandemig. Ond mi rydyn ni wedi cyflwyno tarian a phrif noddwr newydd ers hynny, a nawr mi fyddwn ni'n chwilio am y clwb cyntaf i hawlio tarian yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo am y tro cyntaf."
Gemau ar-lein byw
Nos Iau 9 Rhagfyr - Aberafan v Abertawe - 7.30yh
Nos Iau 16 Rhagfyr - Cwins Caerfyrddin v Llanelli - 7.30yh
Dydd Llun 27 Rhagfyr - Glyn Ebwy v Casnewydd - 2.30yh
Nos Llun 3 Ionawr 2022 - Llanelli v RGC 1404 - 5.30yh
Nos Iau 13 Ionawr - Pen-y-bont v Pontypridd - 7.30yh
Nos Iau 27 Ionawr - Caerdydd v Glyn Ebwy - 7.30yh
22 Tachwedd 2021 -- Hansh yn lansio cyfresi newydd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46068/hansh-yn-lansio-cyfresi-newydd/
Mae gwasanaeth ar-lein S4C, Hansh wedi comisiynu cynnwys newydd er mwyn datblygu'r platfform yn ehangach.
Lansiwyd Hansh ym mis Mehefin 2017 er mwyn cynnig cynnwys unigryw i bobl ifanc rhwng 16 – 34.
Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi datblygu o fod yn gweithredu ar Facebook ac YouTube yn unig i fod yn creu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau.
Mae'r cyfresi newydd yn rhan o strategaeth S4C i gomisiynu cynnwys hirach i Hansh dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd y comisiynau newydd yn cychwyn ar 25 Tachwedd gyda chyfres newydd o Pa fath o bobl?
Bydd y gyfres ddogfen tair rhan gyda Garmon ab Ion yn herio ystrydebau, daliadau a thraddodiadau Cymru.
O bentrefi gwyliau moethus Pen Llŷn i octagon ymladdwr MMA, o fodelau glam i'r theatr; bydd Garmon yn holi 'Pa Fath o Bobl' sy'n poeni am bynciau llosg Cymru.
Be yn union sydd yn digwydd i'r farchnad dai ym Mhen Llŷn? Oes 'na ddyfodol i Gymru yn y DU? Ac ydi miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realistig?
Bydd hoff anthropolegydd Hansh yn ceisio gwneud pen a chynffon o'r hyn sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru.
Comisiwn newydd arall fydd cyfres materion cyfoes GRID yn edrych ar bynciau amserol.
Bydd y penodau cyntaf yn holi a yw'r diwydiant harddwch yn hiliol wrth i fyfyriwr ffasiwn ifanc ystyried pa mor gynhwysol yw'r diwydiant a sut mae diffyg cynrychiolaeth a hiliaeth wedi effeithio menywod du o fewn y diwydiant yng Nghymru.
Bydd pennod arall yn trafod ymddiriedaeth yn y gwasanaeth iechyd wrth i ferch traws ystyried pam fod ei chymuned wedi colli ffydd yn y gwasanaeth iechyd ar ôl penderfynu codi £30,000 am lawdriniaeth cadarnhad rhyw preifat.
Yn ogystal bydd cyfres newydd sbon o LIMBO sef comedi sefyllfa sy'n dilyn tri o bobl ifanc yn eu ugeiniau sy'n gorfod ymdopi a chymdeithas fodern annheg sy'n llawn diffyg cyfleoedd a chytundebau gwaith byr.
Mae Huw, Seren a Liam yn byw gyda'i gilydd mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Ond gyda chefndir y tri yn wahanol, mae ambell un yn llwyddo i ffeindio'u ffordd rownd y ddinas yn haws na'r gweddill wrth arbrofi gyda chyffuriau a rhyw.
Bydd LIMBO i'w weld ar YouTube Hansh ac ar S4C Clic o'r 16eg o Ragfyr.
"Mae gweledigaeth Hansh o roi llwyfan i leisiau newydd yr un mor gryf ag erioed." yn ôl Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Ar-lein S4C.
"Ond mae'n bwysig hefyd fod Hansh yn estyn allan i gymunedau newydd, sydd â syniadau a diddordebau gwahanol.
"Dwi'n falch iawn fod ein comisiynau newydd yn cynnig amrediad eang o genres gan gynnwys dogfen, materion cyfoes a chomedi sydd wedi bod yn reiddiol i genhadaeth Hansh o'r cychwyn.
"Mae ein cyfresi newydd yn amserol, gafaelgar ac yn llawn syniadau newydd a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd dilynwyr Hansh yn mwynhau yr arlwy newydd."
17 Tachwedd 2021 - Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/46000/cyhoeddi-prif-weithredwr-newydd-s4c/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Siân Doyle wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr S4C.
Mae Siân yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr cwmni telegyfathrebu TalkTalk a chyn hynny EE, lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Manwerthu yn gyfrifol am arwain a datblygu tîm o 3,500 o gydweithwyr ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Bu hefyd yn Uwch Is-Lywydd cwmni Comcast Cable yn Philadelphia.
Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol Cysgodol S4C:
"Rydym yn falch iawn i allu penodi arweinydd gyda chyfoeth o brofiad mewn llunio a gweithredu strategaethau uchelgeisiol a llwyddiannus ac o ddeall a bodloni anghenion defnyddwyr.
"Mae angen mentro er mwyn sicrhau bod S4C yn atgyfnerthu ei hun fel darparwr cynnwys creadigol a beiddgar y mae defnyddwyr am ymwneud ag e' ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
"Mae'r Bwrdd yn ymddiried yn gyfan gwbl yng ngallu Siân i fynd i'r afael â hyn ac i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r byd digidol yn creu.
"Bydd profiad helaeth Siân ym myd telegyfathrebu a manwerthu yn y Deyrnas Gyfunol, Canada a'r Unol Daleithiau yn ogystal, wrth gwrs, â'i chariad at y Gymraeg yn gaffaeliad mawr i S4C yn y blynyddoedd i ddod".
Dywedodd Siân Doyle:
"Trwy fy ngyrfa rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda phobl a chwmnïau arbennig a dwi wedi dysgu gymaint ag elwa o brofiadau gwerthfawr.
"Mae fy angerdd dros fy nghydweithwyr ac anghenion defnyddwyr wedi bod yn rhan annatod o fy mhrofiad dros y blynyddoedd.
10 Tachwedd 2021 - Y Labordy yn llunio cyfle newydd i gynhyrchwyr Cymraeg eu hiaith
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45815/y-labordy-yn-llunio-cyfle-newydd-i-gynhyrchwyr-cymraeg-eu-hiaith/
Dan arweiniad S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI Cymru, mae Y Labordy yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ar gyfer cynhyrchwyr ffilm, teledu a theatr sy'n dod i'r amlwg ac sydd â'r gallu i weithio yn y Gymraeg.
Mewn rhaglen fentora a dosbarthiadau meistr a gynhelir ar-lein dros gyfnod o chwe mis, bydd Y Labordy yn archwilio'r sgiliau sydd eu hangen ar gynhyrchwyr - sgiliau creadigol, sgiliau ym myd busnes ac o ran arweinyddiaeth.
Y nod yw rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o arferion y diwydiant, apêl ryngwladol a'u gweledigaeth unigryw eu hunain.
Trwy Y Labordy bydd y pedwar cynhyrchydd llwyddiannus yn nodi ble maen nhw yn eu gyrfaoedd ar hyn o bryd, yn darganfod sut maent am symud ymlaen ac esblygu, a dysgu sut y gallant wireddu hyn.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cefnogaeth bersonol gan fentor sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn ogystal â dosbarthiadau meistr mewn grŵp dan arweiniad siaradwyr gwadd.
Bydd y rhaglen yn cyflwyno hyn gan ddefnyddio dull uchelgeisiol, amlddisgyblaethol, gyda'r cynhyrchwyr yn cael eu hannog i archwilio gweithio ar draws ffilm, teledu a theatr, yn ogystal â llwyfannau eraill fel VR, technoleg trochi a gemau.
Mae dwy raglen flaenorol Y Labordy wedi cynnig cymorth i awduron Cymraeg sy'n dod i'r amlwg i ddatblygu eu gyrfaon, e.e. Fflur Dafydd (Yr Amgueddfa), Dafydd James (Gwaith / Cartref), Bethan Marlow (Afiach), a Jon Gower, yn ogystal â'r cyfarwyddwyr Mared Swain (Bregus), Eilir Pierce (Marvin), Hanna Jarman (Merched Parchus), a Nico Dafydd.
Cawsant arweiniad a chyngor gan bobl greadigol brofiadol fel Euros Lyn (Y Llyfrgell, Dream Horse), Rachel Talalay (Sherlock, Doctor Who), Arwel Gruffydd (Theatr Genedlaethol Cymru), a Vicky Jones (Fleabag).
Meddai Swyddog Datblygu RHWYDWAITH BFI Cymru, Gwenfair Hawkins: "Dyw hi ddim yn gyfrinach bod tirwedd celfyddydol Cymru yn hynod gyfoethog.
"Er mwyn cefnogi ein lleisiau creadigol ymhellach rydym angen cynhyrchwyr cyffrous, talentog i weithio ar draws y diwydiannau er mwyn datblygu a hyrwyddo cynnwys yn yr iaith Gymraeg adref a thramor."
Meddai Lisa Matthews-Jones, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru: "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae'n hanfodol datblygu talent a darparu llwybrau gyrfa newydd i gynhyrchwyr sy'n dod i'r amlwg ym myd theatr, ffilm a theledu; mae'n bwysicach nag erioed.
"Trwy esblygu prosiect Y Labordy a pharhau â'n partneriaeth â Ffilm Cymru, Rhwydwaith y BFI ac S4C, bydd y cyfleoedd cyffrous hyn yn helpu i gryfhau a gwasanaethu'r sector yng Nghymru. "
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Mae S4C yn falch iawn o gael gweithio gyda'n partneriaid ar Y Labordy unwaith eto, ac i ddatblygu'r to nesaf o gynhyrchwyr drama y tro hwn.
"Mae prinder gwirioneddol o gynhyrchwyr sy'n gallu gweithio'n y Gymraeg.
"Buaswn i'n annog pobl sydd efallai â phrofiad blaenorol fel rheolwyr cynhyrchu, cynorthwywyr cyfarwyddo, neu o weithio ym maes golygu neu gynhyrchu sgript, neu ar yr ochr gynhyrchu i ddod i'r digwyddiad lansio i glywed mwy am y cynllun arbennig yma.
"Bydd cyfleoedd cyffrous i gynhyrchu dramâu teledu dros y blynyddoedd nesaf, a bydd Y Labordy yn meithrin y dalent newydd yma yn barod i ateb y galw."
Mae ceisiadau am Y Labordy ar agor tan 3pm ddydd Gwener 3 Rhagfyr.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i:
31 Hydref 2021 - Datgelu Emyn mwyaf poblogaidd Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45693/datgelu-emyn-mwyaf-poblogaidd-cymru/
Mewn rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol heno (31 Hydref) datgelwyd canlyniad pleidlais y gwylwyr ar gyfer Emyn i Gymru 21.
Cyhoeddodd Huw Edwards mai Bro Aber gyrhaeddodd y brig gan wylwyr S4C.
Derbyniwyd dros 1,100 o bleidleisiau wedi i'r gyfres boblogaidd Dechrau Canu Dechrau Canmol lansio pôl piniwn nôl yn yr haf.
Perfformiwyd yr emynau gyrhaeddodd y deg uchaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Owain Arwel Hughes a chôr o 60 o bobol o bob cwr o Gymru i nodi penblwydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn 60 eleni.
Meddai Huw Edwards: "Mae gan bawb ei hoff Emyn, a tasg amhosib a dweud y gwir yw dewis gan bod ni'r Cymry yn gallu rhestru cynifer o Emynau a fyddai'n haeddu bod yn fuddugol.
"Da o beth yw gweld bod Emyn cymharol fodern wedi dod i'r brig."
Ychwanegodd Delyth Morgans Phillips, sy'n arbenigo ar Emynau: "Dyma Emyn cynulleidfaol, un o rai gorau ail hanner yr ugeinfed ganrif.
"Gwaith comisiwn oedd hi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983 ar gyfer cystadleuaeth Cyfansoddi Emyn Dôn.
"Mae'n Emyn pwerus, sy'n ein dyrchafu ni ac mae'r dôn a'r geiriau yn cyd-fynd yn berffaith."
Datgelwyd hefyd bod In Memoriam yn ail agos iawn ac mai dim ond llond dwrn o bleidleisiau oedd ynddi, yn ôl canlyniad y bleidlais.
1. Bro Aber
2. In Memoriam
3. Gwahoddiad
4. Rhys
5 Arwelfa
6. Tydi a roddaist
7. Ellers
8. Coedmor
9. Dim ond Iesu a Sirioldeb
10. Bryn Myrddin
Gan bo dwy emyn yn gydradd nawfed, clywyd perfformiadau ardderchog o'r 11 emyn poblogaidd.
Yn ystod y rhaglen hefyd cyhoeddwyd cystadleuaeth newydd i gyfansoddi geiriau emyn gyda gwobr o £200.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn rhaglen Gwyl Dewi Dechrau Canu Dechrau Canmol pan fydd cystadleuaeth i gyfansoddi emyn dôn i'r geiriau newydd yn cael ei lansio.
Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.s4c.cymru/cy/cerddoriaeth/dechrau-canu-dechrau-canmol/
Dyma ganlyniadau'r pôl piniwn:
1. Bro Aber (162); 2. In Memoriam (156); 3. Gwahoddiad (100); 4. Rhys (78); 5. Arwelfa (76); 6. Tydi a roddaist (60); 7. Ellers (57); 8. Coedmor (51); 9. Dim ond Iesu (41) + Sirioldeb (41); 11. Bryn Myrddin (40); 12. Clawdd Madog (36); 13. Ty Ddewi (34); 14. Builth (33); 15. Cwm Rhondda (32); 16. Blaenwern (29); 17. Pennant (27); 18. Pantyfedwen (23); 19. Penmachno (19); 20. Godrer Coed (11).
Cyfanswm - 1,107 o bleidleisiau.
29 Hydref 2021 - Gwyliwch gemau rhyngwladol tîm rygbi menywod Cymru ar S4C a BBC Cymru dros yr Hydref
Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru a fydd yn gweld pob un o gemau rygbi Rhyngwladol Menywod Cymru yn cael eu darlledu ar deledu yr hydref hwn.
Bydd y tair gêm yn cael eu cyflwyno ar y teledu gan Catrin Heledd a bydd sylw hefyd ar Radio Wales a Radio Cymru.
Bydd gan Radio Cymru hefyd sylwebaeth fyw lawn o holl Gemau Rhyngwladol yr Hydref tîm dynion Cymru, gan ddechrau gyda Chymru v Seland Newydd ddydd Sadwrn 30 Hydref.
Bydd tîm menywod Cymru'n cychwyn Gemau'r Hydref ar 7 Tachwedd yn fyw o Barc yr Arfau Caerdydd wrth i dîm capten Siwan Lillicrap fynd benben â Japan.
Bydd y gêm honno i'w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi, am 4.45yh ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael.
Nesaf, bydd Cymru'n wynebu De Affrica ar 13 Tachwedd gyda'r ddau wrthwynebydd yn cystadlu â Chymru am le yn 10 uchaf rygbi menywod y byd.
Bydd y trydedd gêm, a gêm olaf Cymru yn y gyfres, ar 21 Tachwedd, yn erbyn Canada, sydd ar hyn o bryd yn drydydd yn y byd.
Daw'r newyddion ar adeg cadarnhaol i'r tîm gyda'r cyhoeddiad diweddar bod y tîm hyfforddi profiadol Ioan Cunningham, Geraint Lewis a Richard Whiffin wedi'u cadarnhau hyd at, ac yn cynnwys, Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
Meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: "Rydw i mor falch ein bod ni wedi gallu cyhoeddi'r cytundeb newydd hwn gyda'r WRU.
"Mae BBC Cymru wedi ymrwymo i ddod â chwaraeon menywod o'r safon uchaf i'r gynulleidfa ac mae'r cytundeb hwn yn caniatáu i gefnogwyr ddilyn taith y tîm trwy gydol y twrnamaint.
"Dwi methu aros i weld yr ymgyrch yn cychwyn."
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Fel cefnogwyr o bob lefel o rygbi yng Nghymru, ry'n ni'n edrych ymlaen i weld menywod Cymru yn cychwyn ymgyrch yr Hydref yn fyw ar S4C.
"Pob lwc i'r menywod yn y tair gêm, byddwn ni gyda chi yr holl ffordd."
Gemau Rhyngwladol yr Hydref
Dydd Sul 7 Tachwedd: Cymru v Japan, 5pm, S4C
Dydd Sadwrn 13 Tachwedd: Cymru v De Affrica, 12.15pm, BBC Two Wales
Dydd Sul 21 Tachwedd: Cymru v Canada, 5pm, BBC Two Wales
28 Hydref 2021 - S4C yn tanio’r sgwrs am yr amgylchedd
Ffynhonnell: s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45576/s4c-yn-tanior-sgwrs-am-yr-amgylchedd/
Bydd S4C yn dangos amrywiaeth eang o raglenni ac eitemau ar yr amgylchedd a'r hinsawdd ddechrau fis Tachwedd er mwyn nodi cynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig fydd yn cael ei chynnal yn Glasgow rhwng y 1af a'r 12fed o Dachwedd.
Bydd y cyfan yn cychwyn gyda Newyddion yn darlledu'n fyw o Glasgow ar nos Lun 1 Tachwedd.
Yna, ar yr un noson bydd rhifyn arbennig o Ffermio yn trafod pwysigrwydd yr amgylchedd i fyd amaeth.
Ar y Nos Lun ganlynol 8 Tachwedd bydd rhifyn arbennig o Pawb a'i Farn yn dod o ganolfan M-SParc yn Ynys Môn.
Bydd Y Byd ar Bedwar hefyd yn edrych ar effaith cynhesu byd eang ar bentrefi glan môr Cymru yn rhifyn Nos Fercher 10 Tachwedd, a bydd Aled Sam a Mandy Watkins yn edrych ar dai gwyrdd mewn rhifyn arbennig o Dan Do.
Yn ogystal bydd eitemau ar Ap Newyddion Digidol S4C, ac ar Hansh. Bydd amryw o eitemau ar Heno a Prynhawn Da hefyd yn ystod y bythefnos gan gynnwys her i deuluoedd i fyw heb blastig, ymgyrch coedwigoedd ac eitemau amrywiol o Glasgow.
Bydd gwasanaeth plant S4C Cyw hefyd yn nodi'r achlysur gyda'r gân 'Ailgylchu' fel Cân yr Wythnos.
"Fel darlledwr cyhoeddus mae'n allweddol fod S4C yn ymateb a dangos arweiniad i'r hyn sy'n digwydd yn y byd." meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"O'r plant ieuengaf, i gynulleidfa Hansh i'n gwylwyr hŷn, ry'n ni'n falch iawn o gynnig stôr o raglenni ac eitemau i nodi'r gynhadledd bwysig hon.
"Does dim gwadu fod newid hinsawdd a'r amgylchedd yn mynd i gael effaith ar bob un ohonom ac rydym yn falch o allu cynnig trawsdoriad o raglenni sy'n edrych ar bwysigrwydd y pwnc amserol hwn."
25 Hydref 2021 - Cwrdd â chyflwynwyr newydd Cyw
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45615/cwrdd--chyflwynwyr-newydd-cyw/
Bydd dau wyneb newydd sbon – Griff Daniels a Cati Rhys – yn camu o flaen y camera i ymuno â thîm cyflwyno Cyw, gwasanaeth S4C i blant meithrin.
Mae Griff Daniels, sy'n 21 oed o Bontypridd newydd raddio o Brifysgol Lerpwl, lle bu'n astudio Daearyddiaeth. Tra'n y brifysgol, dechreuodd weithio tu ôl i'r llen ar orsaf radio'r brifysgol cyn cyflwyno.
"Rhwng y sgwennu sgriptiau, cynhyrchu ac ati ar gyfer y rhaglen radio, dyma sydd wedi'n arwain i fod â diddordeb mewn cyflwyno. Dwi'n aelod o fand Wigwam, ac rydym ni wedi bod yn perfformio mewn gwyliau fel y Steddfod ac ati, yn ogystal ag mewn sawl Ysgol Gynradd. Felly pan weles i swydd Cyw yn cael ei hysbysebu, nes i feddwl byddai'n gyfle gwych i gyfuno dau beth dwi wedi mwynhau gwneud, sef cyflwyno a chymryd rhan mewn sioeau byw."
Un sy'n wreiddiol o Gaernarfon, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd yw Cati Rhys, sy'n 22 oed. Astudiodd gwrs Perfformio Coleg y Drindod yng Nghaerdydd, ac mae'n un sydd wedi mwynhau perfformio ers yn blentyn bach:
"Dwi wastad wedi gweld fy hun fel person creadigol, o ran y ffordd dwi'n meddwl. Ro'n i'n mwynhau 'cyflwyno' ryw raglen ddychmygol wrth fynd ar daith hir yn y car pan o'n i'n fach! Ges i'r fraint o fod yn rhan o Gwmni Theatr Maldwyn pan ro'n i'n hŷn, ac na'th hynna sbarduno diddordeb mewn canu, actio a dawnsio."
Er fod y profiad o gyflwyno o flaen y camera'n beth newydd i Cati, mae hi'n gyfarwydd â gweithio y tu ôl i'r llenni drwy fod yn Ymchwilydd ac yn Redwr mewn Eisteddfodau a gwyliau eraill.
Bydd y ddau yn ymuno ag Elin Haf a Huw Owen i gyflwyno'r gwasanaeth.
Meddai Griff: "Dwi'n edrych ymlaen at wneud sioeau byw a chael gweld ymateb y plant, a gallu gweld effaith be rydych chi'n ei gynhyrchu - ddim jest ar y plant ond y rhieni hefyd."
Mae Cati hefyd yn edrych ymlaen at yr her newydd:
"Mae o'n deimlad o 'fanma dwi fod' rywsut. Dwi'n edrych 'mlaen at yr elfen sgriptio, ymchwilio yn ogystal â gwneud y gwaith o flaen y camera. Dwi'n edrych ymlaen at weithio efo'r tîm, sydd mor gyfeillgar, a dysgu gymaint oddi wrth Elin a Huw. Ond yn fwy na dim, dwi'n edrych ymlaen at ddweud helo wrth blant Cymru!"
24 Hydref 2021 - Noson lwyddiannus i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45574/noson-lwyddiannus-i-s4c-yng-ngwobrau-bafta-cymru/
Llwyddodd S4C i ennill pedair gwobr yng ngwobrau BAFTA Cymru heno, wrth i'r gwobrau gael eu cyhoeddi mewn seremoni ar-lein gydag Alex Jones yn cyflwyno.
Bu dathlu mawr yng Nghaernarfon wrth i'r gyfres ddogfen bry ar y wal Dolig Ysgol Ni: Maesincla (Cwmni Darlun) gipio'r Rhaglen Adloniant Orau .
Llwyddodd cyfres boblogaidd Deian a Loli (Cwmni Da) i ennill gwobr y Rhaglen Blant Orau.
Enillodd rhaglen Pawb a'i Farn (Tinopolis) y wobr yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes am rifyn arbennig ar Black Lives Matter.
Yn ogystal, llwyddodd Michael Kendrick Williams i ennill y wobr Torri Trwodd am ei waith ar gynhyrchiad Britannia: Tân ar y Bont (Rondo Media).
Wrth longyfarch yr enillwyr meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Ry'n ni wrth ein bodd o ennill pedair gwobr BAFTA Cymru heno.
"Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector.
"Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o'r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr.
"Llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr i gyd."
14 Hydref 2021 - Prifysgol Bangor yn noddi dramâu'r Hydref ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45420/prifysgol-bangor-yn-noddi-dramur-hydref-ar-s4c/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Prifysgol Bangor yn noddi rhai o gyfresi drama mwyaf poblogaidd y sianel yr Hydref hwn.
Bydd y Brifysgol yn noddi tair drama sef cyfres ddrama dywyll Craith, yn ogystal â dwy o operâu sebon poblogaidd y sianel sef Rownd a Rownd a Pobol y Cwm.
Mae Craith yn un o gyfresi mwyaf yr Hydref ar S4C a bydd y drydedd cyfres o'r ddrama drosedd yn siŵr o gadw gwylwyr ar flaen eu seddi.
Gydag enwau mawr yn y cast fel Sian Reese Williams a Sion Alun Davies mae'r gyfres eto wedi ei lleoli yng nghanol mynyddoedd a llechi ardal Eryri.
Mae Rownd a Rownd hefyd yn un o operâu sebon eiconig gogledd Cymru sy'n parhau i ddal ei thir fel un o gyfresi mwyaf poblogaidd y sianel yn ogystal â sebon mwyaf hirhoedlog S4C sef Pobol y Cwm.
Meddai Alex Hardie, Pennaeth Brand Prifysgol Bangor:
"Rydyn ni wrth ein boddau i gefnogi drama o safon ar S4C. Mae Craith, Pobol y Cwm a Rownd a Rownd yn llwyddo i adrodd straeon ar deledu yn gelfydd tu hwnt ac i safon byd-eang.
"Gyda balchder mawr rydym yn cefnogi'r celfyddydau creadigol trwy ddod â rhaglenni eithriadol, a grëwyd yng Nghymru, i'r sgrin fach." Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:
"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i Brifysgol Bangor am noddi cyfresi drama'r Hydref ar S4C.
"Rydym wrth ein bodd fod ein dramâu yn taro deuddeg gyda'n gwylwyr ac yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd eang, ac yn falch iawn fod y Brifysgol yn dewis noddi ein harlwy."
14 Hydref 2021 - Podlediad newydd yn trafod problemau pobl ifanc
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45406/podlediad-newydd-yn-trafod-problemau-pobl-ifanc-/
Faint ohonoch chi sy'n fodlon cyfaddef yn gyhoeddus i sleidio i mewn i DMs rhywun?
Dyma un o'r pynciau llosg a drafodir yn Probcast, podlediad newydd sbon gan Hansh.
Bob wythnos bydd Hollie Smith, Beth Frazer, Mared Jarman ac Amber Davies yn cymryd tro i gadeirio tra bod y tair arall yn dadlau eu hachos dros gael y broblem 'gwaethaf'.
Mae'r pedair yn byw gydag anabledd, felly mae'r sgyrsiau yn eang – o rwystrau penodol a phersonol iddynt i broblemau cyfoes all bawb uniaethu gyda nhw.
"I fi, oedd bod yn rhan o'r podcast yn agoriad llygaid i brofiadau pobl eraill yn y gymuned anabl," meddai Hollie Smith, sy'n newyddiadurwraig o'r Wyddgrug.
"Fel rhywun byddar, profiad cyfyngedig sydd gen i o ran yr heriau sy'n wynebu pobl byddar yn benodol - ond oedd cael clywed profiadau Mared, Amber a Beth wedi fy helpu i ddeall yr heriau sy'n bodoli ar raddfa ehangach - ac yn gyfle i rannu profiadau efo pobl sydd wir yn deall realiti byw efo anableddau yn yr unfed ganrif ar hugain."
Meddai Beth Frazer o Ynys Môn: "Da ni gyd efo gwahanol anableddau neu salwch cronig, ac mae'n gyfle i siarad am bethau 'sa ni'n licio newid - fel pobl sy'n rhy gyflym i farnu.
"Mae un o'r genod bron yn ddall ac mae hi wedi cael pobl yn gweiddi arni wrth fynd mewn i doiled anabl.
"Tydi pob anabledd ddim yn visible felly gobeithio trwy wrando bydd pobl mwy empathetic, yn meddwl cyn dweud pethau a bod 'chydig fwy mindful.
"I fi, mae'n bwysig bod yn mindful be 'da chi'n ddweud ar-lein. Ges i fy cyber-bwlîo pam wnes i fundraisio ar gyfer triniaeth i brain tumour fi.
"Oedd o'n rili scary ar y pryd – fe wnaeth un boi ddweud ei fod isio saethu fi. Pam mae pobl yn meddwl bod nhw'n gallu dweud pethau fel yna ar-lein?
"Ar un ochr mae pŵer social media yn gallu bod yn amazing, ond yn sicr tydi online trolling ddim."
"Nes i rili mwynhau'r profiad o greu Probcast. Da ni bob tro yn teimlo mor hapus yn gadael y podcast, mae fel outlet i gael pethau allan a fentio am bethau sydd wedi digwydd yr wythnos honno."
Daeth Probcast i fodolaeth ar ôl galwad am gyfranwyr gan y gwasanaeth digidol, Hansh.
Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Ar-lein S4C: "Mae'r podlediad wedi tyfu allan o sesiynau mentora Medru Hansh - seminarau ar-lein ar gyfer crewyr cynnwys anabl, pobl ifanc sy'n angerddol am gynnwys ar-lein.
"Mae'n wych gweld fod y syniadau hynny wedi datblygu â bellach yn cael eu rhannu â chynulleidfa eang Hansh."
Gwrandewch ar Hollie, Beth, Mared ac Amber yn rhoi'r byd yn ei le ar Spotify neu Apple Podcasts.
13 Hydref 2021 - Cyfres yn ennill gwobr yng Ngŵyl New York TV and Film
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45351/cyfres-yn-ennill-gwobr-yng-ngyl-new-york-tv-and-film/
Mae cyfres S4C Bethesda: Pobol y Chwarel wedi ennill gwobr yng ngŵyl New York TV and Film.
Enillodd y gyfres gwobr efydd yn y categori i raglenni dogfen sef 'Portreadau Cymunedol'.
Cafodd Bethesda: Pobol y Chwarel ei darlledu ar S4C ym mis Mawrth 2020. Cyfres 'pry ar y wal' oedd hon, yn dathlu pobl y pentref, ac yn clustfeinio ar beth oedd yn digwydd yn eu bywydau.
Mae'n dangos Bethesda, neu 'Pesda' fel mae'r trigolion yn ei alw, fel tref llawn hanes, yn fwrlwm o weithgaredd ac â chymeriadau arbennig - pob un â'i stori; pob un â'i freuddwyd.
Cafodd y llwyddiant ei ddatgan mewn noson gwobrwyo arbennig ar-lein neithiwr (nos Fawrth, 12 Hydref.
Cynhyrchwyd y gyfres gan Nia Parry a Deiniol Morris a'i chyfarwyddo gan Rhodri Davies ar gyfer Boom Cymru.
Yn ôl Nia: "Y peth mwya' arbennig am weithio ar y gyfres oedd y croeso gawson ni a'r fraint o gael adrodd straeon cymeriadau Bethesda. Cymuned glos Gymreig, cymuned sydd wedi'u cysylltu drwy eu perthynas â'r chwarel a'r llechi a'r tirwedd o'u cwmpas.
“Mae 'na straeon sy'n dangos cyfeillgarwch, entrepreneuriaeth, gobaith, hwyl, ac egni a gwydnwch pobl. Nhw sydd wedi ennill y wobr hon - eu stori nhw ydy hi ac fe fuon ni fel tîm bychan iawn yn freintiedig i gael ei hadrodd hi."
Meddai Rhodri Davies: "Yn Bethesda buon ni'n lwcus i ddarganfod y rhyfeddol yn y lleol, ac mae'r ffaith bod lleisiau'r filltir sgwâr wedi ennill llwyddiant rhyngwladol yn destament i ysbryd unigryw trigolion Dyffryn Ogwen. Fel cyfarwyddwr y gyfres wy'n falch iawn o hynny."
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C: "Llongyfarchiadau mawr i Nia, Boom Cymru a phawb a wnaeth cymryd rhan yn y cynhyrchiad arbennig hwn. Mae Bethesda: Pobol y Chwarel yn gyfres bwysig iawn, nid unig i gofnodi bywyd go iawn mewn cymuned sy'n wynebau sialensiau enfawr ond hefyd fel darn o hanes cymdeithasol ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod."
Mae gwobrau Gŵyl New York TV and Film yn anrhydeddu cynnwys o bob hyd a ffurf o dros 50 o wledydd. Gan gynnwys pob agwedd o'r diwydiannau teledu a ffilm, mae'r categorïau'n adlewyrchu tueddiadau byd-eang cyfoes gyda'r bwriad o annog y genhedlaeth nesaf o storïwyr.
12 Hydref 2021 - S4C yn dangos uchafbwyntiau o gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/45339/s4c-yn-dangos-uchafbwyntiau-o-gemau-cymru-yng-nghyfres-yr-hydref/
Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau o bob gêm Cymru yn ystod Cyfres yr Hydref.
Bydd Cymru yn croesawu Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia i'r Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn ystod Hydref a Thachwedd.
Yn dilyn cytundeb gyda deiliaid yr hawliau darlledu, Amazon Prime, bydd uchafbwyntiau estynedig Cymraeg o bob gêm yn cael ei ddarlledu ar S4C awr ar ôl y chwiban olaf. Bydd yr uchafbwyntiau hefyd i'w gweld ar S4C Clic yn dilyn darllediad y rhaglen.
Sarra Elgan fydd yn arwain tîm cyflwyno S4C yn ystod y gyfres, gyda Gareth Charles yn y blwch sylwebu a Rhodri Gomer yn gohebu. Ymysg yr enwau fydd yn dadansoddi'r gemau bydd cyn chwaraewyr Cymru, Gwyn Jones a Shane Williams, a'r cyn dyfarnwr, rhyngwladol Nigel Owens.
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae S4C yn falch i bartneru gydag Amazon Prime er mwyn sicrhau arlwy cynhwysfawr o Gyfres Hydref y Cenhedloedd yn yr iaith Gymraeg ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
"Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus am-ddim i ddangos uchafbwyntiau o bob un o gemau Cymru yn ystod Cyfres Hydref y Cenhedloedd, fe fyddwn ni ar yr awyr awr ar ôl y chwiban olaf gyda'r holl uchafbwyntiau a'r ymateb. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael eich cwmni."
30 Medi 2021 - Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44905/pwysigrwydd-yr-iaith-gymraeg-i-s4c/
Does dim amheuaeth fod y flwyddyn diwethaf wedi profi gwerth darlledwyr cyhoeddus yn fwy nag erioed.
Fel yr unig wasanaeth teledu Cymraeg, mae'r iaith yn greiddiol i fodolaeth S4C ac yn ganolbwynt allweddol i'w holl ddarpariaeth.
Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o'r flwyddyn ariannol hyd 31 Mawrth 2021, mae S4C yn falch o'i lle a'i dyletswydd dros y Gymraeg, ac yn parhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib, fel cyflogwr ac wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd.
Wrth gynorthwyo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, mae S4C wedi ymrwymo i gefnogi defnydd a datblygiad yr iaith Gymraeg fel iaith hyfyw yn fewnol, o fewn y gymdeithas ehangach ac yn ddigidol, yn ôl Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.
"Mae 'na le i S4C o fewn ein cymdeithas, ar lawr gwlad ac yn ddigidol.
"Ry'n ni'n parhau i arbrofi ac arloesi gyda syniadau newydd, ac o hyd yn ceisio canfod y peth nesa' i ddatblygu.
"Mae gwerthoedd S4C yr un peth ag erioed – y Gymraeg sydd wrth wraidd yr hyn ni'n wneud."
"Dros y flwyddyn, mae S4C wedi arloesi ar lwyfannau newydd i gynnwys y Gymraeg, ac yn benodol ar lwyfannau digidol.
Cyrhaeddodd gwasanaeth ar alw S4C Clic 236,000 o danysgrifiadau yn ddiweddar.
"Mae ein hymrwymiad i addysg hefyd yn parhau yn flaenoriaeth fawr i ni. Ry'n ni'n falch iawn o'r cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar blatfform Hwb a'n gallu i greu cynnwys sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm."
Ychwanegodd Owen Evans: "Mae S4C yn nesáu at ben-blwydd pwysig iawn, deugain oed! Ers 1982, mae S4C wedi cynnig platfform i ddefnyddio a datblygu'r iaith Gymraeg.
"Drwy ein cynnwys, mae S4C yn cynnig cyfleoedd i weithio'n y Gymraeg drwy'r wlad.
"Ac ar y sgrin, mae Cyw wedi dod yn ffrind i deuluoedd ifanc ar draws Cymru, ac yn fwy diweddar, ein gwasanaeth digidol Hansh yn camu i'r adwy wrth ddenu gwylwyr ifanc i fwynhau a gwylio'n y Gymraeg.
"Ond ar ben hynny, mae S4C yma i bawb o bob oed, a dwi'n methu aros i weld beth arall ddaw wrth i S4C barhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib."
30 Medi 2021 - Hansh yn rhoi newyddion yn nwylo Cymry ifanc
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44908/hansh-yn-rhoi-newyddion-yn-nwylo-cymry-ifanc/
Newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a'r pynciau poethaf ar y cyfryngau cymdeithasol - dyma fydd rhai o'r blaenoriaethau i newyddiadurwyr newydd Hansh eleni.
Fel rhan o gynllun hyfforddiant i newyddiadurwyr Cymraeg, sydd bellach yn ei phedwerydd blwyddyn o'r cynllun, mae ITV Cymru Wales a S4C yn rhoi cyfle unwaith eto i ddau ddarpar newyddiadurwr i ddysgu a meithrin sgiliau allweddol o fewn y gweithle.
Eyitemi Smith o Gaerdydd ac Indigo Jones o Abertawe sydd wedi ennill eu lle ar y cynllun hyfforddiant eleni.
Bydd y ddwy yn creu cynnwys digidol i blatfformau Hansh Dim Sbin ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaeth newyddion digidol S4C.
Meddai Indigo: "Dwi wir eisiau defnyddio'r llwyfan i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig, efallai nid ydym wedi ystyried trafod yn agored yn y cyfryngau.
"Rydw i eisiau defnyddio fy llais i gynrychioli pobl o'm cwmpas. Rwy'n gobeithio trafod pynciau sy'n gyfoes, pethau rydyn ni'n eu gweld bob dydd p'un a ydyn nhw'n wleidyddol neu'n ddiwylliannol.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig siarad am yr hyn sy'n effeithio ar bobl yn ein cymuned, er enghraifft y rhai sy'n BAME, LGBTQIA, pobl sy'n llai ffodus ac sy'n ei chael hi'n anodd clywed eu barn."
Ychwanegodd Eyitemi: "Dwi'n cydnabod bod rhoi cyfle i bobl ifanc i fwynhau gweld a gwrando ar y newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i annog bobl i archwilio mewn i agweddau arall o Gymru fel ei diwylliant neu i ryngweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fwy cyffredinol.
"Rwy'n credu y bydd trafod materion cyfoes, y newyddion a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw yn Gymraeg nid yn unig yn ennill eu diddordeb, ond gobeithio yn eu hannog i ddefnyddio'r iaith yn fwy.
Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni yn ITV Cymru: "Mae ITV Cymru yn chwarae rhan elfennol wrth ddarparu newyddion Cymraeg dibynadwy i gynulleidfaoedd, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda S4C unwaith eto eleni ar y cynllun cyffrous yma.
"Bydd Temi ac Indigo yn cynnig persbectif a llais newydd i'r tim, gyda'r ffocws ar ddenu cynulleidfaoedd iau a newydd i'n cynnwys materion cyfoes drwy ddefnyddio ystod o dechnegau a llwyfannau drwy gyfrwng y Gymraeg. Croeso i'r tim Temi ac Indigo!"
Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Mae rhoi llwyfan i newyddiaduraeth gyfoes a barn pobol am beth sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas yn rhan bwysig o Hansh.
"Mae Hansh hefyd yn le i arbrofi gyda thechnegau cyhoeddi a chyfathrebu newydd, a dyw newyddiaduraeth ddim yn eithriad.
"Ein gobaith yw y bydd cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr yn dod yn hyderus yn defnyddio'r ystod o dechnegau a llwyfannau sydd ar gael iddynt, sydd mor hanfodol i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau ni yn gyfredol ac yn berthnasol.
"Am y tro cyntaf eleni hefyd bydd cyfle i weithio ar wasanaeth newyddion digidol S4C a fydd yn cynnig profiadau gwerthfawr iawn i Indigo ac Eyitemi.
"Ry'n ni'n edrych mlaen yn fawr at gydweithio gyda'r ddwy."
20 Medi 2021 - Chwaer Fach Chwaer Fawr ar restr fer y Griersons
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44792/chwaer-fach-chwaer-fawr-ar-restr-fer-y-griersons/
Mae rhaglen ddogfen DRYCH: Chwaer Fach, Chwaer Fawr wedi cael ei henwebu am wobr Grierson.
Mae gwobrau Grierson yn cydnabod a dathlu y rhaglenni dogfen gorau ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r genre.
Cafodd DRYCH: Chwaer Fach, Chwaer Fawr ei chynhyrchu fel rhan o'r gyfres S4C DRYCH gan y wneuthurwraig ffilmiau Nia Dryhurst o Gaernarfon a'i chwmni cynhyrchu Dogma.
Wrth wraidd y ffilm bersonol ac emosiynol yma mae'r perthynas anodd rhwng Nia a'i chwaer Llinos. Dyw'r ddwy - yr un yn gyn lleian a'r llall yn gyn sowldiwr - ddim yn dod ymlaen.
Ond pan gafodd Llinos ddamwain ddifrifol a thorri ei gwddw, Nia oedd y person cyntaf iddi ffonio o'i gwely o ysbyty arbenigol Stoke-on-Trent.
Roedd Nia yn gweld y ddamwain fel cyfle i geisio gwella ei pherthynas gyda'i chwaer fach; trwy sesiynau therapi, thrwy gyffes y camera a thrwy ffilmio'r cyfan.
Meddai Nia: "Dwi'n falch iawn o gael fy enwebu ar gyfer gwobr Grierson. Maent yn wobrau sy'n cael eu cydnabod fel Oscars y byd dogfen ac felly mae'n fraint o'r mwyaf cael rhoi llwyfan o'r fath i Chwaer Fach Chwaer Fawr. Mae'n rhoi cynyrchiadau o Gymru ar y map ac yn dangos bod rhaglenni dogfen o'r safon uchaf yn cael eu creu yma yng Nghymru."
"Ond nid enwebiad i unigolyn yn unig yw hwn. Mae'n ganlyniad i waith tîm. Ni fyddai unrhyw beth yn bosib heb dalent greadigol y criw cynhyrchu a heb gefnogaeth fy nheulu a S4C. Mae'n bleser ac yn anrhydedd, felly, cael creu ffilmiau Cymraeg sy'n cael eu hystyried ymysg y goreuon".
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol: "Mae cael enwebiad ar gyfer gwobr Grierson yn anrhydedd o'r mwya' ac yn profi y gallwn greu ffilmiau heriol yn Gymraeg sy'n gallu sefyll ochr yn ochr â ffilmiau dogfen gorau'r byd.
Mae Chwaer Fach, Chwaer Fawr yn ffilm hynod bersonol ac yn dangos dewrder a gonestrwydd rhyfeddol gan Llinos a Nia i rannu eu stori. Llongyfarchiadau mawr i Nia a'r tîm cynhyrchu i gyd."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Llundain ar nos Fercher, 10 Tachwedd 2021.
10 Medi 2021 - Tair gwobr i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44613/tair-gwobr-i-s4c-yng-ngyl-cyfryngau-celtaidd-2021/
Mae S4C wedi llwyddo i gipio tair gwobr yng Ngwyl Cyfryngau Celtaidd 2021 a gynhaliwyd ar-lein yr wythnos hon gyda'r cynyrchiadau llwyddiannus i gyd wedi eu cynhyrchu gan Cwmni Da yng Nghaernarfon.
Llwyddodd rhaglen hudol Nadolig Deian a Loli gipio'r wobr yn y categori Rhaglen Blant.
Daeth rhaglen dwymgalon Côr Digidol Rhys Meirion i'r brig yn y categori Adloniant a llwyddodd rhaglen antur Huw Jack Brassington, 47 Copa ennill y categori Dogfen Chwaraeon.
Cynhaliwyd y gwobrau ar-lein am y tro cyntaf erioed gyda'r comedïwr a'r actor Sanjeev Kohli yn cyflwyno ar y cyd â Cyfarwyddwr yr Ŵyl Catriona Logan.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: "Rydym yn falch iawn bod rhaglenni S4C wedi cael cydnabyddiaeth yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, ac wedi dod i'r brig mewn tri categori cystadleuol.
"Llongyfarchiadau mawr i Cwmni Da a'r holl dimau talentog sydd wedi gweithio'n ddiwyd ar y rhaglenni yma."
7 Medi 2021 - 12 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44477/12-o-enwebiadau-bafta-cymru-i-s4c/
Mae S4C wedi llwyddo i gael 12 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth 7 Medi.
Llwyddodd S4C i gipio pob un enwebiad yn y categori Rhaglen Adloniant gydag Am Dro! (Cardiff Productions), Dolig Ysgol Ni: Maesincla (Darlun TV) Priodas Pum Mil (Boom Cymru) a Sgwrs Dan y Lloer: Kristoffer Hughes (Tinopolis) yn cyrraedd y rhestr.
Yn ogystal, llwyddodd Elin Fflur i ennill enwebiad yn y categori Cyflwynydd am ei gwaith ar y gyfres boblogaidd Sgwrs Dan y Lloer (Tinopolis). Cyrhaeddodd Un Bore Mercher (Vox Pictures) y rhestr yn y categori Drama Deledu ac fe gafodd S4C ddau enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gyda Deian a Loli (Cwmni Da) a Mabinogi-ogi a Mwy (Boom Cymru).
Daeth dau enwebiad hefyd i S4C yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes.
Llwyddodd rhifyn arbennig o Pawb a'i Farn ar Black Lives Matter (Tinopolis) i ennill enwebiad yn ogystal a rhaglen ddogfen iasol Llofruddiaeth Mike O'Leary (ITV Cymru).
Hefyd llwyddodd Barry Jones i ennill enwebiad yn y categori Awdur am ei waith ar y gyfres gomedi Rybish (Cwmni Da), a daeth enwebiad i Nia Dryhurst yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol am ei gwaith ar y rhaglen ddogfen llawn tensiwn Chwaer Fach, Chwaer Fawr (Dogma).
Wrth longyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Ry'n ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2021.
"Mae'r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre, ac yn dathlu rhaglenni plant, drama, ffeithiol, adloniant a materion cyfoes."
"Rydw i'n falch iawn o bob un, a dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo ar lein."
Cynhelir y seremoni ddigidol ddydd Sul 24 Hydref 2021 am 7.00 yr hwyr ar draws sianeli cymdeithasol BAFTA.
1 Medi 2021 - S4C yn chwilio am Aelodau Bwrdd newydd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44408/s4c-yn-chwilio-am-aelodau-bwrdd-newydd/
Mae S4C yn chwilio am ddau Aelod Anweithredol newydd i Fwrdd Unedol y gwasanaeth.
Mae'r broses recriwtio yn cael ei harwain gan Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gyda hysbyseb am ddau Aelod Anweithredol newydd i ymuno gyda Bwrdd Unedol S4C.
Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod arall, bob un ohonynt wedi'u penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
"Yn sicr mae'r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn garreg filltir yn hanes S4C," meddai Owen Evans, Prif Weithredwr y sianel.
"Byddwn yn dathlu pen-blwydd S4C yn 40 oed yn 2022, ac wrth i ni lunio strategaeth i ail ddiffinio pwrpas S4C am y ddegawd nesaf mae'n gwbl allweddol fod gennym gynrychiolaeth o bob cefndir yng Nghymru i'n harwain i gyflawni ein gweledigaeth i'r dyfodol.
"Daw aelodau â sgiliau a phrofiad amrywiol i'r Bwrdd," meddai Cadeirydd S4C, Rhodri Williams.
"Er eu rôl ar y bwrdd yw sicrhau bod S4C yn cyflawni ei gorchwyl o ran gwasanaeth cyhoeddus a bod yr arian cyhoeddus sy'n dod i S4C o'r ffi'r yn cael eu defnyddio'n briodol."
Yn rhan o'i ymrwymiad diweddar i gynyddu amrywiaeth o flaen a thu ôl i'r sgrin, mae S4C yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd BAME a phobl ag anableddau.
Mae'n hanfodol fod y Bwrdd yn cynrychioli ac yn adlewyrchu'r amrywiaeth cynulleidfaol yng Nghymru ac ar draws y DU, ac felly gobaith S4C yw denu grŵp o ymgeiswyr cryf ac amrywiol o ystod o gefndiroedd.
Maent hefyd yn chwilio yn benodol am bobl a phrofiad o ddarlledu, cyfryngau digidol a'r diwydiannau creadigol ehangach; neu brofiad o reoli ariannol a dealltwriaeth dda o archwilio, llywodraethu, a rheoli risg.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar 16 Medi 2021.
Mwy o wybodaeth yma: 2 x Board Members – S4C / 2 x Aelod o'r Bwrdd – S4C (Sianel Pedwar Cymru) (cabinetoffice.gov.uk)
1 Medi 2021 - Rhaglenni S4C i'w diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44401/rhaglenni-s4c-iw-diogelu-yn-y-llyfrgell-genedlaethol/
Mae S4C wedi dod i gytundeb gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i sicrhau fod rhaglenni'r sianel yn cael eu diogelu a'u trosglwyddo i ofal y Llyfrgell fel rhan o'r Archif Ddarlledu Genedlaethol.
Bydd cynnwys, rhaglenni a chyfresi S4C a ddarlledwyd ers lansio'r sianel yn 1982 yn cael eu trosglwyddo i ofal yr Archif Ddarlledu.
Mae archif S4C yn gofnod pwysig o hanes Cymru ac yn ffynhonnell wybodaeth sy'n dangos datblygiad yr iaith Gymraeg a darlledu yng Nghymru.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Mae'n fraint i ni drosglwyddo ein harchif i ofal y Llyfrgell Genedlaethol, er mwyn sicrhau fod ein rhaglenni a'n cynnwys ers y dyddiau cynnar ar gael i bawb eu gweld.
"Mae ein harchif yn cynnwys stôr o hanes, gwybodaeth ac adloniant, ac mae'n holl bwysig fod y deunydd hwn ar gael i'r genedl gael eu hastudio, eu diogelu a'u mwynhau."
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: "Mae hyn yn newyddion ardderchog fydd yn dod â threftadaeth darlledu Cymru at ei gilydd, ochr yn ochr â'r holl ffynonellau hanesyddol eraill sydd gennym yn y Llyfrgell Genedlaethol."
Yn ôl Dafydd Tudur, Pennaeth Mynediad a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell: "Hon fydd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol gyntaf o'i bath yng ngwledydd Prydain a bydd y prosiect arloesol hwn yn dod â deunydd darlledwyr Cymru yn agosach at y bobl.
"Ein gobaith yw darganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio'r archif clyweledol yma fel ffynhonnell hanesyddol ac fel adnodd creadigol."
Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi'n helaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae prosiect yr Archif Ddarlledu Genedlaethol hefyd yn cynnwys archif BBC Cymru, yn ogystal ag archif ITV Cymru oedd eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol.
27 Awst 2021 - Gwyliwch y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar Y Clwb Rygbi a Scrum V
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44384/gwyliwch-y-bencampwriaeth-rygbi-unedig-ar-y-clwb-rygbi-a-scrum-v/
Mae S4C a BBC Cymru Wales wedi sicrhau cytundeb ar y cyd i ddangos gemau rhanbarthau rygbi Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig dros y pedair blynedd nesaf.
Bydd Scrum V Live yn dychwelyd i'r sgrin ar nos Wener tra bydd Y Clwb Rygbi ymlaen bob nos Sadwrn, wedi i'r darlledwyr cyhoeddus sicrhau hawliau i ddangos gemau byw ac uchafbwyntiau o'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Bydd Scrum V Live yn dangos 18 gêm yn fyw ar BBC Cymru Wales, gydag un gêm o bob rownd, tra bydd y rhaglen Scrum V yn dangos uchafbwyntiau o holl gemau'r penwythnos bob nos Sul.
Ar S4C, bydd Y Clwb Rygbi yn darlledu 27 gêm byw drwy'r tymor, gydag un gêm bob penwythnos, a dau neu dri gêm ar rhai benwythnosau.
Bydd gemau darbi'r Nadolig a gemau Dydd y Farn, i'w gweld naill ai ar Scrum V neu Y Clwb Rygbi. Bydd darpariaeth S4C hefyd yn cynnig sylwebaeth Saesneg ar bob gêm byw, drwy'r botwm coch.
Yn ogystal, bydd ailddarllediadau llawn o gemau eraill y rhanbarthau dros y penwythnos i'w gweld ar S4C.
Y gystadleuaeth newydd yw olynydd gynghrair y Guinness PRO14, ble fydd pedair rhanbarth rygbi Cymru yn herio 12 o'r timau gorau o Iwerddon, Yr Alban, Yr Eidal a De Affrica.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 24 Medi.
Meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau, BBC Cymru Wales: "Mae hwn yn becyn ffantastig o gemau byw i gefnogwyr rygbi dros y pedair blynedd nesaf.
"Mae'n newyddion gwych bod ein gwylwyr yn gallu mwynhau gemau ar Scrum V yn ogystal ag ar Y Clwb Rygbi ar S4C, gyda'r cyfan yn cael ei gynhyrchu gan ein tîm hynod dalentog yn BBC Cymru Wales, a'r cyfan am ddim i'w wylio.
"Mae'r cytundeb yma yn hwb enfawr i'r gymuned rygbi, sydd yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddarlledu chwaraeon yma yng Nghymru."
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae S4C yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda BBC Cymru Wales i ddangos gemau o'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar deledu cyhoeddus.
"Rydyn ni wedi dilyn rhanbarthau Cymru ers y cychwyn cyntaf a gyda 27 gêm byw yn ystod y tymor, gan gynnwys gemau darbi'r Nadolig a Dydd y Farn, mae ein darpariaeth ac ymrwymiad yn gryfach nag erioed."
BBC Cymru fydd yn cynhyrchu Clwb Rygbi ar gyfer S4C.
24 Awst 2021 - Wynebau newydd cyd-gynhyrchiad newydd Cyw
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44375/wynebau-newydd-cyd-gynhyrchiad-newydd-cyw/
Beth yw sêr? Beth sy'n digwydd y tu mewn i gyfrifiadur? A sut gafodd ffilmiau eu creu? Dyma'r cwestiynau mawr fydd yn cael eu holi (a'u hateb) yn Byd Tad-cu, cyfres newydd ar Cyw, y gwasanaeth i wylwyr ieuengaf S4C sy'n dechrau ar 3 Medi.
Mae'r gyfres yn gyd-gynhyrchiad gyda Channel 5 (y fersiwn Saesneg yn dwyn y teitl The World according to Grandpa), ac wedi seilio ar lyfrau Chris Heath o'r un teitl.
Mae bob pennod yn dechrau gyda chwestiwn i Taid (a chwaraeir gan yr actor Danny Grehan) gan un o'i wyrion neu wyresau. Mae ei ateb doniol, llawn dychymyg yn dod yn fyw gyda help pyped ac animeiddiad arbennig. Daw'r ateb ffeithiol gywir i ddilyn gan Heti'r gwningen hoffus.
Derbyniodd y gyfres gyfraniad gan Young Audiences Content Fund (YAC Fund) y British Film Industry, sy'n gronfa wedi'i ariannu gan y Llywodraeth gyda'r nod o greu prosiectau creadigol ac ysbrydoledig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C:
"Mae wedi bod yn wych i gydweithio gyda Channel 5 a'r YAC Fund sydd wedi'n caniatáu i greu cynnwys o'r safon uchaf i'n gwylwyr ieuengaf. Mae Byd Tad-cu yn gynhyrchiad llawn hwyl, egni a dychymyg, sy'n sicr am swyno a chyfareddu.
Ffilmiwyd y cyfan dan amodau heriol y Cyfnod Clo ddechrau'r flwyddyn, ac mae'n bleser gweld actorion ifanc talentog, y rhan fwyaf ohonynt yn wynebau newydd i'r sgrin yn serennu."
Ffilmiwyd y gyfres yng nghanol cyfyngiadau tyn cyfnod y clo ar ddechrau'r flwyddyn, yn dilyn apêl ar Facebook a'r we yn gwahodd plant i ymgeisio i fod yn aelodau o'r cast. Ac yn sgîl amodau'r cyfnod, cynhaliwyd y profion sgrin a'r ymarferion i gyd dros y we.
Ymysg y cast ifanc mae Seren Bowen sy'n 12 oed o Y Barri; Owen Jac Roberts, 12 o Aberystwyth; Santiago Ciaran, 9 oed o Gaerdydd; Gwen Nefydd, 10 oed o Wrecsam; Loti Mai Delve sy'n 9 oed o Y Bari, ac Elen Dafydd Roberts o Gaerdydd sy'n 8.
Bu'r profiad o ymddangos o flaen y camera yn un cwbl newydd i amryw o'r actorion ifanc:
"Hwn ydi'r peth cyntaf dwi wedi actio ynddo" meddai Santiago Ciaran o Gaerdydd, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd. "Dwi wir wedi mwynhau cwrdd â phawb a gweld sut mae pethau'n gweithio y tu ôl i'r llenni. Baswn i wrth fy modd yn cael actio eto!"
"Nes i wireddu breuddwyd wrth weithio ar y gyfres yma; roedd y broses yn un eitha' gwahanol oherwydd Covid, ond ro'n i'n falch i gael rhywbeth i edrych ymlaen ato, a gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl" meddai Owen Jac sy'n ddisgybl yn Ysgol Penglais, Aberystwyth.
Yn ôl Seren Bowen sy'n ddisgybl yn Ysgol Bro Morgannwg, Y Bari "Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel, a wnes i fwynhau gymaint".
Dim ond ar lwyfan roedd Gwen Nefydd o Ysgol Gynradd Plascoch, Wrecsam wedi perfformio o'r blaen, a hynny gyda chlybiau drama lleol: "Roedd yn brofiad mor gyffrous i gael mynd i lawr i Gaerdydd i weithio ar y rhaglen, ac ro'n i'n eitha' nerfus cyn mynd.
“Ges i help mam i ddysgu'r geiriau. Nes i fwynhau gweld sut roedd y sgrin werdd yn gweithio, a gwneud ffrindiau newydd. Golles i fy Nhaid nol ym mis Awst llynedd, felly roedd yn brofiad od gweithio gyda'r 'Taid' ar y rhaglen. Dwi'n siwr fyddai Taid wedi bod yn browd ohonof i."
Perfformio ar lwyfan oedd yn fwy cyfarwydd i Elen Dafydd Roberts, sy'n ddisgybl yn Ysgol Treganna, Caerdydd hefyd. Bu'n wyneb cyfarwydd i rai fu'n gwylio Eisteddfod T eleni wedi iddi cael llwyddiant ar amryw o gystadlaethau: "Hwn oedd y tro cyntaf i mi gael profiad mewn stiwdio, er 'mod i wedi gwneud ambell eitem ar gyfer rhaglenni Cyw yn y gorffennol" meddai Elen.
"Roedd yn brofiad da i ddysgu'r sgript o flaen llaw, ac ro'n i'n mwynhau dysgu sut roedd pethau'n gweithio y tu ôl i'r llenni – er enghraifft, roedd peli tennis yn hongian o'r nenfwd fel arwydd o lle roedd angen i ni edrych. Faswn i'n hoffi cyflwyno ar deledu pan dwi'n hŷn!"
I Loti Mai Delve, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Y Bari "roeddwn i wir yn mwynhau cyrraedd y set bob bore a chael mynd i gael colur a gwneud fy ngwallt. Roeddwn i'n hoffi actio gyda Heti'r gwningen (sef y pyped), a dawnsio'r cha cha cha yn y bennod 'Parotiaid'"!
23 Awst 2021 - Sgorio yn dangos gêm fyw o benwythnos agoriadol yr Adran Premier Genero
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44342/sgorio-yn-dangos-gm-byw-o-benwythnos-agoriadol-yr-adran-premier-genero/
Bydd y gêm fawr rhwng Met Caerdydd ac Abertawe ar benwythnos agoriadol y tymor newydd Adran Premier Genero i'w gweld yn fyw ar S4C.
Bydd Sgorio yn darlledu yn fyw o Stadiwm Cyncoed ar ddydd Sul 5 Medi wrth i'r pencampwyr ymweld â'r tîm ddaeth yn ail yn y gynghrair y tymor diwethaf.
Bydd y rhaglen yn cychwyn am 4.10yh, yn dilyn y gêm ryngwladol rhwng tîm dynion Belarws a Chymru, gyda'r gic gyntaf am 4.15yh.
Sioned Dafydd (gweler yn y llun uchod) fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda sylwadau arbennig gan chwaraewr Cymru a Reading, Natasha Harding, a'r hyfforddwraig Nia Davies.
Bydd Gabriella Jukes yn ohebydd a'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Kath Morgan yn ymuno â Mike Davies yn y blwch sylwebu, gyda sylwebaeth Saesneg i'w gael hefyd.
Meddai Sioned Dafydd: "Am ffordd i ddechrau'r tymor. Met Caerdydd ac Abertawe sydd wedi arwain y gynghrair dros y blynyddoedd diwethaf, ac mi fyddan nhw'n debygol o gystadlu am y bencampwriaeth eto eleni - er bod Caerdydd yn cau'r bwlch ar y ddau uchaf.
"Mae'r gemau yma yn nodweddiadol o rai rhwng timoedd Abertawe a Chaerdydd; gemau agos, cyffrous a chorfforol iawn, gyda lot o dacls yn mynd i mewn.
"Gobeithio gwelwn ni gêm gyffrous arall a gweld y tymor yn parhau yn yr un modd hefyd."
Unwaith eto, bydd Sgorio yn dilyn y gynghrair drwy gydol y tymor, drwy ddangos uchafbwyntiau o un gêm o'r gynghrair bob wythnos.
Bydd yr uchafbwyntiau i'w gweld ar raglen uchafbwyntiau Sgorio, am 5.30yh bob nos Lun, ac ar gyfryngau cymdeithasol @sgorio.
Hefyd ar gyfer y tymor newydd, bydd Sgorio yn lansio podlediad fideo newydd, o'r enw Gwennan a Sioned yn Siarad Ffwtbol, sydd yn canolbwyntio ar bêl-droed merched.
Sioned Dafydd a chyn-chwaraewr Cymru, Gwennan Harries, yw cyflwynwyr y podlediad. O'r gêm ryngwladol i'r Cynghreiriau Adran Cymru, bydd Siarad Ffwtbol yn adrodd y straeon diweddaraf ym myd pêl-droed merched, bob pythefnos.
Meddai Gwennan Harries: "Bydd Siarad Ffwtbol yn gosod sylfaen i'r gynghrair newydd, a hefyd y pêl-droedwyr sydd yn cystadlu yn Lloegr, ar draws y byd, ac ar lawr gwlad yma yng Nghymru.
"Mae'n gyfnod cyffrous achos mae pêl-droed merched wedi cael boom mawr dros y tair, pedair blynedd diwethaf, gyda mwy o blant ifanc yn chwarae a mwy o ddiddordeb yn y gêm ryngwladol.
"Gobeithio bydd hwn yn ffynhonnell o wybodaeth i ferched a bechgyn ifanc.
"Fel cyn-chwaraewr ac athrawes hefyd, mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r cyfle i fodelau rôl gael eu gweld yn gyson.
"Rhoi cyfleoedd i ferched ifanc yw'r peth pwysicaf i mi, cyfleodd iddyn nhw chwarae, gwylio gemau, dyfarnu a hyfforddi , ond hefyd rhoi cyfleoedd i'r chwaraewyr i gael mwy o'r sylw maen nhw'n haeddu."
Bydd Gwennan a Sioned yn Siarad Ffwtbol yn cael ei rhyddhau ar gyfryngau @sgorio bob pythefnos. I dderbyn holl gynnwys Sgorio, dilynwch @sgorio ar Twitter, Facebook ac Instagram.
5 Awst 2021 - S4C yn penodi Ysgrifennydd Bwrdd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44205/s4c-yn-penodi-ysgrifennydd-bwrdd-newydd/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Geraint Pugh wedi ei benodi i swydd Ysgrifennydd Bwrdd y sianel.
Yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan, ond bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth mae Geraint wedi gweithio fel Ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth ers dros wyth mlynedd.
Fel rhan o'i swydd newydd bydd Geraint yn gyfrifol am gynghori Bwrdd Unedol S4C er mwyn sicrhau fod llywodraethiant priodol ac effeithiol ar holl waith S4C.
Bydd hefyd yn brif bwynt cyswllt i Adran DCMS Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Meddai Geraint: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i ymuno gyda S4C, yn enwedig wrth i'r sianel baratoi i ddathlu'r deugain yn 2022.
"Mae gen i atgofion melys o dyfu fyny yn gwylio S4C yn yr 80au, a gyda newidiadau helaeth yn y byd darlledu ers hynny, yn sicr rwy'n ymuno ar adeg cyffrous iawn yn ei hanes.
"Fy mlaenoriaeth fydd gweithio gyda'r Bwrdd Unedol, y Tîm Rheoli, a staff y sianel i gymeradwyo a gwireddu strategaeth newydd S4C ar gyfer y cyfnod nesaf."
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd S4C: "Rydym yn falch iawn o groesawu Geraint i S4C ac mae'r Bwrdd yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gydag e yn ystod y blynyddoedd i ddod.
"Mae ei brofiad o lywodraethiant yn un o sefydliadau pwysig Cymru yn ei arfogi'n dda ar gyfer cynghori Bwrdd Unedol S4C."
Bydd Geraint yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Hydref.
22 Gorffennaf 2021 - Arddangosfa Cymry ar Gynfas i’w gweld yn Storiel
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44131/arddangosfa-cymry-ar-gynfas-iw-gweld-yn-storiel/
Yn dilyn y gyfres ddiweddaraf o Cymry ar Gynfas, a ddarlledwyd ar S4C ym mis Ebrill, mae gweithiau o'r ddwy gyfres nawr yn cael eu harddangos yn oriel ac amgueddfa Storiel, Bangor.
Mae'r gyfres Cymry ar Gynfas yn dangos wynebau mwyaf cyfarwydd o Gymru mewn ffordd hollol wahanol. Mae'r cyfresi wedi dod a deuddeg eicon a deuddeg artist Cymraeg at ei gilydd i greu deuddeg portread sy'n adlewyrchu personoliaeth y wynebau cyfarwydd a dull unigryw pob artist.
Ym mhob rhaglen, mae pob artist yn cael diwrnod gyda'u 'gwrthrych' mewn lleoliad o ddewis, yna yn dychwelyd i'r stiwdio i weithio ar y gwaith cyn datgelu'r portreadau gorffenedig.
Yn y gyfres ddiweddaraf, roedd y ddarlledwraig Beti George yn cael ei dehongli gan yr artist Catrin Williams, y naturiaethwr Iolo Williams yn cael ei beintio gan Meinir Matthias, y cerddor a phrif leisydd y band Candelas Osian Huw Williams gan Christine Mills, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd gan Anthony Evans, y gantores Kizzy Crawford gan Seren Morgan Jones a'r canwr a'r ymgyrchydd dylanwadol Dafydd Iwan gan Wil Rowlands.
Ac yn y gyfres gyntaf, cafodd Robin McBryde ei beintio gan Iwan Gwyn Parry, Max Boyce gan Meirion Jones, Catrin Finch gan Annie Morgan Suganami, Rhys Mwyn gan Luned Rhys Parry, Margaret Williams gan Sarah Carvell a Bryn Terfel gan Billy Bagilhole.
A nawr, mae cyfle i weld y gweithiau unigryw hyn yn Storiel, Bangor.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:
"Mae'n wych fod cyfle i arddangos casgliad trawiadol cyfresi Cymry ar Gynfas yn Storiel.
“Mae'r gweithiau yn rhai arbennig iawn ac wedi'u creu gan rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Mae'n bleser ein bod ni'n gallu cynnig cyfle i'r cyhoedd ddod i weld a mwynhau'r gweithiau yma."
Meddai Delyth Gwawr, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd:
"Rydym yn falch iawn o gael arddangos y casgliad deniadol hwn o bortreadau o rhai o Gymry amlwg yn Storiel.
“Difyr iawn oedd gweld yr artistiaid amrywiol dros y ddwy gyfres yn ymateb i'r her a gwych yw'r cyfle i wahodd y cyhoedd i weld y gweithiau gwreiddiol yma yn Storiel am gyfnod."
Mi fydd yr arddangosfa i'w gweld tan y pedwerydd o Fedi, ac mae'r gyfres ddiweddaraf o Cymry ar Gynfas hefyd ar gael ar alw ar S4C Clic.
22 Gorffennaf 2021 - S4C yn lansio gwasanaeth tywydd digidol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44116/s4c-yn-lansio-gwasanaeth-tywydd-digidol/
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth tywydd newydd digidol ar gael ar ap Newyddion S4C o heddiw ymlaen, 22 Gorffennaf.
Bydd y gwasanaeth yn ychwanegol i'r bwletinau sy'n cael eu cyhoeddi ddwywaith y dydd gan gyflwynwyr tywydd S4C.
Bydd modd gweld y tywydd ar gyfer dy ardal di, fesul diwrnod a fesul awr, a'r rhagolygon ar gyfer wythnos.
Dyma'r unig wasanaeth tywydd ar-lein yn y Gymraeg ac mae'r gwasanaeth yn bartneriaeth gyda'r Met Office.
Daw'r lansiad ar ddechrau'r gwyliau haf ac yn ystod un o wythnosau mwyaf crasboeth y flwyddyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd hyd at 30 gradd mewn sawl ardal o Gymru.
Lansiwyd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C ym mis Ebrill.
Ers lansio, mae'r ap a'r wefan wedi cyhoeddi cannoedd o straeon gwreiddiol, ac hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, yn ogystal â chyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C a gynhyrchir gan BBC Cymru. "Dyma gam allweddol arall yn natblygiad gwasanaeth newyddion digidol S4C." meddai Ioan Pollard, Golygydd Newyddion Digidol S4C. "Da'n ni'n falch iawn o lansio'r gwasanaeth tywydd ar ddechrau'r gwyliau haf.
"Mae'r tywydd wedi dod yn fwy pwysig nag erioed o'r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gallu cynnig gwasanaeth tywydd digidol Cymraeg i'n defnyddwyr yn holl bwysig."
21 Gorffennaf 2021 - Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2020/21 S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/44109/cyhoeddi-adroddiad-blynyddol-202021-s4c/
Mae S4C wedi llwyddo i sicrhau cynnydd yn ei ffigurau gwylio ar draws pob platfform, gan brofi gwerth y sianel i'r iaith a'r economi. Daw'r newyddion wrth i S4C gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn 2020/21.
Mae'r adroddiad yn nodi rôl hollbwysig S4C o ran cynnal a hyrwyddo'r Gymraeg, gyda'r nod o gyfrannu at gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Gydag amrywiaeth o raglenni sy'n cwmpasu drama, chwaraeon, newyddion, adloniant, rhaglenni ffeithiol, ffydd, plant a mwy, mae S4C yn rhoi cyfle i bobl o bob cefndir i glywed a mwynhau'r Gymraeg ar draws pob genre.
Gyda strategaeth ddigidol ar waith, gwelwyd cynnydd gydag oriau gwylio S4C Clic i fyny 45% ac 20% ar BBC iPlayer. Ac fe lwyddwyd i ddenu 200,000 o danysgrifwyr i S4C Clic.
Yn ogystal gwelwyd cynnydd yng nghyfartaledd gwylio oriau brig yng Nghymru o 17,500 i 18,500 (6%).
Cynyddodd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru o 306k i 321k (5%) a'r cyrhaeddiad wythnosol y tu draw i Gymru o 396k i 502k (27%.) Cododd oriau gwylio S4C ledled y DU i'w lefel uchaf ers saith mlynedd.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, maes lle mae'r sianel wedi buddsoddi ynddo dros y blynyddoedd diwethaf, tyfodd oriau gwylio ar brif dudalen Facebook S4C 72% flwyddyn ar flwyddyn, gydag oriau gwylio ar brif gyfrif Twitter S4C yn tyfu 87%.
Bu 28.5 miliwn o sesiynau gwylio ar draws tudalennau Facebook S4C yn ystod y flwyddyn a gwelwyd cynnwys S4C 458,000 o weithiau'r dydd ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn ar draws Facebook, Twitter ac Instagram.
Cafodd Hansh dros 1.4 miliwn o sesiynau gwylio ym mis Mawrth 2020 (record) a chynyddwyd yr oriau gwylio ar draws sianeli YouTube S4C 48% yn ystod y flwyddyn.
"Fe wnaeth Covid gyffwrdd pawb dros y flwyddyn ddiwethaf," meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"Serch hynny, fe lwyddodd S4C i afael yn ei phwrpas a sicrhau gwasanaeth mwy personol nag erioed i'n cynulleidfa.
"Trwy dynhau'r berthynas â'n cynulleidfa, ein cyflenwyr a'n partneriaid, fe wnaeth S4C ail-ddiffinio'r gwasanaeth gyda anghenion y wlad wrth ei galon.
"Roedd ymateb y sector gynhyrchu i'r amgylchiadau eithriadol yn hyblyg ac yn chwim ac rydym yn diolch yn fawr iddynt am hynny."
Collwyd gwerth dros £8miliwn o raglenni o'r amserlen dros nos o achos Covid wrth i ddigwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau gael eu canslo a gwaith cynhyrchu ar ddramâu ddod i stop.
Felly roedd angen dybryd i gomisiynu cynnwys newydd. Bu hyn yn gyfle i S4C arbrofi.
Darlledwyd Cyswllt (Mewn Covid), y ddrama gyntaf i'w chomisiynu a'i chynhyrchu yn ystod y cyfnod clo yn y DU, a chyfres newydd boblogaidd Sgwrs dan y Lloer ymhlith nifer o fformatau llwyddiannus newydd eraill.
Bu Eisteddfod T hefyd yn ffordd arloesol o ddangos creadigrwydd y sector ar ei orau.
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd S4C:
"Mae amgylchiadau annisgwyl ac anodd yn aml yn dod â'r gorau allan o unigolion a sefydliadau a dyna'n sicr sy' wedi digwydd yn hanes S4C. "Gan gydnabod y bygythiad i sector cynhyrchu annibynnol Cymru a cholli cynnwys amlwg yn eu plith dramâu sebon, chwaraeon a digwyddiadau mawr, aeth S4C ati i lansio nifer o rowndiau comisiynu mawr yn ystod 2020/21."
"Gwnaethom gomisiynu £8.7m o raglenni newydd yn ystod y pandemig gan bwmpio cyllid yr oedd gwir angen amdano i economi Cymru, cyllid a wasgarwyd ledled y wlad.
"Mae ein dyled yn fawr i bawb o weithwyr y diwydiannau creadigol a gadwodd i weithio dan amgylchiadau anodd i gynnal gwasanaethau S4C."
I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma: https://dlo6cycw1kmbs.cloudfront.net/media/media_assets/Adroddiad_Blynyddol_S4C_Annual_Report_2020-21.pdf
7 Gorffennaf 2021 - Penodiad pwysig wrth i S4C ymestyn i lwyfannau digidol ehangach
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43829/penodiad-pwysig-wrth-i-s4c-ymestyn-i-lwyfannau-digidol-ehangach/
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Amanda Rees yn ymgymryd â'r gwaith o ymestyn cyrhaeddiad ac ystod cynnwys digidol y sianel fel y Cyfarwyddwr Llwyfannau cyntaf.
Wrth i batrymau ac arferion gwylio newid, mae'r sianel am adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud eisoes drwy sicrhau fod y cynnwys cywir yn ymddangos ar y llwyfannau cywir er mwyn cyrraedd y gynulleidfa gywir.
Bydd hyn yn sicrhau fod S4C yn y lle gorau i wynebu heriau a chyfleoedd digidol y dyfodol.
Dywedodd Amanda Rees: "Mae'n fraint ac yn gyfrifoldeb cael ymgymryd â'r her yma.
"Byddai'n gweithio gyda'r tîm comisiynu a gyda thimau technegol mewnol ac allanol S4C er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn un gwir aml-lwyfan a chyfoes.
"Rydym eisoes wedi symud o fod yn un sianel llinol i fod a phresenoldeb amlwg ar iPlayer y BBC ac mae ein chwaraewr S4C Clic yn cynnig bocs sets a llawer o gynnwys amgen.
"Mae ein cynnwys hefyd eisoes yn ymddangos ar draws y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau fel YouTube.
"Y cam mawr nesaf ydy esblygu'r gwasanaeth i gyfeiriad digidol gyda strategaeth gyhoeddi gynhwysfawr sy'n dathlu gwylio a defnydd o'n cynnwys ar draws bob platfform.
"Bydd hyn yn gofyn i'r sector, y comisiynwyr a'r technegwyr ddeall anghenion technegol y llwyfannau ac anghenion y wahanol gynulleidfaoedd. Fy rôl i fydd sbarduno ac arwain yr holl waith yma.
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rydym eisoes yn cyflwyno rhaglenni a chynnwys S4C i wylwyr ar bob math o lwyfannau, nid ar un sianel deledu yn unig.
"Ond bydd hyn yn dod yn fwyfwy pwysig ac mae angen cynllunio'n strategol er mwyn gwneud y mwyaf ohono.
"Felly bydd y gwaith mae Amanda am fod yn ymgymryd ag o yn allweddol os yw S4C am lwyddo yn y blynyddoedd i ddod."
Mae Amanda Rees wedi bod yn Gyfarwyddwr Cynnwys y sianel ers 2016 ac o dan ei harweiniad mae S4C wedi ennill nifer o wobrau Cymreig, Celtaidd a Phrydeinig am raglenni drama, adloniant ysgafn a ffeithiol.
Mae'r sianel hefyd wedi mwynhau ei chyrhaeddiad uchaf ers 2017 a'r cyfartaledd oriau brig uchaf ers 2015 yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr Cynnwys.
Bydd hi'n ymgymryd â'i chyfrifoldebau newydd yn yr hydref.
6 Gorffennaf 2021 - S4C yn penodi rôl newydd Ymgynghorydd Comisiynu
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43806/s4c-yn-penodi-rl-newydd-ymgynghorydd-comisiynu/
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Sioned Wyn Roberts yn ymgymryd â rôl Ymgynghorydd fel rhan o dim Comisiynu'r sianel.
Bydd y swydd yn gweithio tuag at ddatblygu cynnwys plant a phobl ifanc ar draws amryw o blatfformau yn ogystal â datblygu rôl S4C ym maes addysg.
Bydd Sioned yn trafod ei rôl newydd mewn sesiwn banel yn y Children's Media Conference, ddydd Mawrth 6 Gorffennaf lle bydd yn sôn am gynlluniau S4C ym maes teledu plant a phobl ifanc.
Mae Sioned wedi bod yn gweithio i S4C ers 2012 fel Comisiynydd Plant.
Cyn hynny bu'n gweithio i adran addysg BBC Cymru ac fel cynhyrchydd llawrydd.
Yn ystod ei chyfnod fel Comisiynydd Plant S4C mae Sioned wedi bod yn gyfrifol am gynyrchiadau llwyddiannus megis Deian a Loli, Prosiect Z, Amser Maith Maith yn Ôl a Mabinogi Ogi Ogi.
Enillodd S4C wobr BAFTA Plant UK gyda Prosiect Z yn 2018 a gwobr RTS UK yn 2019, yn ogystal â gwobr BAFTA Cymru ddwy waith gyda Deian a Loli yn 2017 a 2020.
Meddai Sioned: "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i ymgymryd a'r rôl newydd hon.
"Wrth i batrymau gwylio plant a phobl ifanc newid mae angen i S4C sicrhau fod ein cynnwys ar gael ar draws nifer o blatfformau.
"Mae darpariaeth addysg S4C hefyd wedi datblygu'n fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dwi'n edrych mlaen i roi mwy fyth o ffocws ar y gwaith hwn hefyd."
Cyhoeddwyd fis Mai bod Sioned Geraint wedi ei phenodi i swydd Comisiynydd Plant S4C.
Bydd Sioned Wyn Roberts a Sioned Geraint yn cychwyn ar eu swyddi newydd fis Medi.
1 Gorffennaf 2021 - S4C yn lansio Emyn i Gymru 2021
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43788/s4c-yn-lansio-emyn-i-gymru-2021/
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd cyfres eiconig Dechrau Canu Dechrau Canmol yn 60 oed mae S4C am holi'r gwylwyr i bleidleisio am eu hoff Emyn.
Bydd y cyflwynydd Huw Edwards yn dathlu'r garreg filltir fawr mewn rhaglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn yr Hydref pan fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyfeilio i'r emynau, a Huw yn cyhoeddi canlyniad y pôl piniwn trwy ddatgelu'r 10 Uchaf o Hoff Emynau Cymru .
Mae panel o arbenigwyr eisoes wedi llunio rhestr hir o 20 emyn poblogaidd, ac mae gofyn i'r gwylwyr nawr i bleidleisio am eu hoff emyn.
Yn rhan o'r panel roedd Dr Rhidian Griffiths, Huw Tregelles Williams, Delyth Morgans Phillips, Rhiannon Lewis, Trystan Lewis, Parchedig Rob Nicholls, Rhodri Darcy, Parchedig John Gwilym Jones, Catrin Angharad Jones, Mererid Hopwood, John S Davies a Karen Owen.
Mae modd pleidleisio ar wefan s4c.cymru/dechraucanu ac mae'r dyddiad cau am hanner nos ar 30 Awst 2021.
Os nad ydych yn gallu pleidleisio ar-lein, yna cysylltwch â chwmni Rondo – 029 2022 3456.
Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn un o gyfresi mwyaf hirhoedlog S4C a ddarlledwyd gyntaf gan y BBC yn 1961.
Llwyddodd y gyfres i ysbrydoli cyfresi eraill yn Saesneg megis Songs of Praise a ddarlledwyd yn hwyrach yr un flwyddyn.
Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn parhau i fod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C.
Meddai Huw Edwards, Cyflwynydd Dechrau Canu Dechrau Canmol: "Mae gen i farn bendant iawn ar yr emyn gorau! Tybed a fydd pobl Cymru yn cytuno?
"Dyma gyfle arbennig i ddathlu elfen bwysig o'n diwylliant, a gwneud hynny gyda chymorth miloedd o wylwyr S4C.
"Edrychaf ymlaen at ddatgelu'r canlyniad a llywio'r dathlu yn Neuadd Dewi Sant yn yr hydref."
Mae'r rhestr hir o ugain Emyn yn cynnwys:
Arwelfa - Arglwydd gad im dawel orffwys; Blaenwern - Tyred Iesu i'r anialwch; Bro Aber - O tyred i'n gwaredu, Iesu Da; Bryn Myrddin - Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb; Builth - Rhagluniaeth fawr y nef; Clawdd Madog - Os gwelir fi bechadur; Coedmor - Pan oedd Iesu dan yr hoelion; Cwm Rhondda - Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd; Dim ond Iesu - O fy Iesu bendigedig; Ellers - Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr; Godre'r Coed - Tydi sy'n deilwng oll o'm cân; Gwahoddiad - Mi glywaf dyner lais; In Memoriam - Arglwydd Iesu arwain f'enaid; Pantyfedwen - Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist fab Duw; Penmachno - Ar fôr tymhestlog teithio rwyf; Pennant - Dyma gariad fel y moroedd; Rhys - Rho im yr hedd; Sirioldeb - Un fendith dyro im; Ty Ddewi - Mi dafla maich oddi ar fy ngwar; Tydi a roddaist - Tydi a roddaist liw i'r wawr.
29 Mehefin 2021 - Wythnos o raglenni yn dathlu traethau Cymru ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43714/wythnos-o-raglenni-yn-dathlu-traethau-cymru-ar-s4c/
Byddwch yn barod i fynd ar drip i lan y môr.
Am wythnos gyfan bydd S4C yn cynnig gwledd o raglenni difyr yn dathlu traethau gorau Cymru.
Rhwng 12-17 Gorffennaf, trwy raglenni dogfen, materion cyfoes ac adloniant, cawn fwrw golwg ar rai o lannau môr hyfrytaf Cymru, a bydd un ohonynt yn lleoliad i raglen fyw go arbennig o Priodas Pum Mil.
"Mae harddwch ein stepen drws wedi dod yn fwy amlwg i ni nag erioed o'r blaen yn ystod y flwyddyn ryfeddol ddiwethaf." meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C.
"Ry'n ni eisiau dathlu hynny drwy greu wythnos gyfan o raglenni yn ymwneud â thraethau godidog Cymru.
"Mae na ryw swyn arbennig yn ogystal â hanes a thraddodiadau cyfoethog i'n glannau mor ni a bydd y cyfan yn cael eu gweld, a'u ddathlu yn ystod wythnos Traethau Cymru S4C.
"Y gobaith yw gwneud i'n gwylwyr deimlo'r wefr o dywod rhwng eu traed heb iddynt orfod gadael eu stafell fyw. Dewch gyda ni felly, lawr i lan y môr!".
Yn dechrau'r wythnos ar nos Lun 12 Gorffennaf bydd pennod arbennig awr o hyd o Sgwrs Dan y Lloer.
Ar draeth hynod y Gŵyr, gyda thanllwyth o dân a'r sêr yn gwmni, fe fydd Elin yn cael hanes gyrfa a bywyd lliwgar y digrifwr a'r canwr o Glyn Nedd, Max Boyce.
Bydd DRYCH:Y Bermo ar nos Fawrth 13 Gorffennaf yn rhaglen ddogfen fydd yn dilyn trigolion y dref glan môr sydd yng nghysgod Cadair Idris.
O Steve Donks a'i asynnod a'i drampolîns i dîm cychod achub yr arfordir; Will a'i siop jîps; Vic a'i fferins a'i rocs i chwiorydd sy'n rhannu amser arbennig yn eu bywydau, cawn ddilyn hwyl y Cymry wrth eu gwaith a'u bywydau.
A chawn weld sut mae gwreiddiau ei phobl wedi helpu siapio Bermo a sut mae'n newid gyda'r amseroedd newydd yma.
Cawn ein tywys ar hyd pedair taith arfordirol ddifyr ar Am Dro: Ar Lan y Môr ar 14 Gorffennaf.
Bydd Diane o Borthaethwy, sy'n Nain yn ei 50au yn arwain y criw o gerddwyr o draeth Benllech i Foelfre, Ynys Môn; taith o Borth Ceiriad i Machroes, Abersoch fydd gan Larissa sy'n 23, ac yn gweithio yn y diwydiant harddwch.
Ail-fyw atgofion ei blentyndod o wyliau carafán gyda'i Fam-gu a'i Dad-cu fydd Paul wrth dywys y tri arall ar daith yn ardal Porthcawl.
Bydd digonedd o hwyl i'w gael yng nghwmni'r cymeriad sydd o'r Rhondda'n wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Bognor Regis ac yn gweithio fel 'Red Coat' yn Butlins.
Taith o fferm Treginnis i Draeth Mawr, ger Tyddewi, sir Benfro fydd gan yr athro Dewi. Mae'r criw yn dod yn ffrindiau ar hyd y ffordd ond tybed a fyddan nhw'n parhau'n ffrindiau erbyn y marcio?
Bydd pennod arbennig o Cynefin ar 15 Gorffennaf yn canolbwyntio ar Nefyn, Pen Llŷn a'r ardal.
Wrth i Heledd Cynwal ddysgu am hanes morwrol cyfoethog y lle drwy ddilyn ôl troed y llongwyr, caiff flasu penwaig a mynd allan ar y môr i godi cewyll cimychiaid.
Bydd Iestyn Jones yn mynd ar antur wrth ddeifio oddi ar arfordir Porthdinllaen ar drywydd morwellt arbennig sy'n tyfu yno, a bydd Siôn Tomos Owen yn adrodd hanes pererinion yr ardal a sianti boblogaidd Fflat Huw Puw.
Yn goron ar yr wythnos bydd Priodas Pum Mil o'r Traeth - rhaglen arbennig iawn o Priodas Pum Mil.
Bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn eu holau gyda her go anarferol – trefnu priodas byw ar un o draethau gogoneddus Cymru.
Dewiswyd y pâr cariadus, Siân a Stuart o'r Groeslon, ger Caernarfon gan y cyhoedd nôl ym mis Mai drwy bleidlais ar wefan cymdeithasol Facebook.
Bydd y digwyddiad yn un llawn hwyl a sypreisys, a bydd ambell wyneb cyfarwydd yn rhan o'r dathlu i sicrhau diwrnod bythgofiadwy i'r cwpwl.
"Dychmygwch leoliad hudol wedi ei addurno'n fendigedig" meddai Emma Walford.
"A dychmygwch adloniant o'r radd uchaf gan un o gantorion enwocaf ein gwlad. Mae hyd yn oed sôn bod cogydd godidog yn paratoi i danio'r barbeciw yn barod. Be well?"
Drwy gydol yr wythnos o nos Lun i Gwener bydd cyfres Glannau Cymru o'r Awyr yn rhoi golwg llygad barcud i ni o'n traethau, wrth deithio i wahanol rannau o'r arfordir; o Bontydd Hafren hyd at Borthcawl i Ddinbych-y-pysgod.
Bydd modd gwylio'r daith ryfeddol gyfan yn ddi-dor hefyd ar ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf gan ddechrau am 9.30 y bore.
Bydd amryw o raglenni eraill y sianel yn mynd i ysbryd yr wythnos forwrol hefyd, wrth i Prynhawn Da a Heno ddarlledu o draeth Llanelli drwy'r wythnos, ac eitemau sydd â chysylltiad â'r môr ar raglen Garddio a Mwy.
Noddir wythnos Traethau Cymru S4C gan Croeso Cymru.
Traethau Cymru S4C - 12 – 17 Gorffennaf
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Sgwrs Dan y Lloer ar y Traeth - 12 Gorffennaf 9.00 - Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C
DRYCH: Y Bermo - 13 Gorffennaf 9.00 - Cynhyrchiad Darlun ar gyfer S4C
Am Dro! Ar Lan y Môr - 14 Gorffennaf 9.00 - Cynhyrchiad Cardiff Productions ar gyfer S4C
Cynefin: Nefyn - 15 Gorffennaf 9.00 - Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C
Priodas Pum Mil o'r Traeth - 16 Gorffennaf 7.00 ac 8.00 - Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C
Glannau Cymru o'r Awyr - 12-17 Gorffennaf - Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C
21 Mehefin 2021 - S4C Lleol ym ymestyn ar draws Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43582/s4c-lleol-ym-ymestyn-ar-draws-cymru/
Mae cynllun sy'n rhoi'r cyfle i gymunedau gynhyrchu a chyhoeddi eu straeon lleol yn cymryd cam cyffrous ymlaen heddiw wrth i ddwy rwydwaith newydd gael ei lansio.
Mae Shwmae Sir Gâr a Clwyd Tifi yn rhan o gynllun peilot S4C Lleol sy'n galluogi cynhyrchwyr i greu cynnwys wythnosol am eu hardaloedd ar gyfer platfformau digidol a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Nod y peilot fydd datblygu talentau newydd a sicrhau fod pobol o bob cwr o Gymru yn cael ei gweld a'i clywed ar rwydweithiau S4C.
Yn Sir Gâr mae Cwmni Cynhyrchu Carlam TV wedi ffurfio partneriaeth gyda Chanolfan S4C Yr Egin gan roi cyfle i dalentau newydd ddatblygu platfform fydd yn gwasanaethu ardal eang Sir Gaerfyrddin.
"Un o amcanion sefydlu Canolfan S4C Yr Egin oedd i godi statws y Gymraeg a'i diwylliant a chreu buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yng Nghaerfyrddin a'r de orllewin.
"Mae Shwmae Sir Gâr yn gyfle i wireddu hynny mewn modd cyfoes a chreadigol gan ddatblygu'r berthynas sydd gan Yr Egin â phobl y sir ers agor tair mlynedd yn ôl.
"Rwy'n gyffrous iawn am gydweithio â Euros Llyr, Carlam, am y cyfleon a ddaw i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr wrth i'r prosiect ddatblygu lleisiau newydd ac yn bennaf oll i ddod i adnabod rhannau o Sir Gâr na wyddwn amdanynt a rhoi llwyfan i'r cymunedau amrywiol" meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin
Mae Clwyd TiFi yn bartneriaeth gyda Nerth dy Ben, cwmni sydd wedi ei sefydlu i adlewyrchu nerth cymuned, diwylliant a gweithgarwch y dalgylch.
Y Cynhyrchydd a'r Cyfarwyddwr Alaw Llwyd Owen o Ddinbych sy'n arwain tîm o gyfranwyr a gwirfoddolwyr yn ardal yr hen Glwyd sy'n cynnwys Sir Ddinbych, Yr Wyddgrug a rhannau o Gonwy.
"Mae'n gyfnod mor gyffrous i'r gymuned greadigol yn ardal Clwyd – mae na griw ohonan ni sydd 'di ail ddarganfod ein cynefin dros y misoedd diwethaf a da ni'n edrych ymlaen yn arw i roi llais, lliw a llun i straeon unigryw ein cymuned." meddai Alaw Llwyd Owen.
Cyhoeddwyd cynllun S4C Lleol ym mis Chwefror gyda phrosiect peilot TeliMôn y rhwydwaith cyntaf i ymuno â'r cynllun. Ers lansio mae TeliMôn wedi cyhoeddi degau o straeon difyr gan roi cyfle i dalentau lleol i greu a datblygu sgiliau yn y diwydiannau creadigol.
"Ein nod gyda S4C Lleol yw treialu ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid ac arloesi drwy gyfathrebu'n ddigidol gan roi'r gwylwyr yng nghalon ein gwasanaethau." meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"Rydyn ni'n gobeithio bydd y cynllun peilot hwn sy'n rhan o'n strategaeth ddigidol yn creu cyswllt agosach gyda'n cynulleidfa, gan hybu'r defnydd o Gymraeg ar lawr gwlad.
"Fel darlledwr cyhoeddus mae gyda ni rôl bwysig i chwarae wrth wasanaethu cymunedau ac ardaloedd lleol.
"Ein bwriad yw adeiladu ar fentrau lleol gan ddatblygu sgiliau ac annog cynhyrchwyr newydd i'r diwydiant.
"Rwy'n falch iawn o weld y cynllun yn ymestyn i ardaloedd Sir Gâr a Chlwyd."
18 Mehefin 2021 -S4C yn comisiynu drama sydd yn olrhain bywyd yr arwr rygbi, Ray Gravel
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43568/s4c-yn-comisiynu-drama-sydd-yn-olrhain-bywyd-yr-arwr-rygbi-ray-gravell/
Mae S4C wedi comisiynu teyrnged arbennig sydd yn bwrw golwg ar fywyd un o arwyr mwya' Cymru.
Bydd gwaith ffilmio ar Grav yn cychwyn ddiwedd mis Mehefin.
Bydd y ddrama, sydd wedi ei haddasu o'r sioe lwyfan boblogaidd a ddyfeisiwyd gan Owen Thomas, Peter Doran a Gareth John Bale yn Theatr y Torch, yn portreadu bywyd Ray Gravell, un o ffigyrau mwyaf adnabyddus hanes rygbi Cymru.
Yn dilyn ei bortread cofiadwy o Ray Gravell ar y llwyfan, mi fydd yr actor Gareth John Bale yn chwarae'r brif ran.
Marc Evans, y cyfarwyddwr blaenllaw sydd wedi gweithio ar raglenni megis The Pembrokeshire Murders, Manhunt ac Y Bomiwr a'r Tywysog, fydd yn cyfarwyddo'r addasiad o'r ddrama i deledu.
Mae S4C wedi comisiynu cwmni Regan Developments, gyda chwmni Tarian Cyf, i gynhyrchu'r rhaglen. Bydd y rhaglen yn cael ei dangos ar S4C ym mis Medi.
Meddai Branwen Cennard, un o gynhyrchwyr Grav: "Mae gweithio ar brosiect o'r math yma, i addasu sioe lwyfan hynod lwyddiannus Owen Thomas i'r sgrin yn brofiad cyffrous tu hwnt.
"Mae'r ddrama wreiddiol yn mynd i wraidd yr hyn oedd yn gyrru Grav fel person ac mae'r sioe wedi ennill canmoliaeth unfrydol.
"Wrth addasu o gyfrwng y theatr i gyfrwng ffilm a theledu, mae'r ddrama wedi datblygu'n helaeth.
"Ond yr un yw'r stori, ac ry'n ni'n gobeithio y bydd yr haenau gweledol ychwanegol, o dan law'r cyfarwyddwr dawnus, Marc Evans, yn dyrchafu'r cynhyrchiad i lefel hyd yn oed yn uwch."
Meddai Gwenllïan Gravelle, comisiynydd drama S4C: "Mae'n fraint i gomisiynu drama sydd yn adrodd stori un o arwyr y werin Gymry, Ray Gravell.
"Roedd Grav yn ffigwr hynod o adnabyddus; fel arweinydd cryf a chrefftus ar y cae rygbi, ac fel cymeriad hoffus, lliwgar, ond cymhleth, oddi arno.
"Mae ei stori yn un emosiynol ac un sydd wedi taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd theatrau ledled Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y sioe yn cyrraedd y sgrin."
17 Mehefin 2021 - S4C yn darlledu gemau rygbi Cymru dros yr Haf
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43550/s4c-yn-darlledu-gemau-rygbi-cymru-dros-yr-haf/
Bydd gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn yr Ariannin dros yr haf i'w gweld yn fyw ar S4C.
Stadiwm Principality yw'r lleoliad ar gyfer cyfres o dair gêm brawf rhyngwladol yn ystod mis Gorffennaf.
Bydd Cymru yn wynebu Canada ar Ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf am 3.00yh, gydag uchafbwyntiau estynedig o'r gêm i'w gweld ar S4C yn hwyrach ymlaen yr un diwrnod.
Yna bydd tîm Wayne Pivac yn herio'r Ariannin mewn dwy gêm brawf dros y ddau benwythnos ganlynol, ar ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf am 1.00yh, a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf am 3.00yh.
Yn wreiddiol, roedd y gemau i fod i gael eu chwarae yn yr Ariannin, cyn iddyn nhw gael ei ail-lleoli i Gaerdydd oherwydd y pandemig. Serch hynny, bydd y gemau yn dal i gael eu cyfeirio atynt fel Yr Ariannin v Cymru.
Bydd y ddwy gêm yn erbyn y Pumas i'w gweld yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael drwy wasanaeth y botwm coch.
Bydd yr holl gemau ac uchafbwyntiau i'w gweld ar alw ar S4C Clic.
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Rydyn ni'n hapus iawn fod S4C yn dangos dwy gêm Cymru yn erbyn yr Ariannin yn fyw dros yr haf.
"Mae'r gemau yma yn gyfle i weld talent newydd ar y llwyfan rhyngwladol a hynny o flaen torf y Stadiwm Principality." Gemau Prawf yr Haf Cymru 2021
Cymru v Canada - Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf – 3.00yh - Uchafbwyntiau ar S4C
Cymru v Yr Ariannin (Prawf Cyntaf) - Dydd Sadwrn 10 Gorffennaf – 1.00yh - Yn fyw ar S4C
Cymru v Yr Ariannin (Ail Brawf) - Dydd Sadwrn 17 Gorffennaf – 3.00yh - Yn fyw ar S4C
15 Mehefin 2021 - 14 enwebiad i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43513/14-enwebiad-i-s4c-yng-ngyl-cyfryngau-celtaidd-2021/
Mae S4C wedi derbyn 14 enwebiad yng Ngwobrau Torc Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021.
Cynhelir yr ŵyl yn ddigidol rhwng 7-9 Medi 2021, ac mae'r ŵyl yn hyrwyddo'r diwylliannau a'n hieithoedd Celtaidd drwy deledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.
Yn rhan o'r enwebiadau llwyddodd cyfres boblogaidd Iaith ar Daith (Boom Cymru) i gael enwebiad yn y categori Adloniant Ffeithiol.
Enillodd drama bwerus Fflur Dafydd, 35 Diwrnod (Boom Cymru) enwebiad yn y categori Drama, a daeth cyfres arloesol Cyswllt (Vox Pictures) i'r rhestr fer gan dderbyn enwebiad yn y categori Drama Fer.
Yn ogystal daeth nifer o raglenni dogfen i'r brig gan gynnwys dwy enwebiad i un o raglenni cyfres DRYCH: Eirlys Dementia a Tim (Cwmni Da) yn y categori Dogfen Unigol a phrif gategori'r gwobrau sef Ysbryd yr Ŵyl.
Cafodd rhaglen arall DRYCH sef Y Côr (Cwmni Da) enwebiad yn y categori Celfyddydau a rhaglen ddogfen am dân echrydus pont Britannia sef Tân ar y Bont (Rondo) enwebiad yn y categori Hanes.
Cafodd rhaglen ddogfen antur 47 Copa (Cwmni Da) enwebiad yn y categori dogfen chwaraeon hefyd.
Cafodd Côr Digidol Rhys Meirion (Cwmni Da) enwebiad yn y categori Adloniant a chyfres unigryw Rybish (Cwmni Da) enwebiad yn y categori Comedi. Llwyddodd darllediad arbennig Sioe yr Eisteddfod Goll (Orchard) i ennill enwebiad yn y categori Cerddoriaeth Fyw ac fe gafodd Dilynwyr (ITV Cymru) enwebiad yn y categori Ffurf Fer.
Hefyd yn derbyn enwebiad oedd rhaglen arbennig Pawb a'i Farn (Tinopolis) ar amrywiaeth ac ymgyrch Black Lives Matter enwebiad yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes.
Daeth clod yn ogystal i raglenni plant S4C gyda rhaglen hudolus Nadolig Deian a Loli (Cwmni Da)
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r ŵyl eleni.
"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws yr amserlen. Pob lwc i bawb fis Medi."
14 Mehefin 2021 - S4C yn comisiynu ail gyfres o Enid a Lucy
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43475/anturiaethau-dwy-ffrind-annisgwyl-yn-parhau-/
Mae ffilmio ar y gweill ar gyfer yr ail gyfres o'r ddrama gomedi dywyll Enid a Lucy gyda'r gyfres yn ymddangos ar S4C yn gynnar yn 2022.
Cyfres ddrama llawn pryder a thensiwn yw Enid a Lucy gyda digon o hiwmor tywyll ac islais gwleidyddol a chymdeithasol.
Mae Eiry Thomas (The Pact, Un Bore Mercher) yn ôl fel Enid - yr athrawes biano barchus a Mabli Jên Eustace (Pursuit of Love, Byw Celwydd) yn ôl fel ei chyn-gymydog a'i ffrind annisgwyl, Lucy.
Yn y gyfres gyntaf cafodd Enid ei thaflu i gawlach o gyffuriau, cartéls a thrais oedd yn berwi ym mywyd ei chymydog, y fam ifanc, Lucy, a'i phartner hanner call, Denfer (Steffan Cennydd). Ac wrth i Enid helpu Lucy ddianc rhag Denfer a gadael ei chartref gyda'i baban bach, Archie, aeth y ddwy ar bererindod a newidiodd eu bywydau am byth.
Mae taith Enid a Lucy yn parhau yn yr ail gyfres gydag Enid, Lucy ac Archie bellach yn byw o dan yr un to.
Bydd sawl wyneb cyfarwydd o'r gyfres gyntaf gan gynnwys Denfer (Steffan Cennydd - Yr Amgueddfa, The Pembrokeshire Murders) a'i wncl Sid (Nicholas McGaughey - Pobol y Cwm).
Mae Siwan Jones (Tair Chwaer, Con Passionate, Morfydd), sydd wedi ennill sawl Bafta Cymru am ei gwaith sgriptio, yn ôl, hefyd yn ysgrifennu'r ddrama.
Boom Cymru sy'n cynhyrchu'r gyfres a Lona Llewelyn Davies yw'r uwch gynhyrchydd. Meddai Lona: "Mae'r sefyllfa yma yn Enid a Lucy yn naturiol yn creu drama, gwrthdaro, hiwmor a phob math o helyntion. Yn enwedig o gofio fod Denfer yn byw drws nesa ac Wncwl Sid yn ymwelydd cyson yno yn ogystal â Rhodri a Gwenllian yn cyrraedd o Lundain.
"Ond yn hytrach na road trip mae'r ail gyfres yn troi mwy o gwmpas tŷ Enid gyda bydoedd amrywiol y gyfres yn cyffwrdd â'i gilydd o dan yr un to."
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Rydym yn hapus iawn i groesawu Enid a Lucy yn ôl i S4C. Ar ddiwedd y gyfres gyntaf roedd yn amlwg llawer mwy i ddod yn hanes y ddwy ffrind annisgwyl a'r cymeriadau sydd o'u hamgylch.
"Mae drama wedi bod yn ffynhonnell wych o adloniant i'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19, wrth ganiatáu'r gynulleidfa ddianc o fywyd bob dydd a phlymio i mewn i ramant, antur a drama - ac mae Enid a Lucy yn cynnig y rhain i gyd yn ogystal â hiwmor gan ddangos pwysigrwydd cyfeillgarwch."
Mae Enid a Lucy yn cael ei ffilmio mewn lleoliadau yn ne Cymru gan gynnwys Y Bari, Caerdydd a Phenarth.
14 Mehefin 2021 - Dogfen S4C yn dilyn cyflwynydd yn nofio ledled Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43472/dogfen-s4c-yn-dilyn-cyflwynydd-yn-nofio-ledled-cymru/
Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddogfen antur tair rhan yn dilyn taith y cyflwynydd Gareth Jones wrth iddo herio'i hun i nofio 60km i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Bydd Gareth, sy'n adnabyddus am ei waith ar raglenni plant a gwyddoniaeth megis How 2, Get Fresh, Tomorrow's World a The Big Bang, yn ymgymryd â'r her 'na wnaed erioed o'r blaen' i ddangos i'r byd nad yw troi'n 60 yn ddiwedd y daith i'w ffordd wallgof o fyw.
Bydd camerâu yn dilyn Gareth pob cam o'r ffordd mewn cyfres ddogfen arsylwadol (ob doc) wrth iddo wthio'i hun i'r eithaf gan nofio ar draws llynnoedd a chronfeydd dŵr o dde i ogledd Cymru mewn tair wythnos.
Dechreuodd Gareth, sydd yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Cymru ond bellach yn byw yn Llundain, nofio'n wyllt rhai blynyddoedd yn ôl gyda ffrindiau a sylwi ei fod yn "reit dda yn gwneud".
Ers hynny mae o wedi bod yn nofio mewn cronfa ddŵr lleol i gynyddu ei bellter.
"Mae am fod yn her enfawr ond dwi am roi'r cynnig gorau arni." Meddai Gareth. "Am ffordd arbennig o ail-ddarganfod fy mamwlad yn archwilio straeon o gwmpas ac o dan y dŵr.
"Mi ddylai hyn wneud i'r gwylwyr ymgolli hefyd, drwy gyfuno technegau dogfennol clasurol â graffeg gyfrifiadurol arloesol sy'n datgelu'r byd isod a chofnodi fy nata biolegol wrth i mi nofio."
"Dydw i ddim yn siŵr os alla'i wneud hyn, ond yr hyn dwi yn gwybod ydi nad ydi o erioed wedi'i wneud o'r blaen. Dwi'n gobeithio mai fi fydd y dyn a nofiodd ledled Cymru!"
Cynhyrchir y gyfres ddogfen o'r enw Gareth Jones: Nofio Adre gan Gwmni Cynhyrchu o Ogledd Cymru, Cwmni Da; sy'n adnabyddus am eu dogfennau antur byd-enwog. Eu rhaglenni dogfen gwobrwyedig 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig oedd y dogfennau Cymraeg cyntaf i gael eu dangos ar Amazon Prime. Mae'r tîm cynhyrchu yn cynnwys Llion Iwan fel Cyd-Uwch Gynhyrchydd gyda Gareth Jones a Huw Erddyn fel Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr gyda Llinos Wynne yn Gomisiynydd Ffeithiol S4C.
Meddai Llinos: "Yn sicr fe wnaeth y comisiwn hwn ddenu fy sylw ar unwaith. Bydd personoliaeth ysbrydoledig Gareth ynghyd â golygfeydd syfrdanol o lynnoedd a chronfeydd dŵr a phrofiad Cwmni Da o gynhyrchu dogfennau antur o safon uchel yn creu'r gymysgedd berffaith.
"Rwy'n sicr y bydd y gwylwyr yn mwynhau dilyn her unwaith mewn oes Gareth."
Bydd y ffilmio yn digwydd ym mis Awst gyda'r dyddiad darlledu wedi'i osod ar gyfer mis Hydref.
9 Mehefin 2021 - Partneriaeth newydd yn dod â chyfrinachau'r bedd Celtaidd i'r sgrin
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43455/partneriaeth-newydd-yn-dod--chyfrinachaur-bedd-celtaidd-ir-sgrin/
Mewn partneriaeth newydd sbon rhwng S4C a sianel Smithsonian yn yr Unol Daleithiau, gan weithio ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'u partneriaid treftadaeth yng Nghymru (Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Coleg Sir Benfro a PLANED), bydd rhaglen newydd yn datgelu'r darganfyddiadau archeolegol mwyaf cyffrous mewn degawdau.
Yng nghanol Sir Benfro, Gorllewin Cymru, mae rhywbeth wedi dod i'r amlwg a all newid stori hanes Cymru.
Darganfyddiad anhygoel a hollol annisgwyl a wnaed am y tro cyntaf yng Nghymru ac a syfrdanodd archeolegwyr.
Mewn rhaglen arbennig, Cyfrinach y Bedd Celtaidd, a gynhyrchwyd gan Wildflame Productions - mae'r archeolegydd Dr Iestyn Jones yn dilyn trysor a ddaeth i'r amlwg ar gae tawel ar dir fferm yn 2018.
Trysor rhyfeddol a gladdwyd yn y ddaear am bron i 2,000 o flynyddoedd ac sydd bellach yn barod i rannu ei gyfrinachau gyda ni.
"Am dros 40 mlynedd fe wnaeth Mike Smith o Aberdaugleddau grwydro bryniau a chaeau Sir Benfro gyda'i synhwyrydd metel yn chwilio am drysorau," meddai Dr Iestyn Jones.
"Pan ddaeth ar draws gwrthrychau metel lliwgar ac addurnedig a gladdwyd ychydig fodfeddi o dan y pridd, roedd yn gwybod ei fod wedi dod o hyd i rywbeth arwyddocaol."
Casgliad rhyfeddol o arteffactau harnais ceffylau yn ymwneud â byd ceffylau Oes yr Haearn - gan gynnwys tlws ceffylau mawr, tywysydd enfawr, strap-mownt a rhannau o ddarn ffrwyn.
A ddywedodd y safle hwn yn Sir Benfro rywbeth am drobwynt yn ein hanes tua adeg goresgyniad y Rhufeiniaid yng ngorllewin Prydain?
Mae'r rhaglen yn dilyn cloddio'r safle, gam wrth gam yng nghwmni arbenigwyr cloddio Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Bydd gwylwyr yn rhan o'r cyffro wrth iddyn nhw ddarganfod nid yn unig cerbyd rhyfel - un o'r darganfyddiadau archeolegol mwyaf cyffrous yng Nghymru ers degawdau, ond hefyd caer penrhyn anhysbys.
Mae dyddiau cyntaf y cloddio yn datgelu trysor prin arall - cleddyf o'r Oes Haearn, wedi'i gladdu rhwng dwy olwyn y cerbyd rhyfel – yn gwmni i'r bedd.
Ac mae'r pethau annisgwyl yn parhau, wrth i archeolegwyr sylweddoli eu bod yn datgelu dros 100 gwaith yn fwy o waith haearn hynafol nag a ganfuwyd erioed yn Sir Benfro gyfan.
Rydym hefyd yn cael gweld y broses wyddonol o ddadansoddi'r canfyddiadau gyda chymorth y profion gwyddonol diweddaraf.
Ond pwy gladdwyd yma? A allai fod yn arweinydd Celtaidd ac yn rhyfelwr a gollwyd mewn brwydr?
A allai hwn fod y darganfyddiad archeolegol pwysicaf ers degawdau? Bydd archeoleg yn arwain y ffordd, wrth i'r arbenigwyr ddechrau'r dasg o lunio'r jig-so hynod ddiddorol hon.
Bydd y rhaglen yn cael ei dangos ar S4C a Smithsonian ar 13 Mehefin.
Dywedodd Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu dod â'r stori gyfareddol hon i'r sgrin. "Mae'n stori Gymreig unigryw a hynod ddiddorol gydag apêl fyd-eang.
"Mae'r comisiwn hwn wedi bod yn hynod arbennig ac rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'n helpu i wneud i hyn ddigwydd - rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd ledled y byd yn mwynhau'r darganfyddiad archeolegol anhygoel hwn."
Dywed Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac un o'r archeolegwyr arweiniol sy'n ymwneud â'r prosiect hwn "Mae hwn wedi bod yn ddarganfyddiad hynod ddiddorol ac unwaith mewn oes i weithio arno, fel un o'r tîm o archeolegwyr ymroddedig, cadwraethwyr, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr sy'n helpu i wneud i'r prosiect hwn ddigwydd.
"Ni fyddai'r gwaith wedi digwydd heb gefnogaeth cyllidwyr fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac The Headly Trust. "Rydym yn falch iawn o weithio gyda'n partneriaid cyfryngau i rannu'r profiad hwn a'r darganfyddiad archeolegol gyda'r cynulleidfaoedd cyhoeddus ehangaf posibl ledled Cymru, y DU a'r byd ".
Dywed Dan Wolf o Smithsonian Channel: "Dyma'r union fath o stori rydyn ni wrth ein bodd yn ei chael ar Sianel Smithsonian… hanes, dirgelwch, ac yn hollol gyfareddol.
"Mae'n ddarganfyddiad unigryw sydd wedi syfrdanu hanes Prydain. Rydyn ni'n gwybod faint mae hunaniaeth fodern y DU yn dod o'i gorffennol balch, a bydd y rhaglen ddogfen hon yn rhoi pennod newydd i stori eu cyndadau i bawb.
"Dyma bobl yr ydym fel rheol yn meddwl amdanynt fel 'hynafiad hynafol'. Ond pan welwch eu gweddillion corfforol - weithiau mae'n anodd credu'r hyn rydych chi'n ei weld ar y sgrin - mae'r rhaglen ddogfen hon wirioneddol yn syfrdanu.
"Americanwr ydw i, ac rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n eithaf caled. Ond dy'n ni ni ddim byd i gymharu a'r Celtiaid."
Dywed Paul Islwyn Thomas, Prif Swyddog Gweithredol a Chynhyrchydd Gweithredol, Wildflame Productions: "Mae darganfyddiad bedd Celtaidd 2000 oed gan y synhwyrydd metel Mike Smith yng Ngorllewin Cymru yn taflu goleuni newydd ar hanes Prydain Hynafol a phobloedd yr Oes Haearn.
"Mae'r darganfyddiad rhyfeddol hwn yn datgelu creiriau o arwyddocâd rhyngwladol ac yn datgloi stori anhygoel ar adeg tyngedfennol o ehangu'r Rhufeiniaid i Brydain pan ddaeth y fyddin Rufeinig ar draws ei phobloedd gorllewinol o'r Oes Haearn.
"Mae Wildflame yn falch o fod wedi gallu dilyn y daith o'r cychwyn cyntaf, gan weithio'n agos gydag archeolegwyr a churaduron arbenigol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
"Mae hwn yn ddarganfyddiad unwaith mewn oes i'r rhai sy'n cymryd rhan ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu dal y siwrnai gyfan a chreu rhaglenni ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y byd."
Dosberthir y cynhyrchiad gan Flame Distribution sy'n dosbarthu cynyrchiadau ledled y byd y tu allan i'r UD, y DU ac Eire.
Mae Flame Distribution yn gwmni dosbarthu byd-eang blaenllaw sy'n arbenigo mewn adloniant ffeithiol a rhaglennu dogfennol ar draws ystod eang o genres fel Hanes, Gwyddoniaeth, Trosedd, yr Amgylchedd, Chwaraeon, Bwyd / Teithio, Antur, Bywyd Gwyllt, Ffordd o Fyw, Addysg Plant a llawer mwy.
Cynhyrchwyd a Chyfarwyddwyd gan Rupert Edwards a Colin Davies. Cynhyrchwyr Gweithredol: Paul Islwyn Thomas, Llinos Griffin-Williams, Jobim Sampson, Iwan England.
6 Mehefin 2021 - Gwobr BAFTA UK i un o gyd-gynyrchiadau S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43404/gwobr-bafta-uk-i-un-o-gyd-gynyrchiadau-s4c/
Mae cyd-gynhyrchiad rhwng S4C a Channel 4 wedi ennill gwobr BAFTA UK heno.
Llwyddodd cyfres deledu Tŷ am Ddim (The Great House Giveaway) i gipio'r wobr BAFTA UK yn erbyn cynyrchiadau The Chase i ITV, Jimmy McGovern's Moving On i BBC 1 a Richard Osman's House of Games i BBC 2.
Mae Tŷ am Ddim gan gwmni cynhyrchu Chwarel yn gyfres sy'n sicr wedi llwyddo i newid bywydau.
Mae fformat y gyfres yn rhoi tŷ am ddim i ddau berson i'w adnewyddu am 6 mis - unrhyw elw mae'n nhw'n ei wneud, mae'n nhw'n cael ei gadw.
Yn ystod y gyfres gyntaf a ddarlledwyd ar S4C fis Hydref 2019 llwyddwyd i roi cyfleoedd i nifer o Gymry i ddilyn eu breuddwydion o adnewyddu tai.
Wrth dderbyn y wobr yn y seremoni ar-lein heno a ddarlledwyd ar BBC 1 gwnaeth cynhyrchydd y gyfres Sioned Morris ei haraith yn Gymraeg gan ddiolch i S4C a Channel 4.
"Dyma'r cyd-gomisiwn cyntaf rhwng S4C a Channel 4 ac mae'n fodel cynhyrchu sydd wedi gweithio'n arbennig o dda." meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C.
"Mewn modd adloniannol mae Ty Am Ddim yn mynd i galon un o bynciau cymdeithasol mawr ein cyfnod, sef helpu pobl ifanc i wireddu eu breuddwydion i fod yn berchen ar dŷ eu hunain, ac rydym eisoes yng nghanol ffilmio yr ail gyfres.
"Llongyfarchiadau mawr i Gwmni Chwarel a'r holl dîm cynhyrchu."
Dyma'r ail wobr ddarlledu genedlaethol i S4C ei hennill mewn dros wythnos. Ar 27 Mai llwyddodd cynhyrchiad Dim Ysgol: Maesincla i ennill gwobr Broadcast am y cynhyrchiad gorau yn ystod y cyfnod clo.
4 Mehefin 2021 - Darllediad arbennig byd eang ar gyfer Dogfen Wreiddiol S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43397/darllediad-arbennig-byd-eang-ar-gyfer-dogfen-wreiddiol-s4c/
Mae'n stori galonogol am frawdoliaeth, cymuned a chanu.
Bydd darllediad arbennig byd eang o Men Who Sing, ffilm wreiddiol S4C, yn y Sheffield Doc Fest eleni ar Fehefin y 6ed.
Wedi'i gyfarwyddo gan Dylan Williams a'i chynhyrchu gan Gwmni Da a BACKFLIP Media, mae'r ffilm gynnes ac ingol hon, yn adrodd stori Côr Meibion Trelawnyd a'u brwydr i gadw eu côr yn fyw a denu aelodau newydd ac iau.
Mae Cymru'n cael ei alw'n wlad y gân, ac mae'r cariad at ganu yn rhan gref o'r dreftadaeth. Wrth i fywyd modern effeithio ar y diwydiant a'r diwylliant, mae Men Who Sing yn edrych ar y dyfodol ansicr iawn sy'n wynebu un o gorau mwyaf adnabyddus Gogledd Cymru.
Mae Côr Meibion Trelawnyd wedi chwarae rhan bwysig mewn diwylliant lleol ers ei sefydlu yn y pentref bach bum milltir o dref glan môr y Rhyl ym 1933. Mae'r Côr Meibion yn sefydliad o Gymru, ac yn un o symbolau mwyaf annileadwy'r wlad ledled y byd.
Ond, o ganlyniad i ddirywiad cyflym yn y niferoedd ynghyd ag aelodaeth sy'n heneiddio, mae o hefyd yn sefydliad sydd mewn argyfwng. Dyma stori un côr sy'n gwrthod diflannu i'r tywyllwch.
Mae'r portread doniol a melancolaidd hwn o Gôr Meibion yn dechrau pan fydd tad y gwneuthurwr ffilm, Ed, y gŵr gweddw 90 oed, yn gwerthu cartref y teulu ac yn trefnu ei angladd ei hun.
Ei unig gysur sydd ar ôl yw'r ymarfer côr ar nos Fawrth, ond gydag oedran cyfartalog o 74 ac yn dioddef dirywiad yn yr adran fas - mae ei gôr annwyl yn wynebu argyfwng ei hun.
Rhaid iddyn nhw weithredu neu wynebu difodiant. Felly mae'r helfa'n dechrau i ddod o hyd i 'ddynion â gwallt brown' yn eu 40au a'u 50au a all fynd â'r côr ymlaen.
I Dylan, y cynhyrchydd, sydd bellach yn byw yn Sweden, roedd gwneud y ffilm yn gyfle euraidd i dreulio mwy o amser gyda'i dad yn yr ardal lle cafodd ei fagu. Mae Dylan yn adnabyddus am gynhyrchu ffilmiau ar bynciau sy'n agos at ei galon.
Aeth ei raglen ddogfen arobryn Men Who Swim, am ei brofiad o ymuno â thîm nofio cydamserol, ymlaen i ysbrydoli'r ffilm ffuglen boblogaidd, Swimming With Men, gyda Rob Brydon yn chwarae rhan Dylan.
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae Dylan wedi cynhyrchu a chyfarwyddo gwaith gwobrwyedig ar gyfer sinemâu a theledu, gan adrodd straeon personol i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
Mae o wedi gwneud ffilmiau ar gyfer SVT, Netflix, BBC, ARTE sydd wedi cael eu dangos mewn dros 70 o wledydd ac wedi ennill gwobrau ar draws y byd gan gynnwys y Rhaglen Ddogfen Orau yn yr Art Doc Fest ym Moscow, y Prix Italia a Gwobr y Gynulleidfa yn Silverdocs, Washington. Meddai Dylan:
"Dechreuodd y stori pan ddywedodd fy nhad wrthyf ei fod wedi gwerthu'r tŷ - ein cartref teuluol. Ar ôl byw yn Sweden am 15 mlynedd, roeddwn i'n teimlo bod fy nghysylltiad â'm cartref yn diflannu.
"Ar ôl dychwelyd i'w helpu i symud i'r byngalo bach yr oedd o wedi'i brynu, des i o hyd i fy nhad yn paratoi trefniadau ei angladd.
"Er ei fod yn mwynhau iechyd rhagorol, mae o'n 90 oed bellach, ac ers marwolaeth fy mam mae o wedi teimlo'n fwy ynysig. Yr un peth nodedig fodd bynnag oedd ei gôr annwyl.
"Penderfynais ei ddilyn i ymarfer ar y noson gyrhaeddais gan na fyddai unrhyw beth byth yn ei atal rhag mynd. Roedd yr ystafell yn llawn o ddynion roeddwn i'n eu hadnabod o fy mhlentyndod. Pob un bellach yn eu hwythdegau ond yn dal i ganu gyda'i gilydd.
"Dechreuais ffilmio gyda chamera bach. Daeth y dynion ataf a dechrau siarad â dyngarwch a didwylledd anhygoel. Nes i'r penderfyniad i wneud y ffilm yn syth. Mae'n stori sy'n delio ag unigrwydd, henaint, cyfeillgarwch ac yn stori o Brydain ôl-ddiwydiannol. "
Dywedodd Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: "Weithiau mae yna gomisiwn sydd wir yn cyffwrdd â'r galon.
"Mae Men Who Sing yn enghraifft wych o raglen ddogfen sy'n portreadu darlun gwahanol o grŵp o bensiynwyr sy'n cyfleu neges bwerus a chadarnhaol o frawdoliaeth a chymuned.
"Rwy'n falch iawn y bydd y ffilm hon yn cael darllediad arbennig byd eang yn y Sheffield Doc Fest eleni ac i'w gweld ochr yn ochr â rhaglenni dogfen fwyaf pwerus y byd.
"Dydw i methu aros i weld yr ymateb a'r adborth ledled y byd. Llongyfarchiadau i'r tîm cyfan."
Dosberthir y ffilm gan Dartmouth Films - cwmni arloesol o raglenni dogfen annibynnol.
Dywedodd Christopher Hird o Dartmouth Productions: "Rydyn ni'n caru'r ffilm hon. Mae'n ddifyr, yn oleuedig ac yn ddyrchafol.
"Mae'n gipolwg hyfryd ar fywyd Cymru, yn herio rhagdybiaethau am henaint a bydd yn apelio at unrhyw un sydd erioed wedi mwynhau canu cymunedol - fel cyfrannwr neu aelod o'r gynulleidfa.
"Mae'r ffilm yn symbyliad perffaith ar gyfer y byd wedi'r clo mawr, a Sheffield DocFest yw'r llwyfan perffaith i'w lansio i'r byd."
27 Mai 2021- Gwobr Broadcast i Ysgol Maesincla
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43338/gwobr-broadcast-i-ysgol-maesincla/
Mae cynhyrchiad Dim Ysgol: Maesincla wedi ennill gwobr heno am y Rhaglen Cyfnod Clo Orau yng ngwobrau Broadcast.
Cynhaliwyd y seremoni heno ar-lein a llwyddodd cynhyrchiad Cwmni Darlun i S4C i gipio'r wobr yn erbyn cynyrchiadau i ITV, BBC1, BBC2 a Channel 4.
Daeth Dim Ysgol: Maesincla i'r brig yng nghategori y Rhaglen Cyfnod Clo Orau: Rhaglenni Newyddion, Dogfen a Ffeithiol.
Ffilmiwyd y rhaglen yn ystod y cyfnod clo, a bu'n gyfle i ddal fyny efo straeon plant, eu teuluoedd a staff cymuned arbennig Maesincla yn ystod cyfnod o newid mawr yn hanes yr ysgol.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:
"Diolch o galon i Manon Gwynedd ac ysgol a chymuned gyfan Maesincla am ymddiried ynddom ni i adlewyrchu lleisiau'r plant a'u teuluoedd mewn cyfnod anodd.
"Dyma raglen onest a chynnes yn dangos cymuned ar ei orau â chymeriadau Maesincla yn serennu drwy gydol y ddogfen.
"Llongyfarchiadau i Gwmni Cynhyrchu Darlun a'r tîm i gyd."
Mae gwobrau Broadcast yn dathlu cynyrchiadau gorau y maes darlledu yn y Deyrnas Unedig.
25 Mai 2021 - Holl gemau UEFA EURO 2020 Cymru yn fyw ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43200/holl-gemau-uefa-euro-2020-cymru-yn-fyw-ar-s4c/
Bydd holl gemau tîm pêl-droed Cymru yn ystod UEFA EURO 2020 yr haf yma i'w gweld yn fyw, yn Gymraeg, ar S4C a S4C Clic.
Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn Baku, Azerbaijan ar ddydd Sadwrn 12 Mehefin, yn erbyn y Swistir, am 2.00yh.
Ar ddydd Mercher 16 Mehefin, bydd y Dreigiau yn chwarae eu hail gêm, yn erbyn Twrci, yn Baku, gyda'r gic gyntaf am 5.00yh.
Yna, bydd Cymru yn teithio i Rufain ar gyfer eu gêm grŵp olaf, yn erbyn Yr Eidal, ar ddydd Sul 20 Mehefin, am 5.00yh.
BBC Cymru fydd yn cynhyrchu arlwy S4C o UEFA EURO 2020.
Ac wrth i Gymru baratoi am y bencampwriaeth, bydd modd gwylio dwy gêm gyfeillgar ar S4C yn ogystal.
Ar nos Fercher 2 Mehefin, bydd Cymru yn herio pencampwyr y byd, Ffrainc, yn Nice, gyda'r gic gyntaf am 8.05yh.
Ac ar nos Sadwrn 5 Mehefin, bydd Cymru yn croesawu Albania i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Sadwrn 5 Mehefin am 5.00yh, yn eu gêm olaf cyn UEFA EURO 2020.
Bydd Sgorio yn darlledu'r ddwy gêm yn fyw ar S4C.
Dywedodd y cyflwynydd, Dylan Ebenezer: "Mae'n fraint i gael bod yn rhan o dîm S4C ar gyfer UEFA EURO 2020.
"Mae gan bawb atgofion melys o be' ddigwyddodd yn Ffrainc yn ystod haf 2016.
"Mae cryn dipyn wedi newid ers hynny wrth gwrs, ond mae cefnogaeth y Wal Goch, boed yn y stadiwm neu gartref, wedi bod yn gyson ers hynny ac yn rhywbeth mae'r chwaraewyr wir yn teimlo a gwerthfawrogi.
"Mae'r tîm wedi perfformio'n dda iawn i ennill ei lle yn y bencampwriaeth, a gyda'r holl chwaraewyr ifanc yn cyfuno gyda'r hen bennau fel Bale, Ramsey ac Allen, mae yna botensial mawr yn y garfan bresennol.
"Yn bersonol, allwn i ddim disgwyl am yr Ewros, a gobeithio gallwch chi ymuno â ni am y cyfan ar S4C."
Yn arwain at y bencampwriaeth, bydd sawl rhaglen yn yr amserlen gyda thema pêl-droed.
Bydd y gyfres, Y Wal Goch, sy'n cyfuno straeon unigryw cefnogwyr pêl-droed Cymru gyda pherfformiadau miwsig byw a chyfweliadau mawr, ymlaen bob nos Wener hyd at ddechrau'r gystadleuaeth.
Bydd Hansh yn dangos cyfres o glipiau amrywiol yn dathlu'r bencampwriaeth dros yr wythnosau nesaf, tra bydd y podlediad Y Naw Deg, gyda Rhydian Bowen a Sioned Dafydd, yn dilyn y bencampwriaeth gyfan gyda gwesteion a chefnogwyr Cymru.
Dilynwch @S4Cchwaraeon ar gyfryngau cymdeithasol i weld yr holl gynnwys.
UEFA EURO 2020: Pob gêm Cymru yn fyw
Yn fyw ar S4C ac ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
24 Mai 2021 - Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43190/sioned-geraint-yw-comisiynydd-plant-a-dysgwyr-newydd-s4c/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd S4C.
Yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach wedi ymgartrefu yn Efail Isaf, mae gan Sioned dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau.
A hithau wedi cychwyn ei gyrfa yn Adran Blant ac Adloniant HTV mae ers hynny wedi gweithio ar amryw o raglenni plant gan gynnwys Uned 5, Mosgito, Bôrd, Y Rhaglen Wirion 'Na, Stwffio, 'Step Inside' i C'beebies ac yn ddiweddar Anifeiliaid Bach y Byd i Cyw.
Yn ogystal â gyrfa ddisglair ym myd teledu plant mae gan Sioned brofiad helaeth ym maes rhaglenni dysgwyr hefyd. Bu'n greiddiol wrth sefydlu y gyfres eiconig i ddysgwyr, Cariad@iaith a bu'n gynhyrchydd i'r gyfres boblogaidd Welsh in a Week am flynyddoedd lawer.
Mae Sioned ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynhyrchydd Cyfres ac Uwch-gynhyrchydd llawrydd a newydd orffen gweithio ar y gyfres adloniant ffeithiol Cymry ar Gynfas i S4C.
Meddai Sioned Geraint:
"Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn i gael cynnig y swydd hon ac i ymuno â thîm comisiynu S4C. Mae cael gweithio yn y Gymraeg yn rhywbeth sy'n bwysig tu hwnt i mi ac yn agos iawn at fy nghalon. Dwi'n edrych ymlaen at ychwanegu at y cynnwys arbennig sy'n bodoli eisoes ac at greu cyfleoedd i'r sector annibynnol greu cynnwys Cymraeg ar gyfer gwahanol blatfformau. Yn sicr dwi wedi dod i ddeall pwysigrwydd a phŵer darlledu plant yn yr iaith Gymraeg ers dod yn fam rai blynyddoedd yn ôl ac os fedrai adeiladu ar hynny yn y byd digidol sydd ohoni mi fyddai'n hapus. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i ddechrau ar y gwaith."
Wrth groesawu ei phenodiad fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Mae'n wych gallu croesawu Sioned i ymuno â'n tîm comisiynu ar ôl gyrfa ddisglair ym maes cynhyrchu rhaglenni plant a dysgwyr. Mae ganddi ddealltwriaeth eang o'r maes ac mae'n braf ei bod wedi bod yn rhan mor allweddol o rai o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y sianel. Edrychaf ymlaen at ei chroesawu."
Bydd Sioned yn cychwyn ei swydd newydd ddechrau mis Medi.
20 Mai 2021 - Cylchgrawn newydd Cyw yn ateb y galw wedi cyfnod clo o golli sgiliau
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43165/lansio-cylchgrawn-newydd-cyw/
Mae Cyw, gwasanaeth S4C i wylwyr ieuengaf y sianel wedi bod yn diddori ac addysgu plant bach (heb sôn am wneud bywyd yn haws i rieni) ers iddo sefydlu yn 2008.
A nawr, bydd ychwanegiad newydd sbon i'r gwasanaeth, sef Cylchgrawn Cyw.
Cyw a'i ffrindiau fydd sêr y cylchgrawn lliwgar hwn, fydd yn cael ei lansio ar ddechrau Eisteddfod T, ar 31 Mai.
Bydd 48 tudalen yn llawn dop o weithgareddau hwyliog fydd yn addas ar gyfer plant ifanc hyd at chwech oed.
Law yn llaw â'r cylchgrawn, bydd gwefan arbennig yn cynnig cyfieithiad o'r holl gynnwys - yn rhoi cyfle i'r di-Gymraeg glywed y storïau'n cael eu darllen yn y Gymraeg.
Tîm o chwech o athrawon o sir Gaerfyrddin sydd wedi cydweithio gyda'r cyhoeddwr Peniarth i sicrhau cynnwys sydd â gogwydd addysgol, ond hefyd yn llawn hwyl, ac yn apelio i blant bach.
Y criw, yw Llio Dyfri Jones a Kiri Thomas o Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin; Rhian Davies, Ysgol y Ddwylan; Maureen Williams, Ysgol Teilo Sant, Meleri Jones o Ysgol Bro Banw, sydd i gyd yn athrawon Cyfnod Sylfaen, a Catrin Evans-Thomas Darlithydd yng nghanolfan Rhagoriaith, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
A does dim adeg gwell wedi bod i gylchgrawn o'r fath ymddangos, yn ôl Llio Dyfri Jones:
"Un peth 'da'n ni wedi'i weld dros y cyfnod clo ydi bod sgiliau digidol plant wedi datblygu'n anferthol, sy'n sicr am fod yn fanteisiol wrth iddyn nhw ddatblygu'n addysgol.
"Ond er mor bwysig ydi'r sgiliau digidol yma, mae angen pwysleisio bod hi'n bwysig nad yw hyn yn digwydd ar draul sgiliau sylfaenol plant.
"Fe welon ni nad oedd rhai plant wedi gafael mewn pensil na chreon yn ystod y cyfnodau clo.
"Ond trwy ddefnyddio cymeriadau Cyw – cymeriadau maen nhw wedi'u gweld yn 'ddigidol', boed ar ffurf iPad neu sgrin deledu, da'n ni'n gobeithio y bydd Cyw a'i ffrindiau yn hudo'r plant i liwio, torri, bod yn greadigol, datblygu sgiliau meddwl a sylwi, yn ogystal â'u sgiliau ieithyddol nhw."
"Mae o'n gylchgrawn hwyliog ac mae o'n cwmpasu lot o bethau sydd, dwi'n gobeithio am apelio at blentyn bach rhwng 2 – 6 oed.
"Dwi wedi gallu treialu dipyn o'r cynnwys gyda plant fy nosbarth, ac roedd o'n hyfryd i weld eu ymateb brwdfydig."
Bydd y cylchgrawn yn mynd ar werth ar 31 Mai, a bydd modd prynu copi o'r wefan www.peniarth.cymru neu o'ch siop lyfrau Cymraeg lleol.
£3.99 yw pris y cylchgrawn, ond gellir tanysgrifio nawr i dderbyn rhifyn bob tymor am flwyddyn o fis Medi ymlaen am £15.
18 Mai 2021 - Dilynwch y Chwe Gwlad Dan-20 ar S4C a BBC Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/43133/dilynwch-y-chwe-gwlad-dan-20-ar-s4c-a-bbc-cymru/
Bydd S4C a BBC Cymru yn darlledu pob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan-20 2021.
Gyda'r bencampwriaeth gyfan yn cael ei chynnal ym Mharc yr Arfau Caerdydd eleni am bum diwrnod wedi ei wasgaru dros bedair wythnos, bydd yr holl gemau yn cael eu dangos yn fyw ar deledu ac ar-lein.
Bydd rowndiau un a phump i'w gweld yn fyw ar BBC gyda Scrum V Live, tra bydd rownd dau, tri a phedwar yn cael eu dangos gan Clwb Rygbi ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael.
Bydd holl gemau Cymru yn cael eu darlledu yn fyw ar deledu, ar S4C a BBC Two Wales, tra bydd gweddill y gemau i'w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer.
BBC Cymru fydd yn cynhyrchu'r holl arlwy o'r pymtheg gêm.
Dywedodd Gareth Rhys Owen, cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol a Scrum V Live: "Mae'r Chwe Gwlad Dan-20 yn rhoi cipolwg i ni o ddyfodol rygbi. Heb os, byddwn ni'n gweld sawl seren y dyfodol yn creu argraff ar y cae eleni.
"Gyda'r fformat newydd, a'r holl gemau yn digwydd ym Mharc yr Arfau, mae 'na wefr wahanol i'r Pencampwriaeth eleni."
Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Bydd S4C yn dangos naw gêm o'r Bencampwriaeth eleni. Er na welsom y Chwe Gwlad Dan-20 ar y sgrin ym mis Mawrth ac Ebrill, rydym yn falch iawn y bydd yn cael ei gynnal dros yr haf.
"Dyma gyfle gwych i chwaraewyr ifanc ddangos eu doniau i gynulleidfa eang, a gobeithio bydd cefnogwyr rygbi yn mwynhau'r holl arlwy ar deledu ac ar S4C Clic."
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru: "Mae'n anhygoel o gyffrous fod holl gemau'r Bencampwriaeth arbennig yma ar gael i wylwyr ar BBC Two Wales ac S4C.
"Mae'n rhan o haf arbennig o chwaraeon sy'n sicr o roi modd i fyw i gefnogwyr. Dwi'n methu aros!"
10 Mai 2021 - Rownd a Rownd yn darlledu trwy gydol yr haf am y tro cyntaf
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42941/rownd-a-rownd-yn-darlledu-trwy-gydol-yr-haf-am-y-tro-cyntaf/
Mae S4C wedi cyhoeddi bydd yr opera sebon Rownd a Rownd yn darlledu trwy gydol yr haf eleni a hynny am y tro cyntaf erioed.
Ag eithrio toriad yn yr amserlen ar gyfer Eisteddfod T ac wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Rownd a Rownd i'w weld ar S4C drwy fisoedd cyfan yr haf.
Yn ogystal, bydd ffans y gyfres boblogaidd yn falch o glywed y bydd Rownd a Rownd yn dychwelyd i'r sgrîn ddwy waith yr wythnos o'r 18 o Fai ymlaen.
Bu'n rhaid cwtogi penodau Rownd a Rownd i un bennod yr wythnos ganol fis Mawrth gan fod cyfyngiadau covid wedi cael effaith ar yr amserlen gynhyrchu.
"O 18 Mai bydd y gyfres yn dychwelyd i'r sgrin bob nos Fawrth a nos Iau am 8.25 yr hwyr.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Mae Rownd a Rownd yn un o gyfresi mwyaf poblogaidd ein hamserlen, ac mae'n newyddion gwych y bydd ffans nawr yn gallu mwynhau hynt a helynt trigolion Glanrafon drwy gydol yr haf.
"Ry'n ni'n falch iawn hefyd o fod nôl yn darlledu dwy bennod yr wythnos i gynnig patrwm sefydlog i'n gwylwyr.
"Mae 'na sawl stori gyffrous ar y gweill sy'n siŵr o gadw'n gwylwyr ar flaenau eu seddi!"
Meddai Manon Lewis Owen, Cynhyrchydd Rownd a Rownd:
"Rydym ni'n hynod falch fel criw a chast y bydd Rownd a Rownd yn ôl i'r ddwy bennod wythnosol arferol o ddydd Mawrth, 18 Mai ymlaen.
"Rydym wedi gwerthfawrogi cefnogaeth ein gwylwyr yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf ac yn edrych ymlaen at adrodd mwy o hanesion o'r llon i'r lleddf gydag ambell ddigwyddiad annisgwyl ar y gorwel."
Darlledwyd Rownd a Rownd am y tro cyntaf yn 1995 ac mae'r gyfres wedi llwyddo i ddatblygu nifer fawr o actorion ifanc dros y blynyddoedd.
Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy a'r chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Rondo.
30 Ebrill 2021- Dros 10 miliwn o sesiynau gwylio i brif gyfrifon S4C ar y cyfryngau cymdeithasol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42922/dros-10-miliwn-o-sesiynau-gwylio-i-brif-gyfrifon-s4c-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol/ Mae twf aruthrol wedi bod i gyfryngau cymdeithasol S4C dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chynnydd o 49.7% yn y sesiynau gwylio.
Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 llwyddwyd i ddenu dros 10 miliwn o sesiynau gwylio ar draws prif gyfrifon S4C ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube.
Yn ogystal, denwyd dros hanner biliwn o sesiynau gwylio ar draws holl GIF's S4C yn y pum mlynedd diwethaf.
Ar gyfartaledd mae GIF'S S4C yn denu tua 700,000 o sesiynau gwylio bob diwrnod.
Mae'r GIF's mwyaf poblogaidd yn cynnwys Huw Chiswell yn y ffilm eiconig Ibiza Ibiza a chymeriad Plwmsan yn y rhaglen blant boblogaidd o'r 80au, Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.
Mae'r cynnwys mwyaf poblogaidd ar gyfrifon S4C yn cynnwys deunydd ar raglenni Iaith ar Daith, Y Llinell Las, Cân i Gymru, Jonathan, nifer o raglenni archif a bocs sets a nifer o raglenni a chyfresi eraill.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae S4C wedi defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu gyda'r gwylwyr, gan gynnal cyfres o sesiynau byw ar Facebook gydag Owen Evans, Prif Weithredwr y Sianel, Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd y Sianel ac aelodau o'r Tîm Comisiynu.
Bu'r sesiynau hyn yn gyfle i ddiweddaru'r gwylwyr ar wahanol agweddau o waith S4C, ac yn gyfle i'r gynulleidfa holi cwestiynau am raglenni ac arlwy y sianel.
Bydd y sesiwn Facebook Live nesaf gyda'r Prif Weithredwr yn cael ei gynnal am 6.00 yr hwyr ar 12 Mai 2021.
"Dwi'n falch iawn fod ein cynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C yn taro deuddeg gyda'n dilynwyr." meddai Owen Derbyshire, Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C.
"Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwysig i ni allu hyrwyddo ac ymgysylltu gyda'n gwylwyr yn ogystal â denu chynulleidfaoedd newydd.
"Fel rhan o'n strategaeth ddigidol rydym yn anelu i gomisiynu mwy o ddeunydd ecsgliwsif ar gyfer ein platfformau digidol fydd yn rhoi cyfle i ni ddenu gwylwyr newydd i fwynhau ein cynnwys."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae S4C wedi darlledu datganiadau Llywodraeth Cymru yn fyw drwy Facebook a bydd newyddion, diweddariadau a chanlyniadau yr etholiad hefyd ar gael ar draws platfformau cyfryngau cymdetihasol S4C, Newyddion S4C a Hansh Dim Sbin ar Fai y 7fed.
30 Ebrill 2021 - Digon yw Digon - S4C Chwaraeon yn ymuno â Boicot Cyfryngau Cymdeithasol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42920/digon-yw-digon-s4c-chwaraeon-yn-ymuno--boicot-cyfryngau-cymdeithasol/
Y penwythnos hwn bydd S4C yn rhan o ymgyrch cyfryngau cymdeithasol y byd chwaraeon, yn yr ymgais ar y cyd i fynd i'r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a cham-drin ar-lein.
Ni fyddwn felly yn defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C Chwaraeon, Sgorio ac Y Clwb Rygbi rhwng 15.00 dydd Gwener 30 Ebrill a 23.59 dydd Llun 3 Mai.
Bydd hyn yn effeithio ar gêm fyw Sgorio, er bydd gwasanaeth S4C Clic yn dangos y cynnwys fel arfer.
Gyda'n gilydd, gobeithiwn bydd hyn yn gam tuag at atal cam-drin ar-lein.
Digon yw digon.
29 Ebrill 2021 -Dilynwch bob cymal o Giro d’Italia 2021 ar S4C
https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42907/dilynwch-bob-cymal-o-giro-ditalia-2021-ar-s4c/
Bydd modd gwylio Giro d'Italia 2021 yn ei chyfanrwydd ar S4C gyda chymalau byw a rhaglenni uchafbwyntiau dyddiol.
Bydd modd gwylio Giro d'Italia 2021 yn ei chyfanrwydd ar S4C gyda chymalau byw a rhaglenni uchafbwyntiau dyddiol.
Gyda'r ras yn cychwyn yn Turin ar ddydd Sadwrn 8 Mai, S4C yw'r unig ddarlledwr cyhoeddus am ddim yn y Deyrnas Unedig sydd yn darlledu'r ras.
Bydd y gyfres Seiclo yn dilyn y cyfan, wrth i'r reidwyr deithio 3,450 o gilomedrau dros gyfnod o dair wythnos ar hyd ffyrdd yr Eidal.
Bydd tîm profiadol Seiclo yn ein tywys drwy'r cyfan gyda Rhodri Gomer yn cyflwyno, Wyn Gruffydd, John Hardy a Gareth Rhys Owen yn sylwebu, a'r seiclwr tîm Ribble Weldtite Gruff Lewis, Dewi Owen a'r brodyr, Rheinallt a Peredur ap Gwynedd, yn dadansoddi.
Ymysg yr enwau mawr fydd yn cystadlu yn y ras eleni bydd Egan Bernal, Thibaut Pinot, Simon Yates a Peter Sagan.
Meddai Wyn Gruffydd: "Roedd ras y llynedd yn un hynod o afaelgar a chyffrous hyd at y diwrnod ola', a chyda'r pwyslais eleni ar ddringo, a dringwyr gorau'r gamp yn y ras, dw i'n sicr y byddwn ni'n gweld cystadlu brwd am y Maglia Rosa ar bob un cymal unwaith eto.
"Mae tirwedd odidog yr Eidal yn llwyfan perffaith i un o rasys feics harddaf a chaletaf y byd, ac mi ydyn ni'n edrych ymlaen at gael eich cwmni."
Dilynwch @Seiclo ar Twitter a Facebook i gael y newyddion diweddaraf a chlipiau dyddiol o'r ras, yn ogystal â chlipiau fideo yn edrych ymlaen at bob cymal o'r ras.
21 Ebrill 2021 - Cyhoeddi enillydd Ysgoloriaeth Newyddion S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42855/cyhoeddi-enillydd-ysgoloriaeth-newyddion-s4c/
Molly Sedgemore o Hirwaun yw enillydd cyntaf Ysgoloriaeth Newyddion S4C.
Bydd Molly sy'n 22 oed ac sydd ar fin graddio o Brifysgol Caerdydd mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn treulio cyfnod o dri mis yn gweithio i Wasanaeth Newyddion Digidol newydd S4C.
Bwriad yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu lleisiau newydd sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg.
"Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yn darllen a sgwennu." meddai Molly.
"Ers cychwyn y cwrs yn y Brifysgol dwi wedi dod i deimlo yn hollol angerddol am newyddiaduraeth.
"Dwi wedi cael cymaint o brofiadau da ar y cwrs – yn academaidd ac yn ymarferol, ac felly dwi'n teimlo'n barod i ddechrau ar fy ngyrfa mewn maes sydd yn fwy perthnasol nag erioed o'r blaen."
"Ro'n i mewn sioc pan glywais i mod i wedi ennill yr ysgoloriaeth a methu credu'r peth!
"Dwi mor ddiolchgar i gael y cyfle yma. Mae'n siawns arbennig i gael profiad hands on gyda criw o newyddiadurwyr."
"Mae cael gweithio ar wasanaeth hollol newydd hefyd yn gyffrous iawn, ac mae cael y cyfle yma i ddatblygu fy hyder a fy sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn werthfawr tu hwnt."
"Mae'n gyfnod cynhyrfus i weithio ym myd newyddiaduraeth ac mae Newyddion o bob math yn bwysig i bawb.
"Mae ap Newyddion newydd S4C yn golygu fod modd cael y newyddion diweddaraf ar flaen eich bysedd unrhyw amser o'r dydd.
"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn i gael gweithio ar y gwasanaeth newydd a dwi methu aros i gychwyn ar y gwaith. Dwi bendant yn mynd i wneud y mwyaf o'r cyfle."
Lansiwyd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C ar 6 Ebrill gydag ap a gwefan newydd sbon.
Mae'r gwasanaeth yn cyflogi chwech o newyddiadurwyr gan gynnwys Golygydd, Dirprwy Olygydd a phedwar Newyddiadurwr Digidol.
Bydd Molly yn cychwyn gydag Adran Newyddion Ddigidol S4C fis Mehefin.
20 Ebrill 2021 - Dilynwch tymor Pencampwriaeth Rali'r Byd gyda Ralïo+
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42863/dilynwch-tymor-pencampwriaeth-ralir-byd-gyda-ralo/
Wrth i dymor Pencampwriaeth Rali'r Byd gyrraedd Croatia, bydd modd dilyn y cyfan dros y cyfryngau cymdeithasol gyda gwasanaeth digidol newydd Ralïo+.
Bydd Ralïo+ yn dychwelyd am weddill y tymor WRC gydag uchafbwyntiau dyddiol o bob rali, yn ogystal â fodlediad cyn ac ar ôl pob rali, a chyfweliadau ecsgliwsif gydag Elfyn Evans ac eraill rhwng nawr a diwedd y tymor.
Dilynwch @RalioS4C ar Facebook, Twitter ac Instagram, er mwyn cael yr holl gynnwys a newyddion diweddaraf o bob rali.
Yn y dyddiau yn arwain at Rali Croatia, bydd Ralïo+ yn dangos cyfweliad gydag Elfyn, wrth iddo geisio dringo o'r pedwerydd safle yn y bencampwriaeth ar ôl dwy rali, tuag at y brig.
Meddai Elfyn: "Mae Ralïo+ wedi bod yno ers y cychwyn cyntaf yn fy ngyrfa i, ac mi ydw i'n hynod o falch i weld nhw dal yno yn fy nilyn rŵan wrth i mi gystadlu ar lwyfan fwyaf y byd ralio."
Y diwrnod cyn i'r rali ddechrau, ar ddydd Mercher 21 Ebrill, bydd y criw Ralïo+, Emyr Penlan, Hana Medi a Howard Davies, yn edrych ymlaen at y rali yng nghwmni gwestai arbennig, cyn cyd-yrrwr Elfyn, Andrew Edwards, mewn fodlediad.
Yn ystod pedwar diwrnod y rali, bydd cyfrifon Ralïo+ yn diweddaru'r dilynwyr gyda newyddion diweddaraf, cyn cyhoeddi clip uchafbwyntiau ar ddiwedd pob dydd.
Yna, ar ôl i'r rali gyrraedd ei derfyn ar y dydd Sul, bydd criw Ralïo+ yn ymgynnull unwaith eto ar gyfer ail fodlediad, i edrych yn ôl a dadansoddi holl ddigwyddiadau'r penwythnos.
Dywedodd Emyr Penlan: "Mae'n gyfnod cyffrous i ralio yng Nghymru, gydag Elfyn yn cael ei ystyried fel un o yrwyr rali gorau'r byd ac yn brwydro am bencampwriaeth y byd unwaith eto.
"Mi fyddwn ni'n cadw ffans rali yn y lŵp gyda'r newyddion diweddaraf, uchafbwyntiau a sgyrsiau difyr gyda phobl o'r byd ralio.
"Ni'n edrych ymlaen at gael eich cwmni yn Croatia, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Ralïo+ ar y cyfryngau!"
Bydd cynnwys Ralïo+ yn cychwyn ar ddydd Mawrth 20 Ebrill, gan edrych ymlaen at Rali Croatia. I weld yr holl gynnwys, dilynwch @RalioS4C ar Facebook, Twitter ac Instagram.
6 Ebrill 2021- S4C yn lansio Gwasanaeth Newyddion Digidol newydd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42660/s4c-yn-lansio-gwasanaeth-newyddion-digidol-newydd/
Mae S4C wedi lansio Gwasanaeth Newyddion Digidol newydd heddiw – Newyddion S4C, sy'n cynnwys ap a gwefan newydd sbon.
Yn ogystal â chyhoeddi straeon gwreiddiol, bydd y gwasanaeth hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, ac yn cyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C a gynhyrchir gan BBC Cymru.
Dyma'r tro cyntaf i wasanaeth newyddion Cymraeg gyhoeddi a churadu cynnwys gan sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnig gwasanaeth newyddion cynhwysfawr mewn un lle.
"Mae cydweithio gyda phartneriaid yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol." meddai Ioan Pollard, Golygydd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C."
"Mae'n holl bwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i'r gwylwyr ar flaenau eu bysedd. Mae'r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau."
Rydyn ni wedi cynllunio'r ap fel bod modd cael newyddion o sawl ffynhonnell wahanol mewn un lle. A ninnau ynghanol cyfnod etholiadol a chyda gymaint o bwyslais ar iechyd a'r economi, mae'n sicr yn amser hynod arwyddocaol i lansio gwasanaeth newyddion newydd."
Bydd Newyddion S4C yn craffu ar y pleidiau a'r gwleidyddion drwy gydol y cyfnod etholiadol. Bydd hefyd straeon am iechyd, amaeth, materion cyfoes, chwaraeon, a straeon lleol yn canolbwyntio ar bobl a'u cymunedau.
Mae S4C wedi penodi tîm o chwech o newyddiadurwyr i weithio ar y gwasanaeth newyddion newydd yn cynnwys Golygydd Newyddion, Dirprwy Olygydd Newyddion a phedwar newyddiadurwr digidol.
Gallwch lawrlwytho ap newydd NS4C drwy'r App Store neu Google Play Store ac ymweld â'r wefan ar s4c.cymru/Newyddion.
1 Ebrill 2021 - Priodas Pum Mil yn galw am gyplau i gystadlu am briodas hafaidd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42641/-priodas-pum-mil-yn-galw-am-gyplau-i-gystadlu-am-briodas-hafaidd/
Bydd y newyddion fod Priodas Pum Mil yn dychwelyd yn siŵr o achosi cryn gyffro ledled y wlad.
Ond, os na fedrwch aros tan yr Hydref am y bumed cyfres o'r rhaglen sy'n gyfuniad perffaith o ramant ac adloniant, mae rhywbeth arbennig iawn ar y gweill i lenwi'r bwlch.
Meddai'r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris, "Gan fod tipyn i aros nes y gyfres nesaf, mae Emma (Walford) a finnau wedi cael her arbennig ar gyfer yr haf.
"Unwaith eto, bydd cwpwl lwcus yn cael y cyfle i briodi a ninnau yn gweithio gyda'r teulu a ffrindiau i drefnu popeth drostynt. Ond, mae 'na cwpwl o dwists!
"Y gwylwyr fydd yn dewis y pâr buddugol, felly mae gan bawb ran bwysig i'w chwarae yn yr uniad y tro yma. Ac, mi fydd y cyfan yn cael ei ddarlledu'n fyw o un o leoliadau harddaf Cymru - ar draeth."
"Mae'r dyddiad wedi'i osod (16 Gorffennaf), mae'r arian yn y kitty, a da ni wrthi'n brysur yn barod i sicrhau fod y dydd yn un bythgofiadwy ac yn llawn o wynebau cyfarwydd. Be well? Be all fynd o'i le?".
"Yr unig beth sydd ar goll yw'r ddau ddyweddi."
Felly os ydych chi'n bâr cariadus sy'n dyheu am briodi yn yr awyr agored wrth deimlo'r tywod dan eich traed a sŵn y môr yn suo ger llaw, gwnewch eich cais nawr!
"Dychmygwch leoliad hudol wedi ei addurno'n fendigedig a dychmygwch adloniant o'r radd uchaf, gan un o gantorion enwocaf ein gwlad. "Mae hyd yn oed sôn bod cogydd godidog yn paratoi i danio'r barbeciw yn barod," meddai Emma.
Os yw hyn i gyd yn apelio, heb i chi orfod talu ceiniog, dyma gyfle euraidd i fynd amdani.
Ac os nad ydych am roi cynnig arni, na phoener - mae gwahoddiad i bawb i Briodas Pum Mil Byw.
Yng nghanol mis Mai, bydd y tri cwpwl sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cyflwyno fideo i'r rhaglen Heno, i egluro pam dyle nhw ennill eich pleidlais.
Bydd fyny i chi i benderfynu pwy gaiff wireddu eu breuddwydion.
Felly, os am gyfle i ennill priodas unigryw gyda'r genedl yn gwylio, neu i enwebu pâr haeddiannol, ewch i www.s4c.cymru/priodaspummil i wneud cais cyn 23 Ebrill.
25 Mawrth 2021 - Holl fwrlwm Etholiad Senedd Cymru ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42542/holl-fwrlwm-etholiad-senedd-cymru-ar-s4c/
Bydd S4C yn craffu'r pleidiau a'u polisïau gan ddod â holl newyddion Etholiad Senedd Cymru i wylwyr y sianel drwy gydol cyfnod yr Etholiad.
Gan ddechrau ar nos Iau 25ain o Fawrth bydd rhaglen Pawb a'i Farn yn rhoi cyfle i rai o'r pleidleiswyr ifanc 16 a 17 oed i holi'r gwleidyddion.
Cawn glywed beth yw'r pynciau sy'n bwysig iddyn nhw a beth fydd yn dylanwadu ar eu dewis ar Fai'r 6ed.
Bydd Betsan Powys yn cyflwyno'r rhaglen o'r gogledd ar nos Iau 22ain o Ebrill ac ar y 3ydd o Fai, bydd yn holi arweinwyr y prif bleidiau dridie cyn yr Etholiad.
Yn ogystal, bydd cyfres newydd o Y Byd yn ei Le yn cychwyn ar 7 Ebrill gyda Guto Harri yn craffu a dilyn a dehongli holl agweddau'r Etholiad.
Bydd Newyddion S4C ar deledu ac yn ddigidol yn manylu ar bob elfen o'r ymgeiswyr, y pleidiau a'r polisïau.
Ac wrth i'r cyfrif ddigwydd ddiwrnod wedi'r bleidlais Bethan Rhys Roberts fydd yn dod â'r newyddion a'r canlyniadau yn fyw i'r gwylwyr. Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:
"Gyda phobl ifanc 16 oed yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yn hanes Etholiadau Senedd Cymru bydd yna egni newydd i'r ymgyrchu eleni, a gyda'r frwydr yn symud ar-lein oherwydd y pandemig, yno hefyd y bydd ein sylw ni ar wasanaeth Newyddion digidol newydd S4C.
"Bydd arlwy gynhwysfawr S4C yn dod â'r newyddion diweddaraf ar deledu hefyd a gyda rhai o'r cyflwynwyr a'r cyfranwyr mwyaf deallus, byddwn yn craffu ar holl agweddau'r etholiad.
"Eleni hefyd wrth i'r cyfri ddigwydd ddiwrnod wedi'r bleidlais fydd dim angen i chi aros ar eich traed tan yr oriau man, a gyda'r son am frwydr glos, cyffro'r canlyniadau fydd adloniant nos Wener ar S4C ar Fai y 7fed."
23 Mawrth 2021 - S4C yn galw am amlygrwydd i'r Gymraeg ar lwyfannau digidol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42509/s4c-yn-galw-am-amlygrwydd-ir-gymraeg-ar-lwyfannau-digidol/
Wrth ymateb i ymgynghoriad Ofcom Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, mae S4C wedi galw am ddiwygio'r drefn rheoleiddio er mwyn rhoi amlygrwydd i'r Gymraeg ar lwyfannau digidol.
Mewn llythyr at Ofcom mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans yn galw am fesurau brys i ddiwygio'r system reoleiddio i sicrhau amlygrwydd ac argaeledd ar delerau teg i wasanaethau ar-lein S4C, ochr yn ochr â'r darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSMs) eraill.
Mae S4C o'r farn fod cynnwys Saesneg yn dominyddu'r llwyfannau mwyaf poblogaidd, gyda darparwyr byd-eang yn medru buddsoddi'n sylweddol mewn technoleg i hyrwyddo'u cynnwys ar sail data defnyddwyr.
Yn y llythyr, mae S4C yn pwysleisio'r camau isod fel blaenoriaeth:
- Yr hawl i PSMs yn ieithoedd brodorol y DU gael lefel uchel o amlygrwydd ar draws platfformau a dyfeisiau.
- Gofyniad safonol i fod ar gael ar yr holl setiau teledu clyfar.
- Data i fod yn eiddo i'r darparwyr yn hytrach na'r platfformau, er mwyn medru gwneud penderfyniadau comisiynu ac amserlenni yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae S4C am sicrhau ffynonellau hirdymor a chynaliadwy o incwm masnachol, gan gynnwys incwm hysbysebu a nawdd (llinol a digidol).
- Mae angen sicrhau telerau teg gyda pherchnogion y platfformau er mwyn cynyddu'r incwm i'r PSMs i'w ailfuddsoddi mewn cynnwys.
- Ymestyn yr egwyddorion amlygrwydd ac argaeledd uchod i unrhyw ddulliau newydd o gyfleu fideo sy'n debygol o ddod yn boblogaidd, e.e. Ultra HD.
Meddai Owen Evans: "Mae angen moderneiddio'r fframwaith reoleiddio er mwyn sicrhau bod yna gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus llewyrchus yn yr ieithoedd brodorol sy'n ffynnu am flynyddoedd i ddod.
"Mae'n anodd i PSM mewn iaith leiafrifol fel S4C ddylanwadu ar y platfformau byd-eang trwy drafodaeth fasnachol ac felly rydym yn galw am ymyrraeth drwy ddeddfwriaeth.
"Heb hyn, mae yna beryg go iawn na fydd cynnwys Cymraeg yn weladwy ar-lein ac na fydd y Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd cenedlaethau'r dyfodol. "
23 Mawrth 2021 - Ap Antur Cyw ar gael yn Llydaweg a Chernyweg
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42325/ap-antur-cyw-ar-gael-yn-llydaweg-a-chernyweg/
Mae brand adnabyddus Cyw yn lledaenu ei hadenydd a hedfan tu hwnt i Gymru!
Ymunwch â Cyw, Jangl, Llew, Bolgi, Plwmp, Triog a Deryn – neu Kiou, Jirafenn, Leon, Ki, Olifant, Laouenan (Llydaweg) a Kyw, Tybi, Lew, Skav, Oli a Deryn (Cernyweg)!
Ar ôl cyfnod o gydweithio â chynrychiolwyr o Lydaw a Chernyw, mae Ap poblogaidd S4C Cyw, Ap Antur Cyw, bellach ar gael yn yr ieithoedd Llydaweg a Chernyweg.
Mae'r Ap, a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2020, yn rhoi gofod i blant ddysgu, chwarae a chael hwyl mewn amrywiaeth o weithgareddau sbort ac addysgiadol. Ym Mharc Antur Cyw, gallwch bysgota i gwblhau geiriau yn y ffair, cyfri ar y fferm, mynd ar y trên sillafu, cyfansoddi cerddoriaeth, lliwio a mwy.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C:
"Mae hi mor braf gallu lansio'r ap arbennig yma. Ar ôl sgwrs yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yn yr Alban yn 2019, daeth y syniad i gydweithio a rhannu adnoddau, er mwyn annog a chefnogi ieithoedd lleiafrifol eraill.
"Nid yn unig mae'r ap yma'n helpu plant gyda sgiliau rhifedd a llythrennedd a darganfod ieithoedd eraill tebyg i'r Gymraeg, mae o hefyd yn rhywbeth hygyrch i oedolion a rhieni sydd â diddordeb mewn dysgu geiriau Cymraeg, Cernyweg neu Lydaweg.
"Mae ieithoedd lleiafrifoedd yn cefnogi a helpu ei gilydd yn rhywbeth i'w ddathlu, ac mae'n wych bod gan S4C ran ganolog yn hyn wrth lansio Ap Antur Cyw mewn tair iaith Geltaidd."
Meddai Mael Le Guennec, Pennaeth Rhaglenni Llydaweg, France Télévisions:
"Dydyn ni erioed wedi cael rhywbeth o'r safon yma yn Llydaweg. Dyma Ap deniadol sy'n gallu cael ei ddefnyddio gan blant ac oedolion hefyd. Mae oedolion, yn ogystal â phlant, yn dysgu Llydaweg, ac o hyd yn chwilio am rywbeth hwylus a hygyrch i helpu.
"Mae'n dda i bobl ddarganfod mai nid ni yw'r unig iaith Geltaidd sy'n bodoli. Mae'n anodd i rai ddeall fod yna ieithoedd Celtaidd eraill, sy'n agos i'n hiaith ni.
"Mae hwn yn arf arbennig, ac roeddem ni'n hapus iawn fod S4C eisiau cydweithio a'i rannu gyda ni."
Meddai Denzil Monk, Cynhyrchydd a pherchennog Bosena, cwmni cynhyrchu annibynnol yng Nghernyw:
"Mae'r ap yma yn bwysig iawn. Ychydig o adnoddau Cernyweg sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd cynnar – llyfrau ac ambell ap. Ond, does dim lot o gwbl, a llai fyth sydd mor ddeniadol â hyn gyda'r safon dysgu sy'n bodoli o fewn yr ap yma. Mae'n sicr yn gam yn uwch i'r hyn sydd ar gael yn yr iaith Gernyweg.
"Mae hi'n wych cael yr ieithoedd Cernyweg, Llydaweg a Chymraeg yn cydweithio. Mae'n beth unigryw i gael y tair iaith gyda'i gilydd, a bydd yr ap yma yn sicr yn codi proffil yr ieithoedd hyn yn y dyfodol."
Mae Ap Antur Cyw ar gael am ddim ar blatfformau Apple, Android ac Amazon ac mae modd dewis pa iaith hoffech chi ddefnyddio ar ôl lawrlwytho. Chwerthin, chwarae a dysgu gyda Cyw!
C'hoarzhin, c'hoari ha deskiñ gant Kiou!
Hwerthin, gwari ha dyski gans Kyw!
11 Mawrth 2021 - Cyfres newydd o Craith ar y ffordd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42274/cyfres-newydd-o-craith-ar-y-ffordd/
Gydag ambell gyfnod heulog wedi codi ein calonnau ar ddechrau mis Mawrth, mae'r rhan fwyaf ohonom yn falch o ffarwelio â'r gaeaf a croesawu'r gwanwyn.
Ond, mae cwmni Severn Screen eisoes yn edrych ymlaen at fwy o nosweithiau oer a thywyll wrth iddynt gydio yn y gwaith o gynhyrchu cyfres arall o Craith.
Wrth drafod y ddrama dywyll, llawn dirgelwch dywedodd y cynhyrchydd, Hannah Thomas:
"Mae'n braf cael y criw nôl gyda'i gilydd i saethu'r drydedd gyfres o Craith ac mae atgyfodi cymeriadau DCI Cadi John (Sian Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Sion Alun Davies) yn broses hynod o gyffrous.
"Heb ddatgelu gormod, bydd Cadi a Vaughan yn datrys achos arall o lofruddiaeth wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn amgylchiadau amheus, ac wrth gwrs byddwn yn dod i ddeall mwy am eu bywydau tu allan i'r gwaith.
"Bydd sawl wyneb cyfarwydd yn ymuno â'r cast am y tro cyntaf, gan gynnwys Gwen Elis, Rhian Blythe a Sion Ifan.
"Yn ogystal, bydd enwau gymharol newydd fel Justin Melluish. Mae Justin yn actor dawnus sydd wedi magu profiad yn perfformio gyda'r cwmni theatr gynhwysol, Hijinx."
Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio ochr yn ochr yn y Gymraeg a'r Saesneg gan ddarlledu ar BBC Wales fel Hidden.
Dywedodd Comisiynydd drama S4C, Gwenllian Gravelle:
"Trwy lwyddiant y ddwy gyfres gyntaf, mae'r gwylwyr yn gyfarwydd â fformat gafaelgar Craith erbyn hyn.
"Ac yn y stori ysgytwol ddiweddaraf, byddwn yn cadw'n dryw i'r drefn o ofyn 'pam' yn hytrach na 'phwy' sydd wedi cyflawni'r drosedd.
"Unwaith eto, bydd popeth yn digwydd yn yr ardaloedd cyfagos i gartref Cadi a bydd tirwedd drawiadol yn ganolog i'r plot.
"Mae'r lleoliadau syfrdanol yn cyfrannu at allu'r ddrama i afael ynddoch chi a gwneud i chi deimlo eich bod yng nghanol y cyfan."
Gall gwylwyr edrych ymlaen at weld y gyfres newydd, a'r olaf, o Craith ar S4C yn yr Hydref.
8 Mawrth 2021 - S4C Clic yn croesi’r 200,000
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42193/s4c-clic-yn-croesir-200000/
Mae gwasanaeth ar-lein ac ar alw S4C, sef S4C Clic wedi llwyddo i gynyddu nifer y cofrestriadau o lai na 1,000 ar ddiwedd mis Mawrth 2019 i dros 200,000 erbyn heddiw.
Er mwyn dod i ddeall y gynulleidfa yn well a theilwra cynnwys yn benodol ar gyfer gwahanol ddiddordebau fe lansiodd S4C gynllun tanysgrifio yn Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd yn 2019.
Yn sgil hynny, tyfodd y gwasanaeth i fod yn fwy na phlatfform ar alw yn unig, gan gynnig bocs-sets, cyfresi o'r archif a chynnwys penodol.
Yn ddiweddar, llwyddodd S4C Clic i ddenu bron i 1,000 o wylwyr o Twrci, gyda chyfres ddrama danllyd Fflam yn denu diddordeb arbennig.
Mae'r gyfres yn cynnwys cast rhyngwladol sef Memet Ali Alabora a Pinar Ögün – y ddau yn hanu o Dwrci.
Mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans yn falch iawn o'r cynnydd a'r buddsoddiad sydd wedi digwydd gyda S4C Clic yn ddiweddar trwy greu swyddogaeth newydd a chomisiynu cynnwys penodol i'r gwasanaeth.
"Ein bwriad gyda S4C Clic yw pontio rhwng y llinol a'r digidol," meddai Owen Evans.
"Rydym wedi buddsoddi ar ddatblygu'r gwasanaeth gan gynnig nifer o welliannau o ran sefydlogrwydd, cyflwyniad a swyddogaeth.
Yn ogystal â bod yn wasanaeth ar alw rydym wedi sianeli cynnwys digidol unigryw drwy S4C Clic, fel y rygbi PRO14 a darparu nifer o bocs sets a chynnwys arall yn gynyddol ar lein yn unig.
"Mae'r system gofrestru gorfodol, wedi ein cynorthwyo i allu marchnata'n uniongyrchol i'n gwylwyr drwy e-bost ac i adlewyrchu eu diddordebau penodol."
Mae datblygiadau S4C Clic yn rhan o strategaeth ddigidol hir dymor y sianel gyda Chyfarwyddwr Digidol a Marchnata newydd wedi ei benodi i arwain ar y gwaith.
5 Mawrth 2021 - ‘Bach o Hwne’ yw enillydd Cân i Gymru 2021
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42167/bach-o-hwne-yw-enillydd-cn-i-gymru-2021/
Y gân Bach o Hwne gan Morgan Elwy Williams yw enillydd Cân i Gymru 2021.
Cafodd Bach o Hwne gan Morgan Elwy Williams o Lansannan ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2021 ar S4C heno (5 Mawrth) o lwyfan Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Caerdydd.
Mae Morgan yn 25 oed ac yn wreiddiol o Dan y Fron ger Llansannan, ond yn byw yng Ngogledd Llundain ers 2019.
Ar ôl gadael yr ysgol, mi aeth i Fanceinion i wneud gradd mewn Ffiseg, a bellach mae'n athro Ffiseg rhan amser mewn Ysgol Uwchradd yn Llundain. Y llynedd bu'n ffodus o gael yr holl amser yn y cyfnod clo i recordio ei albwm newydd. Mae'n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni.
Meddai Morgan: "Mae hyn yn golygu'r byd i mi, a diolch i bawb am gefnogi. A diolch i'r band hefyd – mae hyn yn anhygoel yn enwedig ar ôl blwyddyn fel llynedd."
Cafodd cystadleuaeth 2021 ei lansio nôl ym mis Tachwedd 2020 gyda'r dyddiad cau ar 3 Ionawr.
Dewisodd panel o bedwar beirniad yr wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru 2021. Eleni, y panel oedd Osian Williams o'r band Candelas ac enillydd y gystadleuaeth yn 2013 gyda'r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys, Angharad Jenkins – cerddor ac aelod o'r band gwerin Calan, y gantores, actores a'r gyflwynwraig Tara Bethan, a'r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell, a gyfansoddodd cân fuddugol Cân i Gymru ym 1984 gyda'r clasur, Y Cwm.
Ond heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.
Mae Morgan yn ennill tlws Cân i Gymru 2021 a'r wobr o £5,000.
Fel Hyn Mae Byw gan Huw Ynyr oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Siarad yn fy Nghwsg gan Melda Lois Griffith oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.
Dywedodd Siôn Llwyd o Avanti Media, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar ran S4C fod cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru wedi tynnu sylw unwaith eto at y talent cerddorol sy'n bodoli yng Nghymru.
"Llongyfarchiadau i Morgan ac i bob un o'r perfformwyr a'r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni - mae wedi bod yn noson anhygoel a hynny mewn blwyddyn anodd. Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg," meddai Siôn.
Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2021, ar alw ar S4C Clic s4c.cymru/clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Avanti Media ar gyfer S4C.
4 Mawrth 2021 - Bregus: Drama seicolegol newydd ar S4C ym mis Mawrth
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42094/bregus-drama-seicolegol-newydd-ar-s4c-ym-mis-mawrth/
Mae Bregus, drama gyffrous a newydd sbon wrthi'n cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd, ac mi fydd hi i'w gweld ar S4C ar nos Sul, Mawrth 21, fel rhan o gyfres o ddramâu gwreiddiol newydd ar y sianel.
Wedi'i gynhyrchu gan Fiction Factory (Y Gwyll), bydd Bregus yn cael ei ddarlledu yn y slot ddrama nos Sul, gan roi cyfres gyffrous a thywyll i gadw cynulleidfaoedd ar flaen eu seddi.
Mae'r gyfres ddrama 6 rhan yn canolbwyntio ar fywyd Ellie, sydd ar yr wyneb, yn ymddangos yn hollol berffaith. Mae gan Ellie, sy'n cael ei chwarae gan Hannah Daniel (Un Bore Mercher/Keeping Faith, Y Gwyll/Hinterland), y cyfan - gŵr gariadus, merch fach hyfryd a grŵp o ffrindiau agos. Maen nhw'n dibynnu ar ei gilydd, yn deulu.
Ond beth sy'n digwydd pan mae trasiedi'n taro ac yn dangos ochr arall i Ellie gan fygwth ffasâd ei bywyd a chwalu ei phen?
Crëwyd y gyfres gan Mared Swain a Ffion Williams yn ôl yn 2018.
"Roeddem yn ddwy fam brysur (fel pob rhiant!) yn ceisio, ac yn aml yn methu, bwrw'r balans rhwng bywyd pob dydd a gwaith. Mwy nag erioed roedd y ddwy ohonom ni'n teimlo pwysau byd oedd yn ddiarth i ni, ac yn ysu i greu cyfres oedd yn adlewyrchu'r teimladau yma." meddai Ffion.
"Ers y cychwyn o ni ishe creu prif gymeriad benywaidd (Ellie), sy'n bihafio mewn ffordd yr ydym ni wedi arfer gweld dynion yn bihafio ar sgrîn ers blynyddoedd. Rhywbeth sy'n ein diddori ni'n fawr fel crewyr, yw sut ydym ni fel cymdeithas yn barnu menywod a dynion am eu gweithredoedd.
"Rydym ni'n gyffrous iawn i weld sut fydd y gynulleidfa yn ymateb i Ellie, menyw sydd ddim wastad yn dilyn y stereoteip. Mam sydd ddim wastad yn famol, ffrind sydd ddim wastad yn meddwl, llawfeddyg sydd ddim bob tro'n gallu achub bywyd, a gwraig sydd ddim wastad yn ddibynadwy."
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Mae drama wedi bod yn ffynhonnell wych o adloniant i'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19, wrth ganiatáu'r gynulleidfa ddianc o fywyd bob dydd a phlymio i mewn i ramant, antur a drama. Rydym yn hynod falch o lansio cyfres arall wreiddiol a newydd sbon ar S4C, y tro hwn yn ôl yn y slot poblogaidd nos Sul.
"Mae Bregus yn stori am fenyw sy'n byw bywyd y mae pawb eisiau, ond sydd â chyfrinach a fydd, os na fydd hi'n dysgu ei reoli, yn cael gwared ar ei phwyll a'i dinistrio. Mae'n ddrama sydd â digon o gig ar yr asgwrn a fydd yn sicr yn gwneud i bobl ymgolli'n llwyr ynddo."
Bydd Fiction Factory yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith yn cael ei weithredu'n ddiogel.
2 Mawrth 2021 - Mark Drakeford: Prif Weinidog mewn Pandemig
Heb os, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, gyda phryder cyson am iechyd a llesiant ein teuluoedd, addysgu o'r cartref neu addasu i newidiadau yn ein sefyllfa gwaith.
Rhwng pob adolygiad o'r cyfyngiadau, rydym yn byw mewn gobaith bod pethau ar fin gwella.
Gyda chymaint yn y fantol, tybed sut deimlad yw bod y person sy'n dal yr allwedd i'r cyfan, yr unigolyn sy'n gyfrifol am arwain ein cenedl trwy gyfnod Covid-19 a'n tywys trwy dirwedd anwastad ac ansicr?
Bydd Prif Weinidog mewn Pandemig yn datgelu'r cyfan.
Bydd y rhaglen ddogfen, sydd ar S4C am 9.00 nos Sul, yn rhoi cyfle unigryw am gipolwg tu ôl y llen ar fywyd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y dyn sydd â'n dyfodol yn ei ddwylo.
Gyda chamerâu yn ei ddilyn ers Medi 1 2020, dyma'r mynediad cyntaf i'w fywyd dyddiol hectic.
Mae'n rhaid felly gofyn pam cytuno i'r syniad?
Ymateb Mark Drakeford yw; "Rydym ni'n byw mewn cyfnod mor anghyffredin, rwy'n meddwl ei fod yn werth cael rhyw fath o record o beth sy'n mynd ymlaen o fewn y Llywodraeth.
"Does dim byd i'w guddio, felly mae'r camera yn gallu gweld beth bynnag mae'r camera eisiau weld."
Wrth ganiatáu i'r camera ei ddilyn tu ôl i ddrysau caeedig mae siawns y bydd rhai yn gwylio yn geg agored wrth fod yn bry ar y wal mewn cyfarfodydd pedwar gwlad a thrafodaethau gyda'r cabinet.
Bydd cyfle i ddarganfod mwy am y rhesymeg dros benderfyniadau dadleuol a chael clustfeinio ar drafodaethau a arweiniodd at weithredoedd gan ein Llywodraeth, fel y clo annisgwyl cyn y Nadolig.
Ond er bod cyfle i ddod i adnabod Mark Drakeford mewn ffordd mwy personol, mae ambell gwestiwn anodd yn codi.
Beth yw barn y Prif Weinidog am arweinwyr eraill Y Deyrnas Unedig? Sut un yw'r berthynas rhwng y pedwar gwlad?
Cawn hefyd wybod mwy am yr effaith mae ei waith yn cael ar ei deulu, beth mae Mr Drakeford yn gwneud i ymlacio, sut fos yw e a sut mae'n teimlo am gael ei feirniadu?
"Mae llawer o bobl yn anghytuno gyda beth ni'n neud, ond os wyf i'n dod i ddiwedd y dydd, ac rwy'n gallu meddwl fy mod wedi gwneud fy ngorau glas, wel, dwi'n gallu cysgu'r nos.
"Beth y'n ni wedi dysgu dros y cyfnod Coronafeirws i gyd yw, pan mae Cymru yn gwneud rhywbeth yn gyntaf cyn y gwledydd eraill, mae'n anodd. "Achos mae'r holl gwestiynau yn dod atom ni; pam? Ble mae'r dystiolaeth?".
Yn sicr, mae Prif Weinidog mewn Pandemig yn amlygu faint o bwysau sydd ar ysgwyddau Mark Drakeford, ac mae'n gyfle digynsail i ddeall mwy am rai o'r penderfyniadau sydd wedi ysgwyd y wlad.
Dyma'r cyfnod fydd yn diffinio gyrfa Mark Drakeford, wrth iddo wneud y swydd y bu'n breuddwydio amdani pan yn blentyn ac yn canfasio gyda'i dad dros y Blaid Lafur yng Nghaerfyrddin yn ystod y 1960au.
A dyma eich cyfle chi i ddod i adnabod mwy ar y dyn tu ôl y penderfyniadau.
Mae Prif Weinidog mewn Pandemig ymlaen nos Sul 7 Mawrth am 9.00.
1 Mawrth 2021 - Cyhoeddi Ysgoloriaeth Newyddion S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/42040/cyhoeddi-ysgoloriaeth-newyddion-s4c/
Mae S4C heddiw wedi cyhoeddi Ysgoloriaeth Newyddion gyda chyfle i'r enillydd dreulio tri mis yn gweithio i wasanaeth newyddion digidol newydd y sianel.
Bwriad yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu lleisiau newydd sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg.
Mae S4C yn galw ar unigolion sy'n awchu i weithio ym maes newyddiaduraeth i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth newydd hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cytundeb tri mis yn adran newyddion digidol S4C, gan gael blas ar weithio mewn adran fyrlymus lle mae straeon yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y dydd.
Byddant hefyd yn cael cyfle i ddatblygu straeon newyddion gwreiddiol, i ymchwilio, i gyfweld, i ysgrifennu a chreu fideo newyddion digidol.
Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: "Mewn cyfnod heb ei debyg ym myd newyddion dyma gyfle unigryw i berson ddechrau ar yrfa newyddiadurol a gweithio ar wasanaeth digidol newydd cyffrous Newyddion S4C.
"Ers nifer o flynyddoedd mae S4C wedi cynnig Ysgoloriaeth Newyddiadurol T Glynne Davies.
"Nawr, wrth i ni baratoi i lansio gwasanaeth newyddion digidol newydd, mae hwn yn gyfle i ni addasu'r ysgoloriaeth eleni, er mwyn rhoi cyfle euraidd i berson sy'n frwd i weithio yn y maes i gael profiad uniongyrchol o weithio gyda thîm o newyddiadurwyr, a hynny ar wasanaeth newydd sbon."
Er mwyn cyflwyno cais, bydd gofyn i unigolion gyflawni'r ddwy dasg isod erbyn 12:00 12 Mawrth 2021.
Rydym am i chi gynhyrchu stori newyddion ar ffurf fideo mewn arddull digidol. Dylai'r darn fod tua 2-3 munud o hyd.
Rydym hefyd am i chi gyflwyno datganiad 300 gair yn egluro pam mai chi ddylai ennill yr ysgoloriaeth
Dylid e-bostio'r ffeil fideo a'r testun at: Lois.Davies@s4c.cymru
Mae S4C yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, pobl Ddu, Asiaidd a grwpiau ethnig sy'n cael ei lleiafrifo (BAME) a phobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd incwm isel o dan reolau gweithredu cadarnhaol y Ddeddf Gydraddoldeb 2010.
18 Chwefror 2021 - Gwyliwch ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn fyw ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41885/gwyliwch-ymgyrch-ragbrofol-cwpan-y-byd-cymru-yn-fyw-ar-s4c/
Bydd S4C yn dangos pob un o gemau Cymru yn fyw yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.
Mi fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, Y Weriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia yn eu grŵp rhagbrofol, gan obeithio hawlio lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Bydd yr ymgyrch yn cychwyn ar nos Fercher 24 Mawrth oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg, y tîm sydd yn rhif un ar restr detholion y byd FIFA.
Bydd Sgorio Rhyngwladol yn dangos pob un o gemau'r cochion yn ystod yr ymgyrch, yn fyw ar S4C ac S4C Clic.
Yn ogystal, bydd y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico, i'w chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Sadwrn 27 Mawrth, i'w gweld yn fyw ar S4C.
Dywedodd Dylan Ebenezer, cyflwynydd Sgorio: "Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn enfawr i Gymru.
"Yn ogystal â'r mater bach o chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop, bydd y tîm yn chwarae eu holl gemau yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.
"Unwaith eto mae'r wyth gêm wedi eu cywasgu i wyth mis, ac er bod y grŵp yn un anodd dros ben mae perfformiadau diweddar y tîm cenedlaethol yn awgrymu bod gobaith go iawn o gyrraedd y llwyfan mwyaf.
"Er na fydd y Wal Goch yn gallu dilyn y tîm am gyfnod, fe fydd modd i gefnogwyr ddilyn pob cam o'r ymgyrch gyda Sgorio."
Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i'r tîm cenedlaethol, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.
"Rydym yn falch iawn o allu dangos yr holl gemau ar S4C unwaith eto. Gobeithio'n wir allwn ni gyrraedd Qatar."
Gemau byw Cymru ar S4C
Gwlad Belg v Cymru - Nos Fercher 24 Mawrth, CG 7.45
Cymru v Mecsico – Gêm Gyfeillgar - Nos Sadwrn 27 Mawrth, CG 8.00
Cymru v Gweriniaeth Tsiec - Nos Fawrth 30 Mawrth, CG 7.45
Belarws v Cymru - Dydd Sul 5 Medi, CG 3.00
Cymru v Estonia - Nos Fercher 8 Medi, CG 7.45
Gweriniaeth Tsiec v Cymru - Nos Wener 8 Hydref, CG 7.45
Estonia v Cymru - Nos Lun 11 Hydref, CG 7.45
Cymru v Belarws - Nos Sadwrn 13 Tachwedd, CG 7.45
Cymru v Gwlad Belg - Nos Fawrth 16 Tachwedd, CG 7.45
17 Chwefror 2021 - Cyhoeddi enillydd Her Ffilm Fer Hansh 2021
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41861/cyhoeddi-enillydd-her-ffilm-fer-hansh-2021/
Mae beirniad Her Ffilm Fer Hansh 2021 wedi dewis enillydd o blith yr holl ymgeiswyr; ffilm o'r enw Y Gyfrinach, gan Cai Rhys.
Dros gyfnod o 48 awr penwythnos diwethaf, fe osododd Hansh yr her i gystadleuwyr greu ffilm fer wreiddiol i ddathlu Mis LHDT+.
Ar ddechrau'r cyfnod 48 awr, fe gyhoeddwyd fod rhaid cynnwys y thema o hapusrwydd o fewn y ffilm, yn ogystal â chynnwys tro yn y cynffon neu cliffhanger.
Yn beirniadu'r gystadleuaeth, roedd: Gwenllïan Gravelle, Comisiynydd Drama S4C Drama, Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Iris, yr actor a chyfarwyddwr Lee Haven Jones a'r cyfarwyddwr a sgriptiwr Amy Daniel.
Gyda chyfanswm o 16 ffilm yn cael eu creu ledled Cymru a thu hwnt, fe ddaeth y panel i'r penderfyniad mai'r ffilm Y Gyfrinach, oedd yn fuddugol.
Bydd yr enillydd, Cai Rhys, yn derbyn gwobr o fil o bunnoedd, yn ogystal â thocyn VIP i Wŷl Gwobrau LHDT+ Iris yng Nghaerdydd ym mis Hydref, lle fydd Y Gyfrinach yn cael ei dangos.
Fe fydd hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ei syniad ffilm ymhellach gydag Academi Ffilm Iris, sef cynllun sydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag S4C a Phrifysgol De Cymru.
Cyhoeddwyd y feirniadaeth yn fyw ar Facebook Live a Hansh nos Fawrth 16 Chwefror gan gyflwynydd y gystadleuaeth, y comedïwr Steffan Alun.
Meddai Gwenllïan Gravelle: "Roedd hi'n dipyn o her i'r bobl oedd yn cystadlu, ond dwi'n falch fod pawb wedi cymryd rhan.
"Roedd 'na elfennau gwych o greadigrwydd a dyfeisgarwch i'w gweld yn y ffilmiau.
"Roeddwn i'n meddwl fod 'na lot i'w edmygu, yr animeiddio yn rhai o'r ffilmiau, y goleuo, y fframio, ac mi oedd y perfformiadau hefyd yn grêt.
"Y tair ffilm ddaeth i'r brig i fi oedd Brwydro, Y Gyfrinach a Gêm o Gariad, tair ffilm wahanol iawn. Ond gan ei fod wedi ymateb yn iawn i'r brîff, y Gyfrinach sy'n mynd â hi."
Meddai Berwyn Rowlands: "Roedd dewis y tri uchaf yn hawdd i mi, ond roedd dewis yr enillydd yn anodd. Yn y tair ffilm, nes i ddewis ffilmiau ble roedd perfformiadau cryf gan yr actorion.
"Dw i'n hapus iawn i gadarnhau mai Y Gyfrinach yw fy newis i."
Meddai Lee Haven Jones: "Beth sy'n rhyfeddol i mi yw fy mod i wedi treulio 16 wythnos yn creu pennod o Dr Who ar gyfer Dydd Calan, a bod y bobl wnaeth ymgeisio wedi treulio 48 awr yn creu ffilmiau sydd yr un mor deilwng â phennod o Dr Who! "Mae'n rhyfeddol fod pobl wedi llwyddo i wneud gymaint mewn cyn lleied o amser."
Meddai Amy Daniels: "Dw i wedi mwynhau gwylio'r holl ffilmiau a dw i'n meddwl fod yr amrywiaeth yn rili da; ffilmiau doniol, trist a rhai ffilmiau eithaf rhyfedd hefyd.
"Mae pob ffilm wedi dangos ymdrech dda iawn, felly llongyfarchiadau i bawb yn y gystadleuaeth. Fy newis i yw Y Gyfrinach."
Mae'r pum ffilm daeth i frig y gystadleuaeth i'w gweld nawr ar wefan www.herffilmfer.cymru.
Gwyliwch raglen deledu Her Ffilm Fer ar nos Wener 26 Chwefror am 10.05yh, ar S4C, i weld a chlywed mwy am y ffilmiau.
16 Chwefror 2021 – Cyfres newydd Iaith ar Daith
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41821/selebs-yn-mynd-ar-daith-i-ddysgu-cymraeg/
Co' ni off - eto! Mae Iaith ar Daith yn ôl ar S4C gyda chyfres newydd wrth i chwe seleb fynd ar daith go arbennig, gyda mentor fel cwmni ac ysbrydoliaeth, â'r nod o ddysgu Cymraeg.
Pob wythnos, yn dechrau ar nos Sul, 7 Mawrth, bydd un seleb ac un mentor Cymraeg ei iaith, sydd hefyd yn wyneb adnabyddus, yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o'r iaith - ac fe fydd sawl her ar y ffordd.
Dyma'r selebs sydd yn cymryd rhan yn Iaith ar Daith cyfres 2:
Steve Backshall - Yr anturiaethwr a chyflwynydd rhaglenni natur gan gynnwys 'Deadly 60' a 'Blue Planet Live' ar y BBC, sydd hefyd yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Bangor.
Joanna Scanlan - Mae Joanna yn wyneb cyfarwydd ar ôl actio mewn cyfresi teledu fel The Thick of It, No Offence, ffilmiau fel Bridget Jones's Baby a Notes on a Scandal, yn ogystal â'r cyfresi Cymreig, Stella a The Accident.
James Hook - Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru.
Kiri Pritchard McLean - Digrifwraig ac awdures sydd wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith comedi ac yn wyneb cyfarwydd ar sioeau panel fel Have I Got News for You a 8 Out of 10 Cats Does Countdown
Chris Coleman - Cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru.
Rakie Ayola - Actores sydd wedi gweithio mewn ffilm, teledu a'r theatr gan gynnwys Holby City, Silent Witness a'r gyfres Shetland i'r BBC. A dyma'r mentoriaid sydd wedi bod ar yr hewl gyda nhw i helpu ddatblygu eu gallu i siarad Cymraeg drwy gynnig ychydig o gefnogaeth - a gosod sawl her!
Mentor Steve yw'r naturiaethwr a'r cyflwynydd Springwatch Iolo Williams.
Mentor Joanna yw'r actor adnabyddus Mark Lewis Jones (Un Bore Mercher/Keeping Faith, The Crown, Gangs of London, Chernobyl).
Mentor James yw'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens.
Mentor Kiri yw drag cwîn mwyaf enwog Cymru sef, Maggi Noggi.
Mentor Chris yw'r cyn-beldroediwr rhyngwladol a'r cyflwynydd Owain Tudur Jones.
Mentor Rakie yw'r actores Eiry Thomas. (Un Bore Mercher/Keeping Faith, Stella, Enid a Lucy, The Accident).
Ar eu teithiau, mae'r selebs yn ymweld â llefydd yng Nghymru sydd yn berthnasol iddyn nhw.
Felly, treuliodd Kiri a Maggi eu dyddiau nhw yn teithio o amgylch Ynys Môn lle cafodd Kiri ei magu a sydd nawr yn gartref iddi. Mae Steve yn dod i nabod Gogledd Cymru yn well oherwydd ei gysylltiadau gyda Phrifysgol Bangor a James Hook yn ardal Castell Nedd Port Talbot lle cafodd ei eni a'i fagu.
Bydd sawl her ar hyd y ffordd - pa mor dda mae Steve Backshall yn gallu gosod blodau? Sut un yw Kiri am chwarae'r dryms? A pha mor llwyddiannus bydd Joanna yn rhoi bath i Shani'r ci yng Nghaerfyrddin?
Mae Iaith ar Daith yn dechrau ar ddydd Sul, 7 Mawrth am 8.00 ar S4C gyda thaith Steve ac Iolo. Felly dewch i ymuno â Steve, Joanna, James, Kiri, Chris, Rakie a'u mentoriaid - yr heriau, yr hwyl a'r helynt - wrth iddynt ddechrau ar daith fythgofiadwy i ddysgu Cymraeg.
12 Chwefror 2021 - Cystadleuaeth fwyaf Cymru ar lwyfan mwyaf Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41759/cystadleuaeth-fwyaf-cymru-ar-lwyfan-mwyaf-cymru/
Mae Cân i Gymru yn ôl! Ac eleni, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, bydd S4C yn darlledu'r gystadleuaeth eiconig o lwyfan mwyaf eiconig y wlad, Theatr Donald Gordon.
Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu ar nos Wener, y 5ed o Fawrth, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno. Mi fydd 8 cân yn mynd yn erbyn ei gilydd am y siawns i ennill £5,000 a'r teitl Cân i Gymru 2021.
Hefyd, bydd cyfle unigryw i deuluoedd led led y wlad ymuno yn yr hwyl o'u cartrefi drwy fod yn rhan o'r gynulleidfa rithiol. Os oes diddordeb gennych chi gymryd rhan, cysylltwch â canigymru@avantimedia.tv.
Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Mae'n fraint ac yn bleser croesawu Cân i Gymru, cystadleuaeth eiconig S4C, i Ganolfan Mileniwm Cymru eleni – eleni'n fwy nag erioed.
"Fel cartref y celfyddydau yng Nghymru, ein cenhadaeth yw rhoi cyfoeth doniau Cymru - artistiaid sefydledig ac egin artistiaid – ar ein llwyfannau o flaen cynulleidfaoedd enfawr. Mae gan Cân i Gymru dros 50 mlynedd o brofiad o wneud yn union yr un peth.
"A hithau'n flwyddyn mor anodd i artistiaid, mae'n bleser ein bod ni'n gallu cydweithio i gyflwyno'r sioe arbennig hon sy'n ddathliad o gyfansoddi."
Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: "Mae S4C yn falch iawn bod un o'n prif gystadlaethau yn medru digwydd eleni, a hynny ar brif lwyfan ein gwlad.
“Mae Cân i Gymru yn rhan bwysig o amserlen S4C bob blwyddyn ac mae cael arddangos y gystadleuaeth ar lwyfan enwog Theatr Donald Gordon yn arbennig iawn – yn sicr dyma'r ddeuawd berffaith!"
Bydd Avanti Media yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.
11 Chwefror 2021 - Owen Derbyshire yw Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol newydd S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41751/owen-derbyshire-yw-cyfarwyddwr-marchnata-a-digidol-newydd-s4c/
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw fod Owen Derbyshire wedi ei benodi i swydd newydd Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C.
Mae Owen sy'n dod o Gaerdydd wedi bod yn gweithio fel Ymgynghorydd Digidol llawrydd gan sefydlu cwmni ei hun, Datblygu Cymru lle bu'n cefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol i ffynnu.
Mae Owen hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, aelod o Fwrdd Shelter Cymru, a bu'n aelod o Fwrdd Unedol S4C.
Yn rhan o'i swydd newydd bydd Owen yn gyfrifol am adrannau digidol a chyfryngau cymdeithasol S4C, yn ogystal â'r timau brand a delwedd, hyrwyddo a chyflwyno.
Meddai Owen Derbyshire: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i ymuno gyda S4C yn y rôl allweddol hon.
"Rwy'n gobeithio gallu defnyddio fy mhrofiad ym maes digidol ac ymgynghori i adeiladu ar y gwaith da mae S4C wedi ei wneud i ddatblygu'n ddigidol yn y blynyddoedd diwethaf.
"Yn sicr mae'n gyfnod cyffrous i'r sianel ac mae'n fraint cael ymuno gyda'r tîm."
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Llongyfarchiadau i Owen ar ei benodiad i'r swydd newydd hon.
"Yn ogystal â phrofiad lefel uchel yn y byd digidol, mae gan Owen ymwybyddiaeth glir o'r maes darlledu, ac mi fydd y profiad hwn yn allweddol iddo yn y rôl newydd hon gydag S4C.
"Mae apwyntiad Owen yn rhan glir o'n strategaeth i wir fabwysiadu defnydd y byd digidol a data er mwyn gwella ac ehangu ein perthynas efo'r gynulleidfa.
"Rwy'n edrych ymlaen at ei groesawu i blith y staff yn fuan ac i gyd-weithio'n agos ag ef mewn cyfnod pwysig i S4C.
"Bydd ei brofiad yn sicr yn werthfawr i'r sianel yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Bydd Owen yn cychwyn ar ei swydd newydd ar yr 8fed o Fawrth.
5 Chwefror 2021 - O Lanuwchllyn i LA i Lanelli - taith Elain Edwards Dezzani, cyflwynydd newydd Heno
Elain Edwards Dezzani yw'r aelod diweddaraf i ymuno â chriw cyflwyno Heno.
Bydd Elain, sydd yn wreiddiol o Lanuwchllyn ond sydd nawr yn byw gyda'i theulu yn y Bontfaen, yn wyneb cyfarwydd i rai gwylwyr ers ei chyfnod fel cyflwynydd ar Planed Plant bymtheg mlynedd yn ôl.
Yn dilyn hynny, fe symudodd Elain i Los Angeles, ble gweithiodd fel cyflwynydd, golygydd trêls ffilmiau a thechnegydd colur, yn ogystal â magu ei thair merch.
Daeth Elain a'r teulu yn ôl i Gymru llynedd, ac mae hi yn edrych ymlaen yn fawr i ddechrau ei swydd newydd fel cyflwynydd Heno, tra bod y cyflwynwyr Mari Grug a Llinos Lee ar gyfnod mamolaeth.
Meddai Elain: "Mi ydw i'n edrych ymlaen yn arw i fynd yn ôl i gyflwyno ar y teledu.
"Dw i wedi gweithio tu ôl i'r camera yn fwy diweddar dros gyfnodau ysbeidiol, ond yn bennaf dwi wedi bod adref yn magu'r plant, felly mi fydd o'n neis i fod yn fi fy hun unwaith eto.
"Mae yna wefr i gyflwyno ac mae Heno yn un o gonglfeini amserlen S4C, felly mae hon yn gyfle ffantastig i mi."
Tra yn LA, roedd Elain yn gyflwynydd ar sianel Current TV, a sefydlwyd gan Al Gore, am rai blynyddoedd.
Wedi i'r sianel ddod i ben, fe aeth hi ymlaen i weithio fel technegydd colur i sawl un oedd yn cerdded ar y carped coch, gan gynnwys ei chefnder, yr actor Matthew Rhys.
Meddai Elain: "Pan symudais allan i LA, roedd Matthew yn byw yna'n barod ac mi oedd o'n neis iawn cael o yno.
"Roedd o fel brawd mawr, achos doedd na neb arall oeddwn i'n nabod cystal i mi siarad Cymraeg hefo.
"Roeddwn ni'n gweld lot o'n gilydd. Pan oedd o'n dod yn fwy enwog dros amser, roedd o'n cael ei alw i wneud fwy o bethau PR a charped coch, ac mi ges i weithio lot efo fo - roedd o'n fy nhrystio i!
"Ges i gwrdd â Tom Hanks yna hefyd drwy Matthew, a ges i hug gan Tom Hanks - un o highlights fy ngyrfa!
"Roedd LA yn le hwyliog i fod yn fy ugeiniau a thridegau, i gael profiadau newydd, cyn cael plant.
"Ond pan ti'n cael plant, ti eisiau magu nhw mewn lle ac mewn cymdeithas sy'n ennyn daliadau cryf ac felly wnaethon ni'r penderfyniad ein bod ni am symud yn ôl i Gymru.
"Ac yn syth bin ar ôl symud i'r Bontfaen, oeddet ti'n teimlo bod y gymuned yno yn edrych ar dy ôl, a doedd hynny ddim yn rhywbeth oeddet ti'n cael yn LA."
Gwyliwch Heno am 7.00yh o nos Lun i nos Wener ar S4C. Dilynwch @Heno ar Twitter a Facebook i weld y cynnwys diweddaraf o'r gyfres.
1 Chwefror 2021 - S4C yn lansio cynllun cymunedol S4C Lleol
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41520/s4c-yn-lansio-partneriaeth-newydd-gyda-telimn/
Mae S4C heddiw wedi cyhoeddi cynllun peilot newydd o'r enw S4C Lleol gyda'r nod o alluogi rhwydwaith o gynhyrchwyr lleol i greu mwy o gynnwys ar gyfer eu cymunedau.
Bydd y cynllun peilot yn cychwyn gyda phartneriaeth newydd â TeliMôn gyda'r bwriad o greu cynnwys lleol apelgar fydd yn gwasanaethu cymunedau a hybu'r defnydd o'r Gymraeg ar lawr gwlad.
Yn ogystal â chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, bydd y cynllun yn gweithio ar ddatblygu talent a chynhyrchwyr newydd.
Bydd TeliMôn yn cynhyrchu cynnwys wythnosol fydd yn ymddangos ar eu cyfryngau cymdeithasol.
Byddant hefyd yn cael mynediad at gynnwys am yr ynys a'i phobl gan S4C, a'r syniad yn y pen draw yw cyhoeddi cynnwys lleol ar S4C Clic.
Yn ôl Tudur Evans o TeliMôn mae S4C yn bartner perffaith gan fod y ddau gorff yn rhannu'r un gwerthoedd o'r diwydiant ac yn hyrwyddo a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg, gan roi hyder i bobl o bob lefel ddefnyddio'r iaith.
"Mae'r bartneriaeth beilot hon gyda S4C yn bennod newydd yn stori TeliMôn.
"Bydd nid yn unig yn helpu i ehangu ein cynhyrchiad rhaglenni a'n cynulleidfa, ond bydd hefyd yn fodd i barhau i feithrin talent leol, darparu cefnogaeth economaidd i weithwyr llawrydd a dod â phobl Ynys Môn yn agosach at ei gilydd fel cymuned.
"Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i fod y sefydliad cyntaf i ymgymryd â phartneriaeth a allai, yn ein barn ni, helpu i ddatblygu diwydiant y cyfryngau yng Nghymru i mewn i oes newydd." meddai Tudur
Dros y misoedd nesaf bydd S4C yn edrych i sefydlu dau gynllun peilot tebyg i TeliMôn mewn rhannau eraill o Gymru.
"Mae S4C Lleol yn rhan o'n strategaeth ddigidol hir dymor o roi'r gwylwyr yng nghalon ein gwasanaethau" meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"Rydyn ni eisiau creu perthynas agosach gyda'n cynulleidfa gan hybu'r defnydd o Gymraeg ar lawr gwlad.
"Fel darlledwr cyhoeddus mae gyda ni rôl bwysig i chwarae wrth wasanaethu cymunedau ac ardaloedd lleol.
"Ein bwriad yw adeiladu ar fentrau lleol gan ddatblygu sgiliau ac annog cynhyrchwyr newydd i'r diwydiant.
"Rydyn ni'n falch iawn o lansio'r cynllun hwn gyda TeliMôn ac yn edrych ymlaen at ymestyn allan i sawl ardal arall hefyd yn ystod y flwyddyn."
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â Non.Griffith@s4c.cymru.
1 Chwefror 2021 - Nigel Owens yn ymuno â chriw S4C ar gyfer y Chwe Gwlad
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41513/nigel-owens-yn-ymuno--chriw-clwb-rygbi-ar-gyfer-y-chwe-gwlad/
Bydd Nigel Owens yn rhan o dîm Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2021.
Wedi iddo benderfynu rhoi'r gorau i ddyfarnu ar y lefel rhyngwladol, bydd dyfarnwr ffeinal Cwpan y Byd 2015 yn rhannu ei safbwynt ar berfformiadau Cymru gyda gwylwyr S4C drwy gydol y gystadleuaeth fel dadansoddwr Clwb Rygbi Rhyngwladol.
Meddai Nigel Owens: "Bydd e'n deimlad rhyfedd i beidio bod ar y cae yn y Chwe Gwlad Guinness eleni, ond rwy'n edrych 'mlaen i gymryd fy lle ar yr ystlys fel aelod o dîm Clwb Rygbi."
Mae Nigel yn ymuno â'r cyflwynydd Gareth Rhys Owen, gohebydd Catrin Heledd, a sawl un sydd wedi gwisgo'r crys coch dros y blynyddoedd, gan gynnwys Jamie Roberts, Rhys Patchell, Lloyd Williams, Sioned Harries, Nathan Brew, Andrew Coombs a Nicky Robinson.
Bydd cyn gapteiniaid Cymru, Gwyn Jones a Jonathan Davies yn ymuno â Cennydd Davies yn y blwch sylwebu yn ystod y bencampwriaeth, yn ogystal.
S4C yw'r unig ddarlledwr i ddangos pob un o gemau Cymru yn fyw ym Mhencampwriaeth eleni, gan gychwyn gyda'r gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon yn y Stadiwm Principality, am 2.15yh ar brynhawn ddydd Sul 7 Chwefror.
Meddai Gareth Rhys Owen: "Mi fydd y Chwe Gwlad eleni yn wahanol iawn i unrhyw un arall ac mi fydd Caerdydd yn le gwahanol iawn ar benwythnos gêm fawr.
"Ar ôl Hydref eithaf sigledig i Gymru, mi fydd y chwaraewyr a'r hyfforddwyr yn benderfynol o wella ar eu perfformiadau diweddar a cheisio cystadlu am y bencampwriaeth.
"Gêm gartref yn erbyn Iwerddon yw'r her gyntaf, ac yn debyg i Gymru, mae'r Gwyddelod yn mynd trwy gyfnod o newid, felly mae 'na lot yn y fantol i'r ddau dîm."
Noddir darllediadau o gemau Chwe Gwlad tîm Dynion a thîm Menywod Cymru ar Clwb Rygbi Rhyngwladol, gan Isuzu.
Mae Clwb Rygbi Rhyngwladol yn gynhyrchiad BBC Cymru ar ran S4C.
28 Ionawr 2021 - Fflam, y ddrama newydd sy’n chwarae â thân
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41486/fflam-y-ddrama-newydd-syn-chwarae--thn/
Ar ộl cyfnod hir heb ddramâu newydd, bydd y misoedd nesaf yn fwrlwm o gyfresi ffres a gafaelgar ar S4C.
Y cyntaf i'r sgrin ar nos Fercher 10 Chwefror, yw Fflam, cyfres gyfoes a gwahanol sy'n ymdrin ag angerdd a galar wrth godi'r cwestiwn a yw'n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd?
Yr actores o Aberystwyth, Gwyneth Keyworth (Hidden/Craith, Black Mirror, The Crown, Game of Thrones) sy'n chwarae'r prif gymeriad, Noni.
Mae bywyd yn llawn gobaith iddi hi a'i chariad Deniz (Memet Ali Alabora) wrth atgyweirio eu fferm fechan.
Mae ei ffrind gorau, Malan (Mali Ann Rees) a'i gwraig Ekin (Pinar Ogun) - chwaer Deniz, hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol wrth i Deniz gytuno i helpu gwireddu eu breuddwyd o gael plentyn trwy fod yn rhoddwr iddynt.
Er bod bywyd yn ymddangos yn fêl i gyd, caiff y cyfan ei fygwth pan ddaw Beds (Richard Harrington) i fyd Noni ac atgyfodi ysbryd ei gŵr Tim, a fu farw mewn tân erchyll.
Meddai Gwyneth; "Mi wnes i fwynhau chwarae Noni am ei bod hi'n gymeriad cymhleth.
"Er ei bod hi'n trio gwneud y peth iawn, mae galar y gorffennol yn dal i effeithio ar ei ymddygiad a'i pherthnasau yn y presennol.
"Er mai hi eu hun yw ei phroblem fwyaf, ti bron yn deall pam mae hi'n gwneud pethau dyle hi ddim.
"Mae bron pawb yn gallu uniaethu gyda sut mae colled yn gallu gwneud i ti ymddwyn yn wahanol.
"Ydi, mae hi'n ddewr, yn ystyfnig ac mae hi'n gwneud beth mae hi moyn, ond mae pobl yn dal i gymryd mantais. Dyw hi ddim yn hollol ddiniwed chwaith."
Yn ogystal â chast arbennig, mae Fflam yn cynnig ffordd newydd o wylio.
Ar ôl i'r bennod gyntaf ddarlledu bydd y chwe phennod hanner awr o hyd ar gael fel bocs set ar Clic.
"Mewn cyfnod pan mae'r byd go iawn yn eitha scary, rwy'n credu bydd Fflam yn gyfle i ddianc i fyd arall am hanner awr, byd bach bizarre Noni.
"Dwi'n caru binjo, yn enwedig yn ystod cyfnod clo, felly byddai'n dewis gwylio'r gyfres i gyd gyda'i gilydd.
"Ond wedyn mae pobl fel Mam a Dad yn mwynhau eistedd lawr ar bwynt penodol pob wythnos i wylio rhywbeth.
"Yn sicr, mi fysa Noni yn dweud wrthych chi am wneud be chi eisiau - dyna fysa hi yn ei wneud!"
Addasiad o stori wreiddiol gan Gwenno Hughes yw Fflam, a bu Gwenno yn gweithio gydag Pip Broughton a Catrin Evans i sgriptio'r ddrama.
Ffilmiwyd y gyfres, sy'n cael ei gynhyrchu gan Vox Pictures, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Pa bynnag ffordd y penderfynwch wylio, mae'r ddrama danllyd yn siŵr o gipio eich dychymyg.
27 Ionawr 2021 - S4C yn darlledu o Sgwâr Canolog
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41474/s4c-yn-darlledu-o-sgwr-canolog/
Heddiw, ddydd Mercher 27 Ionawr 2021 fe ddarlledodd S4C o Sgwâr Canolog, Caerdydd am y tro cyntaf erioed.
Ers y 90au cynnar mae S4C wedi bod yn darlledu o'i chartref ym Mharc Tŷ Glas yn y ddinas a chyn hynny o Glós Sophia ers ei lansio yn 1982.
Bellach gyda phencadlys y sianel wedi symud i Ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin mae'r bartneriaeth ddarlledu newydd gyda'r BBC yn gonglfaen bwysig yn hanes S4C.
Gwasanaeth plant y sianel, Cyw oedd y rhaglenni cyntaf i'w darlledu o Sgwâr Canolog, a hynny am 6.00 y bore wrth i S4C ddeffro i ddiwrnod o amserlen lawn arall.
Mae gwasanaeth S4C Clic a BBC iPlayer hefyd yn cael eu bwydo o'r ganolfan yng nghanol y ddinas.
Bydd tua 25 o staff yn gweithio i S4C o swyddfa newydd y sianel yn Sgwâr Canolog gan gynnwys yr Adran Gyflwyno, Llyfrgell, Hyrwyddo a Masnachol. Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 bydd nifer o'r staff yn parhau i weithio o adref am y tro.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:
"Dyma benllanw blynyddoedd o waith cynllunio manwl wrth i ni gyflawni cam arall yn ein strategaeth hir dymor.
"Wrth i ni symud ein pencadlys i'r Egin a phartneri efo'r BBC ar gyfer ein gwasanaethau darlledu, rydym yn sicrhau diwedd llwyddianus i drawsffurfiad S4C o'i hen bencadlys ym Mharc Ty Glas.
"O hyn ymlaen mi fydd y BBC yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu S4C ar deledu ac ar-lein, yn ogystal â bod yn gyfrifol am isadeiledd technegol S4C.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau'r trosglwyddiad llwyddiannus hwn."
Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:
"Dyma ddiwrnod arwyddocaol wrth i S4C ddarlledu o ganolfan y BBC yn y Sgwar Canolog am y tro cyntaf ac mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad ar draws y ddau ddarlledwr.
"Mae'r rhaglen gymhleth hon wedi ei gwneud yn fwy heriol byth wrth i ni barhau i weithio o dan amgylchiadau tra wahanol yn sgîl y pandemig a hoffwn ddiolch i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r bartneriaeth allweddol yma am ein cael i'r garreg filltir bwysig hon."
Bydd S4C yn parhau i gomisiynu ac amserlennu yn ôl yr arfer a bydd pencadlys y sianel yn parhau yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin gyda swyddfa yn parhau yng Nghaernarfon yn ogystal.
22 Ionawr 2021 - Her Ffilm Fer yn dathlu Mis Hanes LHDT+
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41423/her-ffilm-fer-yn-dathlu-mis-hanes-lhdt/
Mae Hansh yn annog pawb yng Nghymru sydd â diddordeb mewn creu ffilmiau i gymryd rhan yn yr Her Ffilm Fer fis nesaf.
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth gyntaf un y llynedd, bydd Her Ffilm Fer Hansh yn ôl eto ym mis Chwefror, i ddathlu Mis Hanes LHDT+.
Ar gyfer y gystadleuaeth, mi fydd cystadleuwyr angen creu ffilm fer wreiddiol sydd yn canolbwyntio ar y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu thrawsryweddol.
Gyda'r her yn cychwyn am 7yh ar nos Wener 12 Chwefror, bydd gan gystadleuwyr gyfnod o 48 awr i greu ffilm yn cynnwys un thema benodol, fydd yn cael ei ddatgelu cyn dechrau'r her.
Bydd yr enillwyr yn hawlio gwobr o £1,000, yn ogystal â thocyn VIP i Wŷl Gwobrau LHDT+ Iris yng Nghaerdydd ym mis Hydref, lle fydd y ffilm fuddugol yn cael ei dangos.
Bydd hefyd cyfle i'r enillwyr ddatblygu eu syniad ffilm ymhellach gydag Academi Ffilm Iris, sef cynllun sydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag S4C a Phrifysgol De Cymru.
Y pum aelod ar banel y beirniaid yw:
- Berwyn Rowlands – Cyfarwyddwr Gŵyl Iris
- Gwenllïan Gravelle - Comisiynydd Drama S4C Drama, Cynhyrchydd Un Bore Mercher/Keeping Faith
- Lee Haven Jones – Actor a Chyfarwyddwr: Dr Who, The Bay, 35 Diwrnod
- Amy Daniel – Cyfarwyddwr a Sgriptiwr: The Legend of Bryngolau, Arth, Y Perchman
Yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at yr her, bydd sesiynau dosbarth-feistr yn cael eu cynnal gan sawl cynhyrchydd adnabyddus, i gynnig cymorth a chyngor i'r cystadleuwyr.
Bydd cyflwynydd yr her eleni, y comedïwr Steffan Alun, yn ymddangos mewn cyfres o fideos ar Hansh drwy gydol y gystadleuaeth.
Dywedodd Steffan Alun: "Mewn cyfnod anodd yn hanes y wlad, ro'n i wrth fy modd i gael gwahoddiad i fod yn rhan o'r Her Ffilm Fer.
"Ar nodyn personol, fel dyn deurywiol, mae'n gyffrous gweld yr her yn manteisio ar Wythnos Hanes LHDT+ - dyma gyfle gwych i bob un ohonon ni ddathlu gyda'n gilydd.
"Hyd yn oed heddiw, ry'n ni'n bell ar ei hôl hi fel cenedl o ran cynrychioli straeon LHDT+ yn y cyfryngau, felly mae cyfle anhygoel yma i ffilmiau Her Ffilm Fer dorri tir newydd.
"Mae'r straeon yma'n digwydd bob dydd yn y byd go iawn, felly mae'n hen bryd i ni weld ein ffilmiau'n adlewyrchu hynny.
"Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb, ac mae hynny mor bwysig. Mae'n hawdd meddwl, "nid fy lle i yw cymryd rhan mewn cystadleuaeth fel hon". Rhaid newid hynny!
"Mae'n swnio'n frawychus – cynhyrchu ffilm mewn 48 awr! Ond mewn gwirionedd, gall fod yn haws creu gwaith o dan gyfyngiadau fel hyn. Dim cyfle i feddwl gormod – rhaid mynd amdani ar unwaith!"
Meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Hansh: "Roedd yr ymateb i her y llynedd yn un mor bositif ac mi rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i'w wneud o eto yn 2021.
"A hithau'n fis Hanes LHDT+ yn ystod mis Chwefror, rydyn ni wedi penderfynu cynnal yr her yn ystod y cyfnod yma i ddathlu cyfraniad y gymuned LHDT+ at fywyd yng Nghymru.
"Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac mi ydyn ni'n hynod gyffrous i weld sut y bydd gwneuthurwyr ffilm Cymru yn adrodd straeon sydd yn dathlu'r gymuned amrywiol yma, sydd wedi ei dan gynrychioli dros y blynyddoedd.
"Rydyn ni'n falch iawn i gyd-weithio gyda Gwobr Iris ac yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad tuag at wobr yr her eleni. Pwy a ŵyr, efallai bydd enillydd y Wobr Iris ymysg ein cystadleuwyr eleni? Pob lwc i bawb!"
I gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i www.herffilmfer.cymru. Dilynwch gyfrifon Hansh ar Instagram, Facebook a Twitter am ragor o fanylion am y gystadleuaeth.
15 Ionawr 2021 - S4C yn rhyddhau 80 awr o raglenni ar borth addysgol Hwb Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41359/s4c-yn-rhyddhau-80-awr-o-raglenni-ar-borth-addysgol-hwb-llywodraeth-cymru/
Gydag ysgolion ar gau a rhieni yn addysgu plant o adref, mae S4C a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd 80 awr o raglenni yn cael eu darparu ar blatfform addysg Hwb, Llywodraeth Cymru, a bydd pecynnau BBC Bitesize yn cael ei darlledu ar S4C ar hyd yr wythnos.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei lansio ddydd Llun 18 Ionawr gyda'r rhaglenni ar Hwb yn cynnwys 13 cyfres wahanol gan gynnwys cyfresi plant Shwshaswyn, Dwylo'r Enfys, Amser Maith Maith yn ôl, a hefyd rhaglenni o'r brif amserlen fel Cynefin a DRYCH.
Bydd ffilmiau a chynnwys sydd ar y cwricwlwm Safon A, AS a TGAU hefyd yn cael eu hychwanegu i'r platfform ac yn dod yn rhan o arlwy S4C ar Hwb gan gynnwys Martha Jac a Sianco, ac Y Gwyll.
"Mae ein ymrwymiad i addysg yn flaenoriaeth fawr i ni" meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C
"Fel darlledwr cyhoeddus, yn sicr mae gan S4C rôl bwysig i chwarae wrth gefnogi athrawon a rhieni mewn cyfnod anodd i bawb.
"Mae ein cynnwys wedi ei deilwra yn arbennig i gyd fynd a'r cwricwlwm ac i alluogi athrawon ac arbenigwyr pwnc i greu adnoddau law yn llaw â'r rhaglenni.
"Mae ein arlwy plant yn hynod boblogaidd ac yn rhan o amryw o weithgareddau ychwanegol mae S4C wedi bod yn trafod gyda'r sector addysg yng Nghymru.
"Ry'n ni'n falch iawn o allu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynlluniau hyn gyda'r bwriad o ysbrydoli plant a phobl ifanc gan sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. "
Bydd S4C yn parhau i lwytho rhaglenni ar Hwb gan ehangu'r ddarpariaeth i gynnwys sy'n addas i ddysgwyr yn y dyfodol.
Meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru: "Mae Hwb, ein platfform dysgu ar-lein blaenllaw, wedi bod yn amhrisiadwy i athrawon a dysgwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddarparu adnoddau rhagorol i gefnogi dysgu ar-lein.
"Gall rhaglenni teledu o safon hefyd fod yn adnoddau addysgol gwerthfawr iawn, yn enwedig i deuluoedd lle nad yw'r Gymraeg fel arfer yn cael ei siarad gartref."
"Rwy'n falch iawn bod Hwb a S4C yn cydweithredu i ddarparu mwy fyth o ddewis cynnwys i bobl ifanc sy'n dysgu Cymraeg neu mewn addysg Gymraeg."
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles ac Iaith Gymraeg: "Mae S4C yn creu rhaglenni o'r ansawdd uchaf ar gyfer plant.
"I ddysgwyr hŷn, gall drama deledu fod yn ffordd dda iawn o gymysgu adloniant â dysgu Cymraeg, felly mae hyn yn newyddion da iawn i bobl o bob oed. "
Dywedodd Gweinidog y Cyfryngau a Data Llywodraeth Prydain, John Whittingdale: "Mae S4C eisoes yn chwarae rhan hynod bwysig wrth hyrwyddo'r Gymraeg yn y DU a thramor.
"Ond yn ystod adegau o argyfwng y gwelwn werth darlledu ym Mhrydain mewn gwirionedd.
"Rwy'n falch iawn bod S4C yn camu i fyny i gefnogi dysgu i blant ledled Cymru, gan ddarparu cynnwys addysgol strwythuredig ac amrywiol mewn cyfnod heriol i ysgolion a myfyrwyr."
Yn ogystal, bydd S4C yn cydweithio gyda BBC Cymru i ddarlledu pecynnau addysgol BBC Bitesize.
Gan gychwyn ddydd Llun 18 Ionawr bydd S4C yn darlledu un pecyn dyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener am 11.45 y bore.
Bydd pob rhaglen ar thema benodol a chyfnod allweddol wedi ei labelu yn glir yn yr amserlen, gyda'r ddarpariaeth yn addas i gyfnod allweddol 2 a 3 ac yn amrywio o ran pynciau gan gynnwys hanes, rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth.
Gobeithir bydd y ddarpariaeth dyddiol o gymorth i deuluoedd sy'n cael trafferth efo cysylltiad y we, neu heb offer digidol.
Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae'n gyfnod anodd i ddisgyblion, rhieni ac athrawon ac mae BBC Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi dysgwyr drwy Gymru unwaith eto.
"Gall fod yn her i rieni di Gymraeg i sicrhau parhad ieithyddol eu plant yn ystod y cyfnod hwn ac mae'r bartneriaeth rhwng BBC Bitesize ac S4C yn ein caniatau i ddarlledu pecynnau addysgol Cymraeg ar deledu.
"Mae'r ddarpariaeth newydd yma yn golygu y bydd plant yn parhau i allu clywed yr iaith Gymraeg yn eu cartrefi".
13 Ionawr 2021 - S4C a Golwg yn cydweithio ar Wasanaeth Newyddion Digidol newydd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41313/s4c-a-golwg-yn-cydweithio-ar-wasanaeth-newyddion-digidol-newydd/
Mae S4C a Chwmni Golwg wedi cyhoeddi cytundeb arloesol heddiw i gyhoeddi a churadu straeon newyddion fel rhan o wasanaeth newyddion digidol newydd sbon.
Mae S4C eisoes wedi penodi tîm o newyddiadurwyr i weithio ar y gwasanaeth newyddion newydd.
Bydd y tîm yn cyhoeddi straeon gwreiddiol ar ap a gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd y gwasanaeth a elwir yn Newyddion S4C hefyd yn cyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C, a gynhyrchir gan BBC Cymru, a straeon gan ITV Cymru a Golwg 360.
Dyma'r tro cyntaf i wasanaeth newyddion Cymraeg gyhoeddi a churadu cynnwys gan sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnig gwasanaeth newyddion cynhwysfawr mewn un lle.
"Mae'n holl bwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i'r gwylwyr ar flaenau eu bysedd" meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C.
"Mae'r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau.
"Mae cydweithio gyda Golwg yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Golwg a'r partneriaid eraill ar y gwasanaeth hwn fydd yn cynnig llais newyddion newydd i Gymru."
Meddai Sian Powell, Prif Weithredwr Golwg: "Rydym yn falch o allu cydweithio efo S4C wrth iddynt greu gwasanaeth newyddion digidol newydd.
"Mae newyddiaduraeth yn profi i fod yn hanfodol yn ystod yr argyfwng ac mae'n bwysig bod newyddiaduraeth yng Nghymru yn parhau i arloesi er mwyn sicrhau fod y darllenwyr yn cael y wybodaeth fwyaf cyfredol.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darllenwyr newydd i'n straeon newyddion Golwg360 trwy ap a gwefan S4C."
Bydd gwasanaeth Newyddion S4C yn lansio fis Mawrth.
13 Ionawr 2021 - S4C yn cynnig cyfle cysur i addolwyr
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41303/s4c-yn-cynnig-cyfle-cysur-i-addolwyr/
Bydd cyfres newydd o Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dychwelyd i S4C ddydd Sul yma (17 Ionawr), a hynny mewn ymateb i'r cyfnod clo diweddaraf.
Darlledir yr oedfa bob bore Sul am 11.00, a'r emynau'n cael eu dewis o archif Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Bydd y gwasanaeth cyntaf dan ofal y Parchedig Evan Morgan o Gapel Salem, Treganna wrth iddo edrych ar obeithion y flwyddyn newydd.
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C: "Dan ni'n gwybod bod nifer fawr o'n capeli ac eglwysi wedi gorfod cadw eu drysau ynghau dros y pandemig, a'r addoldai sydd wedi aros yn agored wedi cyfyngu ar y nifer o bobl sy'n cael mynychu.
"Mae Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol felly yn ffordd effeithiol iawn i addolwyr ddod at ei gilydd yn un cynulleidfa fawr ar fore Sul.
"Fel y gwelsom o'r ymateb arbennig a gawsom i'r gyfres gyntaf, mae'n cynnig cwmnïaeth, cysur a gobaith i filoedd o bobl ac mae'n braf iawn gallu ateb y galw."
12 Ionawr 2021 - Y mis uchaf erioed i Facebook S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41298/y-mis-uchaf-erioed-i-facebook-s4c/
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai mis Rhagfyr oedd y mis uchaf erioed o ran sesiynau gwylio ar brif dudalen Facebook y sianel.
Llwyddodd S4C i ddenu 994.7k o sesiynau gwylio gyda chân elusennol Dwylo Dros y Môr yn dod i'r brig fel y clip fideo mwyaf poblogaidd.
Hefyd yn cyrraedd y brig oedd clipiau Dathlu Dewrder, Jonathan, Dolig Ysgol Ni: Maesincla, Dolig Epic Chris a Cefn Gwlad: Dathlu Dai.
Yn ogystal â llwyddiant mis Rhagfyr bu 2020 yn flwyddyn dda i S4C gyda chynnydd o 79% yn y sesiynau gwylio o'i chymharu â 2019.
Bu 7.2 miliwn o sesiynau gwylio ar safle Facebook S4C yn ystod 2020.
Mae cynnydd hefyd wedi bod ar safleoedd Twitter a YouTube S4C gyda Cyw yn parhau fel y sianel YouTube mwyaf poblogaidd i S4C.
"Mae'r llwyddiant hwn yn deillio o'n strategaeth i ddatblygu elfennau digidol S4C," meddai Owen Evans Prif Weithredwr S4C.
"Rwy'n falch iawn fod ein cynnwys Nadolig wedi taro deuddeg a denu diddordeb ar Facebook.
"Mae datblygu ochr ddigidol o fewn S4C wedi bod yn flaenoriaeth i ni ers peth amser ac mae gyda ni dîm yn gweithio yn benodol ar greu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol erbyn hyn.
"Mae'n wych gweld bod ffrwyth eu llafur yn cyrraedd y nod, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein darpariaeth ddigidol."
1 Ionawr 2021 - Prif Weithredwr S4C yn edrych ymlaen at 2021
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41279/prif-weithredwr-s4c-yn-edrych-ymlaen-at-2021/
Mae Owen Evans, Prif Weithredwr S4C wedi anfon llythyr i'r gwylwyr heddiw i rannu rhai o gynlluniau cyffrous y sianel yn 2021.
Wrth ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i wylwyr S4C, mae Owen Evans yn dweud ei fod yn falch o weld cefn 2020, ac yn nodi y bydd 2021 yn llawn dop o raglenni newydd.
"Bydd sawl drama newydd wreiddiol gyda ni eleni gan ddechrau gyda Fflam ym mis Chwefror sy'n serennu Richard Harrington, Gwyneth Keyworth a Memet Ali Alabora. Bydd drama Bregus ym mis Mawrth gyda Hannah Daniel yn actio'r brif rôl ac Yr Amgueddfa ym mis Mehefin gyda Nia Roberts a Steffan Cennydd yn serennu. Mae rhain yn siŵr o'ch cadw ar flaenau eich seddi a byddant ar gael fel bocs sets hefyd ar S4C Clic " meddai Owen Evans.
"Byddwch hefyd yn falch o glywed fod cyfres newydd o Iaith ar Daith ar y ffordd ym mis Mawrth, gyda chriw newydd o selebs yn dysgu Cymraeg ac yn teithio Cymru. Mae Steve Backshall a Iolo Williams eisoes wedi bod yn ffilmio yn ogystal â Joanna Scanlan a Mark Lewis Jones. Cadwch lygad allan am fwy o sêr yn fuan!"
Soniodd hefyd am wasanaeth newyddion digidol newydd y sianel lle mae tim o staff newydd wedi eu hapwyntio i redeg y gwasanaeth.
"Byddwn yn lansio ap newyddion digidol cyn hir er mwyn bod ar flaen y gad yn dod â'r newyddion diweddaraf i chi ar flaenau eich bysedd."
"Ac i'r rheiny sy'n gwylio S4C drwy Virgin Media, o'r 4ydd o Ionawr ymlaen bydd S4C ar gael ar 104 yn hytrach na 166 ar Virgin Media yng Nghymru. Bydd S4C yn parhau ar 166 yng ngweddill Prydain."
Mae S4C hefyd yn y broses o gasglu barn y cyhoedd at y sianel ac wedi comisiynu cwmni ymchwil a dadansoddi Strategic Research and Insight i arwain ar y gwaith.
"Er mwyn rhoi chi'r gwylwyr wrth galon ein gwasanaethau ry'n ni hefyd yn gwneud tipyn o ymchwil i gasglu barn y cyhoedd am S4C ar hyn o bryd. Beth ydych chi'n hoffi, beth dy'ch chi ddim? Ry'n ni wir eisiau gwybod be' ydych chi'n feddwl o S4C. Gallwch gymryd rhan trwy lenwi ein holiadur wrth e-bostio Gwifren@s4c.cymru.
Cymerodd Owen Evans y cyfle hefyd i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i S4C yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf.
29 Rhagfyr 2020 - Dwylo Dros y Môr 2020 yn cyrraedd siartiau iTunes y DU
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41189/dwylo-dros-y-mr-2020-yn-cyrraedd-siartiau-itunes-y-du/
Mae'r anthem eiconig Dwylo Dros y Môr, fersiwn 2020 wedi cyrraedd siartiau iTunes ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r gân ar hyn o bryd yn safle 15 ac mae'n dringo'r siartiau'n gyson.
Fel rhan o raglen arbennig ar S4C i ddathlu 35 mlynedd ers cyhoeddi'r clasur o'r 80au, Dwylo Dros y Mor penderfynwyd rhoi bywyd newydd i'r gân adnabyddus gan greu recordiad newydd i godi arian i Gronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru.
Y gantores a'r gyflwynwraig o Fôn, Elin Fflur gafodd y dasg o gydlynu'r cyfan gyda chymorth y cerddor Owain Gruffudd Roberts gan dynnu dros 30 o artistiaid y sîn gerddoriaeth heddiw ynghyd (dan ganllawiau ymbellhau Llywodraeth Cymru) i greu trefniant newydd o Dwylo Dros y Môr 2020.
Ers darlledu'r rhaglen nos Sul ar S4C, mae'r gân yn parhau i ddringo siartiau iTunes y Deyrnas Unedig.
"Mae'r ymateb wedi bod yn hollol anhygoel" meddai Elin Fflur.
"Mae'n gân sy'n llwyddo i uno pobl mewn ffordd gwbl naturiol. Dwi'n sicr bod gallu tynnu artistiaid y sin gerddorol heddiw ynghyd wedi creu egni positif mewn blwyddyn mor anodd i gymaint o bobl. Mae'r symbol o ddwylo yn estyn cymorth mor berthnasol eleni ag erioed o'r blaen a dwi wrth fy modd fod ein trefniant newydd o gân mor eiconig wedi cyffwrdd calonnau cenhedlaeth newydd o Gymry."
Un arall sy'n falch o weld y gân yn cael bywyd newydd yw'r cerddor Huw Chiswell a gyfansoddodd y gân wreiddiol nol yn 1985.
"Doedd gen i ddim syniad y byddai Dwylo Dros y Môr yn dal i gael ei chlywed a'i chanu 35 mlynedd yn ddiweddarach" meddai Huw Chiswell.
"Dwi'n falch iawn ohoni, ac mae clywed lleisiau newydd yn rhoi egni a bywyd newydd i'r gân yn galonogol tu hwnt. Y briff ges i nol yn '85 oedd i greu anthem fyddai pawb yn gallu ymuno ynddi yn y gytgan. Fe gyfansoddais i'r gân yn Nghaerdydd, ro'n i newydd gael fy mhiano cyntaf ac roedd hi'n ddiwrnod diflas a gwlyb a dyna lle ddaeth y linell gynta - 'Fe ddaeth y glas i guro'r to'. Fe ddilynais fy nhrwyn gyda gweddill y gân – ac fe ddaeth yn weddol hawdd o hynny. "
Ymysg yr artistiaid sy'n rhan o ail-greu yr anthem ar ei newydd wedd mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris), Elidyr Glyn (Bwncath) ac Elin Fflur. Mae ambell gyswllt teuluol rhwng y gân ddiweddaraf a'r un wreiddiol; mae'r chwiorydd Lisa, Gwenno a Mari o'r triawd gwerin Sorela dilyn ôl troed eu mam, Linda Griffiths a ganodd yn 1985.
Mae Sion Land, mab drymiwr y gân wreiddiol, Graham Land hefyd yn cadw'r curiad 35 mlynedd yn ddiweddarach.
"Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, codi arian ar gyfer argyfwng oedd yn digwydd ochr arall y byd oedd y bwriad; ond argyfwng go wahanol sydd eleni" meddai Elin Fflur.
"Mae 2020 di bod yn flwyddyn mor anodd - mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobl yn ein cymunedau wedi cael eu taro'n ofnadwy oherwydd y pandemig.
"A dyna lle mae'r elusen yma, Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru yn bwysig; mae'n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni. Sw'n i'n annog pawb i brynu'r gân - 'da'n ni'n dal yng nghanol y pandemig, felly os ydyn ni'n medru helpu'r achos drwy lawr lwytho can, wel gwych ynde! Mae'r gân yn parhau i ddringo'r siartiau – helpwch ni i gyrraedd y brig a gwneud gwahaniaeth!"
Gallwch lawrlwytho'r gân yma https://www.s4c.cymru/cy/cerddoriaeth/dwylo-dros-y-mr-2020/
21 Rhagfyr 2020 - S4C yn symud i sianel 104 ar Virgin Media yng Nghymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41146/s4c-yn-symud-i-sianel-104-ar-virgin-media-yng-nghymru/
O 4 Ionawr 2021 ymlaen bydd S4C yn symud i sianel 104 ar Virgin Media yng Nghymru.
Mae'r penderfyniad i symud y sianel ar y Canllaw Rhaglennni Electronig (EPG) yn dilyn trafodaethau rhwng Virgin Media, S4C ac Ofcom.
Bydd y symud ond yn berthnasol i Virgin Media yng Nghymru. Bydd S4C yn aros ar sianel 166 ar draws rhannau eraill Prydain.
"Rydym yn hynod falch o'r penderfyniad hwn" meddai Elin Morris, Prif Swyddog Gweithredu S4C.
"Bydd y symud yn sicrhau mwy o amlygrwydd i S4C gan bydd y sianel i'w gweld ar dudalen flaen yr EPG's ac o ganlyniad yn ei gwneud yn haws i wylwyr yng Nghymru. Mae S4C yn chwarae rhan hanfodol wrth adlewyrchu diwylliant a chymdeithas Cymru, a hoffem ddiolch i Virgin Media ac Ofcom am eu cefnogaeth."
17 Rhagfyr 2020 - Dathlu Dai – diwedd cyfnod un o sêr mwyaf S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41072/dathlu-dai---diwedd-cyfnod-un-o-sr-mwyaf-s4c/
"Lwmp o aur Cymru" - dyna eiriau yr awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer wrth ddisgrifio ei gyfaill oes Dai Jones Llanilar, un o eiconau mwyaf S4C yn ystod y degawdau diwethaf.
Yn sicr mae'n anodd credu ei bod hi'n 50 mlynedd ers i Dai gamu i fywyd cyhoeddus trwy ennill y rhuban glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970.
Cawn ddathlu cyfraniad aruthrol Dai Jones i fywyd cefn gwlad a darlledu yng Nghymru mewn rhaglen arbennig Dathlu Dai a fydd i'w gweld ar S4C ar 1 Ionawr 2021 am 8.00 yr hwyr.
Cawn ein hatgoffa o'r myrdd o raglenni mae Dai wedi bod yn rhan mor ganolog ohonynt gan gynnwys Siôn a Siân, Noson Lawen, Rasus, Ar eich Cais, Y Sioe Fawr a Cefn Gwlad, lle mae wedi bod wrth y llyw ers 1983.
Yn ogystal â rhannu clasuron o'r archif, bydd cyfeillion a chydweithwyr Dai yn rhannu rhai o'u hoff straeon ac atgofion am y cymeriad lliwgar sy'n llwyddo i roi gwen ar wynebau pawb sy'n ei gyfarfod.
"Hud a lledrith Dai yw be chi'n gweld yw be chi'n cael – ar y sgrîn ac oddi ar y sgrîn." meddai'r gyflwynwraig Elinor Jones sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Dai ar sawl achlysur.
"Dai yw cefen gwlad, a cefen gwlad yw Dai. Does dim amheuaeth mai fe yw'r ased mwya' i S4C ei gael erioed."
Cawn hefyd glywed wrth Lywydd Senedd Cymru Elin Jones, y cynhyrchydd teledu John Watkin, y darlledwr radio Geraint Lloyd, y cyflwynydd Ifan Jones Evans, y canwr Trebor Edwards, a rhai o'r teuluoedd fu'n serennu yng nghyfresi Cefn Gwlad gyda Dai – pob un â'i stori unigryw am bersonoliaeth hoffus Dai.
Wrth i Dai benderfynu ymddeol ar ôl cyfnod hir o salwch a rhoi'r gorau i waith teledu - cawn ail-fyw rhai o'r clasuron a'r clipiau mwyaf cofiadwy sy'n siŵr o godi gwên a hel atgofion. Ac mae Dai yn diolch i bawb am yr holl gefnogaeth yn ystod ei yrfa:
"Hoffwn i ddiolch i bawb am fy nghroesawu i'w cartrefi a'u bywydau dros y blynyddoedd." meddai Dai
"Ers hanner canrif 'dwi wedi cael y fraint o agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru - yn gymeriadau, cymunedau, heb anghofio stoc o'r safon uchaf. Dwi 'di cael modd i fyw ac yn ystyried fy hun yn ddyn lwcus iawn fod wedi gallu gwneud hynny gyhyd.
"Ond o'r diwedd mae'r amser wedi dod i roi'r twls ar y bar. Millionaire yw person gyda iechyd, ac ma"Cofiwch fel 'dwi wedi dweud sawl tro – yr ifanc ydi dyfodol cefn gwlad. A dwi'n gobeithio y cawn nhw yr un cyfleoedd nawr, ac y ges i pan ddechreues i ar fy antur fawr.
"Diolch i bawb am rannu'r daith gyda mi – diolch am yr hwyl, y croeso a'r llawenydd – mae wedi bod yn falm i'r enaid, a'r atgofion yn rhai fyddai'n trysori am byth," meddai Dai.
Ac mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C hefyd yn cydnabod cyfraniad anferthol Dai i'r sianel:
"Does dim dwywaith yn rhestr detholion darlledwyr Cymru, mae Dai Jones, Llanilar ar y brig. Mae ganddo'r ddawn naturiol honno o gael y gorau mas o bobl, gan ddefnyddio ei ffraethineb, a chynhesrwydd naturiol i gyflwyno myrdd o gymeriadau bythgofiadwy i ni yn ystod ei yrfa.
"Yn Cefn Gwlad, creodd frand unigryw, gan greu portreadau sensitif o'r bobl yr oedd yn eu cyfarfod heb ddefnyddio'r dulliau confensiynol o gyfweld. Diolch o galon Dai am ei gyfraniad amhrisiadwy ac am ddod â gwen i wynebau ni'r gwylwyr ar hyd y degawdau," meddai Amanda.
Bydd S4C yn parhau i ddod â straeon cefn gwlad i'r gwylwyr gyda Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen wrth y llyw a Rhys Lewis, Meleri Williams a Ioan Doyle hefyd yn rhan o'r criw.
A gyda Dai wedi bod wrth y llyw ers cymaint o flynyddoedd, mae Dai bob amser yn barod ei gyngor, yn ôl y cyflwynydd Ifan Jones Evans:
"Ro'dd hi'n fraint enfawr i fi gael y cyfle i gyflwyno gyda Dai, roedd yn rhywun ro'n i wedi ei wylio pan yn blentyn ar Cefn Gwlad.
"Dwi'n cofio'r rhaglen gyntaf o Tir Prince a holi Dai rhyw gwarter awr cyn i ni fynd yn fyw ar yr awyr. Oes unrhyw gyngor gyda chi i fi Dai?"
"Cofia newid dy bans ar ôl i ti ddod off yr awyr!"e hwnna'n fwy gwir i ni gyd nawr nag erioed.”
15 Rhagfyr 2020 - Llywodraeth Cymru yn noddi taith y Stafell Fyw
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/41033/llywodraeth-cymru-yn-noddi-taith-y-stafell-fyw/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Llywodraeth Cymru sydd yn noddi cyfres o gigs byw y Stafell Fyw.
Mae taith y Stafell Fyw wedi cychwyn ers mis Rhagfyr, ac yn gorffen ar ddechrau'r flwyddyn gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yn cymryd rhan.
Rhan o gyffro unigryw cerddoriaeth fyw yw ei brofi'n digwydd o flaen eich llygaid, felly mae'r tri pherfformiad yma'n digwydd yn hollol fyw ar blatfform Lŵp.
Platfform a lansiwyd yn Awst 2019 yw Lŵp sy'n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg.
Ar yr ail o Ragfyr, roedd Calan a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Yr Egin, Caerfyrddin. Yna, ar Ragfyr 16 draw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, mi fydd Adwaith a Pys Melyn yn canu. Ac yn olaf, ar y 6ed o Ionawr yn Galeri Caernarfon, bydd set gan Gwilym ac Alffa.
Meddai'r AS a'r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas: "Dros y misoedd diwethaf mae pob un ohonom wedi gorfod gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw, sydd wedi golygu cyfleoedd cyfyngedig i fwynhau adloniant byw.
"Bydd y bartneriaeth hon â S4C nid yn unig yn rhoi hwb sydd i'w groesawu i'r diwydiant, ond bydd hefyd yn gwella mynediad pobl at adloniant Cymraeg byw.
"Gall mwynhau cerddoriaeth fyw gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl a'n lles, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i'w gefnogi a sicrhau ei fod yn goroesi.
"Mae taith Stafell Fyw yn dangos sut y gallwn fwynhau cerddoriaeth fyw, gan dalent wych o Gymru, wrth barhau i weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru yn ddiogel."
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i lawer, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyngherddau a gigs byw.
"Felly mae gallu comisiynu 3 gig byw mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru yn sicr yn rywbeth cyffrous iawn. Mae'n braf cefnogi a rhoi llwyfan i bawb sydd ynghlwm â'r daith hon, yn ogystal â rhoi blas o gigs byw i bawb adref.
"Rydym ni'n hynod ddiolchgar i Llywodraeth Cymru am noddi'r daith hon."
I brofi'r Stafell Fyw yn llawn, mae'r perfformiadau yn digwydd yn fyw ar blatfform Lŵp ar YouTube a Facebook. Ni fydd y perfformiadau ar gael ar alw, ond mi fydd yn bosib prynu lawr lwythiad o'r caneuon ar wefan y Stafell Fyw (stafellfyw.cymru) ar ôl y digwyddiadau.
14 Rhagfyr 2020 - S4C yn lansio arolwg i gasglu barn y cyhoedd am y sianel
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40993/s4c-yn-lansio-arolwg-i-gasglu-barn-y-cyhoedd-am-y-sianel/
Fel rhan o strategaeth newydd S4C i roi y gwylwyr wrth galon eu gwasanaethau, mae'r sianel wedi comisiynu Strategic Research and Insight i gasglu barn y cyhoedd.
Bydd cwmni ymchwil a dadansoddi Strategic Research and Insight sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd yn holi amrywiaeth o wylwyr, a rhai sydd ddim yn gwylio S4C ynghylch eu barn am y sianel. Beth mae nhw'n hoffi, beth dydyn nhw ddim? Beth arall ddylai S4C fod yn ei wneud, beth na ddylai'r sianel fod yn ei wneud?
Bydd y gwaith casglu barn yn digwydd ar ffurf amrywiaeth o grwpiau trafod yn rhithiol ar draws Zoom, felly bydd modd lleisio barn heb adael y tŷ.
Bydd S4C yn defnyddio'r wybodaeth ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain fel rhan o drafodaeth dros setliad ariannol S4C o Ebrill 2022 ymlaen. Yn ychwanegol bydd y sianel yn defnyddio'r wybodaeth i ddatblygu gwasanaethau a chomisiynau S4C dros y 5 mlynedd nesaf.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Er mwyn dod i adnabod ein cynulleidfa a deall eu patrymau gwylio yn well, mae'n rhaid i ni sicrhau fod siarad gyda'n gwylwyr a gwrando ar eu barn yn un o'n prif flaenoriaethau. Mae gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn dod i ddeall pam na fyddai rhywun eisiau gwylio S4C a pha fath o gynnwys sydd angen i ni greu er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd. Bydd y gwaith pwysig hwn yn llywio ein strategaeth i'r dyfodol ac yn ein hysbrydoli i gynllunio ein rhaglenni er mwyn targedu a denu gwylwyr newydd."
Yn ychwanegol i'r grwpiau trafod, bydd S4C yn paratoi holiadur er mwyn cael barn grŵp ehangach o wylwyr. Os ydych yn dymuno cyfrannu, cysylltwch â gwifren@s4c.cymru.
10 Rhagfyr 2020 – S4C yn comisiynu cwmni Arad i fesur effaith economaidd y sianel
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40963/s4c-yn-comisiynu-cwmni-arad-i-fesur-effaith-economaidd-y-sianel/
Yn dilyn tendr agored mae S4C wedi comisiynu Cwmni Ymchwil Arad i wneud arolwg o effaith ac ardrawiad economaidd S4C.
Bydd Arad, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, yn llunio astudiaeth achos ar chwe cwmni gwahanol fel rhan o'r gwaith.
Bydd y canlyniadau yn rhan o gyflwyniad S4C i Adran Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain fel rhan o drafodaeth dros setliad ariannol S4C o Ebrill 2022 ymlaen.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Does dim amheuaeth yn fy meddwl i am bwysigrwydd S4C i economi Cymru.
"Gobeithiwn bydd yr arolwg hwn yn ffordd i ni gasglu tystiolaeth a phwysleisio rôl ac effaith bositif S4C o fewn cymunedau led led Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Chwmni Ymchwil Arad ar y gwaith allweddol hwn i ddyfodol S4C."
Meddai Brett Duggan, Cyfarwyddwr Cwmni Ymchwil Arad: "Rydym yn falch iawn o'r cyfle i gefnogi S4C gyda'r astudiaeth hon a fydd yn archwilio effaith economaidd y sefydliad.
"Trwy gasglu data cyfredol gan gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru, cyflenwyr ehangach a staff, bydd Arad yn cyfrifo gwerth economaidd S4C i Gymru a'i rhanbarthau.
"Nod ychwanegol i'r ymchwil yw casglu tystiolaeth ar gyfraniad S4C a'i phartneriaid i'r farchnad lafur ac i gymunedau, gan gyflwyno hyn ar ffurf cyfres o astudiaethau achos."
2 Rhagfyr 2020 – STAD: S4C yn cyhoeddi comisiwn newydd o Tipyn o Stad
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40799/s4c-yn-cyhoeddi-comisiwn-newydd-o-tipyn-o-stad/
Bydd ffans led led Cymru yn falch o glywed fod S4C wedi comisiynu cyfres ddrama newydd o'r enw STAD - fydd yn ddilyniant o'r gyfres boblogaidd Tipyn o Stad.
Bydd y gyfres newydd yn ail gydio â helyntion stad Maes Menai ddeng mlynedd yn ddiweddarach gydag ambell i wyneb newydd yn ymuno â'r cast. Daeth y cyfresi i ben yn 2008 yn dilyn saith cyfres lwyddiannus.
Cynhyrchir y gyfres newydd gan Cwmni Da a Triongl gydag Angharad Elen yn brif sgriptwraig.
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Dwi'n falch iawn o gyhoeddi comisiwn newydd yn seiliedig ar y gyfres boblogaidd hon sydd wedi ei lleoli yng Nghaernarfon.
"Daeth apêl y cyfresi blaenorol yn amlwg yn ddiweddar wrth i do newydd o bobl ifanc heidio at S4C Clic i wylio bocs sets Tipyn o Stad.
"Yn sicr mae na awydd gwirioneddol i ail gydio ym mywydau cymeriadau lliwgar y ddrama wreiddiol hon gan hefyd gyflwyno cymeriadau newydd."
Llwyddodd cyfresi Bocs Sets Tipyn o Stad ar S4C Clic i ddenu 237,328 o sesiynau gwylio.
Bydd STAD yn cychwyn ffilmio yn 2021 gyda'r gyfres ar sgrin yn 2022.
30 Tachwedd 2020 - Cyhoeddi Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant cyntaf S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40753/cyhoeddi-swyddog-amrywiaeth-a-chynhwysiant-cyntaf-s4c/
Nia Edwards-Behi sydd wedi'i phenodi fel Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant cyntaf S4C.
Fel rhan o'r swydd newydd hon bydd Nia yn datblygu ymrwymiad S4C i adlewyrchu Cymru heddiw ar y sgrin a thu ôl i'r camera ac yn gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu a phartneriaid i ddenu talent newydd i'r sector
Mae Nia, sy'n wreiddiol o Lanfairfechan ond bellach yn byw yn Aberystwyth ar ôl symud yno i astudio, yn edrych ymlaen at yr her sydd o'i blaen:
"Mae S4C yn sefydliad mor bwysig i'r sector ddarlledu yng Nghymru, felly 'dw i'n edrych ymlaen at geisio rhoi S4C ar flaen y gad ar faterion o amrywiaeth a chynhwysiant a thrwy hynny ceisio dylanwadu ar y sector yn ehangach.
"Mae cydweithio'n bwysig iawn i mi, ac felly 'dw i'n edrych ymlaen at gael gweithio gydag ystod eang o staff a phartneriaid S4C ar y gwaith yma. Yn sicr, mae angen y cydweithio hynny er mwyn gallu gwireddu gwelliannau amrywiaeth a chynhwysiant."
Ar ôl cwblhau doethuriaeth mewn Astudiaethau Ffilm, bu Nia yn gwneud gwaith marchnata i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, a daeth yn Bencampwr Cydraddoldeb i'r Ganolfan.
Mae cynhwysiant a chynrychiolaeth yn bwysig iawn i Nia ac mae hyn, law yn llaw â'i diddordeb penodol yn y cyfryngau a'r celfyddydau, yn gwneud y swydd yn un delfrydol iddi:
"Hoffwn i weld gweithleoedd sy'n hygyrch ac yn groesawgar i bawb, a diwylliannau gwaith sy'n garedig, yn ystyrlon ac yn deg. Yn ogystal â hyn, hoffwn weld ystod eang iawn o unigolion yn rhan o raglenni a chynnwys S4C, a hynny ar bob math wahanol raglenni a chynnwys."
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Mae'n bleser croesawu Nia Edwards-Behi i S4C ac i'r rôl bwysig yma.
"Bydd Nia yn adeiladu ar ein cynlluniau i adlewyrchu Cymru heddiw ar y sgrin ac i sicrhau bod pobl o bob cefndir yn teimlo bod y sector teledu yn agored ac yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous a pherthnasol iddyn nhw, a'r cyfle i weithio'n y Gymraeg."
"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â Nia er mwyn i ni gyflawni'r amcanion pwysig hyn."
Bydd Nia yn cychwyn yn ei swydd ar Rhagfyr 14 2020.
30 Tachwedd 2020 - Dechrau’r dathlu gyda Chalendr Adfent Clic
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40731/dechraur-dathlu-gyda-chalendr-adfent-clic/
Bydd anrheg Nadolig cynnar yn dod i danysgrifwyr gwasanaeth ar alw S4C Clic. Wrth i gyfnod yr Adfent ddechrau ar 1 Rhagfyr bydd rhaglen newydd yn cael ei rhyddhau o'r archif yn ddyddiol hyd at 24 Rhagfyr.
Ffilm, drama, comedi, rhaglenni plant - mae'r cynnwys wedi cael eu ddewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod rhywbeth i blesio pob aelod o'r teulu.
Dros gyfnod yr Adfent bydd tri clasur o ffilm yn cael eu rhyddhau gan gynnwys Rhosyn a Rhith - ffilm ysgafn a hwyliog sy'n serennu Dafydd Hywel fel taflunydd sinema ym mhentref un o gymoedd dirwasgedig Cymru sy'n colli ei swydd ac sy'n dod o hyd i ffordd ddyfeisgar iawn o godi arian.
Hefyd bydd cyfle i ail-wylio'r ffilm rymus Milwr Bychan sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Iwerddon a Nel sy'n adrodd hanes merch sy'n gwynebu cael ei symud o'i chartref teuluol gan fod ei brawd eisiau gwerthu fferm y teulu.
Mae rhywbeth i wylwyr ifanc S4C Clic sef Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs - ffilm gerddorol i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach saith oed o'r enw Noa.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes teulu cyffredin yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae pwysigrwydd cyfeillgarwch a theulu a phŵer oesol y dychymyg wrth galon y ffilm hon.
Hefyd i blant mae hen ffefrynnau fel Siôn Blewyn Coch - animeiddiad yn seiliedig ar gymeriadau o Lyfr Mawr y Plant, sy'n adrodd hanes llwynog bach clyfar sy'n ceisio dwyn twrci Nadolig y ffermwr a'r ffilm gerddorol Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig.
Mae ffefrynnau mwy diweddar hefyd gyda rhifyn Nadolig o Deian a Loli a Pluen Eira - ffilm arbennig i'r teulu cyfan am fachgen bach o'r enw Frank, a'i gyfeillgarwch gyda thwrci o'r enw Aden.
Bydd clasuron comedi ar gael gan gynnwys Licyris Olsorts a sawl wyneb cyfarwydd iawn hefyd, wrth i'r rhaglenni Priodas Pum Mil Dolig a Dai ar y Piste cael eu rhyddhau ar S4C Clic.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae S4C Clic wedi bod yn stori lwyddiant mewn blwyddyn anodd iawn i bawb. Rydym ni fel gwasanaeth wedi bod yn awyddus iawn i fod yna i'n gwylwyr i gynnig cymorth a chwmni trwy gyfnod Covid-19, ac mae ein llwyfan ar alw S4C Clic wedi bod yn rhan annatod o'n hymdrechion i gyrraedd cymaint o bobl a phosib.
"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel ac mae niferoedd tanysgrifwyr S4C Clic nawr wedi cyrraedd dros 150,000. Mae Calendr Adfent Clic yn ffordd o ddiolch i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth trwy gynnig hyd yn oed mwy o'n cynnwys o'r archif."
Felly dechreuwch ddathlu'r Wŷl - ewch i www.s4c.cymru/clic i ddarganfod pa drysorau o'r archif sydd gan S4C Clic i'w cynnig dros gyfnod yr Adfent.
24 Tachwedd 2020 - Estyn dwylo dros 35 mlynedd i roi egni newydd i hen gân
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40591/estyn-dwylo-dros-35-mlynedd-i-roi-egni-newydd-i-hen-gn/
Mae dwylo wedi bod yn rhan o'n bywydau'n fwy nag erioed yn 2020 - wrth i ni eu golchi, eu glanhau, a chlapio i'n gweithwyr allweddol.
35 mlynedd yn ôl roedd dwylo yn nodwedd gref yn nhestun y record elusennol gyntaf yn y Gymraeg, sef Dwylo Dros y Môr.
Dyma sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r gantores Elin Fflur, gyda chymorth y cerddor Owain Gruffudd Roberts i dynnu dros 30 o artistiaid y sîn gerddoriaeth heddiw ynghyd (dan ganllawiau ymbellhau Llywodraeth Cymru) i greu trefniant newydd, Dwylo Dros y Môr 2020.
A bydd y cyfan i'w weld mewn rhaglen arbennig, Dwylo Dros y Môr 2020 a ddarlledir ar 27 Rhagfyr am 8pm.
Bydd y fersiwn newydd o'r gân, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan y canwr Huw Chiswell, ar gael i'w lawr lwytho o'r holl blatfformau digidol o 11 Rhagfyr.
Ac yn debyg i fwriad y gân nôl yn 1985, bydd cyfran o elw'r sengl hon yn mynd tuag at elusen hefyd - y tro hwn, Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cronfa yw hon sy'n darparu cefnogaeth i fudiadau sy'n cynnig cymorth argyfwng i rai sydd wedi'u heffeithio gan Covid19.
Ymysg yr artistiaid sy'n rhoi bywyd newydd i hen gân mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris), Elidyr Glyn (Bwncath) ac Elin Fflur.
Mae ambell gyswllt teuluol rhwng y gân ddiweddaraf a'r un wreiddiol; mae'r chwiorydd Lisa, Gwenno a Mari o'r triawd di-gyfeiliant Sorela yn dilyn ôl troed eu mam, Linda Griffiths a ganodd yn 1985.
Mae Sion Land, mab drymiwr y gân wreiddiol, Graham Land hefyd yn cadw'r curiad 35 mlynedd yn ddiweddarach.
"Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, codi arian ar gyfer argyfwng roedd yn digwydd ochr arall y byd oedd y bwriad; ond argyfwng go wahanol sydd eleni" meddai Elin Fflur.
"Mae 2020 di bod yn flwyddyn mor anodd - mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobl yn ein cymunedau wedi cael eu taro'n ofnadwy oherwydd y pandemig.
"A dyna pam fo Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru Sefydliad Cymunedol Cymru yn bwysig; mae'n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni.
"Ers ffilmio mae'r elsuen am rannu yr arian drwy eu Cronfa Ymateb ac Adfer Sefydliad Cymunedol Cymru, sy'n helpu sefydliadau ledled Cymru oroesi'r argyfwng yn uniongyrchol.
"Sw'n i'n annog pawb i brynu'r gân - 'da'n ni'n dal yng nghanol y pandemig, felly os ydyn ni'n medru helpu'r achos drwy lawr lwytho can, wel awe de! A byddai'n fonws go iawn ei gweld yn cyrraedd brig y siartiau!"
Ac nid tasg hawdd yw cadw swyn cân mor adnabyddus ac eiconig: "Dwi'n caru'r gân wreiddiol gymaint; mae'r geiriau a'r melodi, y sain a sŵn y lleisiau yn plethu'n berffaith.
"Felly ro'n i'n nyrfys iawn wrth feddwl bod ni am ail-greu'r gân 'ma, achos weithiau ddyliech chi ddim cyffwrdd caneuon sy'n gweithio mor dda.
"Ond mae rhaid i mi ddeud, pan nes i glywed y fersiwn roedd Owain wedi'i wneud, nes i jest crio, achos roedd o wedi llwyddo i gadw'r teimlad a'r awyrgylch gwreiddiol mewn ffordd, ond wedi rhoi egni newydd iddi heb ei sbwylio hi."
Y cerddor Owain Gruffudd Roberts, sy'n sylfaenydd ac arweinydd y grŵp poblogaidd Band Pres Llareggub oedd â'r her o gydlynu'r holl beth: "Roedd yn fraint o gael gwneud y sialens, ac o fewn dipyn, nes i sylwi ei fod yn big deal oherwydd bod y sain mor eiconig yn yr un cynta'!" meddai Owain, sy'n wreiddiol o Fangor ond bellach yn byw yn Llundain.
"Dwi'n meddwl mai'r ffordd nes i drio delio efo hynna oedd trio gwneud rhywbeth gwahanol, ac yn amlwg, mae'n anodd plesio pawb.
"Mae iddi sain o'r 80au felly ro'n i eisiau gwneud iddo swnio'n ffres fase ddim yn dyddio.
"Roedd y diwrnodau recordio yn gymaint o hwyl, ac roedd pawb mor bositif, ac roedd ryw buzz arbennig. O'n i mor hapus efo sut ddaeth yr holl beth at ei gilydd."
18 Tachwedd 2020 - Bang yn dod i’r brig yng Ngŵyl Deledu Caeredin
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40514/bang-yn-dod-ir-brig-yng-ngyl-deledu-caeredin/
Mae'r gyfres ddrama Bang wedi ennill gwobr yng ngwobrau Gŵyl Teledu Caeredin eleni. Daeth y gyfres drosedd, a gynhyrchwyd gan Joio ar gyfer S4C, i'r brig yn y seremoni wobrwyo Ddydd Mercher 18 Tachwedd ochr yn ochr â chyfresi megis Chernobyl a Succession.
Cyflwynwyd y Wobr Werdd i gast a chriw'r gyfres am eu hymdrechion i sicrhau fod Bang yn gynhyrchiad cynaliadwy. Dyma'r tro cyntaf i'r wobr gael ei chyflwyno ac mae datblygiad y categori newydd hwn yn arwydd o'r pwyslais mae'r diwydiant bellach yn rhoi ar gynhyrchwyr i leihau eu hôl troed carbon wrth greu rhaglenni teledu.
Sicrhaodd cynhyrchwyr y gyfres fod systemau yn eu lle i ail-gylchu gwisgoedd a setiau, i leihau'r angen i deithio ac i gompostio gwastraff bwyd.
Wrth leoli'r gyfres mewn hen ysgol uwchradd yng nghanol tref Port Talbot, roedd y tîm yn gallu sefydlu swyddfa a saethu'r mwyafrif o'r gyfres mewn un lleoliad ac annog gweithwyr i deithio i'r gwaith ar y trên. Bydd y cwmni yn nawr yn rhannu eu harferion da gyda'r diwydiant yng Nghymru.
"Roeddwn yn benderfynol o gymryd camau i leihau ein hôl-troed carbon wrth i ni fynd ati i saethu'r ail gyfres o Bang", meddai Roger Williams, Uwch Gynhyrchydd y gyfres a Chyfarwyddwr Cwmni Joio.
"Gan ystyried yr oblygiadau amgylcheddol o'r cychwyn cyntaf roeddwn yn gallu trefnu ein gwaith mewn ffordd effeithlon er mwyn gweithredu'n fwy gwyrdd. Trwy arwain ar y neges hon a sicrhau bod systemau yn eu lle, roedd y cynsail wedi ei osod i bawb oedd yn gweithio gyda ni i chwarae eu rhan yn y gwaith o sicrhau bod Bang mor wyrdd â phosib."
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Rydym yn arbennig o falch fod Bang wedi ennill y wobr yma. Mae'r Wobr Werdd yn wobr arwyddocaol wrth i ni anelu tuag at weithio'n fwy cynaliadwy gyda chynhyrchwyr yn y dyfodol. Mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein rhan a lleihau ein hôl troed carbon, ac mae'r wobr yma yn dathlu ymdrechion y diwydiant. Llongyfarchiadau mawr i Roger a chwmni cynhyrchu Joio am y gwaith sydd wedi arwain at ennill y wobr fawreddog hon."
Cynhyrchwyd Bang ar gyfer S4C mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae'r gyfres wedi cael ei dangos mewn gwledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada a Seland Newydd. Enillodd y gyfres gyntaf y wobr am y gyfres ddrama orau yng ngwobrau Bafta Cymru a gwobrau'r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.
Mae gwobrau Gŵyl Teledu Caeredin yn wobrau mawr eu bri ac yn dathlu'r gorau o'r diwydiant teledu yn y wlad hon a thramor.
16 Tachwedd 2020 - Merched Parchus ar gael i'w wylio yn yr Almaen, Swistir ac Awstria
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40479/merched-parchus-ar-gael-iw-wylio-yn-yr-almaen-swistir-ac-awstria/
Bydd y gyfres S4C Original, Merched Parchus, ar gael i'w wylio yn yr Almaen, y Swistir ac Awstria ar ôl i'r hawliau darlledu gael eu prynu gan blatfform ffrydio Ewropeaidd.
Yn dilyn cytundeb rhwng S4C, ie ie Productions a cwmni gwerthiannau Videoplugger, mi fydd y gyfres ddrama ar gael ar y chwaraewr ffilmiau a chyfresi newydd, SOONER.
Fe ymddangosodd y gyfres arloesol yma fel bocs set ar S4C Clic yn wreiddiol, cyn ymddangos ar y brif sgrin wythnos yn ddiweddarach.
Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Hanna Jarman a Mari Beard, sydd hefyd yn actio rôl dwy o'r prif gymeriadau.
Fe gafodd Merched Pacrhus ei henwebu ar gyfer y wobr Drama Orau yng Ngwobrau Broadcast Digital 2020 a Gwobrau RTS Cymru 2020, yn ogystal â'r gwobrau Torri Trwodd ac Awdur Orau yn BAFTA Cymru 2020.
Merched Parchus yw'r ail gyfres ddrama S4C Original i gael ei gynnwys ar blatfform SOONER, wedi i Byw Celwydd hefyd cael ei werthu yn gynharach eleni.
Ymysg y rhaglenni eraill sy'n dod dan faner S4C Original mae'r dramâu, Un Bore Mercher (Vox Pictures) a Bang (Joio ac Artists Studio), y gyfres adloniant Priodas Pum Mil (Boom Cymru) a'r rhaglen a enillodd y wobr Cyfres Orau yng Ngwobrau BAFTA Plant, Prosiect Z (Boom Cymru).
Meddai Hanna Jarman, sydd yn chwarae Carys yn y ddrama: "Rydyn ni wrth ein boddau bod ein gwaith yn cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd.
"Mae'r Gymraeg yn iaith lleiafrifol ac mae'n wych fod yna farchnad arall i gynnwys iaith Cymraeg ac ein bod ni'n gallu rhannu ein gwaith gyda gwledydd eraill. "Mae Merched Parchus yn stori am ferch sydd yn gwahanu gyda'i chariad hir dymor.
"Mae hi'n canfod cysur wrth wrando ar bodlediadau trosedd a ffantasi tywyll, wrth iddi geisio dygymod â bywyd fel oedolyn.
"Mae'r teimlad o fod ar goll a cheisio canfod ffordd drwy fywyd yn rhywbeth all bawb uniaethu gyda, ac rydyn ni'n gobeithio gwnaiff fwy o bobl fwynhau dilyn siwrnai Carys."
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae'n ffantastig i weld Merched Parchus yn ymuno â'r trend diweddar o gynnwys iaith Cymraeg dan y faner S4C Original gan gyrraedd cynulleidfaoedd byd eang.
"Mae Merched Parchus yn enghraifft o S4C ar ei orau - drama digidol-gyntaf wedi ei greu gan ferched talentog o Gymru, sydd yn heriol, ac yn ennyn emosiwn. "Ry'n ni'n hynod o falch bod y gyfres hon yn cael ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ledled Ewrop."
Mae SOONER yn blatfform ffilm a chyfresi sydd ar gael i'w ffrydio drwy thanysgrifio neu fel rhaglenni ble mae modd talu amdanynt yn unigol.
Mae SOONER yn cael ei reoli gan gwmni o Ffrainc a'r Almaen o'r enw ContentScope.
Dywedodd Andreas Wildfang, Prif Weithredwr ContentScope GmbH: "Mae rhaglenni SOONER wedi eu hanelu tuag at bobl sydd wir yn mwynhau ffilmiau a chyfresi soffistigedig.
"Rydyn ni'n rhoi sylw i raglenni dogfen a fformatau cyfresol, yn ogystal â ffilmiau y tu allan i'r brif ffrwd ac mae Merched Parchus, gan Clair Fowler, yn enghraifft wych o hynny."
Dywedodd Emanuelle Galloni, Prif Weithredwr Videoplugger: "Mae Videoplugger yn parhau i werthu cynnwys Cymraeg safonol i'r byd.
"Mae Merched Parchus yn gyfres ysgafn, sydd wedi ei saethu yn Gymraeg a Saesneg, ac yn esiampl gwych o'r math o gynnwys arloesol rydyn ni'n edych amdano, gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel ac actio heb-ei-ail."
16 Tachwedd 2020 – Cyfle i fwynhau tair gig byw yn eich stafell fyw gyda Lŵp
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40476/cerddoriaeth-fyw-o-bell/
Mae'n wir i ddweud fod eleni wedi bod yn flwyddyn rhyfedd iawn heb berfformiadau byw, ond dyma gyfle i fwynhau tair gig byw mewn lleoliadau ar draws Cymru, o'ch Stafell Fyw chi eich hun.
Yn dilyn llwyddiant gig byw ym mis Hydref yn Neuadd Ogwen, Bethesda, gyda Candelas ac I Fight Lions, bydd taith y Stafell Fyw yn cychwyn ym mis Rhagfyr ac yn gorffen ar ddechrau'r flwyddyn gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yn cymryd rhan.
Rhan o gyffro unigryw cerddoriaeth fyw yw ei brofi'n digwydd o flaen eich llygaid, felly bydd y tri pherfformiad yma'n digwydd yn hollol fyw ar blatfform Lŵp. Platfform a lansiwyd yn Awst 2019 yw Lŵp sy'n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg.
Ar yr ail o Ragfyr, bydd Calan a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Yr Egin, Caerfyrddin. Yna, ar Ragfyr 16 draw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, mi fydd Adwaith a Pys Melyn yn canu. Ac yn olaf, ar y 6ed o Ionawr yn Galeri Caernarfon, bydd set gan Gwilym ac Alffa.
Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn anodd i sawl cerddor a lleoliadau, mae'r daith yma yn cynnig rhywbeth cyffrous iawn.
Meddai Ffion Emyr, fydd yn cyflwyno'r tri pherfformiad: "Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn galed ac anodd iawn i gymaint o bobol, yn enwedig pobol sydd ynghlwm â chyngherddau a gigs byw. Cerddorion, trefnwyr gigs, technegwyr, riggers - pawb! Felly mae'i mor braf medru cefnogi a rhoi llwyfan, platfform a gwaith i bawb sydd ynghlwm â'r daith yma."
I brofi'r Stafell Fyw yn llawn, bydd y tri pherfformiad yn digwydd yn fyw ar blatfform Lŵp ar YouTube a Facebook. Ni fydd y perfformiadau ar gael ar alw, ond mi fydd yn bosib prynu lawr lwythiad o'r caneuon ar wefan y Stafell Fyw ar ôl y digwyddiadau.
Ychwanegodd Ffion: "Un o'r pethau pwysica' i fi ydy trio cael bwrlwm a chynnwrf cyn ac ar ôl i'r bandiau berfformio. A hefyd i gael pawb adra i adael sylwadau a tweetio fel bod 'na deimlad fod pawb yn edrych ar y gig efo'i gilydd, ond o'i Stafell Fyw."
"Mae pawb wedi colli gymaint o brofiadau, gigs a gwyliau cerddorol, ac yn haeddu cael blas o gigs byw eleni."
Bydd cyfle i gymryd rhan yn yr hwyl drwy holi cwestiynau i'r artistiaid neu roi barn ar y setiau yn ystod y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy gofrestru ar wefan y Stafell Fyw.
13 Tachwedd 2020 - Dilynwch ranbarthau Cymru yng Nghwpan Her Ewrop ar S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40451/dilynwch-ranbarthau-cymru-yng-nghwpan-her-ewrop-ar-s4c/
Gyda Gleision Caerdydd a'r Gweilch yn cystadlu yng Nghwpan Her Ewrop eleni, bydd modd dilyn y rhanbarthau gyda gemau byw ar S4C.
Gyda'r gystadleuaeth yn dilyn strwythur gwahanol eleni, fe fydd Gleision Caerdydd a'r Gweilch ymysg 14 clwb fydd yn cystadlu mewn un grŵp rhagbrofol.
Bydd S4C yn darlledu gemau'r ddau ranbarth yn fyw yn ystod pob wythnos o'r rowndiau rhagbrofol, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch.
Mae'r gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 11 Rhagfyr wrth i'r Gleision ymweld â Newcastle Falcons, cyn y gêm rhwng Gweilch a Castres yn y Stadiwm Liberty y diwrnod canlynol.
Mi fydd y ddau dîm yn anelu i orffen ymysg yr wyth tîm gorau o'r rowndiau rhagbrofol.
Bydd yr wyth tîm yna yn ymuno gydag wyth tîm o Gwpan y Pencampwyr Heineken i gystadlu yn y rownd o 16, rownd yr wyth olaf, a'r rownd gyn-derfynol, cyn y rownd derfynol yn Marseille ar 21 Mai 2021.
Gemau Cwpan Her EPCR byw ar S4C
Rownd 1: Nos Wener 11 Rhagfyr – Newcastle Falcons v Gleision Caerdydd - 8.00pm, Nos Sadwrn 12 Rhagfyr – Gweilch v Castres - 8.00pm
Rownd 2: Nos Sadwrn 19 Rhagfyr – Caerwrangon v Gweilch – 8.00pm, Nos Sul 20 Rhagfyr – Gleision Caerdydd v Stade Francais – 5.30pm
Rownd 3: Nos Wener 15 Ionawr – Gweilch v Caerwrangon – 8.00pm, Nos Sadwrn 16 Ionawr – Stade Francais v Gleision Caerdydd – 8.00pm
Rownd 4: I'w Gadarnhau
13 Tachwedd 2020 - Menter a Busnes yn noddi Prosiect Pum Mil
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40431/menter-a-busnes-yn-noddi-prosiect-pum-mil/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd Menter a Busnes yn noddi cyfres newydd o Prosiect Pum Mil.
Bydd y gyfres boblogaidd yn cychwyn ar S4C ar Nos Sul 22 Tachwedd gyda Trystan Ellis Morris ac Emma Walford yn teithio cymunedau led led Cymru er mwyn ceisio gwireddu prosiectau cymunedol am £5,000 o bunnau.
Drwy adnewyddu ac adeiladu bydd cymunedau yn dod at ei gilydd yn y gobaith o greu cynlluniau fydd yn fuddiol i'w hardal.
Yn y gyfres hon byddwn yn ymweld â Llanystumdwy, Caerdydd, Ysbyty Ifan, Nelson, Pontypridd a Llandysul.
Llwyddodd Prosiect Pum Mil i ennill gwobr BAFTA Cymru fis diwethaf yn y categori Cyflwynwyr Gorau am waith cyflwyno naturiol a thwymgalon Emma a Trystan.
"Mae Prosiect Pum Mil yn enghraifft wych o ysbryd cymunedol ar ei orau." meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.
"Yn sicr mae'r gyfres boblogaidd hon wedi taro deuddeg gyda'n gwylwyr wrth i ni deithio led led Cymru yn ymweld ag ardaloedd amrywiol a chymeriadau lliwgar ar lawr gwlad.
"Ry'n ni'n hynod ddiolchgar i Menter a Busnes am noddi'r gyfres hon eleni."
Meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes: "Rydym falch iawn o'r cyfle i noddi cyfres Prosiect Pum Mil eleni, mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i lawer.
"Mae'r gyfres yn dyst i'r creadigrwydd, dygnwch a'r dyfeisgarwch sydd yn fyw ac yn iach ar hyd a lled y wlad.
"Mae cefnogi cymunedau ac economi Cymru wrth galon ein holl weithgarwch, ac mae'n braf medru cefnogi cyfres fel hon i ddathlu'r hyn y mae cymunedau yn medru ei gyflawni i wella eu hardal, trwy gydweithio."
12 Tachwedd 2020 - Ffilmiau Cymraeg ar Amazon Prime Video am y tro cyntaf
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40418/ffilmiau-cymraeg-ar-amazon-prime-video-am-y-tro-cyntaf/
Mae ffilmiau o Gymru ac yn yr iaith Gymraeg ar gael i'w gwylio am y tro cyntaf ar Amazon Prime Video.
Mae'r ddwy ffilm antur, 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig, wedi eu cynhyrchu gan Cwmni Da o Gaernarfon.
Dyma'r tro cyntaf i gynnwys iaith Gymraeg ymddangos ar y platfform, lle fyddant ar gael i aelodau a thanysgrifwyr gwasanaeth Prime Video.
Mae 47 Copa yn ffilm S4C Original, strand a gafodd ei lansio yn 2019 er mwyn arddangos cynnwys gwreiddiol o Gymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac ymestyn cyrhaeddiad yr iaith Gymraeg ar draws y byd.
Ymysg y rhaglenni eraill sy'n dod dan faner S4C Original mae'r dramâu, Un Bore Mercher (Vox Pictures) a Bang (Joio ac Artists Studio), y gyfres adloniant Priodas Pum Mil (Boom Cymru) a'r rhaglen a enillodd y wobr Cyfres Orau yng Ngwobrau BAFTA Plant, Prosiect Z (Boom Cymru).
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Ry'n ni'n hynod o falch i weld ein brand S4C Original yn ymestyn ei gyrhaeddiad wrth i'r byd fwynhau cynnwys unigryw o Gymru ym mhob genre.
"Mae'r ffordd rydym yn gwylio rhaglenni yn newid ac mae'n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i arddangos ein cynnwys Cymraeg safonol i weddill y byd."
Mae'r ffilmiau yn rhan o becyn o ddwy ffilm ddogfen antur sydd wedi eu cyfarwyddo gan Huw Erddyn, o Gaernarfon.
Mae 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig yn rhaglenni sydd yn dilyn y rhedwr marathon wltra ac anturiaethwr Huw Brassington, wrth iddo fentro mewn dau o heriau corfforol anoddaf sydd gan Gymru i'w gynnig.
Yn 47 Copa, mae Huw yn ceisio gorffen y Rownd Paddy Buckley, her ble mae rhedwyr yn ceisio dringo i gopa 47 mynydd yn Eryri dros gyfnod o 24 awr.
Mae'r ffilm wedi ennill y wobr am Ffilm Antur Orau yng Ngŵyl Ffilm Mynydd Llundain 2020, yn ogystal â llwyddo i fod yn ddewis swyddogol yng Ngŵyl Mynydd Kendal fis yma.
Mae Ar Gefn y Ddraig yn dilyn Huw wrth iddo redeg yn y ras mynydd pum diwrnod anoddaf yn y byd, Ras Gefn y Ddraig, sydd yn ymlwybro 315km o ogledd Cymru i'r de.
Fe enillodd y ffilm wobr Dewis y Bobl yng Ngŵyl Mynydd Kendal 2018 yn ogystal â'r wobr arian yng Ngŵyl Ffilmiau Antur Sheffield 2019.
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu sydd yn nodedig am eu cynnwys antur.
Yn ogystal â chipio sawl gwobr gyda'u ffilmiau antur, y cwmni sydd hefyd yn cynhyrchu'r darllediadau blynyddol o Ras yr Wyddfa a Marathon Eryri a'r fformat antur Ar y Dibyn gafodd ei ddatblygu ar gyfer S4C a Sony Pictures International.
Meddai Huw Erddyn o Cwmni Da: "Roedd y ffilmiau yma yn hynod heriol i'w saethu ar adegau ond yn bleser pur i weithio arnyn nhw.
"Mae Huw a finnau yn nabod ein gilydd ers oeddem ni'n dau yn ddeuddeg oed ac mae wedi bod yn braf iawn i gwrdd eto blynyddoedd wedyn a gweithio hefo'n gilydd.
"Rydyn ni'n rhannu'r un diddordebau ac yn gweld pethau yn yr un ffordd, felly yn sicr dani'n gweithio'n dda hefo'n gilydd.
"Mae Eryri yn leoliad perffaith i anturiaethwyr ym Mhrydain a thu hwnt, felly mae cael y cyfle i greu ffilmiau iaith Gymraeg efo'r tirwedd yna fel cefndir, wedi bod yn wych.
"Mae'n ffantastig i weld cynnwys iaith Gymraeg yn cael ei gynnwys ar blatfform fel Amazon Prime."
Bydd 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig ar gael i'w wylio ar Amazon Prime Video ar Ddydd Iau 12 Tacwhedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.amazon.co.uk/primevideo.
9 Tachwedd 2020 - S4C yn rhannu llwyddiannau digidol mewn fforwm gyda'r Cenhedloedd Unedig
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40392/s4c-yn-rhannu-llwyddiannau-digidol-mewn-fforwm-gydar-cenhedloedd-unedig/
Bydd S4C yn rhannu arferion da a llwyddiannau diweddar platfform digidol Hansh, mewn cynhadledd ryngwladol sef Fforwm Llywodraethiant y We a drefnir gan y Cenhedloedd Unedig ddydd Llun 9 Tachwedd.
Am y tro cyntaf eleni, cynhelir y gynhadledd yn rithiol a disgwylir cannoedd o gynrychiolwyr o bedwar ban byd i ymuno yn y trafodaethau.
Dyma fydd y 15fed cynhadledd i'w trefnu gan y Cenhedloedd Unedig yn trafod llywodraethiant y we, a dyma'r tro cyntaf i S4C gymryd rhan.
Bydd S4C yn trafod llwyddiannau Hansh a'r effaith bositif ar ieithoedd lleiafrifol. Bydd hefyd trafodaeth ar strategaeth ddigidol S4C a datblygiadau S4C Clic.
Lansiwyd Hansh yn 2017 fel platfform ddigidol i bobl ifanc rhwng 16-34 oed.
Mae'r gwasanaeth wedi tyfu a datblygu i gynnwys elfennau comedi, materion cyfoes, darnau barn unigol a sgyrsiau sy'n trafod amrywiaeth eang o bynciau sy'n effeithio pobl ifanc heddiw.
Denodd Hansh dros filiwn o sesiynau gwylio ym mis Mawrth 2020 ac mae'r platfform yn parhau i dyfu.
"Dwi'n falch iawn fod gwaith S4C gyda phlatfform Hansh yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel cynllun llwyddiannus" meddai Rhodri ap Dyfrig fydd yn arwain cyflwyniad S4C yn y fforwm.
"Mae Hansh wedi llwyddo i greu cymdeithas unigryw ar lein yn yr iaith Gymraeg, sy'n hyrwyddo diwylliant ac sy'n denu pobl ifanc na fyddai fel arfer yn troi at gynnwys S4C yn llinol."
"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i ni rannu arferion da a dangos sut mae'r platfform wedi datblygu yn y blynyddoedd diweddar.
"Dwi'n falch iawn o'r cyfle hwn i roi S4C, Cymru a'r iaith Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol."
6 Tachwedd 2020 - Cân i Gymru 2021 yn mynd yn ei flaen
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40365/cn-i-gymru-2021-yn-mynd-yn-ei-flaen-/
Wrth i sawl gŵyl a digwyddiad gael eu gohirio eleni, bydd cryn edrych ymlaen at gystadleuaeth eiconic Cân i Gymru.
Bydd Cân i Gymru 2021 yn cael ei lansio ar Ddydd Gwener, 6 Tachwedd, ar raglen Heno. Fel rhan o'r adloniant bydd enillydd Cân i Gymru 2020, Gruffydd Wyn, yn ymuno â Elin Fflur i drafod ei brofiad o ennill y gystadleuaeth.
Cafodd Cyn i'r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn o Amlwch ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr rhaglen Cân i Gymru 2020 ar S4C ym mis Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Mae Gruffydd Wyn yn berfformiwr profiadol a ddaeth i amlygrwydd ar y gyfres Britain's Got Talent pan gyrhaeddodd y rowndiau olaf ac ennill golden buzzer y beirniad Amanda Holden.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu yn 2021 a bydd digon o gyfle i ymuno yn yr hwyl o'r tŷ.
Mae Siôn Llwyd, o gwmni Avanti, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C, yn sicr bydd 2020 yn siŵr o ysbrydoli cantorion a chyfansoddwyr Cymru i gyfansoddi caneuon arbennig ac unigryw iawn:
"Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i'r celfyddydau, yn enwedig i gerddorion a chyfansoddwyr, ac rydym yn gobeithio bydd y llwyfan arbennig yma a'r cyfle am wobr ariannol yn rhoi hwb a ffocws i gyfansoddwyr a cherddorion ar gyfer y dyfodol."
Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cael ei chynnal ers 1969 ac mae'n gyfle i gyfansoddwyr gynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill gwobr ariannol.
Margaret Williams, Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Elin Fflur - dyma rhai o gewri'r byd adloniant yng Nghymru sydd wedi ennill Cân i Gymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Dyddiad cau ar gyfer Cân i Gymru 2021 yw 3 Ionawr 2021 am 10 o'r gloch y nos. Am y manylion yn llawn, cofiwch wylio rhaglen Heno ar nos Wener, 6 Tachwedd. Mae ffurflen gais ar gael ar wefan S4C:
Ychwanegodd Siôn: "Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth sydd wedi bod yn uno teuluoedd o flaen y teledu ers dros hanner can mlynedd ac mae'r cyffro sydd ynghlwm â chystadlu yn un unigryw iawn.
"Pwy fydd y nesa i hawlio'i lle yn hanes Cân i Gymru?"
6 Tachwedd 2020 - Hansh am greu cynnwys gan bobl anabl a phobl fyddar
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40372/hansh-am-greu-cynnwys-gan-bobl-anabl-a-phobl-fyddar/
Mae S4C yn edrych am gwmni cynhyrchu i ddatblygu, ysgogi a chynhyrchu cynllun i greu cynnwys ffurf fer i Hansh gan bobl anabl a/neu bobl fyddar.
Fel rhan o ymrwymiad S4C i gynyddu amrywiaeth, mae'r sianel yn edrych am becyn o gynnwys fydd yn gyfle i ddatblygu a dangos doniau a thalent cynhyrchu pobl anabl a/neu bobl fyddar.
Bydd angen i'r cwmni fynd ati i recriwtio a chasglu tîm o bobl fydd yn gallu bod yn rhan o'r cynllun, o berfformwyr i ysgrifenwyr, gyda'r nod o ymbweru'r unigolion i greu cynnwys adloniant o'r safon uchaf.
Dylai'r gwaith datblygu gynnwys gweithdai ar gyfer grŵp o unigolion sydd eisiau cael eu lleisiau wedi'i clywed ar Hansh.
Bydd y sesiynau datblygu yma yn gyfle i fagu hyder, dysgu am y broses cynhyrchu a gweld eu syniadau yn dod yn fyw wrth gael eu cyhoeddi ar draws platfformau Hansh.
Disgwylir pump i ddeg darn o gynnwys gael ei gynhyrchu, a bydd angen i'r syniadau ddangos strwythur y cynllun, gan gynnwys tair elfen o ddatblygu, cynhyrchu a chyhoeddi a dangos gweledigaeth greadigol ar gyfer y prosiect.
Y dyddiad cau yw 17:00 dydd Llun, 16eg o Dachwedd, 2020.
Am fwy o fanylion ewch i https://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/newyddion-cynhyrchu/post/40347/galwad-am-gynnwys-hansh/
5 Tachwedd 2020 - Datblygu a denu talent newydd i’r maes Newyddiaduraeth
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40357/datblygu-a-denu-talent-newydd-ir-maes-newyddiaduraeth/
Gyda mwy o bwyslais nag erioed ar y newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol, mae S4C ac ITV Cymru eto eleni yn cefnogi cynllun hyfforddi newyddiadurwyr i greu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh.
Mae'r cynllun hyfforddi arloesol, sy'n bartneriaeth rhwng S4C ac ITV, yn rhedeg am y trydydd tro ac yn rhan o ymrwymiad S4C i roi cyfle i bobl sy'n cael eu tangynrychioli yn y sector i weithio yn y maes.
Bydd y ddau newyddiadurwr dan hyfforddiant yn cael profiad o weithio ar y rhaglenni materion cyfoes mae ITV yn creu ar gyfer S4C, rhaglenni fel Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Byddant hefyd yn dysgu creu cynnwys materion cyfoes ffurf fer ar gyfer cynulleidfa Hansh Dim Sbin ar draws y cyfryngau cymdeithasol.
Lloyd Lewis a Maia Davies yw'r ddau sydd wedi ennill eu lle ar y cynllun hyfforddi eleni a hynny o dros 90 o ymgeiswyr. Bydd y ddau i'w gweld ar dudalennau Hansh, yn torri straeon newydd ac yn ceisio tanio sgwrs am bynciau llosg a materion gwleidyddol ymysg y gynulleidfa iau.
Mae Lloyd, sy'n 24 oed ac yn wreiddiol o Gwmbrân, yn edrych ymlaen at ddilyn ei uchelgais o ddatblygu gyrfa yn y maes ar ôl dilyn gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg, Cyfryngau a Newyddiaduraeth:
"Mae'r cynllun yma yn gyfle anhygoel i gael syniad gwell o'r diwydiant a chael profiadau amhrisiadwy a fydd yn y pen draw yn galluogi i mi adeiladu gyrfa lwyddiannus."
Un o'r pethau sy'n bwysig i Lloyd yw sicrhau cynrychiolaeth deg o'r wlad fel y mae hi heddiw:
"Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol i roi cynrychiolaeth o Gymru fodern a'i chyfoeth o ddiwylliannau, felly i mi, hoffwn weld cynrychiolaeth well o wahanol ethnigrwydd yn ein cynnwys cymdeithasol, a fydd yn ei dro yn cynyddu sylfaen ein cynulleidfa."
Fel cyn chwaraewr rygbi saith bob ochr i Gymru, sydd erbyn hyn yn chwarae i Glwb Rygbi Pont-y-pŵl, mae chwaraeon o ddiddordeb mawr iddo:
"Rwy'n credu bod cyfle enfawr i greu mwy o gynnwys sy'n gysylltiedig â chwaraeon ar lwyfannau fel Hansh a fydd yn ei dro yn cynyddu sylfaen ein cynulleidfaoedd ymhellach."
Bu Maia yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn olygydd ar bapur newydd y myfyrwyr, Varsity. Mae hi'n edrych ymlaen at hyfforddi fel newyddiadurwr mewn cyfnod mor unigryw i newyddiaduraeth yng Nghymru.
Dywedodd Maia sy'n 21 oed ac yn wreiddiol o Gaerdydd: "Mae eleni wedi bod yn agoriad llygaid i bwysigrwydd newyddiaduraeth wrth drio sicrhau fod Cymru yn ganolbwynt i'r straeon, ac nid yn ôl-nodyn.
"Wrth ddarllen am Covid-19, mae wedi bod gwir angen i feddwl yn feirniadol am ba mor berthnasol yw'r newyddion rydym ni'n ei ddarllen i Gymru - a hynny am y tro cyntaf i lawer, mae'n siŵr."
Yn ôl Maia, mae'r pwyslais cynyddol ar newyddion digidol yn holl bwysig i gyrraedd y gynulleidfa iau, ac mae hi'n canmol gwaith Hansh Dim Sbin am rannu gwybodaeth â'r gynulleidfa hynny mewn ffordd aeddfed ac unigryw gan ddeall y materion hynny sy'n bwysig iddynt:
"Does dim platfform newyddion arall yng Nghymru - yn Gymraeg neu'r Saesneg - yn gwneud hyn" meddai Maia, "a dwi'n edrych ymlaen at geisio sefydlu'r platfform ymhellach."
Bellach wedi'i lansio ers tair blynedd, mae Hansh yn blatfform digidol sy'n targedu'r gynulleidfa 16-34 oed. Gyda chynnwys gwreiddiol, yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes, i'w weld ar y platfform yn ddyddiol, bydd y cynllun hwn yn cynnig deunydd o fath gwahanol i'r gwylwyr.
Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Rydyn ni'n falch iawn o allu ymestyn y cynllun hwn eto eleni ar ôl llwyddiant y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r pedwar unigolyn sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi hyd yma wedi mynd ymlaen i weithio yn y maes newyddiaduraeth mewn swyddi llawn amser, sydd yn dangos ei werth i'r sector ac i'r unigolion.
"Mae rhoi llwyfan i newyddiaduraeth gyfoes a barn pobol ifanc am beth sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas yn ychwanegiad pwysig at Hansh, ac yn lle i ddatblygu technegau gwbl gyfoes o drafod materion Cymru a'r byd."
Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni yn ITV Cymru: "Mae ITV Cymru yn chwarae rhan elfennol wrth ddarparu newyddion a materion cyfoes Cymraeg dibynadwy i gynulleidfaoedd, ac mae'n gyffrous iawn cael gweithio gydag S4C unwaith eto ar y cynllun arloesol hwn i gyrraedd cynulleidfaoedd iau ar lwyfannau newydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Bydd Lloyd a Maia yn gweithio ochr yn ochr â thîm materion cyfoes hynod o dalentog ac angerddol a byddant yn dod â phersbectif a llais newydd i helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd i'n sylw ni ar faterion Cymreig."
Bydd Maia a Lloyd yn dechrau ar eu gwaith ym mis Tachwedd 2020.
30 Hydref 2020 - Ioan Pollard yw Golygydd Newyddion Digidol cyntaf S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40191/ioan-pollard-yw-golygydd-newyddion-digidol-cyntaf-s4c/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Ioan Pollard wedi ei benodi i swydd Golygydd Newyddion Digidol S4C.
Mae Ioan wedi treulio rhan helaeth o'i yrfa yn gweithio i BBC Cymru fel newyddiadurwr gan ddatblygu gwasanaethau digidol a chyfryngau cymdeithasol o fewn y BBC.
Bu hefyd yn rhan o'r tîm a lansiodd wasanaeth newyddion BBC Cymru Fyw.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, aeth i Brifysgol Cymru Bangor i astudio'r Gyfraith, cyn symud ymlaen i weithio ym maes newyddiaduraeth.
"Dwi wrth fy modd o gael y cyfle i arwain y gwasanaeth newydd cyffrous hwn." meddai Ioan
"Dwi'n gobeithio gosod cyfeiriad clir i'r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cyhoeddi straeon o safon ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang.
"Mae na fwlch gwirioneddol am wasanaeth newyddion digidol newydd, sy'n cyfuno fideo a thestun i gyhoeddi'r straeon diweddaraf i'r gynulleidfa wrth iddyn nhw dorri."
Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: "Fel darlledwr cyhoeddus mae gan S4C rôl bwysig wrth gyflwyno newyddion i'n cynulleidfa, ac ry'n ni falch iawn o benodi Ioan i'r swydd allweddol hon.
"Wrth i batrymau gwylio ein cynulleidfaoedd newid, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu dod â'r straeon diweddaraf i'n gwylwyr ar flaenau eu bysedd.
"Mae gan Ioan y weledigaeth i arwain tîm o newyddiadurwyr er mwyn datblygu llais unigryw i'r gwasanaeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio." Bydd Ioan yn cychwyn yn ei swydd ar 16 Tachwedd gyda'r gwasanaeth newydd yn lansio yn y flwyddyn newydd.
27 Hydref 2020 - S4C yn lansio rhaglenni trosedd
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40133/s4c-yn-lansio-rhaglenni-trosedd/
Mae S4C wedi cyhoeddi cyfres o gomisiynau dogfen newydd sy'n cynnwys rhai o'r straeon trosedd mwyaf ysgytwol dros y degawdau.
Mewn cydweithrediad â lluoedd heddlu ledled y wlad, mae'r sianel wedi llwyddo i sicrhau mynediad ecsgliwsif i'r achosion mwyaf brawychus a'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth mewn hanes.
Y rhaglen gyntaf i'w darlledu bydd achos diweddar a wnaeth ysgwyd cymuned fechan Nantgaredig – llofruddiaeth Mike O'Leary.
Ras oedd hon i ddal llofrudd - llofruddiaeth heb gorff ac un o achosion mwyaf heriol Heddlu Dyfed Powys erioed.
Llofruddiodd yr adeiladwr Andrew Jones ei ffrind ac aeth i ymdrechion eithafol i guddio ei drosedd.
Gyda mynediad ecsgliwsif i dapiau o'r ditectifs yn cyfweld â'r llofrudd, mae'r rhaglen ddogfen hon a gynhyrchwyd gan ITV Cymru yn mynd â ni tu ôl i ddrysau caeedig ac yn cynnig golwg unigryw i mewn i'r ymchwiliad.
Mae Llofruddiaeth Mike O'Leary yn cael ei ddarlledu nos Fercher 4ydd o Dachwedd, ychydig dros bythefnos ar ôl i Andrew Jones gael ei ddedfrydu i oes yn y carchar.
Hefyd yn rhan o'r gyfres mae Dyn Mewn Du, wedi ei gynhyrchu gan Gwmni Cynhyrchu Kailash.
Dyma stori un o lofruddwyr mwyaf dieflig Cymru, a hynny drwy lygaid y gŵr fu'n ei amddiffyn yn y llys.
Bum mlynedd ar hugain yn ôl cafodd Peter Moore, dyn busnes tawel o Ogledd Cymru, ei gyhuddo o 4 llofruddiaeth a chyfaddefodd i dros 20 o ymosodiadau rhywiol a chiaidd.
Dylan Rhys Jones oedd y cyfreithiwr fu'n amddiffyn Moore drwy'r achos, ac yn y rhaglen hon bydd yn datgelu ei brofiadau a'i deimladau wrth iddo dreulio oriau gyda unigolyn oedd yn cael pleser o boenydio a llofruddio dynion hoyw.
Bydd Dyn Mewn Du yn darlledu yn ystod 2021.
Yn ogystal bydd rhaglen Y Parchedig yn rhan o'r gyfres, sef cynhyrchiad gan Western Edge Pictures a Docshed, a fydd hefyd yn darlledu yn 2021.
Dyma raglen ddogfen sy'n adrodd stori gweinidog yr efengyl mewn pentref bach glan môr yng Ngorllewin Cymru yn y 70au oedd yn cadw cyfrinach nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Ar ddechrau'r wythdegau roedd yr heddlu lleol yn ymchwilio i gyfres o lythyrau bygythiol di enw oedd yn cael eu hanfon i drigolion cymuned Tywyn, Meirionydd.
Pan lwyddodd yr heddlu i ddarganfod mai'r Parch. Emyr Owen oedd awdur y llythyrau, dyma gychwyn ar un o achosion troseddol mwyaf ysgytwol Prydain hyd heddiw.
Wrth ymchwilio tŷ Owen daeth yr heddlu ar draws dwsinau o gylchgronau pornograffi a llyfrau ar ganibaliaeth a llawdriniaethau.
Ond y darganfyddiad mwyaf erchyll oedd lluniau o ddarnau o bidynau dynion wedi eu gosod ar blatiau. Y gred oedd ei fod wedi bod yn torri darnau o gyrff meirw ar hyd ei oes.
Yn rhan o'r gyfres hefyd bydd dogfen gofiannol yn edrych ar hanes ymgyrch Meibion Glyndŵr drwy lygaid Bryn Fôn.
Yn 1990 cafodd Bryn Fôn, un o gantorion amlycaf Cymru ei arestio ar amheuaeth o fod yn rhan o ymgyrch Meibion Glyndŵr.
Ymgyrch losgi tai haf oedd hwn yn erbyn y mewnlifiad o fewnfudwyr oedd yn prynu ail gartrefi yng Nghymru gan brisio prynwyr lleol allan o'r farchnad.
Erbyn 1994 roedd 228 o gartrefi wedi eu difrodi a pherchnogion yn dianc am eu bywydau. Bu'r ymgyrch yn hir ac er ymwneud M15 a heddlu cudd ledled Cymru, ac arestio rhai unigolion, parhau yn ddirgelwch mae'r mudiad yn y bôn.
Yn y rhaglen hon bydd Bryn Fôn yn edrych nol ar y cyfnod ac yn ail fyw y diwrnod cafodd ei arestio. Bydd yn crwydro Cymru a bydd rhai oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch yn siarad am y tro cyntaf – yr heddlu, gwerthwyr tai a'r gwleidyddion ac yn holi beth oedd arwyddocâd yr ymgyrch ar y pryd a beth mae'n golygu i ni heddiw.
Bydd Bryn Fôn: Chwilio am Feibion Glyndwr a gynhyrchir gan gwmni Zwwm yn darlledu flwyddyn nesaf.
Bydd dwy o'r rhaglenni dogfen hyn yn cael eu ffilmio'n ddwyieithog a'u dosbarthu fel rhan o frand S4C Originals, gyda rhaglen Mike O'Leary hefyd wedi'i chomisiynu ar gyfer ITV1 a rhaglen ddogfen Y Parchedig yn cael ei gwerthu fel The Rev a'i dosbarthu yn rhyngwladol.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Dyma straeon mawr i'w hadrodd, a ysgytwodd gymunedau ledled y wlad.
"Rydym wedi bod ar y blaen yn sicrhau mynediad ecsgliwsif i ffeiliau a thapiau yr heddlu yn ogystal â gallu ffilmio tu ôl i'r llenni.
"Byddwn yn crafu o dan wyneb yr ymchwiliadau iasol hyn gan fyd i'r afael â sut yr effeithiwyd pobl a chymunedau drwy Gymru gyfan.
"Rwy'n hynod falch o lansio ein cyfres drosedd newydd fydd yn siŵr o adael ein gwylwyr ar flaen eu seddi."
26 Hydref 2020 - S4C yn lansio tair sianel newydd i bobl ifanc ar YouTube
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40104/s4c-yn-lansio-tair-sianel-newydd-i-bobl-ifanc-ar-youtube-/
Mewn cynllun cyffrous, bydd S4C yn lansio tair sianel YouTube wedi ei anelu at y gynulleidfa 11-13 oed.
Mae naw person ifanc wedi eu dewis fel Crewyr Cynnwys, ac mi fydd y naw yn ffilmio a chynhyrchu fideos i'w uwchlwytho ar YouTube, gyda chymorth cynhyrchu gan Boom Cymru.
Mae S4C yn sefydlu'r dair sianel yma gyda thalent newydd fel ffordd o ymateb i'r newidiadau ym mhatrymau gwylio'r gynulleidfa iau.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Mae'n hollol glir bod angen i S4C a chynnwys Cymraeg fodoli ar draws llwyfannau gwahanol ac ar gyfer diddordebau gwahanol er mwyn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd wahanol.
"Ni all un sianel deledu wneud y gwaith yma i gyd rhagor, felly mae gweld tair sianel newydd o gynnwys Cymraeg ar gyfer pobl ifanc yn ddatblygiad pwysig."
Y dair sianel yw POPT; yn trafod cerddoriaeth, y trends diweddaraf a diwylliant poblogaidd, Gemau Gamma; sianel gemau a Label Deg; yn trafod steil, harddwch, lles a meddylgarwch.
Ychwanegodd Rhodri: "Mae wedi bod mor gyffrous i weld y Crewyr Cynnwys yn mynd ati i ddechrau adeiladu eu sianeli dros yr wythnosau diwethaf, a dwi wir yn edrych ymlaen i weld y creadigrwydd yn ffynnu ar Label Deg, Gemau Gamma a POPT wrth iddyn nhw adeiladu eu dilyniant."
Bydd y sianeli'n lansio ar YouTube ar ddydd Llun, Hydref 26.
25 Hydref 2020 - Noson lwyddiannus i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/40066/noson-lwyddiannus-i-s4c-yng-ngwobrau-bafta-cymru/
Llwyddodd S4C i ennill pum gwobr yng ngwobrau BAFTA Cymru heno, wrth i'r gwobrau gael eu cyhoeddi mewn seremoni ar-lein.
Bu dathlu mawr yng Nghaernarfon wrth i'r gyfres ddogfen bry ar y wal Ysgol Ni: Maesincla (Cwmni Darlun) gipio'r wobr Cyfres Ffeithiol Orau.
Llwyddodd cyfres boblogaidd Deian a Loli (Cwmni da) i ennill gwobr y Rhaglen Blant Orau.
Enillodd Emma Walford a Trystan Ellis Morris categori y Cyflwynydd Gorau am eu gwaith ar gyfres Prosiect Pum Mil (Boom Cymru).
Cipiodd Cyrn ar y Mississippi (Dearheart Productions) wobr y Rhaglen Adloniant Orau.
Yn ogystal llwyddodd Sion Aaron a Timothy Lyn i gipio'r wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol Orau am eu gwaith ar y rhaglen ddogfen dwymgalon Eirlys, Dementia a Tim.
Wrth longyfarch yr enillwyr meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Ry'n ni wrth ein bodd o ennill pum gwobr BAFTA Cymru heno.
"Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector.
"Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o'r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr.
"Llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr i gyd."
12 Hydref 2020 - Cytundeb arloesol yn golygu y bydd rhaglenni S4C ar gael am 150 diwrnod ac yn fyd-eang
Mae S4C a TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) wedi bod yn cydweithio ar delerau masnach newydd bydd yn galluogi gwylwyr led led y byd i fwynhau rhaglenni newydd y sianel yn ogystal â rhaglenni archif ar alw drwy S4C Clic.
Bydd holl rhaglenni newydd S4C, ynghyd â chynnwys o'r archif lle mae hawliau'n caniatáu, ar gael am gyfnod safonol o 150 diwrnod ar S4C Clic yn hytrach na'r 35 diwrnod presennol.
Mae hyn yn cynnwys 'bocs sets', sydd wedi profi'n hynod o boblogaidd.
Mae'r Telerau Masnach hefyd yn golygu bydd modd ffrydio digwyddiadau yn fyw yn fyd-eang gan gynnwys sioeau, gigs, a gwyliau.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Hoffwn ddiolch yn fawr i TAC am ei gwaith yn cydlynu'r Telerau Masnach newydd fydd yn sicrhau gwasanaeth gwell i'n gwylwyr ac yn golygu y gall ein rhaglenni gyrraedd bob rhan o'r byd.
"Mae ein gwasanaeth ar alw, S4C Clic, wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda dros 100,000 wedi cofrestru erbyn hyn, ac mae'n allweddol bod ein cynnwys ar gael i'n cynulleidfaoedd eu mwynhau unrhyw bryd.
"Mae'r cytundeb hwn yn sicr yn gam mawr ymlaen i ni gyflawni ein strategaeth ddigidol i'r dyfodol."
Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: "Rwy'n falch eithriadol fod TAC ac S4C wedi cytuno ar Drydydd Argraffiad y Telerau Masnach.
"Rwy'n ffyddiog y bydd y Telerau Masnach hyn yn fuddiol i'r sector cynhyrchu, ac yn hwyluso'r berthynas ag S4C o ran gweithredu effeithlon y broses gomisiynu yn y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i Gyngor ac Is-bwyllgor Hawliau TAC ac i S4C am eu gwaith manwl a gofalus yn ystod y trafodaethau."
12 Hydref 2020 - Y Sgarmes Ddigidol – Podlediad fideo rygbi newydd S4C
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39898/y-sgarmes-ddigidol---podlediad-fideo-rygbi-newydd-s4c/
Ydi Wayne Pivac wedi canfod ei dîm cryfaf i chwarae dros Gymru? Pa unigolion fydd yn serennu yng ngemau'r Hydref? A beth yw'r farn ar mullet newydd trawiadol Steff Evans?
Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi am Hydref hynod o brysur, dyma rai o'r pynciau llosg fydd yn cael eu trafod gan sêr rygbi o'r presennol a'r gorffennol mewn podlediad fideo Cymraeg newydd gan S4C.
Bydd Y Sgarmes Ddigidol yn rhyddhau podlediad yn dilyn pob un o gemau Cymru yn ystod ffenestr ryngwladol yr Hydref, gan holi rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y gamp am eu barn dros bob agwedd o berfformiadau'r tîm.
Y cyflwynydd a chyn chwaraewr rygbi proffesiynol, Rhodri Gomer, fydd yn arwain y sgyrsiau, gyda'r asgellwr chwedlonol Shane Williams yn cynnig ei farn drwy gydol y gyfres.
Cawn hefyd gwmni sawl seren arall, megis Nathan Brew, Elinor Snowsill, Sioned Harries, Nigel Owens a mwy, dros yr wythnosau i ddod.
Dywedodd Shane Williams: "Mae pawb yn dwli ar weld tîm rygbi Cymru yn chwarae a fi'n edrych ymlaen i'r gemau ddechrau.
"I Wayne Pivac, mae e eisiau ennill gemau. Doedd y Chwe Gwlad ddim beth oeddwn i'n disgwyl gweld a'r ffordd wnaeth e orffen, heb chwarae yn erbyn yr Alban, mi fydd e di bod yn rhwystredig i Wayne. Bydd e moyn dechrau'r Hydref gyda buddugoliaeth.
"Ond hefyd, mae e'n adeiladu ac mae e 'moyn rhoi'r cyfle i'r chwaraewyr ifanc. Mae'n gyfnod eitha' rhyfedd, ond fi'n gobeithio gall y bois fynd mas a chwarae fel maen nhw wedi dros eu clybiau, a rhoi popeth dros ei gwlad.
"Roedd e'n dda gweld Louis Rees Zammit a Callum Sheedy yn cael ei dewis, ac mae dal profiad yn y garfan, felly mae'n cymysgu pethau lan. I fi, does bron ddim byd i'w golli."
Bydd Y Sgarmes Ddigidol yn cael ei ryddhau fel podlediad fideo ar gyfrif Facebook @S4Cchwaraeon ac ar dudalen Youtube S4C yn ystod gemau'r hydref. Bydd hefyd modd i'w lawrlwytho fel podlediad sain o iTunes, Spotify a sawl ffynhonnell podlediad arall.
Gwyliwch holl gemau Cymru yn ystod yr Hydref yn fyw ar S4C, yn cychwyn gyda'r gêm gyfeillgar rhwng Ffrainc a Chymru ar nos Sadwrn 24 Hydref am 7.30yh.
8 Hydref 2020 - Un Bore Mercher yn dychwelyd i’r sgrîn am y tro olaf
Ffynhonnell: https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39856/un-bore-mercher-yn-dychwelyd-ir-sgrn-am-y-tro-olaf/
Gyda'r operâu sebon wedi setlo nôl yn eu slotiau arferol, mae'n gysur gweld cymeriadau cyfarwydd nôl ar y sgrîn.
Ac wrth i'r dyddiau ddechrau byrhau a nosweithiau tywyll y gaeaf yn agosáu, mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd drama wreiddiol hefyd yn dychwelyd i ddiddori'r gwylwyr.
I ffans Faith Howells a'i chriw, bydd y newyddion fod y drydedd gyfres o Un Bore Mercher ar fin dechrau ar S4C ar nos Sul y 1af o Dachwedd yn siŵr o greu cryn gyffro.
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C; "Ry 'ni'n gwybod mai dyma'r gyfres olaf, felly mae lot o drafodaeth wedi bod am sut y byddwn yn ffarwelio â Faith.
"Mae'r cyfresi blaenorol yn adnabyddus am eu plot twists, felly mae pawb yn awyddus iawn i gael gwybod pa droeon annisgwyl sydd ar y gweill tro hyn.
"Ac yn ogystal â'r prif gymeriadau – Faith (Eve Myles), Evan (Brad Freegard) a Steve Baldini (Mark Lewis-Jones) mae cwpwl o ychwanegiadau anhygoel i'r cast. Bydd enwau mawr fel Celia Imrie â Sîan Phillips yn dod mewn i'r gyfres olaf fel cymeriadau newydd, ac yn ychwanegu elfen arall o gyffro.
"Ar ôl cael bwlch mor hir ers darlledu'r ddrama wreiddiol diwethaf, mae'n gyffrous iawn dod nôl gyda chyfres mor boblogaidd a chast mor gryf, ac wrth gwrs mae'n braf rhannu newyddion cadarnhaol ar ôl cyfnod anodd iawn i'r diwydiant ffilm â theledu."
Cafodd Un Bore Mercher ei ffilmio cefn wrth gefn a'r fersiwn Saesneg, Keeping Faith, a fydd yn ymddangos ar BBC Wales yn gynnar yn 2021.
Bydd gwylwyr S4C felly, gyda'r cyntaf yn darganfod beth fydd diweddglo'r gyfres.
Datblygwyd Un Bore Mercher / Keeping Faith yn wreiddiol gan S4C.
Cynhyrchir gan Vox Pictures ar gyfer S4C a BBC mewn cydweithrediad ag Acorn Media, APC â Nevision gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol.
Bydd cyfresi un a dau ar gael fel Bocs Sets ar Clic o'r 16 Hydref ymlaen, gan roi cyfle perffaith i ddal fyny cyn i'r gyfres newydd ddechrau ar 1af o Dachwedd.
1 Hydref 2020 - S4C yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon gydag ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39732/s4c-yn-nodi-mis-hanes-pobl-dduon-gydag-ymrwymiad-i-gynyddu-amrywiaeth/
Gyda mis Hydref yn cael ei gydnabod fel Mis Hanes Pobl Dduon mae S4C wedi cyhoeddi ymrwymiad i gynyddu cynrychiolaeth o gefndiroedd BAME a hynny ar y sgrin a thu ôl i'r camera.
Yn ogystal, bydd y sianel yn darlledu cyfres o eitemau a chomisiynau newydd yn ystod y mis yn trin, trafod a dathlu hanes pobl dduon yng Nghymru.
Yn rhan o'r arlwy mae pedair ffilm fer wedi ei chomisiynu dan frand Chwedloni, gan ddechrau ar 8 Hydref.
Yn y ffilmiau bydd Cymry led led y wlad yn trafod beth mae'n olygu i fod yn ddu ac yn siarad Cymraeg, ac yn rhannu straeon a hanes unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu at y Gymru gyfoes yn ddiwylliannol ac yn economaidd.
Bydd un ffilm yn cael ei darlledu bob nos Iau yn ystod mis Hydref toc cyn y Newyddion am 7.30.
Bydd rhaglen nosweithiol Heno hefyd yn cynnwys eitemau drwy gydol y mis. Bydd Natalie Jones o San Clêr, yn cyflwyno ac yn tynnu sylw at straeon a chyfraniadau pobl ddu i hanes Cymru.
Bydd yr eitemau yn cynnwys darn ar Nathaniel Wells, mab i ddyn busnes o Gaerdydd a ddaeth yn ynad heddwch a'r person du cyntaf i fod yn siryf ym Mhrydain.
Bydd hefyd eitem ar John Ystymllyn sef caethwas ddaeth o Orllewin Affrica i Ynyscynhaiarn yng Ngwynedd. Yn ogystal bydd eitem am y chwaraewr rygbi Billy Boston sy'n dal record am sgorio ceisiau i Wigan.
Bydd Nathan Brew yn trafod sut wnaeth Billy Boston ddioddef hiliaeth o fewn rygbi yng Nghymru. Bydd hefyd eitem yn edrych ar fywyd Betty Campbell, oedd yn bennaeth ar Ysgol Mount Stuart, Caerdydd a hi oedd y pennaeth du cyntaf mewn ysgol yng Nghymru.
Bydd Natalie yn sgwrsio am yr holl eitemau hyn sydd i ddod ar Heno Nos Iau 1 Hydref.
Bwriad Mis Hanes Pobl Dduon yw dathlu cyfraniadau pobl ddu nid yn unig ym Mhrydain, ond ledled y byd gan hefyd addysgu'r cyhoedd ar hanes pobl dduon.
Mae S4C eisoes yn y broses o hysbysebu am Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant er mwyn pontio rhwng y sianel a'r cymunedau hynny sy'n ansicr am weithio yn y sector deledu Cymraeg.
Bydd y rôl yn adeiladu ac yn cynyddu perthynas y sianel â'r cymunedau ac yn dod â phobl i mewn i'r sector i weithio, ac i fod yn rhan amlwg o'r cynnwys sydd wedi'i wneud ar gyfer S4C hefyd.
Yn ogystal, mae'r sianel wedi cysylltu'r ymrwymiad hwn â'i strategaeth hyfforddi a sgiliau i ddarparu llwybr clir, hirdymor i'r sector gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae S4C hefyd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Screen Alliance Wales i gyrraedd plant a phobl ifanc o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gyda'r nod o danio diddordeb mewn dod i weithio i'r sector.
"Mae'r holl sylw i ymgyrch Black Lives Matter yn ddiweddar wedi rhoi'r sbardun i ni ymrwymo'n llawn i gynyddu cynrychiolaeth y gymuned BAME ar sgrin a thu ôl i'r camera." meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"Mae'n holl bwysig bod S4C yn cymryd yr agenda o sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector teledu Cymraeg o ddifri. "Gan adeiladu ar ein gwaith i sicrhau cyfleoedd i bawb o holl gymunedau Cymru yn y diwydiant, mae'n allweddol i ni ddeall yn well sut i gyfathrebu a gweithio gyda chymunedau amrywiol y wlad.
"Â ninnau'n gorff cyhoeddus, rhaid inni arwain drwy esiampl."
"Rwy'n falch iawn ein bod yn darlledu cynnwys i nodi Mis Hanes Pobl Dduon eleni ac yn ymrwymo'n llawn i wella ein cynrychiolaeth o'r gymuned BAME yng Nghymru."
24 Medi 2020 - Cynnydd S4C Clic – neges Prif Weithredwr y sianel wrth gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol
Mae gwasanaeth ar alw S4C, sef S4C Clic wedi llwyddo i gynyddu nifer y cofrestriadau o lai na 1,000 ar ddiwedd 2018/19 i dros 100,000 erbyn diwedd mis Mawrth 2020.
Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2019/20 dywed Prif Weithredwr S4C, Owen Evans ei fod yn falch iawn o'r cynnydd a'r buddsoddiad sydd wedi digwydd gyda S4C Clic yn ddiweddar trwy greu swyddogaeth newydd a chomisiynu cynnwys penodol i'r gwasanaeth.
"S4C Clic sy'n pontio rhwng y llinol a'r digidol" meddai Owen Evans. "Gwelodd S4C Clic nifer o welliannau o ran sefydlogrwydd, cyflwyniad a swyddogaeth. Cafodd cynnwys digidol unigryw ei sianeli'n benodol drwyddo, megis rygbi PRO14 a darparwyd bocs sets a chynnwys arall yn gynyddol ar lein yn unig. Yn ystod y flwyddyn cyflwynwyd cofrestru gorfodol, ac roedd hwn yn brif lwyfan i S4C allu marchnata'n uniongyrchol i'n gwylwyr drwy e-bost ac i adlewyrchu eu diddordebau penodol."
Wrth nodi fod S4C yn parhau i ddatblygu ei strategaeth ddigidol yn dilyn arolwg Euryn Ogwen Williams o'r sianel yn 2018, dywed Owen Evans ei fod yn falch iawn fod S4C wedi buddsoddi mewn tîm o staff newydd i ddatblygu y gwasanaeth digidol, ac mae'n falch hefyd o weld cynnydd mewn defnydd digidol gyda'r gwylwyr ifancaf.
"Ym mis Mawrth 2020 denodd ein platfform ieuenctid Hansh sy'n cynnig cynnwys unigryw i bobl 16-34 oed, un miliwn o sesiynau gwylio mewn un mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube. Lansiwyd y gwasanaeth ym mis Mehefin 2017 ac mae wedi esblygu o weithredu'n unig ar Facebook ac YouTube i greu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau."
Roedd y deuddeg mis diwethaf yn flwyddyn gymharol anodd i holl ddarlledwyr y sector gyhoeddus wrth i SVoD (Netflix, Amazon ac ati) dyfu o ran buddsoddiad a chynulleidfa. Er bod pob darlledwr cyhoeddus arall wedi gweld lleihad mewn oriau darlledu llinol, gwelodd S4C gynnydd o 7% mewn oriau gwylio.
"Mae hyn yn adlewyrchu nod S4C i gyfleu barn cynulleidfaoedd yn ein cynnyrch ac ar draws y platfformau. Yn ein strategaeth gyffredinol rydym wedi rhoi ffocws y brif sianel ar ddatblygu cynnwys cynhwysfawr i'n cynulleidfa graidd a'n gwylwyr achlysurol wrth dyfu ein cynulleidfaoedd ifancach a mwy amrywiol drwy ein cynnwys digidol." meddai Owen Evans.
Bu'r defnydd o dechnoleg hefyd yn bwysicach nag erioed o'r blaen wrth i'r cyfnod clo ddod i rym.
"Ar adeg o argyfwng cynyddwyd ein cyfathrebu â'n cynulleidfa. Yn ogystal â'r gwasanaeth Gwifren Gwylwyr, lansiwyd ffyrdd newydd o ymwneud wrth i ni drefnu sesiynau Facebook Live. Darlledwyd nifer o syniadau a ddeilliodd o'r sesiynau hyn gan gynnwys gwasanaeth bore Sul ac amrywiaeth o bocs sets. Lansiwyd sianel ddigidol dros dro er mwyn i bobl gael mynegi eu diolch am gyfraniad y gwasanaethau hanfodol, a darparwyd gofod hysbysebu am ddim i nifer o elusenau."
Dywed Owen Evans fod yr argyfwng wedi pwysleisio pwysigrwydd S4C fel darlledwr cyhoeddus cenedlaethol i gynulleidfaoedd Cymraeg ei hiaith.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi diwedd cyfnod Huw Jones fel Cadeirydd, cyfnod Hugh Hesketh Evans fel Cadeirydd Dros Dro a chychwyn cyfnod Rhodri Williams fel y Cadeirydd presennol.
"Mae wedi bod yn her i gynnal y sianel drwy'r cyfnod clo, ond rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth fy nhîm a'r staff, bwrdd a chadeirydd egnïol a chefnogol, llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru, BBC, TAC a'r sector gynhyrchu annibynnol i gyd am eu cefnogaeth ddiflino."
Mae Adroddiad Blynyddol 2019/20 at gael at wefan S4C.
23 Medi 2020 - Giro d'Italia 2020 ar S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37029/lle-hoffech-chi-fod-s4c-yn-lansio-cefndiroedd-zoom/
Bydd y Giro d'Italia 2020 yn cychwyn yn Sicily fis nesaf a bydd S4C yn dangos y ras yn ei gyfanrwydd gyda chymalau byw ac uchafbwyntiau bob nos.
Fe fydd y tîm Seiclo yn dychwelyd i ddarlledu cymalau byw dyddiol yn ogystal a rhaglen hanner awr bob nos yn dangos uchafbwyntiau o gymal y dydd.
Rhodri Gomer sydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda'r beiciwr tîm Ribble Weldtite, Gruff Lewis, Rheinallt a Peredur ap Gwynedd, Dewi Owen, Robyn Davies ac Alun Wyn Bevan yn ymuno â Wyn Gruffydd, John Hardy a Gareth Rhys Owen yn y pwynt sylwebu.
Sunset + Vine Cymru fydd yn cynhyrchu holl ddarllediadau Giro d'Italia 2020 ar ran S4C.
Bydd y cyfan yn dechrau gyda darllediad byw o'r cymal gyntaf, am 1.00pm ar ddydd Sadwrn 3 Hydref.
18 Medi 2020 - S4C i ddangos gêm Uwch Gynghrair Merched Cymru am y tro gyntaf
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39545/s4c-i-ddangos-gm-uwch-gynghrair-merched-cymru-am-y-tro-gyntaf/
Bydd S4C yn torri tir newydd tymor yma wrth i'r sianel ddarlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard am y tro cyntaf.
Y gêm ddarbi rhwng Caerdydd a phencampwyr y tymor diwethaf, Abertawe, sydd wedi ei dewis ar gyfer y darllediad hanesyddol ar benwythnos agoriadol y tymor newydd.
Gyda'r gêm yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig yn Stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 27 Medi, bydd darllediad Sgorio yn cychwyn ar S4C am 3.50pm, cic gyntaf am 4.00pm.
Yn ymuno â Dylan Ebenezer a Nicky John yn nhîm cyflwyno Sgorio bydd cyn ymosodwr Cymru, Gwennan Harries.
Meddai Gwennan: "Mae'r ffaith bod y gêm yn fyw yn gyffrous dros ben ac yn hwb enfawr i'r gynghrair. Mae proffil pêl droed merched wedi cynyddu tipyn dros y blynyddoedd diwethaf.
"Does dim ond rhaid edrych ar y torfeydd sy'n gwylio'r tîm cenedlaethol i weld bod diddordeb yno. Gobeithio bydd y gynghrair yn gallu manteisio ar y sylw yma yn yr un modd."
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae S4C yn gefnogwyr hir dymor o bêl-droed Cymru ac mae'n gam pwysig iawn yn hanes y sianel ein bod ni'n dangos gêm o Uwch Gynghrair Merched Cymru am y tro cyntaf.
"Mae safon y pêl-droed a lefel adloniant y gynghrair yn uchel ac mi ydyn ni'n edrych ymlaen at gêm ddarbi wych rhwng dau o dimau gorau'r wlad."
Meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC: "Ry'n ni'n hynod falch fod ein tymor newydd yn dechrau'n fyw ar S4C am y tro cyntaf erioed, achlysur sy'n garreg filltir i Uwch Gynghrair Merched Cymru.
"Ry'n ni'n gweithio'n agos gydag ein partneriaid darlledu i gynyddu ymwybyddiaeth ac i wneud gêm y merched yn fwy gweledol, gan arwain at gynyddu cyfranogiad a buddsoddiad pellach yn y gamp sy'n tyfu cyflymaf ledled Ewrop."
Er gwaethaf effaith COVID-19 ar y tymor diwethaf, fe lwyddodd y ddau dîm i gwblhau'r ddwy gêm yn erbyn ei gilydd; Abertawe oedd yn fuddugol o ddwy gôl i ddim yn eu gêm gartref yn Hydref, cyn i'r ddau rannu'r pwyntiau mewn gêm ddi-sgôr yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni.
Daeth y tymor i ben yn gynnar gyda sawl gêm ar ôl i'w chwarae, ond gyda'r Elyrch wedi casglu cyfartaledd rhagorol o 2.82 pwynt bob gêm, fe'u coronwyd yn bencampwyr, gyda Met Caerdydd yn ail (2.45 pwynt bob gêm) a Caerdydd yn drydydd (2.20 pwynt bob gêm).
14 Medi 2020 - Gwyliwch pob gêm Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref yn fyw ar S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39488/gwyliwch-pob-gm-cymru-yng-nghwpan-cenhedloedd-yr-hydref-yn-fyw-ar-s4c/
Bydd S4C yn dangos pob un o gemau tîm rygbi Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020 yn fyw.
Fe fydd modd gwylio tair gêm grŵp Cymru, yn erbyn Iwerddon, Georgia a Lloegr, yn ogystal â'r bedwaredd gêm ar benwythnos y Rowndiau Terfynol, yn fyw yn yr iaith Gymraeg, wedi i'r darlledwr gyrraedd cytundeb gyda Six Nations Rugby Ltd.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 13 Tachwedd, pan fydd Iwerddon yn croesawu Cymru i'r Stadiwm Aviva, yn Nulyn.
Bydd S4C hefyd yn dangos y gêm gyfeillgar rhwng Ffrainc a Chymru ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, yn ogystal â gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2020 yn erbyn yr Alban, ar ddydd Sadwrn 31 Hydref.
Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Rydym yn falch iawn i roi'r cyfle i wylwyr ddilyn Cymru yn y gystadleuaeth newydd, hynod gyffrous yma, yn fyw ar S4C.
"Fel partner ddarlledu ffyddlon i URC, mae'r cytundeb yma yn atgyfnerthu ymrwymiad S4C i ddarlledu rygbi ar safon uchel drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, a hynny ar gyfer holl gefnogwyr rygbi Cymru."
Meddai Craig Maxwell, Cyfarwyddwr Masnachol URC: "Mae S4C yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o rygbi Cymru. Mae'r cytundeb yma yn galluogi'r cefnogwyr i fwynhau gemau cyffrous Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn yr iaith Gymraeg, sydd yn newyddion gwych."
Gemau Cymru ar S4C dros yr Hydref
Nos Sadwrn 24 Hydref - Gêm Gyfeillgar Ryngwladol: Ffrainc v Cymru - 8pm
Dydd Sadwrn 31 Hydref - Chwe Gwlad Guinness: Cymru v Yr Alban - 2.15pm
Nos Wener 13 Tachwedd - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Iwerddon v Cymru - 7pm
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru v Georgia - 5.15pm
Dydd Sadwrn 28 Tachwedd - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru v Lloegr - 4pm
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: - Rowndiau Terfynol: Cymru v I'w Gadarnhau
11 Medi 2020 -Merched Parchus ar restr fer Gwobrau Digidol Broadcast
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39433/merched-parchus-ar-restr-fer-gwobrau-digidol-broadcast/
Mae drama S4C Clic, Merched Parchus, wedi ei henwebu am Wobr Ddrama Orau yng Ngwobrau Digidol Broadcast 2020.
Mae'r gwobrau yn dathlu'r cynnwys, a sianelu gorau yn y maes digidol gan wobrwyo'r gwaith mwyaf arloesol, rhyngweithiol a chreadigol. Mae'r gwobrau yn cynnwys rhaglenni, gwefannau, apiau, gemau ac yn cael eu cyflwyno gan Broadcast, sef y prif frand ar gyfer y diwydiant darlledu yn y DU.
Cyfres ffraeth, onest a thywyll yw Merched Parchus a wireddwyd gan rai o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru sef Hanna Jarman a Mari Beard - a ysgrifennodd y gyfres ac a fu'n actio y ddwy brif gymeriad Carys (Hanna) a Lowri (Mari).
Mae'r gyfres a saethwyd yng Nghaerdydd gan cwmni cynhyrchu ieie productions, yn adrodd hanes Carys sy'n gwneud ei gorau i ddod dros dor-galon ac yn benderfynol o ail-greu ei hun yn oedolyn go iawn.
Ond gyda llais mewnol Carys yn mynegi ei gwir deimladau, mae ei hobsesiwn tywyll gyda phodlediadau Americanaidd am lofruddiaethau graffig yn creu ffantasiâu gwaedlyd tra'i bod hi'n brwydro ei hofnau, #lifegoals a'i hanallu i gymryd cyfrifoldeb am ei hapusrwydd ei hun.
Roedd y gyfres arloesol hon y ddrama gyntaf i ymddangos ar-lein yn gyntaf ar ffurf bocs set ar S4C Clic - llwyfan digidol S4C. Cafodd y gyfres ei darlledu wythnos yn hwyrach ar deledu traddodiadol.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Rydym yn arbennig o falch fod Merched Parchus wedi ei henwebu ar gyfer y wobr Ddrama Orau. Mae'n ddrama afaelgar a dewr - un a gomisiynwyd i geisio cyrraedd cynulleidfa amgenach na ffyddloniaid y brif sianel. Roedd ei rhyddhau hi fel bocs set ar Clic yn gyntaf yn arbrawf i ni hefyd - un sydd wedi profi pwysigrwydd rhyddhau a gwerthuso gwylio ar y llwyfannau digidol, yn enwedig wrth geisio denu cynulleidfa iau. Mae Hanna, Mari a'r cwmni cynhyrchu ieie productions yn llwyr haeddu cael eu gwobrwyo am eu gwaith arloesol."
Mae Hanna a Mari hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer categori Torri Trwyddo ac Awdur Bafta Cymru am Merched Parchus.
Meddai Mari Beard am yr enwebiad Broadcast: "Ryn ni yn eithriadol o hapus ein bod ni wedi cal ein henwebu. Mae yna ychydig o deimlad imposter syndrome i rhannu yr un list a pobl ryn ni yn edmygu yn fawr iawn. Dwi'n browd iawn o'r hyn dwi a Hanna wedi'i gyflawni gyda Merched Parchus a ma hi'n deimlad gwych i wbod bod pobl eraill wedi hoffi ein gwaith. Piti na gewn ni fynd i'r seremoni eleni, dwi wastad wedi bod eisiau mynd i seremoni wobrwyo!"
Meddai Hanna: "Mae'n teimlad rili cyffrous bod Merched Parchus ymhlith y dramau eraill brilliant yn y categori! Mae'n teimlo'n lyfli bod pobl creadigol eraill sy'n gweithio yn y diwydiant, yn meddwl bod ein gwaith ni werth cael ei cydnabod. Mae'n neis cal y teimlad – 'O! 'nathon ni rwbeth cool 'nath pobl fwynhau."
Fe fydd enillwyr Gwobrau Digidol Broadcast yn cael eu datgelu mewn seremoni rithiol ar 14 Hydref 2020.
10 Medi 2020 - Alex Humphreys yn ymuno â chriw tywydd S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39426/alex-humphreys-yn-ymuno--chriw-tywydd-s4c/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd Alex Humphreys yn ymuno gyda chriw tywydd y sianel.
Bydd Alex yn ymuno gyda Steffan Griffiths, Chris Jones a Megan Williams wrth i wasanaeth tywydd y sianel gael ei ddarlledu fel rhan o wasanaeth Newyddion S4C a hynny o adeilad y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd ddiwedd y mis.
Mae gan Alex sy'n wreiddiol o Sir y Fflint brofiad helaeth ym maes darlledu ac mae'n wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd rhaglen newyddion i blant, Ffeil ar S4C. Mae Alex hefyd wedi bod yn gweithio ar raglenni Newsround i CBBC a Wales Live ar BBC 1.
"Mae'r swydd yma yn sicr yn her newydd i mi" meddai Alex. "Wedi dros chwe mlynedd o gyflwyno rhaglenni plant dwi'n teimlo'n barod am sialens newydd. Dwi wrth fy modd yn cyflwyno ac yn falch o allu parhau i wneud hynny mewn maes gwbl newydd. Dwi'n ddiolchgar iawn o'r cyfle."
Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: "Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Alex i dîm tywydd S4C. Bydd ei chefndir newyddiadurol a'i phrofiad cyflwyno yn werthfawr tu hwnt wrth i ni uno y gwasanaeth tywydd o fewn ein rhaglenni newyddion. Gyda'r tywydd yn aml yn dod yn fwy o stori yn ei hun ein gobaith yw defnyddio arbenigedd y cyflwynwyr tywydd yn rhan o'r brif raglen newyddion o'r stiwdio."
Meddai Sharen Griffith, Golygydd Newyddion S4C: "Ar drothwy cyfnod cyffrous i griw Newyddion, wrth i ni baratoi i ddarlledu o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, braf yw cael croesawu tîm y tywydd i'n plith. Fe fydd y stiwdio newydd yn cynnig technoleg ac adnoddau arbennig a bydd modd i ni weu'r newyddion a'r tywydd ynghyd yn ein bwletinau gan sicrhau ein bod yn dod â'r sefyllfa ddiweddara' i'r gynulleidfa."
3 Medi 2020 - 17 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39364/17-o-enwebiadau-bafta-cymru-i-s4c/
Mae S4C wedi llwyddo i gael 17 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Iau, 3 Medi.
Enillodd cyfres ddogfen bry ar y wal Ysgol Ni: Maesincla (Cwmni Darlun) enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol Orau.
Daeth dau enwebiad i Merched Parchus (ieie productions) a hynny yn y categori Torri Trwodd ac i Mari Beard a Hanna Jarman yn y categori Awdur Gorau.
Llwyddodd S4C i gael dau enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gan gynnwys Cic (Boom Cymru) a Deian a Loli (Cwmni Da).
Bu dau enwebiad hefyd yn y categori Cyflwynydd Gorau sef i Emma Walford a Trystan Ellis Morris am eu gwaith ar Prosiect Pum Mil (Boom Cymru) ac i Carys Eleri am ei rhaglen Carys Eleri'n Caru (Captain Jac).
Llwyddodd Priodas Pum Mil (Boom Cymru) hefyd i gael enwebiad yn y categori Rhaglen Adloniant Orau yn ogystal â Heno (Tinopolis) a Cyrn ar y Mississippi (Dearheart Productions).
Daeth enwebiad i Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru) yn y categori Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Gorau ac i Tudur Owen: O Fôn i'r Lleuad (Kailash Films Ltd) yn y categori Rhaglen Ffeithiol Unigol Orau.
Hefyd cafodd Mei Williams enwebiad yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol Gorau am ei waith ar raglen Tudur Owen: O Fôn i'r Lleuad (Kailash Films Ltd).
Llwyddodd Siôn Aaron a Timothy Lyn i ennill enwebiad yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol Orau am eu gwaith ar raglen ddogfen dwymgalon Eirlys, Dementia a Tim.
Yn ogystal daeth enwebiad i S4C yn y categori Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen wrth i Bjorn Bratberg gael ei enwebu am ei waith ar gyfres ddrama Bang (Joio).
Llwyddodd S4C hefyd i gael dau enwebiad ar y cyd gyda BBC Cymru sef y categori Drama Orau am Un Bore Mercher/ Keeping Faith (Vox Pictures) ac hefyd yn y categori Cerddoriaeth Wreiddiol Orau i Karl Jenkins a Jody Jenkins am y gyfres Cymru Wyllt / Wales: Land of the Wild.
Wrth longyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Ry'n ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2020.
"Mae'r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre, ac yn dathlu rhaglenni plant, drama, ffeithiol, adloniant, materion cyfoes, a mentergarwch digidol hefyd.
"Rydw i'n falch iawn o bob un, a dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo ar lein."
Cynhelir y seremoni am 7.00 yr hwyr ar 25 Hydref 2020 ar dudalennau Facebook a YouTube BAFTA.
28 Awst 2020 - Y Gymraeg wrth galon S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39341/y-gymraeg-wrth-galon-s4c/
Mae sawl peth wedi newid dros y deugain mlynedd diwethaf – o bedair sianel i gannoedd, o deledu bocs i deledu clyfar - ond un peth sydd heb newid ers sefydlu ym 1982 yw angerdd S4C dros y Gymraeg. Fel yr unig wasanaeth teledu Cymraeg, mae'r iaith yn greiddiol i fodolaeth S4C ac yn ganolbwynt allweddol i holl ddarpariaeth S4C.
Wrth i S4C gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o'r flwyddyn ariannol hyd 31 Mawrth 2020, mae S4C yn falch o'i lle a'i dyletswydd dros yr iaith, ac yn parhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib, fel cyflogwr ac wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd.
Nawr fwy nag erioed wrth gynorthwyo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, mae S4C wedi ymrwymo i gefnogi defnydd a datblygiad yr iaith Gymraeg fel iaith hyfyw yn y gymdeithas ac yn ddigidol, yn ôl Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.
"Mae 'na le i S4C o fewn ein cymdeithas, ar lawr gwlad ac yn ddigidol, wrth i ni anelu tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ry'n ni'n parhau i arbrofi ac arloesi gyda syniadau newydd, ac o hyd yn ceisio canfod y peth nesa' i ddatblygu. Mae'r byd o'n cwmpas ni yn newid – a hynny'n sydyn iawn, fel mae 2020 wedi ddangos i ni! Ond mae gwerthoedd S4C yr un peth ag erioed – y Gymraeg sydd wrth wraidd yr hyn ni'n wneud."
Dros y flwyddyn, mae S4C wedi arloesi ar lwyfannau newydd i gynnwys y Gymraeg, ac yn benodol ar lwyfannau digidol.
Cyrhaeddodd y gwasanaeth i bobl ifanc, Hansh, garreg filltir anhygoel ym mis Mawrth 2020 gan ddenu miliwn o sesiynau gwylio mewn mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube am y tro cyntaf erioed.
Hefyd, yn ystod y flwyddyn dan sylw, denodd chwaraewr S4C Clic 100,000 o danysgrifwyr a hynny mewn ychydig dros chwe mis. Ers hynny, mae S4C hefyd wedi datblygu sgil Alexa Cymraeg, sy'n gam arloesol a chyffrous i'r iaith.
Ychwanegodd Owen Evans: "Mae S4C yn nesáu at ben-blwydd pwysig iawn, deugain oed! Dros y deugain mlynedd diwethaf, mae S4C wedi cynnig platfform i ddefnyddio a datblygu'r iaith Gymraeg. Ni wedi gweld Cyw yn dod yn ffrind i deuluoedd ifanc ar draws Cymru, ac yn fwy diweddar, ein gwasanaeth digidol Hansh yn camu i'r adwy wrth ddenu gwylwyr ifanc i fwynhau a gwylio'n y Gymraeg. Ond ar ben hynny, mae S4C yma i bawb o bob oed, a fi ffili aros i weld beth arall ddaw wrth i S4C barhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib."
Mae Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gael ar wefan S4C.
26 Awst 2020 - Enwebiad Gwobr Werdd i ddrama o Bort Talbot
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39325/enwebiad-gwobr-werdd-i-ddrama-o-bort-talbot/
Mae drama S4C, Bang, wedi ei henwebu am Wobr Werdd yng Ngwobrau Teledu Caeredin.
Mae'r categori, sy'n newydd yng ngwobrau 2020, yn gwobrwyo cynhyrchwyr, sianeli, platfformau neu fudiadau sydd wedi pledio dros gynaliadwyedd yn y diwydiant.
Ffilmiwyd y ddrama, sy'n gynhyrchiad gan gwmni teledu Joio, yn nhref ddiwydiannol Port Talbot. Darlledwyd ail gyfres Bang ar S4C yng Ngwanwyn 2020, yn dilyn y gyfres gyntaf a gafodd ei darlledu ar S4C yn 2017.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Rydym yn arbennig o falch fod Bang wedi ei henwebu ar gyfer y wobr yma. Mae'r Wobr Werdd yn wobr arwyddocaol wrth i ni anelu tuag at weithio'n fwy cynaliadwy gyda chynhyrchwyr yn y dyfodol. Mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein rhan a lleihau ein ôl troed carbon, ac mae'r wobr yma yn ddathlu ymdrechion y diwydiant."
Cymerodd gwmni cynhyrchu Joio sawl cam i geisio gweithio'n fwy cynaliadwy yn ystod y cynhyrchiad. Dewisodd Joio adeilad gwag ym Mhort Talbot fel lleoliad cynhyrchu, oedd yn agos at orsaf drenau a bysiau'r dref, er mwyn hwyluso'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y set.
Cafodd yr adeilad hwnnw ei ddefnyddio fel canolbwynt y cynhyrchiad, gan drawsnewid y coridorau a'r stafelloedd fel set ffilmio. Cafodd rhan fwyaf o wisgoedd y cynhyrchiad eu prynu'n ail-law, neu eu llogi, ac mi gafodd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu'r set eu hailgylchu ar ddiwedd y cynhyrchiad.
Ymhlith hyn a nifer o ymdrechion eraill, mi lwyddodd Joio i gadw ôl troed carbon isel yn ystod cynhyrchiad cyfres 2 Bang. Yn ogystal, enillodd Bang dystysgrif Cynhyrchiad Cynaliadwy yn gynharach eleni gan fudiad Albert, corff sy'n hyrwyddo'r diwydiant teledu a ffilm i weithredu mewn modd mwy cynaliadwy i'r amgylchedd.
Dywedodd Roger Williams, awdur a chynhyrchydd Bang: "Rydym yn falch iawn o'r enwebiad hwn. Ceisiodd y tîm weithio mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol o'r cychwyn cyntaf. Wrth fynd ati i saethu'r gyfres gosodwyd cynsail ar gyfer lleihau ein hôl carbon ni. Mae'n braf bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrau glodwiw megis Caeredin."
Daeth y cyhoeddiad yng Ngŵyl Deledu Caeredin nos Fawrth, 25 Awst, wrth iddynt gyhoeddi rhestrau byrion y gwobrau. Mi fydd seremoni Gwobrau Teledu Caeredin yn cael ei chynnal yn hwyrach eleni.
24 Awst 2020 - Gwyliwch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn fyw ar S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39306/gwyliwch-cymru-yng-nghynghrair-y-cenhedloedd-yn-fyw-ar-s4c/
Gyda'r gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2020 yn cychwyn mis nesaf, bydd pob un o gemau Cymru yn fyw ar S4C.
Gyda Chymru yn cystadlu yng ngrŵp B4, bydd Ryan Giggs a'i dîm yn chwarae gartref ac oddi gartref yn erbyn y Ffindir, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria dros y misoedd nesaf.
Bydd y pedwar tîm yn herio'i gilydd, gyda'r nod o orffen ar frig y grŵp a hawlio'u lle yng Nghynghrair A, sef haen uchaf y gystadleuaeth, ble mae'n bosib cystadlu am y brif bencampwriaeth.
Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch ar nos Iau 3 Medi gyda gêm oddi gartref yn erbyn y Ffindir, gyda'r gic gyntaf am 7.45pm. Yna, ar ddydd Sul 6 Medi, bydd y Dreigiau yn dychwelyd gartref i Stadiwm Dinas Caerdydd i groesawu Bwlgaria, gyda'r gêm yn cychwyn am 2.00pm.
Ar ddydd Sul 11 Hydref, bydd y Cymry yn teithio i herio Gweriniaeth Iwerddon am 2.00pm, cyn wynebu gêm oddi cartref yn erbyn Bwlgaria dridiau yn ddiweddarach, ar nos Fercher 14 Hydref, am 7.45pm.
Bydd Cymru yn cwblhau eu gemau grŵp ym mis Tachwedd gyda dwy gêm gartref; yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar nos Sul 15 Tachwedd am 5.00pm, cyn eu gêm olaf yn erbyn y Ffindir, am 7.45pm ar nos Fercher 18 Tachwedd.
Fe fydd holl gemau Cymru yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, gyda chriw profiadol Sgorio yn tywys gwylwyr drwy'r ymgyrch gyfan.
3 Awst 2020 - Comisiynau S4C yn derbyn cyllid gan y Gronfa Gynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39102/comisiynau-s4c-yn-derbyn-cyllid-gan-y-gronfa-gynnwys-cynulleidfaoedd-ifanc/
Mae'r BFI wedi cyhoeddi'r cynyrchiadau diweddaraf o brosiectau a ddyfarnwyd trwy'r Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc (Young ACF) gan roi'r golau gwyrdd i S4C gomisiynu dros bymtheg awr o gynnwys newydd i blant a phobl ifanc.
Mae'r gronfa £57m, a reolir gan y BFI, yn gynllun peilot tair blynedd gan y llywodraeth gyda'r nod o wneud prosiectau creadigol ac ysbrydoledig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae pob cais o Gymru wedi bod yn llwyddiannus gan sicrhau cynnwys newydd bywiog a chyffrous i S4C.
Un o'r comisiynau llwyddiannus hynny yw cyfres ffeithiol hwyliog 'Hei Hanes!' Wedi ei gynhyrchu gan Cwmni Da bydd y gyfres yn dod â hanes, drama a vlogio at ei gilydd mewn fformat llawn hwyl ar gyfer plant 8-13 oed.
Bydd cymeriadau hanesyddol ifanc o'r cyfnod Celtaidd hyd at y 1990au yn rhoi adroddiadau personol am eu bywydau ar ffurf YouTubers.
Bydd pob pennod yn canolbwyntio ar gymeriad gwahanol, gan roi'r argraff eu bod wedi cael eu ffilmio yn gyfan gwbl ar ffonau smart neu we-gamerâu gan y cymeriadau eu hunain.
Fel rhan o'r comisiwn, mae Hei Hanes yn cynnig swydd yn y tîm cynhyrchu i berson o gefndir BAME.
Comisiwn llwyddiannus arall yw Sali Mali', cyfres 2D sy'n cynrychioli bywydau a phrofiadau plant yng Nghymru heddiw, sydd hefyd yn derbyn a dathlu gwahaniaethau ymhlith cymunedau cymysg.
Hefyd wedi gomisiynu mae Person/A gan Cwmni Da, drama arloesol ar gyfer pobl ifanc 12-14 mlwydd sydd wedi cael ei ddatblygu a'i gynhyrchu gan dîm o bobl ifanc. Ymhlith y themâu a drafodir yn y gyfres mae iechyd meddwl, deallusrwydd emosiynol a cham-drin.
Mae Y Gyfrinach gan Boom Cymru yn brosiect arall sydd wedi derbyn cyllid o'r gronfa ac mae'n ddrama feiddgar i bobl ifanc 14-18 oed.
Mae'n mynd i'r afael ag arwahanrwydd daearyddol trwy ddilyn pum ffrind sy'n mynd i ffwrdd am benwythnos gyda'i gilydd.
Mae S4C hefyd yn rhan o gomisiwn Sol (Paper Owl Films) , sy'n gyd-gynhyrchiad rhwng BBC Alba, S4C a TG4. Bydd Sol yn cael ei gynhyrchu mewn tair iaith - Cymraeg, Gaeleg a Gaeleg yr Alban.
Mae Sol yn adrodd stori ddychmygol am blentyn yn rhuthro i achub y byd yn dilyn marwolaeth ei nain. Bydd yr animeiddiad teimladwy hwn yn helpu pobl ifanc 8-11 oed i ddeall natur galar.
Yn ogystal bydd Byd Tadcu sef cyd-gynhyrchiad gyda Channel 5 yn adrodd straeon creadigol doniol, dychmygus gyda'r bwriad o ysbrydoli plant i chwerthin a dysgu trwy edrych ar y berthnasoedd rhwng sawl cenhedlaeth o'r un teulu.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C: "Mae comisiynu cynnwys plant gwreiddiol a beiddgar yn Gymraeg bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i S4C ac mae'r gronfa hon yn caniatáu inni ddatblygu cynnwys hyd yn oed mor uchelgeisiol ar gyfer ein gwylwyr iau.
"Diolch i'r gronfa mae cyfle hefyd i gydweithio â darlledwyr eraill i greu cynnwys uchelgeisiol fel animeiddiadau a all apelio yn fyd-eang.
"Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfleoedd creadigol mae'r gronfa hon wedi'u creu. Mae cynllun mentora BAME ar Hei Hanes yn ddatblygiad newydd a chyffrous na fyddai wedi bod yn bosibl heb y gronfa."
Dywedodd Jackie Edwards, Pennaeth Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc yn y BFI: "Rydyn ni'n falch iawn o'r ystod o brosiectau rydyn ni wedi gallu eu cefnogi o fewn ein llechen gynhyrchu , gan feithrin straeon fydd yn cyfoethogi cynulleidfaoedd ifanc.
"Rwy'n edrych mlaen i weld y cynyrchiadau hyn gan S4C a'r darlledwyr eraill ar waith."
Lansiwyd y gronfa ym mis Ebrill 2019 ac mae wedi bod yn gyfrifol am gefnogi rhaglenni gyda chwe darlledwyr gwahanol sef S4C, Channel 4 / E4 Channel 5, ITV, BBC ALBA, TG4 a Sky.
29 Gorffennaf 2020 - S4C yn hysbysebu am Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/39093/s4c-yn-hysbysebu-am-swyddog-amrywiaeth-a-chynhwysiant/
Am y tro cyntaf erioed mae S4C am benodi Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant fel rhan o'i hymrwymiad i adlewyrchu Cymru heddiw ar y sgrin a thu ôl i'r camera.
Mae cynrychiolaeth yn rhywbeth y mae S4C yn ceisio ei adlewyrchu ar y sgrin ac yn barod mae'r gwasanaeth ffurf-fer Hansh yn enwedig yn cael ei werthfawrogi am ei amrywiaeth a'i bortread. Bwriad S4C yw i wella'r ffordd y mae Cymru a'r Cymry yn cael eu hadlewyrchu ar draws ei gwasanaethau ac o fewn y sector sy'n creu cynnwys iddi. Mae S4C eisoes yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu a denu talent newydd i'r sector. Ond ein bwriad yw gwneud mwy i gyflymu'r broses.
Mae'r darlledwr eisiau gweld a chlywed cyfranwyr, lleisiau a chymunedau newydd ar y sgrîn ac yn creu cynnwys i S4C drwy adeiladau cysylltiadau gyda'r rhai sy'n cael eu tangynrychioli yn y sector – yn benodol pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl LGBTQ+.
Mae annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n rhan o'r cymunedau hyn yn bwysig iawn gan fod y grwpiau hyn wedi eu tangynrychioli ar draws y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
"Mae S4C yn cymryd yr agenda o sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector teledu Cymraeg o ddifri," meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"Gan adeiladu ar ein gwaith i sicrhau cyfleoedd i bawb o gymunedau Cymru yn y diwydiant, mae hi'n bwysig i ddeall yn well sut i gyfathrebu a gweithio gyda chymunedau amrywiol y wlad. Â ninnau yn gorff cyhoeddus, rhaid inni arwain drwy esiampl. Felly fel rhan o'n hymateb i Black Lives Matter ac i geisio cyflymu'r newid sydd ei angen o ran bod yn ddarlledwr cynhwysol, rydym wedi penderfynu penodi ein Swyddog Amrywiaeth cyntaf.
"Bwriad y swydd yw pontio S4C â'r cymunedau hynny sydd efallai yn ansicr o'r cyfleoedd i ddod i weithio yn y sector teledu Cymraeg. Rydym ni yn ceisio adlewyrchu'r wlad yn ei chyfanrwydd, ac rydym ni eisiau clywed gennych chi."
Bydd y rôl hon yn allweddol wrth i S4C weithio i gyflawni'r cynlluniau hyn.
Mae'r swydd ddisgrifiad llawn ar gael ar wefan S4C: http://www.s4c.cymru/cy/swyddi/post/38941/swyddog-amrywiaeth-a-chynhwysiant/
Am sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Catrin Hughes Roberts drwy adnoddau.dynol@s4c.cymru.
29 Gorffennaf 2020 - Byw Celwydd yn cyrraedd platfform newydd yn yr Almaen
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38939/byw-celwydd-yn-cyrraedd-platfform-newydd-yn-y-almaen-awstria-ar-swistir/
Bydd drama wreiddiol S4C, Byw Celwydd, yn cael ei ddangos yn yr Almaen, y Swistir ac Awstria gan y platfform SVOD newydd, Sooner.de, wedi cytundeb rhwng y cwmni cynhyrchu Tarian Cyf a'r dosbarthwr rhaglenni rhyngwladol, Videoplugger.
Mae Byw Celwydd, a gafodd ei gomisiynu gan S4C yn 2016, yn adrodd hanes y berthynas rhwng grŵp o bleidiau gwleidyddol ffuglennol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â'u cynghorwyr arbennig a'r newyddiadurwyr gwleidyddol o'u cwmpas.
Ymhlith sêr y gyfres mae Matthew Gravelle, a oedd yn serennu yn nrama Broadchurch ITV, ac sy'n chwarae rhan y cynghorydd arbennig Harri James; a'r actores Catherine Ayers, sy'n chwarae'r newyddiadurwr Angharad Wynne.
Mae'r gyfres eisoes wedi ei werthu i restr hir o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys yr UDA, Canada, Israel, De Affrica a 13 o wledydd yn Ewrop.
Mae Sooner.de yn blatfform VoD sydd wedi ei lansio yn yr Almaen, gan y cwmni Contentscope, ym mis Mehefin 2020. Prif ffocws Contentscope yw dangos cynnwys o Ewrop, mewn cyfresi a ffilmiau unigol.
Dywedodd Andreas Wildfang, Cyfarwyddwr Gweithredol Sooner.de GmbH: "Mae cyfresi yn fwy perthnasol i wasanaethau ar alw na ffilmiau. Mae ffilmiau 90 munud o hyd wedi bod gyda ni ers y 1920au, a heb newid. Dyna dwi'n ei gael mor ddiddorol am gyfresi.
"Dyw gwasanaeth ar alw Sooner ddim ar gyfer ffilmiau yn unig – mae gennym ni ddiddordeb mewn cyfresi auteur-driven, ac mae Byw Celwydd yn enghraifft wych o hyn."
Dywedodd Branwen Cennard, cynhyrchydd Tarian Cyf: "Mae llwyddiant Byw Celwydd yn adlewyrchiad o'r safonau cynhyrchu eithriadol roedd ynghlwm â'r gyfres, ac mae'n rhaid rhoi clod i'r criw, actorion a sgriptwyr y prosiect am hynny."
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae dramâu iaith Gymraeg yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd ac mae'n hynod gyffrous gweld platfformau SVOD newydd yn awyddus i ddangos dramâu gwreiddiol S4C, fel Byw Celwydd."
Dywedodd Emanuele Galloni, Prif Weithredwr Videoplugger: "Mae Brexit wedi tynnu sylw bobl ledled Ewrop i wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, ac mi fydd hyn yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd iaith Almaeneg i ymgolli eu hunain ym myd gwleidyddiaeth Gymru.
"Mae'n newyddion gwych bod Byw Celwydd yn mynd i gael ei ddangos gan blatfform newydd sbon fel Contentscope. "
28 Gorffennaf 2020 - Dogfen DRYCH ar restr fer Gwobrau Grierson 2020
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38935/dogfen-drych-ar-restr-fer-gwobrau-grierson-2020/
Mae S4C a Chwmni Da yn falch o gyhoeddi bod dogfen Eirlys, Dementia a Tim ar restr fer Gwobrau Grierson 2020.
Y Gwobrau Grierson, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The British Documentary Awards, yw digwyddiad mwyaf yng nghalendr dogfennau yn y DU. Mae'r gwobrau yn adnabod ac yn dathlu dogfennau sy'n profi safon, creadigrwydd, gwreiddioldeb a rhagoriaeth.
Mae'r ddogfen, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da ar gyfer cyfres DRYCH S4C - cyfres o ddogfennau gafaelgar sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw - wedi ei henwebu yng nghategori 'Dogfen Sengl Orau - Cartref'.
Mae Eirlys, Dementia a Tim, rhaglen a gafodd ei ddarlledu'n wreiddiol ym mis Ionawr 2020, yn adrodd stori dau hen ffrind sy'n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae'r ddogfen yn rhoi portread gwahanol i'r arfer o berson sy'n byw gyda Alzheimer's ac yn dosbarthu neges bwerus gan Eirlys, i beidio bod ofn.
Meddai'r Cynhyrchydd, Sion Aaron: "Rwy'n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu. Mae gan Tim Lynn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i'w ddweud, sy'n wefreiddiol ac ar brydiau yn ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau ac rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu'r realiti sy'n wynebu pobl fel Eirlys sy'n byw gydag Alzheimer's cynnar."
Meddai Dylan Huws, Uwch Gynhyrchydd y rhaglen: "Mae'r Gwobrau Grierson yn wobrau mawreddog ac mae hi'n fraint bod ymysg yr enwau mawr ar y rhestr. Mae hyn yn dangos ein bod ni'n gallu cynhyrchu straeon heriol ac atyniadol yn y Gymraeg sy'n sefyll ymysg y gorau yn y byd."
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: "Weithiau, mae 'na gomisiwn sy'n wirioneddol yn cyffwrdd y galon. Mae Eirlys, Dementia a Tim yn enghraifft wych o hynny. Dyma raglen ddogfen a lwyddodd i roi portread gwahanol i'r arfer o berson sy'n byw gydag Alzheimers gan gyfleu neges bwerus a phositif i beidio bod ofn. Dwi'n hynod falch fod y ffilm hon wedi ei henwebu ac yn cael ei gweld ochr yn ochr gyda dogfennau mwyaf pwerus y DU. Llongyfarchiadau mawr i'r tîm i gyd."
Gyda holl ddarlledwyr y DU yn gallu cystadlu, Eirlys, Dementia a Tim yw unig gynrychiolydd Cymru yng Ngwobrau Grierson.
Mi fydd y noson wobrwyo ar y 10fed o Dachwedd 2020 yng Nghanolfan Southbank, Llundain.
Fe allwch weld y rhestr fer gyflawn fan hyn: https://griersontrust.org/grierson-awards/the-grierson-awards/shortlist.
22 Gorffennaf 2020 - Rygbi Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38694/guinness-pro14-yn-dychwelyd-i-s4c-gyda-gemau-darbi-rhanbarthau-cymru/
Gyda rhanbarthau rygbi Cymru yn dychwelyd i'r maes fis nesaf i gwblhau'r tymor Guinness PRO14, mi fydd y pedair gêm ddarbi sy'n weddill i'w gweld ar S4C.
Wedi'r pandemig COVID-19 orfodi seibiant yn y gystadleuaeth ers mis Mawrth, mae bwrdd y PRO14 wedi llunio diweddglo amgen i'r tymor 2019/20, gan gwtogi'r nifer o gemau o 21 i 15.
Yn y ddau benwythnos sydd yn weddill yn y tymor arferol, fe fydd rhanbarthau Cymru yn mynd benben â'i gilydd mewn dau rownd o gemau darbi. Mi fydd y pedair gêm i'w gweld yn hwyrach ymlaen yr un diwrnod ar S4C yn ystod oriau brig.
Mi fydd y gystadleuaeth yn ail-ddechrau ar nos Wener 21 Awst. Yna ar ddydd Sadwrn 22 Awst, bydd y Scarlets yn herio Gleision Caerdydd ym Mharc y Scarlets, gyda'r gêm gyfan i'w weld ar S4C am 8.00yh. Ar ddydd Sul 23 Awst, bydd y Gweilch yn croesawu'r Dreigiau i Stadiwm Liberty, ac mi fydd y gêm yna yn cael ei dangos am 9.00yh.
Ar benwythnos olaf y tymor arferol, Rodney Parade fydd y lleoliad ar gyfer y ddwy darbi. Mi fydd y Dreigiau a'r Scarlets yn cwrdd ar ddydd Sadwrn 29 Awst, gyda'r gêm i'w gweld yn ei chyfanrwydd am 8.00yh. Ar ddydd Sul 30 Awst, bydd Gleision Caerdydd yn herio'r Gweilch, gyda'r gêm yn cael ei ddangos am 9.00yh. Bydd yr holl gemau i'w gweld ar Clwb Rygbi, sy'n cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.
Mi fydd gemau rownd cynderfynol y Guinness PRO14 yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 5 Medi, gyda'r gêm rownd derfynol yn cael ei gynnal wythnos yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn 12 Medi.
Gemau Guinness PRO14 ar S4C:
Scarlets v Gleision Caerdydd - Nos Sadwrn 22 Awst – 8.00yh
Gweilch v Dreigiau - Nos Sul 23 Awst – 9.00yh
Dreigiau v Scarlets - Nos Sadwrn 29 Awst – 8.00yh
Gleision Caerdydd v Gweilch - Nos Sul 30 Awst – 9.00yh
20 Gorffennaf 2020 - Golygfeydd cyffrous wrth ail-ddechrau ffilmio Un Bore Mercher
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37029/lle-hoffech-chi-fod-s4c-yn-lansio-cefndiroedd-zoom/
Bydd dilynwyr drama yn falch o wybod fod gwaith wedi ail-ddechrau ar ffilmio'r gyfres olaf o Un Bore Mercher / Keeping Faith.
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Ar ôl gorfod rhoi'r gorau i ffilmio'r drydydd gyfres mor sydyn nôl ym Mis Mawrth, mae'r cast a'r criw yn gyffrous iawn i ail-gydio yn y gwaith.
"Roeddynt ar fin dechrau saethu o flaen golygfeydd eiconig Talacharn pan ddaeth y cyfnod cloi a rhoi stop ar bopeth.
"Bydd Vox Pictures, sy'n cynhyrchu'r gyfres ar ein rhan ni a BBC Cymru Wales, yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'i gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.
"Mae'r byd ffilm a teledu wedi teimlo cryn ergyd yn sgîl Covid-19, ac fel nifer o ddiwydiannau eraill mae wedi profi cyfnod ansicr iawn.
"Bu'n rhaid i nifer o gynyrchiadau stopio'r camerau yn ddisymwth ar ôl misoedd o waith cynllunio a pharatoi oddi ar y set, felly mae'n braf cael y golau gwyrdd i fynd ati eto."
Nawr fod ffordd saff o weithio wedi'i osod allan, gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at gyfres gyffrous arall gydag Eve Myles yn dychwelyd fel Faith Howells, Bradley Freegard fel Evan Howells a Mark Lewis Jones fel Steve Baldini.
"Rydym yn edrych ymlaen i Un Bore Mercher fwrw'r sgrin eto cyn diwedd y flwyddyn, a hynny am y tro olaf wrth gwrs" ychwanegodd Gwenllian.
"Roedd cymaint o bethau'n ben agored ar ddiwedd yr ail-gyfres, rwy'n siwr fod pawb ar bigau'r drain i ddarganfod beth fydd ffawd Faith a'i theulu ar ddiweddglo'r gyfres."
Dywedodd Maggie Russell, y Cynhyrchydd Gweithredol ar ran BBC Cymru: "Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i bawb am eu gwaith caled i fynd yn ôl i gynhyrchu Keeping Faith, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu'r gyfres gyda'r gwylwyr yn gynnar y flwyddyn nesaf."
Datblygwyd Un Bore Mercher / Keeping Faith yn wreiddiol gan S4C.
Cynhyrchir gan Vox Pictures ar gyfer S4C a BBC mewn cydweithrediad ag Acorn Media, APC â Nevision gyda chefnogaeth gan Busnes Cymru.
15 Gorffennaf 2020 - Ymlaen â’r Sioe! Wythnos o raglenni arbennig ar S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38626/ymlaen-r-sioe-wythnos-o-raglenni-arbennig-am-y-sioe-frenhinol/
Efallai fod y Sioe Frenhinol wedi ei chanslo eleni, ond fydd gwylwyr S4C ddim ar eu colled yn llwyr gan fod wythnos lawn o raglenni arbennig ar gael i ddathlu digwyddiad pwysicaf y calendr amaethyddol yng Nghymru.
Yn ogystal â chael cyfle i ail fyw rai o uchafbwyntiau mwyaf cyffrous yng nghystadlu diweddar y sioe, bydd cyfle i wylwyr bleidleisio am eu hoff anifail ar-lein neu hyd yn oed arddangos eu talentau cudd.
Mae'r wythnos o raglenni yn dechrau ar nos Sul, 19 Gorffennaf am 8.00 gyda rhaglen arbennig Ymlaen â'r Sioe gydag Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen yn edrych ymlaen at wythnos o adloniant o Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Nia Roberts fydd yn cyflwyno'r rhaglenni yn ystod y dydd o 4.00 tan 6.00, dydd Llun, 20 Gorffennaf i ddydd Iau, 23 Gorffennaf. Fydd hi'n edrych yn ôl ar Brif Bencampwriaeth pob diwrnod, esbonio'r sut a pham, gan gynnig cyfle bob dydd i'r gwylwyr hefyd ddewis Pencampwr y Pencampwyr o blith uchafbwyntiau'r pum mlynedd gofiadwy ddiweddar.
Hefyd, bydd blas ar weithgareddau eraill y Sioe gydag Aeron Pughe, Alun Elidyr a Meinir Howells a fydd hefyd yn rhannu eu hatgofion nhw am y Sioe.
Gyda'r nos fe fydd cyfres o raglenni yn fyw o Lanelwedd gydag Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen sef - Ymlaen â'r Sioe. Bydd y rhaglen hon yn dod â blas o'r wythnos y bydd cymaint yn hiraethu amdani.
Yn y rhaglen deuluol hon, byddwn yn trafod pob math o elfennau o'r Sioe - yr hoelion wyth, y stoc gorau, cynnyrch a'r straeon cofiadwy dros y blynyddoedd. Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr y cystadlaethau dyddiol sef Bridwyr y Buarth a Phencampwyr y Sioe, bydd Mari yn wynebu heriau dyddiol fel cneifio, torri coed ac arddangos.
Yn ymuno gyda'r ddau, fe fydd wynebau cyfarwydd i drafod bob math o atgofion o'r sioe yn ogystal â chyflwyno sawl eitem newydd fel coginio gyda Chris 'Flamebaster' Roberts a thalent ifanc y byd amaethyddol.
Bydd pedair rhaglen ddyddiol am 8.00-9.00 nos Lun, 20 Gorffennaf i nos Iau, 23 Gorffennaf.
Meddai Ifan: "Wel, mae'r Sioe Frenhinol yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i fi ers imi fod yn grwtyn bach yn mynd gyda mam a dad a nawr gyda fy nheulu fy hunan. Mae'n golygu cymaint i bobl gefn gwlad Cymru ac mae gwacter mawr yn mynd i fod eleni."
"Ond dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda Mari unwaith eto - da ni wedi bod yn tecstio ein gilydd nôl a 'mlaen. Da ni'n gobeithio bydd y rhaglen yn llenwi bwlch a dod a rhywbeth i fywydau pobol."
"Byddwn yn edrych yn ôl ar enillwyr y Sioe ond hefyd byddwn yn dathlu'r byd amaeth fel mae e ar hyn o bryd - gweld y stoc a chlodfori'r hyn sydd yn bwysig. Da ni eisiau cynnig teimlad o berthyn, teimlad naws cartref - y pethau mae cymaint o bobl yn caru am y Sioe."
Nia Roberts sy'n cymryd yr awenau unwaith eto am 9.00 bob nos Lun i Iau am 9.00, gydag awr o uchafbwyntiau Pencampwyr y Sioe.
13 Gorffennaf 2020 - Deg comisiwn newydd i’w darlledu ar S4C fis Medi
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38603/deg-comisiwn-newydd-iw-darlledu-ar-s4c-fis-medi/
Bydd S4C yn darlledu deg comisiwn newydd fydd i'w gweld ar sgrin ym mis Medi.
Gyda thraws doriad eang o raglenni a chyfresi newydd sbon, mae S4C yn gobeithio y bydd y cydbwysedd rhwng adloniant a rhaglenni dogfen yn taro deuddeg gyda'r gwylwyr.
Ac wrth i'r sianel orfod ailadeiladu ei hamserlen yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig, gobeithir y bydd y comisiynau newydd yn cynnig ogwydd ffres ac amserol a byddant yn adlewyrchu'r byd fel y mae ar hyn o bryd i bobl Cymru.
"Mae'r ffocws ar adlewyrchu'r cyfnod hwn fel ag y mae ar hyn o bryd, wrth i'r cyhoedd addasu i leddfu rheolau'r clo mawr ac edrych tuag at y dyfodol," meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees.
"Dy'n ni ddim am lenwi ein hamserlen gyda rhaglenni covid; fodd bynnag, mae angen i ni fod ar y blaen gyda thrafodaethau amserol sy'n edrych ar effeithiau'r pandemig hwn.
"Mae gennym rôl i lywio ac ymgysylltu â'n dogfennau ffeithiol ond hefyd i gysuro a chodi gwên gyda'n rhaglenni adloniant cynnes.
Ry'n ni'n falch o allu dod ag amserlen llawn dop o gynnwys newydd a chyffrous i'r sgrin ym mis Medi. Ry'n ni wedi llunio ein cynnwys yn ofalus i fod yn amserol ac i ymgysylltu â'n cynulleidfa.
"Bydd cyfresi fel Gwyliau Gartre yn edrych ar fuddion gwyliau gartref, bydd cyfres hanesyddol yn edrych ar drysorau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, bydd Hinsawdd Covid yn edrych ar sut mae'r pandemig wedi bod o fudd i'r amgylchedd tra bydd digonedd o raglenni hwyliog hefyd yn trafod coginio, cŵn, pysgota a'r awyr agored.
"Yn sicr mae rhywbeth at ddant pawb!"
Mae comisiynau newydd yn cynnwys:
Anrhegion Melys Richard Holt cynhyrchiad gan Cwmni Da lle bydd y cogydd patisserie talentog Richard Holt yn creu danteithion melys blasus ar gyfer y bobl anhygoel hynny yn y gymuned sy'n haeddu anrheg arbennig.
Bwrdd i Dri cynhyrchiad Boom Cymru a chyfres coginio hwyliog lle mae tri wyneb cyfarwydd yn paratoi gwledd i'w gilydd - a does neb yn gwybod pwy sy'n dod i swper!
Dau Gi Bach cynhyrchiad cwmni Darlun yn edrych ar fywyd trwy lygaid cŵn bach del. Byddwn yn dod i adnabod y perchnogion a chlywed straeon twymgalon sy'n sicr o godi gwen.
Am Dro cynhyrchiad Sugar Films lle mae grŵp o bobl yn cymryd eu tro i arwain taith gerdded yn yr awyr agored ac yna'n cael eu beirniadu gan y gweddill ar y daith, eu sgiliau arwain a'r picnic holl bwysig!
Gwyliau Gatre cyfres gan gwmni cynhyrchu Rondo yn dilyn grwpiau o ffrindiau a theulu wrth iddynt gychwyn am benwythnos o wyliau lleol gyda'i gilydd a chael cyfle i ailddarganfod rhai o'r trysorau rhyfeddol ar garreg ein drws.
Adre cynhyrchiad Boom Cymru sy'n rhoi cipolwg i mewn i gartrefi rhai o wynebau cyfarwydd Cymru.
Pysgod i Bawb cynhyrchiad Tinopolis sy'n mynd a ni'n ar daith ar hyd arfordir Cymru i ddathlu'r amrywiaeth anhygoel o bysgod, wrth sgwrsio a gwylio'r byd yn mynd heibio.
Hinsawdd Covid cynhyrchiad Tinopolis a chyfle i weld a yw'r cyfnod cloi wedi helpu'r frwydr i achub ein planed a chreu byd llai llygredig.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cynhyrchiad Orchard Media lle bydd gwylwyr yn cael eu cyflwyno i rai o adeiladau harddaf ac eiconig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac yn gofyn sut i warchod ein hanes mewn cyd-destun cyfoes.
Dechrau Canu Dechrau Canmol cynhyrchiad Rondo Media a chyfres newydd o'r comisiwn poblogaidd sy'n dathlu emynau a chanu cynulleidfaol gan deithio Cymru yn clywed straeon rhyfeddol am ffydd a gobaith.
7 Gorffennaf 2020 - Wyneb newydd wrth lyw Pawb a’i Farn
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38595/wyneb-newydd-wrth-lyw-pawb-ai-farn/
Betsan Powys sy'n cymryd yr awenau mewn cyfres newydd o Pawb a'i Farn fydd yn dychwelyd i'r sgrin yr wythnos nesaf.
Daw'r cyhoeddiad wrth i S4C lansio'r gyfres hirhoedlog ar ei newydd wedd, yn dilyn ymadawiad Dewi Llwyd o'r rhaglen nôl yn Nhachwedd 2019 wedi 21 mlynedd o wasanaeth.
Bydd y bennod gyntaf i'w gweld ar S4C nos Fercher, 15 Gorffennaf am 9 o'r gloch. Ac er mwyn bod â bys ar byls y materion cyfoes diweddaraf, bydd y rhaglenni yn cael eu hamserlennu yn ôl y galw ar hyd y flwyddyn ac yn delio gyda themâu amserol ac o bwys.
Dywedodd Betsan Powys: "Mae'n allweddol bod S4C â materion cyfoes ar yr awyr rownd y flwyddyn, ac mae'n bwysig i mi fod cymunedau o bob math yn cael cyfle i'w clywed a'i gweld ar y sianel. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael dadlau ein stori ni."
Y pwnc llosg yn rhaglen gyntaf Betsan fydd thema na ellid ei osgoi, sef Covid-19.
Ni fydd cynulleidfa draddodiadol yn ymuno yn y sgwrs yn fyw o'r stiwdio y tro hyn oherwydd cyfyngiadau yn sgil y pandemig. Ond serch hynny, mi fydd hyd at ddeuddeg o westeion yn cynnwys gwleidyddion ac aelodau o'r cyhoedd yn ymuno â Betsan yn stiwdio Tinopolis yn Llanelli a dros sgrin i drafod a holi am effeithiau Covid-19 ar ein cymunedau.
"Mae hi'n mynd i fod yn anodd, mae hi'n mynd i fod yn heriol. Er mai Pawb a'i Farn yw teitl y rhaglen – fydd pawb ddim yn cael bod yna yn y stiwdio. Ond mae e'n bwysig bod ni'n cofio bod barn pawb yn cyfri o hyd, felly mae'r criw wrthi'n dod o hyd i'r atebion technegol i sicrhau bod ni'n gallu gwneud 'na ar gyfer y rhaglenni cyntaf."
Dyma waith cyntaf Betsan ers camu nôl o'i swydd fel Golygydd Radio Cymru gyda'r BBC nôl yn 2018.
"Pan ddaeth y cynnig i wneud Pawb a'i Farn, doedd hi ddim yn anodd i mi gytuno. Dwi'n edrych ymlaen, ac mae rhaid i mi ddweud, mae cyflwyno yn achlysurol yn siwtio fi a'r math o fywyd sydd gen i!
"Mae'r cyfnod diwethaf yn fy mywyd wedi golygu lot fawr i mi, ac mi fyddai'n ei warchod e o hyd yn y dyfodol. Mae e wedi golygu cyfnod ble doedd gen i ddim cyfrifoldeb dros neb, oni bai amdanaf i a fy nheulu. Mae e wedi bod yn gyfnod mor hapus a dwi'n gwerthfawrogi'n fawr fy mod mor ffodus i fod wedi cael cyfnod fel hwn."
Beth yw gobeithion Betsan wrth iddi ymgymryd â'r rôl newydd o gyflwyno'r gyfres?
"Mae popeth fi 'di wneud erioed gobeithio yn dod nôl i'r pwynt yma. Mae'n gyfle, ac yn bwysig i bobl a chymunedau i sicrhau bod eu llais nhw yn cael eu clywed. Yn hytrach na phwyntio bys, mae'n bwysig i ni yma yng Nghymru ddadlau ein stori.
"Ti moyn bod yn rhywle rhwng miniog a sionc wrth gyflwyno Pawb a'i Farn. Dwi'n gobeithio y byddai'n dreiddgar, ond hefyd yn gobeithio y byddwn i'n rhoi'r teimlad i'r gynulleidfa fel eu bod nhw'n gallu codi llaw a rhannu barn ac ymuno yn y sgwrs. Fy ngwaith i hefyd fydd holi'r cwestiynau mae'r gynulleidfa yn chwilio am yr atebion iddyn nhw."
2 Gorffennaf 2020 - Bwyd Brên - Eisteddfod AmGen yn cyhoeddi cyfres newydd Hansh S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38350/eisteddfod-amgen-yn-cyhoeddi-cyfres-newydd-hansh-s4c/
Mae gwasanaeth ar lein S4C Hansh a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi cyfres newydd o'r enw Bwyd Brên fel rhan o AmGen, prosiect aml-blatfform yr Eisteddfod, sy'n gymysgedd eclectig o weithgareddau digidol i roi blas o'r ŵyl i wylwyr.
Mae Bwyd Brên yn gyfres o gyflwyniadau wrth ein cenhedlaeth nesaf o feddylwyr, gweithredwyr a chyflawnwyr, y rhai sy'n arwain y ffordd yn eu meysydd priodol.
Wrth i ni oroesi cyfnod anhygoel fyd-eang, cyfnod lle fyddwn yn gweld y byd yn newid yn feddygol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, does dim amser gwell i ni glywed wrth y Cymry ifanc sy'n mynd i arwain y ffordd yn y dyfodol.
Mae'n gyfres sy'n gwneud i ni feddwl - am iaith, yr amgylchfyd, meddyginiaeth a phob math o bethau eraill.
Bydd y ffilm gyntaf yn cael ei ddarlledu ddydd Gwener am 12:30 fel rhan o slot y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg #GwenerGwyddonol AmGen a bydd modd gwylio ar dudalen Facebook yr Eisteddfod ac ar Hansh.
Bedwyr ab Ion sy'n serennu yn y ffilm gyntaf sy'n dilyn cwrs PhD gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn adran y Gwyddorau Biolegol. Mae'n arbenigo mewn datblygu triniaethau a meddyginiaethau newydd gan gyfuno dulliau cemeg cyfrifiadurol, profion biocemegol, a phrofion biolegol er mwyn darganfod cyffuriau addas i glefydau.
Yn ei gyflwyniad Bwyd Brên mae Bedwyr yma i egluro'r da a'r drwg am gyffuriau a'r ymdrech i ddarganfod meddyginiaethau newydd - ac yn ystyried a fyddwn ni byth yn darganfod cyffur i wella pob un firws a salwch?
Bydd yr ail ffilm i'w gweld ar y 5ed o Orffennaf ac yn edrych yn benodol ar bŵer iaith.
Ieithyddiaeth yw arbenigedd Seán Roberts, darlithydd yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd.
Mae'n defnyddio ystod o ddulliau mesurol i ddeall sut wnaeth ieithoedd ymddangos a'r modd maen nhw'n newid, yn enwedig gan ystyried gwybyddiaeth unigolyn ac hefyd rhyngweithiad gyda'r ecoleg ehangach.
Bydd y drydedd ffilm i'w gweld ar y 10fed o Orffennaf gyda Nia Jones sy'n astudio PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor ac yn gwneud ymchwil i'r pwnc llosg meicroblastig, gan edrych yn benodol ar y broblem ar arfordir Gogledd Cymru.
"Sbarduno trafodaeth gyda rhai o'r pynciau mwyaf pwysig ac amserol" yw'r bwriad gyda'r gyfres hon meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Arlein S4C.
"Mae'n bwysig i ni gynnig amrywiaeth o gynnwys ar Hansh ac mae'r gyfres hon yn rhoi llwyfan i gyfathrebwyr ifanc gorau Cymru i drafod eu syniadau a rhannu eu persbectif ar bynciau o bwys.
"Mae'r Coleg Cymraeg wedi bod yn allweddol wrth gynllunio'r siaradwyr a'r pynciau ac ry'n ni'n falch iawn o gydweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i ddarlledu'r ffilmiau yma fel rhan o raglen AmGen."
25 Mehefin 2020 - Caru Canu mewn Cernyweg
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38214/caru-canu-mewn-cernyweg/
Mae cyfres boblogaidd Caru Canu ar S4C yn cael ei darlledu yr wythnos hon mewn Cernyweg.
Mae'r gyfres o ganeuon animeiddiedig i blant yn cael eu lansio fel rhan o Wythnos Dathlu Cernyweg gyda'r bwriad o helpu plant i ganu ac odli yng Nghernyweg.
Bydd y gyfres hon o bum cân animeiddiedig yn mynd yn fyw ar sianel ffrydio Tyskennow Kernow ddydd Iau 25 Mehefin dan y teitl Kara Kana.
Wedi'i chomisiynu trwy Screen Cornwall gyda chefnogaeth Cyngor Cernyw a MHCLG, mae'r gyfres gan gwmni cynhyrchu Penzance, Bosena, wedi'i chyfieithu i Gernyweg o gyfres Gymraeg wreiddiol a wnaed gan Gynyrchiadau Twt ar gyfer gwasanaeth meithrin S4C Cyw.
Recordiwyd y lleisiau Cernyw gan y perfformiwr Cernyw aml-dalentog Bec Applebee yn Stiwdio Recordio Cube yn Silverwell.
Meddai cynhyrchydd y gyfres Siwan Jobbins:" Gyda pherthynas mor agos rhwng yr iaith Cernyweg a Chymraeg, dwi'n tu hwnt o gyffrous i gael gwybod sut bydd rhai o ganeuon meithrin a hwiangerddi mwyaf poblogaidd plant bach Cymru'n swnio mewn Cymraeg.
"Dwi'n gobeithio y caiff plant bach Cernyw cymaint o bleser yn gwrando arnyn nhw â phlant Cymru."
Dywed Denzil Monk, Prif Swyddog Gweithredol Bosena, "Mae plant bach wrth eu bodd yn canu gyda theulu a ffrindiau, felly mae'r gyfres Kara Kana nawr yn gallu cynnig cyfle i blant (a dysgwyr iaith Cernyweg) wylio a chanu ynghyd â hwiangerddi traddodiadol a chyfoes mewn Cernyweg.
"Yr wythnos hon rydym yn rhyddhau'r pum cân gyntaf, ac os daw cyllid ar gael, rydym yn gobeithio trwyddedu fersiwn ar gyfer cynulleidfaoedd Cernyw a rhyddhau mwy o'r caneuon animeiddiedig addysgol hwyliog hyfryd hyn gan gynyrchiadau Twt o Gymru."
Mae'r gyfres ar gael o ddydd Iau 25ain Mehefin a gellir ei gwylio mewn Cernyweg, gydag isdeitlau dewisol Saesneg, ar sianel diwylliant sgrin Cernyw Tyskennow Kernow: https://vimeo.com/showcase/tk.
24 Mehefin 2020 - 03YB yw enillydd Her Ffilm Fer Hansh cyntaf erioed
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38240/03yb-yw-enillydd-her-ffilm-fer-hansh-cyntaf-erioed/
Y ffilm 03YB sydd wedi ennill yr Her Ffilm Fer Hansh cyntaf erioed.
Creu ffilm fer wreiddiol dros gyfnod o 48 awr; dyna'r her oedd yn wynebu'r cystadleuwyr penwythnos diwethaf, o nos Wener 19 Mehefin hyd at nos Sul 21 Mehefin.
Ar ddechrau'r ffenest 48 awr, fe gyhoeddwyd ar Hansh mai arswyd oedd y genre dan sylw yn y gystadleuaeth, gan hefyd gynnwys y thema o lliw.
Gyda chyfanswm o 42 ffilm yn cael eu creu gan gynhyrchwyr ledled Cymru a thu hwnt, fe ddaeth y panel o feirniad i'r penderfyniad mai'r ffilm 03YB, gan Kiko, sef partneriaeth rhwng Siân Adler a Lewys Mann, oedd yn deilwng o ennill y gystadleuaeth a'r wobr o fil o bunnoedd.
Cyhoeddwyd y feirniadaeth yn fyw ar Facebook Live a Hansh nos Fawrth 23 Mehefin, gan gyflwynydd y gystadleuaeth, yr actores Annes Elwy, seren Craith a Little Women.
Mae pob un o'r ffilmiau a grëwyd ar gyfer y gystadleuaeth i'w gweld nawr ar wefan www.herffilmfer.cymru.
Cafodd y gystadleuaeth ei gynnal ar y cyd rhwng Hansh a'r cwmni cynhyrchu Tinint, sydd yn rhan o grŵp Tinopolis Cymru.
Mae'r enillwyr, Siân Adler a Lewys Mann yn byw ym Mhontypridd ac yn rhedeg cwmni o'r enw Trigger Happy Creative, sy'n cynhyrchu fideos miwsig i artistiaid.
Dywedodd Siân: "Fel arfer ni'n ffilmio fideos miwsig, ond oherwydd lockdown, does 'da ni ddim gwaith. Felly mi oedd e'n grêt i gael y cyfle i greu ffilm arswyd. "Mae Lewys yn licio ysgrifennu sgriptiau, felly mi wnaeth e fwynhau'r sialens gyda'r her yma.
"Roedd y ddau ohonom yn aros lan tan 5.30yb a deffro eto am 9yb er mwyn gwneud y ffilm effects. Roedd e'n stressful ond roeddwn ni rili wedi mwynhau. "Mae'r teimlad o ryddhad pan ti'n gwasgu'r botwm 'send' ar ddiwedd yr her yn anhygoel.
"Roeddwn ni'n mor hapus i glywed mai ni oedd wedi ennill. Cawsom gymaint o hwyl yn wneud e, fi eisiau parhau neud ffilmiau byr, ond efallai fydden ni'n cymryd ychydig mwy o amser na 48 awr y tro nesaf!"
Cyn ac yn ystod y gystadleuaeth, fe gyhoeddwyd sawl fideo masterclass ar Hansh gan rai o gynhyrchwyr a sgriptwyr drama fwyaf blaenllaw Cymru, megis Euros Lyn, Fflur Dafydd a Siôn Griffiths, i rannu cyngor gyda chystadleuwyr ar wahanol nodweddion o greu ffilm a gwneud y mwyaf o'u hadnoddau.
Ar y panel yn beirniadu'r gystadleuaeth oedd:
-Hannah Thomas - Cynhyrchydd Craith, Under Milk Wood, Becoming Human -Euros Lyn - Cyfarwyddwr Dr Who, Torchwood, Y Llyfrgell -Ed Thomas - cynhyrchydd Y Gwyll, Gwaith Cartref, Pen Talar -Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C, cyn-gynhyrchydd Un Bore Mercher -Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C a Hansh
Dywedodd y cyfarwyddwr, Euros Lyn: "Bu gwylio dros 40 o ffilmiau o law cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm dalentog yn achos dathlu bod dyfodol disglair i'r sinema yng Nghymru.
"Llwyddodd cymaint o'r ffilmiau ddweud stori wreiddiol ag emosiwn, heb sôn am godi llond twll o ofn arna'i!
"Ar dop fy rhestr oedd yr enillydd 03yb, yn ogystal â Champwaith - straeon syml, tywyll, llawn hiwmor.
"Os am eich arswydo a'ch diddanu gan dalent y dyfodol, gwyliwch nhw nawr ar Hansh."
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Roedd hi'n anodd iawn dewis un enillydd gan fod pob un ffilm wedi serennu yn ein ffordd eu hunain.
"Mae 03YB yn ffilm gyda gwerthoedd cynhyrchu gwych. Roedd y goleuo, y fframio a'r perfformio yn arbennig o dda ac mi roedden nhw'n amlwg wedi cael hwyl ar y genre a'r thema.
"Rwy'n gobeithio bydd yr her yn ysgogi pawb i barhau i greu ffilmiau ac mi ydw i'n edrych ymlaen at weld ffrwyth gwaith y cynhyrchwyr talentog yma yn y dyfodol." I wylio pob ffilm a'i crëwyd ar gyfer y gystadleuaeth, ewch i www.herffilmfer.cymru.
15 Mehefin 2020 - S4C a Llywodraeth Cymru yn lansio pecyn addysg hanes i blant
Wythnos hon, mae S4C mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn addysg sy'n cyd fynd â chyfres hanes i blant ar S4C.
Mae'r pecyn, sy'n seiliedig ar y gyfres hanes Amser Maith, Maith yn Ôl yn cynnwys gwerth 100 o oriau addysgu i blant rhwng 5 a 9 oed, ac yn cefnogi'r cwricwlwm presennol a'r cwricwlwm addysgiadol newydd fydd yn cael ei gyflwyno i ddosbarthiadau yn ffurfiol yn 2022. Dyma'r tro cyntaf i becyn addysg o'r fath gael ei gynhyrchu yn y Gymraeg gyda chefnogaeth Canolfan Peniarth.
Gyda hanes Cymru yn ganolbwynt i'r cyfan, mae'r pecyn, ynghyd â holl benodau'r gyfres, ar gael i athrawon, rhieni a disgyblion ar wefan Hwb. Mae'n cynnwys 72 o weithgareddau rhyngweithiol i gyd-fynd â holl benodau Amser Maith, Maith yn Ôl ac yn ateb gofynion ar draws y cwricwlwm addysg.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rwy'n hynod o falch bod S4C wedi gallu gweithio mewn partneriaeth i gynnig yr adnoddau arloesol yma.
"Awgrymodd adroddiad Euryn Ogwen Williams yn 2018 ein bod yn gweithio'n agosach gyda Llywodraeth Cymru ym maes addysg ac i gefnogi'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd yr adnodd cyfoethog yma'n cyfrannu at hynny. Mae popeth ar gael ar Hwb, ac i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod cloi, mae nifer o'r penodau hefyd ar gael ar wefan Ysgol Cyw ac S4C Clic."
Cynhyrchwyd yr adnoddau gan Ganolfan Peniarth, yn dilyn grant gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r prosiect.
Meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru: "Mae cael mynediad i ddeunyddiau dysgu o'r cartref yn bwysicach nag erioed. Rydym mewn sefyllfa arbennig o dda yng Nghymru, gyda'n darlledwyr a'n partneriaid addysg yn creu deunyddiau dysgu sy'n ategu ein hadnoddau ar-lein. Rwy'n falch iawn y bydd ein platfform Hwb yn helpu i sicrhau bod yr adnodd yma ar gael i blant ledled Cymru."
Darlledwyd 24 pennod o Amser Maith, Maith yn Ôl, cynhyrchiad Boom Cymru, ar wasanaeth S4C Stwnsh rhwng 2018-2019, ac mae 12 pennod o'r gyfres wedi eu harwyddo gyda BSL hyd yma.
Mae hi'n gyfres sy'n cyflwyno bywyd bob dydd yng Nghymru dros wahanol gyfnodau nodweddiadol o'r gorffennol, gan gynnwys Oes y Celtiaid, Oes y Tuduriaid, Oes Fictoria a'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Meddai Angharad Garlick, Pennaeth Boom Plant, Boom Cymru: "Rydym ni yn Boom Plant yn hynod o falch o fod wedi gallu cefnogi'r fenter yma, ac o'n partneriaeth gyda Peniarth ac S4C sydd wedi sicrhau bod y gyfres a'r holl adnoddau atodol ar gael ar yr Hwb. Rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd yn ddefnyddiol iawn i ysgolion a rhieni a phlant tra maen nhw adre."
Yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael i blant mewn ysgolion Cymraeg, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu adnodd i gyd fynd ag un bennod o Amser Maith, Maith yn Ôl ar gyfer plant sy'n dysgu Cymraeg. Dyma'r tro cyntaf i'r Ganolfan ddatblygu deunydd addysgu i gyd-fynd â rhaglen deledu i blant, ac mae bwriad i'w dreialu mewn ysgolion wedi'r cyfnod cloi.
Meddai Dr Sioned Vaughan Hughes, awdur y deunyddiau addysgu: "Fy ngobaith yw y bydd yr adnodd yn ysbrydoli plant ifanc i ymddiddori ac ymfalchïo yn hanes a threftadaeth Cymru
"Wedi gwylio'r rhaglenni, mae cyfle i'r plant atgyfnerthu eu dealltwriaeth o fywyd bob dydd yng Nghymru yn y gorffennol, drwy wneud ystod o weithgareddau, megis heriau ysgrifennu, rhifedd, drama a chreu."
15 Mehefin 2020 - Hysbysebion am ddim i elusennau covid ar S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38077/hysbysebion-am-ddim-i-elusennau-covid-ar-s4c/
Bydd S4C yn gweithio gyda nifer o elusennau dros y misoedd nesaf er mwyn darlledu hysbysebion i elusennau a sefydliadau sy'n gwneud gwaith arwrol yn ystod argyfwng Covid.
Gwahoddodd y sianel geisiadau gan elusennau a sefydliadau sydd wedi lleoli neu'n gweithredu ar lefel Cymreig ac yn cynnig cymorth i bobl yn ystod yr argyfwng. Penderfynodd S4C hefyd gynnig cyfraddau gostyngedig i gwmnïau yng Nghymru er mwyn hyrwyddo eu hymdrechion Covid.
Ac er mwyn annog hysbysebu yn y Gymraeg mae'r sianel wedi penderfynu ymestyn ei gymhorthdal ar gyfer hysbysebion Cymraeg i'r cynllun.
Bydd yr hysbysebion cyntaf o dan y cynllun yn cael eu darlledu yr wythnos hon gan gynnwys elusen Shelter Cymru sy'n cynnig cymorth i'r digartref ac Amser i Newid Cymru sy'n rhedeg ymgyrch am iechyd meddwl dynion.
Meddai Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd Shelter Cymru: "Mae'n wych bod S4C yn cydnabod pwysigrwydd gwaith elusennau yn ystod y pandemig hwn.
"Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn poeni am eu sefyllfa o ran tai a chartrefedd mewn cyfnod mor anodd, heb wybod at bwy i droi am gymorth.
"Felly rydym yn ddiolchgar i S4C am y cyfle i roi cyngor a chefnogaeth hollbwysig i'r bobl hynny sydd angen ein help i sicrhau eu bod yn cael aros yn ddiogel yn eu cartrefi."
Meddai June Jones o Amser i Newid Cymru: "Mae Amser i Newid Cymru yn hynod ddiolchgar i S4C am y cyfle hysbysebu hwn am ddim yn ystod Wythnos Iechyd Dynion.
"Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ond rydyn ni'n gwybod bod dynion yn gyffredinol yn ei chael hi'n anoddach siarad am y pwnc hwn.
"Nod yr ymgyrch #MaeSiaradYnHollBwysig yw annog dynion yng Nghymru i siarad am eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu barnu.
"Mae'n hen bryd i ni ofyn y cwestiwn am iechyd meddwl dynion, 'Wyt ti'n iawn?'."
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Ry'n ni'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi gwaith da y trydydd sector a sefydliadau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gyda'r argyfwng hwn.
"Mae 15 elusen hyd yn hyn yn elwa o gael gofod hysbysebu am ddim ar ein sianel, ac mae'n braf gallu arddangos gwaith allweddol amrediad eang o elusennau drwy hysbysebion ar S4C."
Yr elusennau eraill fydd yn derbyn gofod hysbysebu yn ystod y misoedd nesaf yw Tŷ Hafan, GISDA, Action for Elders, The Autism Directory, Bullies Out, Tenovus, Adferiad Recovery, WCADA, Hourglass Cymru, St John's Cymru, WCVA, Awyr Las ac Ambiwlans Awyr Cymru.
12 Mehefin 2020 - Dwy wobr Celtaidd i S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/38062/dwy-wobr-celtaidd-i-s4c/
Mae S4C wedi ennill dwy wobr yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2020.
Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal yn Quimper yn Llydaw rhwng 2-4 Mehefin 2020. Yn hytrach, yn dilyn oblygiadau'r coronafeirws cynhaliwyd yr ŵyl arlein nos Iau 11 Mehefin.
Mae'r ŵyl yn hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau gwledydd Celtaidd yn y cyfryngau.
Cipiodd Prosiect Pum Mil (Boom Cymru) wobr yn y categori Adloniant ac fe enillodd Cân i Gymru: Dathlu'r 50 (Avanti Media) wobr y categori Adloniant Ffeithiol.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:
"Rydym wrth ein bodd fod rhai o raglenni gwych y sianel wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu creadigrwydd a'u hapêl.
"Mae'r rhaglenni hyn wedi cyffwrdd calonnau ein gwylwyr ac rydym yn falch iawn eu bod wedi dod i'r brig yn yr ŵyl arbennig hon.
"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r cynyrchiadau llwyddiannus yma."
8 Mehefin 2020 - Super Rugby yn dod i S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37939/super-rugby-yn-dod-i-s4c/
Mae Super Rugby yn dod i S4C.
O Fehefin 13, bydd rhai o chwaraewyr rygbi gorau'r byd yn dychwelyd i'r maes wrth i bum tîm proffesiynol Seland Newydd - Blues, Hurricanes, Crusaders, Highlanders a chlwb Warren Gatland, Chiefs - gymryd rhan yng nghystadleuaeth Super Rugby Aotearoa.
Bydd y pum tîm chwarae yn erbyn ei gilydd, cartref ac oddi gartref, dros 10 wythnos, gyda dwy gêm yn cael ei chwarae bob penwythnos.
Drwy gydol y bencampwriaeth, mi fydd Clwb Rygbi yn dangos rhaglen uchafbwyntiau estynedig o'r ddwy gêm bob penwythnos, ar ôl i S4C ddod i gytundeb gyda darlledwr y gystadleuaeth yn y Deyrnas Unedig, Sky Sports.
Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau yn cychwyn ar Ddydd Sul 14 Mehefin am 10.00pm, ac ar gael i'w wylio ar alw ar S4C Clic yn dilyn y darllediad.
Dywedodd Gareth Rhys Owen, Cyflwynydd Clwb Rygbi: "Mae'n bleser mawr i ddangos uchafbwyntiau o'r gynghrair sydd yn arwain y gad yn y byd rygbi.
"Mae'r brand o rygbi sy'n cael ei chwarae yn Super Rugby yn gyffrous tu hwnt, a llawn tempo a sgiliau gwych, fyddai'n apelio nid yn unig i gefnogwyr rygbi, ond i unrhyw un sy'n hoffi chwaraeon.
"Mae sêr fel Beauden Barrett a Rieko Ioane yna, mae Dan Carter yn ôl, mae Warren Gatland yn hyfforddi'r Chiefs ac mae Mark Jones yn hyfforddi'r Crusaders, felly mae sawl wyneb cyfarwydd ar y cae ac oddi arno i wylwyr yng Nghymru.
"Ond hefyd mi gawn weld y sêr y dyfodol yn y byd rygbi, oherwydd mae'r dalent yn Seland Newydd yn aruthrol.
"Mae'r ffaith bod 'da ni'r platfform yma i ddangos rhaglenni uchafbwyntiau sylweddol yn newyddion gwych. Dw i methu aros."
Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Tra ein bod ni'n disgwyl i rygbi ail-ddechrau gartref, rydym wrth ein boddau i gyhoeddi y bydd S4C yn dangos yr unig gystadleuaeth rygbi undeb sy'n cael ei chwarae yn y byd ar hyn o bryd.
"Rydw i'n gobeithio y bydd cefnogwyr rygbi yn mwynhau gwylio timau arbennig Seland Newydd yn herio'i gilydd yn y gystadleuaeth newydd a hynod gyffrous yma."
3 Mehefin 2020 - Eisiau creu ffilm? Cyfle i ennill £1,000 yng nghystadleuaeth Her Ffilm Fer Hansh
Ydych chi'n hoffi creu ffilmiau? Beth bynnag eich lefel profiad, mae Hansh yn annog pobl sydd yn angerddol am ffilm i gymryd rhan mewn Her Ffilm Fer fis yma.
O nos Wener 19 Mehefin i nos Sul 21 Mehefin, bydd gan gystadleuwyr gyfnod o 48 awr i greu ffilm fer wreiddiol, o dan un genre penodol fydd yn cael ei ddatgelu cyn dechrau'r her.
Bydd rhai o gynhyrchwyr drama mwyaf blaenllaw Cymru yn beirniadu'r gystadleuaeth ac yn dewis enillydd, fydd yn hawlio gwobr o £1,000. Bydd y ffilmiau hefyd yn cael eu dangos ar blatfform Youtube Hansh yn dilyn y gystadleuaeth. Y pum beirniad yw:
- Hannah Thomas - Cynhyrchydd Craith, Under Milk Wood, Becoming Human
- Euros Lyn - Cyfarwyddwr Dr Who, Torchwood, Y Llyfrgell
- Ed Thomas - cynhyrchydd Y Gwyll, Gwaith Cartref, Pen Talar
- Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C, cyn-gynhyrchydd Un Bore Mercher
- Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C a Hansh
Yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at yr her, bydd sesiynau masterclass yn cael ei cynnal gan sawl cynhyrchydd adnabyddus, gan gynnwys Euros Lyn, i ddangos technegau ffilmio ac i helpu cystadleuwyr i wneud y mwyaf o'u hadnoddau.
Bydd yr actor Annes Elwy, seren Craith a Little Women, yn cyflwyno'r gystadleuaeth ar Hansh yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at y penwythnos mawr.
Dywedodd Annes Elwy: "Er bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, mae cael y llonydd a'r gormodedd o amser yma wedi galluogi i bobl ail gysylltu, neu ddarganfod am y tro cyntaf hyd yn oed, eu hochr creadigol, ac mi fydd o'n gyffrous i weld hynny yn amlygu ei hun yn ffilmiau'r gystadleuaeth hon.
"Mae o'n gyfle gwych i unigolion wrth gwrs, ond hefyd yn gyfle i dirlun ffilm a theledu yng Nghymru ddatblygu a chroesawu cyfranwyr talentog, sydd tan hyn efallai ddim wedi gwybod lle i ddechrau efo cael eu gwaith nhw o flaen y bobl iawn."
Dywedodd Hannah Thomas: "Dw i'n rili edrych ymlaen at weld beth ddaw allan o'r her yma. Dyma gyfle i wneuthurwyr ffilm adael i'r dychymyg rhedeg yn rhydd ac i greu ffilmiau byr anarferol a heriol. Pob lwc i bawb sydd yn cymryd rhan!"
Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Mae Hansh yn blatfform sydd wedi ysgogi creadigrwydd ers y cychwyn cyntaf, a beth bynnag eich lefel o brofiad neu'r dechnoleg sydd o fewn eich cyrraedd, rydym yn annog cynhyrchwyr ffilmiau Cymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
"Er gwaethaf cyfyngiadau'r cyfnod clo, rydym yn edrych ymlaen i weld sut all yr amgylchiadau unigryw yma sbarduno dychymyg a syniadau cyffrous ymysg ein cynhyrchwyr ffilmiau."
I gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i www.herffilmfer.cymru. Dilynwch gyfrifon Hansh ar Instagram, Facebook a Twitter am ragor o fanylion am y gystadleuaeth.
20 Mai 2020 - Eisteddfod T yn fyw ar y brif sgrin dros wythnos yr Urdd
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37661/eisteddfod-t-yn-fyw-ar-y-brif-sgrin-dros-wythnos-yr-urdd/
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd holl gyffro Eisteddfod T ar gael i'w wylio yn fyw ar y brif sgrin drwy gydol wythnos yr Urdd, yn hytrach nag ar S4C Clic yn unig.
Daw arlwy'r Eisteddfod yn fyw ar S4C o ddydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, o stiwdio dros dro yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris.
Bydd y cystadlu byw yn dechrau am 1.00 o'r gloch bob prynhawn hyd 3.00, gan ail ymuno yn fyw o 4.00 hyd 6.00. Yna, mi fydd rhaglen uchafbwyntiau dyddiol am 8.00, gan ddod â'r ŵyl i ben gyda rhaglen uchafbwyntiau'r wythnos nos Sadwrn, 30 Mai am 8.00.
Wrth edrych ymlaen at yr wythnos o gystadlu, mi fydd rhaglen ragflas o'r ŵyl ymlaen nos Sadwrn, 23 Mai am 7.30.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Y cynllun gwreiddiol oedd darlledu Eisteddfod T yn fyw ar ein llwyfannau digidol yn ystod y dydd. Ond mae safon, swmp ac amrywiaeth y clipiau wedi ein syfrdanu cymaint, rydym bellach wedi penderfynu ei ddarlledu ar y brif sianel.
"Er gwaetha'r siom o golli wythnos Eisteddfod yr Urdd ar ei ffurf draddodiadol, rwy'n ffyddiog bydd Eisteddfod T yn gallu camu i'r adwy a chreu digwyddiad unigryw, cyffrous ac arloesol."
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Dwi'n hynod falch bod S4C wedi penderfynu darlledu holl gyffro Eisteddfod T ar y brif sgrin. Mae'r ymateb i Eisteddfod T wedi bod yn wych, gyda dros 4,000 wedi ymgeisio ar yr amrywiaeth o gystadlaethau.
"Ma'i am fod yn flwyddyn wahanol iawn eleni heb yr Eisteddfod. Ond gyda'r bartneriaeth gyffrous rhwng S4C a'r Urdd, ni fydd y gwylwyr adre' yn colli'r cyfle i fwynhau arlwy Eisteddfodol yr Urdd 2020!"
Dywedodd Emyr Afan, Uwch Gynhyrchydd Eisteddfod T o gwmni cynhyrchu Avanti: "Mae'r ymateb gan filoedd o blant a phobl ifanc Cymru yn cadarnhau i mi fod ein gweledigaeth ar gyfer Eisteddfod T wedi cydio yn nychymyg y to iau. Mae'n argoeli am wythnos dda iawn o gystadlu a darlledu arloesol."
Noddir darllediadau Eisteddfod T ar S4C gan Ganolfan Peniarth a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
19 Mai 2020 - Cyhoeddi’r lleoliadau gwaith a hyfforddiant cyntaf ar gyfer rhaglen ddatblygu Cynllun Carlam Ffeithiol
Ar ôl proses recriwtio hynod gystadleuol, mae chwech o gynhyrchwyr mwyaf dawnus Cymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o'r rhaglen ddatblygu uchelgeisiol ac arloesol yma.
Mae pecyn y Cynllun Carlam yn cynnwys lleoliadau gwaith darlledu a chynhyrchu gyda thâl, hyfforddiant pwrpasol, a mentora gan gomisiynwyr a chydweithwyr. Mae'r rhaglen yn ymateb i angen a nodwyd gan gwmnïau annibynnol a darlledwyr i fuddsoddi er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol ffeithiol yng Nghymru.
Er mwyn helpu i ddatblygu gweithlu dwyieithog, mae dau o'r chwe lle wedi'u neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Er gwaethaf effaith Covid-19 ar waith cynhyrchu, mae cyllidwyr a phwyllgor llywio'r Cynllun Carlam wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen ddatblygu, ac i wneud popeth posib i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas ar gyfer y cynhyrchwyr llwyddiannus.
Bydd y pecyn hyfforddi ar gael ar-lein, gan ddechrau mis yma gyda chyrsiau ar adrodd stori, rheoli ac arwain y gwaith o ysgrifennu sylwebaeth, datblygu a chynnig syniadau, negodi a dylanwadu, a mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu.
Dyma ymgeiswyr llwyddiannus y Cynllun Carlam: Gwenllian Hughes, Laura Martin Robinson, Carrie Smith, Eve White, Tammy Kennedy a Luke Pavey.
Roedd y panel dethol yn cynnwys comisiynwyr o bob darlledwr sy'n ariannu'r cynllun (BBC Wales Cymru, Channel Four ac S4C), a chafodd 22 o gynhyrchwyr eu gwahodd am gyfweliad.Cafodd y broses recriwtio ei chwblhau dair wythnos cyn dechrau'r cyfnod o gyfyngiadau symud, gyda sgyrsiau cynnar am leoliadau gwaith cynhyrchu yn cael eu cynnal wythnos cyn i'r canllawiau ar ymbellau cymdeithasol gael eu cyflwyno.
Dywed Hannah Corneck, Cyfarwyddwr Rhaglen y Cynllun Carlam Ffeithiol: "Yn y cyfnod anodd yma, mae hi'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cefnogi ein gweithwyr llawrydd. Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar y maes cynhyrchu teledu ar draws y DU, ac mae'n hanfodol ein bod yn helpu cynhyrchwyr i ymdopi ag ansefydlogrwydd fel gweithwyr llawrydd, mewn cyfnod o ansicrwydd nad ydym wedi gweld ei debyg o'r blaen."
I sicrhau bod y Cynllun Carlam Ffeithiol yn cael cymaint o effaith â phosib, mae darpariaeth hyfforddiant y rhaglen ddatblygu wedi cael ei hehangu i bob ymgeisydd a oedd ar y rhestr fer i gael cyfweliad. Nid yw'r penderfyniad hwn yn arwain at gostau ychwanegol, ac mae'n ehangu ffiniau'r rhaglen i gynnig budd i 16 o gynhyrchwyr llawrydd ychwanegol yng Nghymru.
Wrth sicrhau lleoliadau gwaith y Cynllun Carlam yn yr hinsawdd bresennol, mae gofyn cael cydbwysedd rhwng y gofynion i ymbellhau cymdeithasol yn gyfrifol, ac anghenion busnes a'r diwydiant. Mae Cardiff Productions yn gwmni newydd yng Nghaerdydd sydd yn cynhyrchu rhaglenni ffeithiol a digidol dan arweinyddiaeth Narinder Minhas a Pat Younge oedd gynt yn Sugar Films. Mae'r cwmni wedi recriwtio Tammy Kennedy o'r Cynllun Carlam fel eu gweithredwr datblygu.
Dywed Pat Younge, Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff Productions: "Mae'r Cynllun Carlam Ffeithiol yn ffordd wych o helpu i ddatblygu gyrfa y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol yng Nghymru. Mae'n wych cael rhywun mor brofiadol â Tammy yn ymuno â ni fel gweithredwr datblygu, a'n bod ni'n gallu ei helpu hi i ddatblygu, yn ogystal â dysgu ganddi hi ar yr un pryd."
Tammy Kennedy, gweithredwr datblygu a oedd yn rhan o'r Cynllun Carlam: "Bydd cael arweiniad gan fentoriaid y'n arbenigwyr yn y maes, yn enwedig yn ystod y cyfnod cythryblus yma, yn amhrisiadwy wrth fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa ym myd datblygu. Yn sgil fy lleoliad gwaith rwy'n cael cyfle i gwrdd â chomisiynwyr rhwydweithiau – yr oeddwn i'n arfer meddwl a oedd y tu hwnt i'm cyrraedd – ac i drafod fy syniadau â nhw.
"Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth ar gyfer fy syniadau, ac yn cael help i'w siapio'n becynnau sy'n fwy parod i gael eu comisiynu. Mae'n teimlo fel cynllun cyffrous iawn i fod yn rhan ohono. Mae wedi cael ei gynllunio'n dda, ac mae'n rhoi llawer o foddhad. Mae'n gwbl benodol i fy anghenion a, hyd yma, yn rhagori ar fy nisgwyliadau."
Mae gan Gymru enw rhagorol yn barod am gynhyrchu cynnwys ffeithiol – gan gynnwys rhaglenni fel Sun, Sea and Brides to Be, Bargain Hunt, The Ganges with Sue Perkins, The 1900 Island, The One Show, Cynefin a Drych. Mae darlledwyr yn awyddus i gyflymu twf y sector, ac i sicrhau bod gan Gymru y doniau i fodloni'r galw cynyddol am sgiliau o'r radd flaenaf, ac i weithio gyda'r ddwy iaith genedlaethol.
18 Mai 2020 - S4C yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2020 gyda rhaglenni ac eitemau arbennig
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2020, bydd S4C a Hansh yn darlledu cyfres o eitemau a rhaglenni arbennig yn rhoi sylw i’r problemau iechyd meddwl sy’n effeithio’r genedl.
Rhwng dydd Llun 18 Mai a dydd Sul 24 Mai eleni, bydd platfformau’r sianel yn codi ymwybyddiaeth o’r pynciau amrywiol sy’n peri pryder i bobl, gan rannu profiadau unigolion a chynnig cymorth am sut i ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl.
Drwy gydol yr wythnos, bydd cyfresi Prynhawn Da a Heno yn dangos sawl eitem sy’n ymdrin â’r pwnc iechyd meddwl. Ar Prynhawn Da, i’w weld am 2.00 o ddydd Llun i dydd Gwener, bydd eitemau yn trafod sut mae pobl yn galaru, yn cynnig cyngor ar sut i ymdopi gyda straen ac yn rhannu ymarferion anadlu a myfyrio effeithiol.
Bydd Heno, sydd ymlaen am 6.30 ar nos Lun, Mercher a Gwener a 7.00 ar nos Fawrth a Iau, yn siarad gyda sawl person sy’n cyfrannu i flog y gwefan meddwl.org ac yn trafod sut all ymarfer corff a bwyta’n iach helpu.
Bydd y gyfres Ffermio, sydd ymlaen ar nos Lun am 9.00, yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i unigolion sy’n dioddef o unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl ac yn siarad gydag un o sylfaenwyr elusen iechyd meddwl sydd yn cynnig cymorth penodol i’r gymuned amaethyddol.
Bydd FFIT Cymru, y gyfres sydd yn trawsnewid iechyd a lles meddyliol pum arweinydd, yn parhau am 9.00 ar nos Fawrth, ac mae sesiynau iechyd meddwl gan seicolegydd y gyfres, Dr Ioan Rees, hefyd i’w weld ar gyfrifon Facebook, Twitter a Youtube FFIT Cymru.
Ar nos Fercher am 8.00, bydd Y Byd ar Bedwar yn edrych ar y ffaith fod pobl yn ei gweld hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo, yn sgil y pandemig COVID-19. Cawn glywed stori Joe Williams o Bontypridd, sydd yn byw gyda’r cyflwr bipolar, sydd yn pryderu bod ei chyflwr wedi dirywio yn ystod y cyfnod oherwydd bod y lefel cymorth gan y gwasanaeth iechyd wedi gostwng yn sylweddol
Yn hwyrach ymlaen yr un noson, am 9.30, bydd y rhaglen Ken Hughes: Yn Cadw Ni Fynd yn dilyn profiadau’r cyn prif athro wrth iddo hunan ynysu adref ar ben ei hun. Bydd Ken yn galw ar ffrindiau a theulu agos i'w helpu dros y we wrth iddo gadw'n positif, codi hwyl, a dysgu ambell i sgil newydd.
Drwy gydol yr wythnos bydd Hansh yn ymdrin ag amryw o bynciau yn ymwneud ac iechyd meddwl, gan gynnwys gor bryder, meddwlgarwch, bod yn sobor, cynnwys ar nwyoleuo, neu ‘gaslighting’, a sut mae’r bilsen atal-genhedlu yn gallu effeithio ar iechyd meddwl. Yn ogystal â hynny, bydd Elen Gwen Williams yn sôn am Iechyd Meddwl i ffermwyr yn y fideo #MeddwlMercher ac mi fydd podlediad yn cael ei gyhoeddi sy’n trafod galar.
Yn ystod yr wythnos ar Stwnsh, bydd Mali Hughes yn annog plant i drio symudiad ioga a rhannu eu fideos drwy dudalen Fideo Fi ar wefan Stwnsh, www.s4c.cymru/cy/stwnsh/fideo-fi/. Ac ar Cyw, Can Teimladau fydd Cân yr Wythnos, ac mi fydd y Shwshaswyn, cyfres meddwlgarwch sy’n annog plant i gymryd amser i ymdawelu, yn cael ei ddangos ar fore Mercher a Gwener.
Bydd detholiad eang o gynnwys, gan gynnig gwybodaeth, straeon cyfoes a lleisiau'r gwylwyr yn ystod y cyfnod COVID-19 hefyd ar gael ar sianel Yma i Chi, ar S4C Clic. Yn ogystal â’r rhaglenni newyddion a materion cyfoes diweddaraf, mae’r sianel yn gartref i rai o glasuron o’r archif a detholiad o ffilmiau byrion sy’n cynnig cymorth a chyngor yn ystod y pandemig.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Fel sianel genedlaethol, mae’n bwysig iawn fod S4C yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a rhannu profiadau unigolion ar sut maen nhw wedi byw ac ymdopi gyda’u phroblemau.
"Wrth i ni fyw o ddydd i ddydd mewn amgylchiadau anarferol, mae pawb dan fwy o straen nag arfer ac mae mwy o bwyslais nag erioed ar fod yn garedig ac edrych ar ôl ein gilydd. Rwy’n gobeithio fod y rhaglenni ry’n ni’n dangos yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cynnig cymorth, cysur a chefnogaeth i’n gwylwyr."
28 Ebrill 2020 - S4C yn cynnig gofod hysbysebu i gefnogi ymdrechion Covid
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37295/s4c-yn-cynnig-gofod-hysbysebu-i-gefnogi-ymdrechion-covid/
Er mwyn cefnogi'r elusennau a'r cwmnïau sy'n gwneud gwaith arwrol yn ystod argyfwng Covid, mae S4C yn bwriadu rhannu newyddion am ei ymdrechion ar y sianel.
Mae S4C yn cynnig gofod hysbysebu yn rhad ac am ddim i elusennau sydd wedi eu lleoli, neu'n gweithredu ar lefel Cymreig ac yn cynnig cymorth i bobl yn ystod yr argyfwng.
Mae hefyd yn cynnig cyfraddau gostyngedig i gwmnïau yng Nghymru er mwyn hyrwyddo eu hymdrechion Covid.
Ac er mwyn annog hysbysebu yn y Gymraeg mae'r sianel wedi penderfynu ymestyn ei gymhorthdal ar gyfer hysbysebion Cymraeg i'r cynllun.
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, "Fel darlledwr cyhoeddus ni am ddangos ein cefnogaeth i'r elusennau a'r cwmnïau hynny sydd yn cynorthwyo pobl yn ystod y dyddiadau helbulus hyn.
"Felly gyda'n hasiant gwerthiant, Sky Media, rydym wedi penderfynu gwneud 10% o'n munudau hysbysebu dyddiol ar gael er mwyn tynnu sylw at y gwaith pwysig mae'r elusennau a chwmnïau yma'n ei wneud."
Dywedodd Huw Potter o SkyMedia "Gyda chymaint o amser bellach yn cael ei dreulio yn y cartref, mae gwylio'r teledu yn cynyddu ac mae'n chwarae rôl allweddol o ran rhoi gwybodaeth a diddanwch i bawb.
"Rydyn ni'n falch o gefnogi'r fenter hon sy'n gallu hyrwyddo elusennau a chwmnïau sy'n helpu gyda'r ymdrech Covid.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "Mae elusennau ar draws Cymru yn gwneud llawer iawn i gefnogi'r sawl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac mae ganddynt rôl hanfodol i chwarae yn ystod argyfwng y coronafeirws.
"Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae'n bwysig i bobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith hanfodol drwy ein darlledwyr cenedlaethol ac mae croeso mawr i'r gefnogaeth gan S4C."
Am fanylion pellach ar sut mae manteision ar y cynnig bydd angen cysylltu â Huw Potter neu Dylan Jones o Sky Media, sef asiant hysbysebu S4C.
Byddant hefyd yn gallu cynorthwyo gyda'r trefniadau ar gyfer cynhyrchu hysbysebion neu gyda mynediad at gronfa cynhyrchu hysbysebion Cymraeg S4C.
24 Ebrill 2020 - S4C yn darlledu drama wedi ei ffilmio yn ystod cyfnod Covid
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37264/s4c-ar-y-blaen-wrth-ddarlledu-drama-cyfnod-covid/
Mewn cyfnod rhyfedd a digynsail, ble mae'n cynlluniau'n cael eu gohirio a'r unig ffordd o gysylltu â'r byd y tu allan yw trwy dechnoleg, mae drama gyfredol newydd a chyffrous ar fin bwrw'r sgrin.
Drama hollol gyfoes yw Cyswllt, sy'n rhoi cipolwg ar fywyd yn ystod pandemig gan ddangos effaith cael ein cloi i mewn ar unigolion a theuluoedd. Mewn cam arloesol, caiff y gyfres dair rhan gyfan ei ffilmio ar liniaduron a ffonau symudol.
Gyda'r bennod gyntaf yn darlledu nos Fercher am 9.30 ar S4C, Cyswllt fydd y gyfres ddrama gyntaf o'i fath i gael ei chomisiynu, ei saethu a'i darlledu ym Mhrydain yn ystod y cyfnod hunan-ynysu.
Golyga hyn bod rheolau llym ynghlwm a'r ffilmio, ac y bydd Cyswllt yn adlewyrchu'r newidiadau i'n bywydau ni i gyd wrth i deimladau anghyfarwydd ac ofnau lywio ein perthnasau a'n hymddygiad. Mae'r gyfres yn plethu straeon gan deulu a ffrindiau dros y dair wythnos, gan ddod â thensiwn, teyrngarwch sy'n cael ei hollti ac ambell syrpreis.
Vox Pictures sy'n gyfrifol am Cyswllt, y cwmni sydd hefyd yn cynhyrchu Un Bore Mercher / Keeping Faith. Bydd gwylwyr yn siwr o sylwi fod y ddau gynhyrchiad yn rhannu sawl aelod cast gan gynnwys; Mark Lewis Jones, Suzanne Packer, Hannah Daniel, Catherine Ayers ac Aneirin Hughes. Dyma'r tro cyntaf i seren y sgrin, Suzanne Packer, chwarae rhan yn yr iaith Gymraeg.
Cymharodd Mark Lewis Jones y broses ffilmio â Mission Impossible.
"Bydd rhywun yn dod a bocs i stepen fy nrws, wedi'i ddiheintio, gyda'r holl offer sydd ei angen arnom i ffilmio â chyfarwyddiadau. Rwy'n teimlo fel bod raid i mi ei agor yn gyflym, cyn iddo ffrwydro!.
"Mae'n ddydd Iau heddiw, nid wyf wedi ffilmio fy rhan i eto ac mae'r bennod gyntaf yn darlledu dydd Mercher. Dyna pa mor gyflym mae'r cyfan yn digwydd. Mae'n wych bod yn rhan o rywbeth mor bositif a chreadigol i ddod allan o'r argyfwng yma.
"O ran dysgu'r sgript a dod i adnabod fy nghymeriad, Daf, mae'r paratoi wedi bod yn normal. Yr hyn sy'n wirioneddol wahanol yw fy mod i yn ffilmio ar fy mhen fy hun, yn fy ystafell wely yng Nghaerdydd. Mae'r cyfan wedi'i ffilmio ar ffôn gyda'r Cyfarwyddwr, Pip Broughton, a Hannah Daniels, sy'n chwarae fy merch Ffion yn gwylio ar Zoom trwy liniadur.
Mae'r actores Catherine Ayers yn cytuno bod y broses ffilmio yn swreal: "Rwy mor falch fy mod wedi cymryd sylw o popeth mae'r criw cynhyrchu yn ei wneud ar set dros y blynyddoedd. Rydyn ni'n cael y bocs 'ma gyda gliniadur, ffôn, weips anti-bac, bwrdd clapio a dyna ni! O'r fan honno, ni sy'n gyfrifol am bopeth, gan gynnwys beth mae'r shot yn edrych fel!"
"Fi'n ffodus gall fy ngŵr helpu os oes angen gan ei fod yn gweithio yn y diwydiant, ond mae gennym dri o blant gartref hefyd felly gallai fod yn ddiddorol. Gan nad ydym yn gwybod pa mor hir y bydd y sefyllfa hon yn para, mae'n braf gallu dal ati a gweithio."
"Mae fy nghymeriad i, Sian, yn dioddef o gancr. Gan fod ei gŵr yn rhedeg busnes ac yn dal i orfod dod i gysylltiad â phobl, mae e wedi symud allan i babell yn yr ardd er mwyn ei hamddiffyn. Gobeithio bydd y ddrama yn taro tant gyda'r gwylwyr, yn enwedig y rhai sy'n hunan-ynysu ar eu pennau eu hunain. Mae'n neis meddwl gall y gyfres gynnig rhywfaint o gysur a chwmni iddyn nhw."
Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio dros dair wythnos, gyda'r sgript ar gyfer pob pennod yn cael ei gwblhau ychydig ddyddiau cyn darlledu, fel ei bod yn adlewyrchu bywyd fel mae'n digwydd.
Dywed Hannah Daniel sy'n chwarae rhan Ffion, sy'n nyrs ar y rheng flaen: "Roedd yr awdur, Pip, eisiau dangos sut mae'r profiad hwn yn gallu newid pobl, eu perthynas a dangos fel mae'n gallu dod â phobl at eu gilydd yn ogystal â chreu pellter.
"Does dim drama tebyg wedi'i ddarlledu o'r blaen. Mae'n wych bod yn rhan o rhywbeth sy'n cael ei wneud am y tro cyntaf a fod pawb yn y cynhyrchiad yn dod at eu gilydd i chwarae rhannau gwahanol i'r arfer. Mae mor newydd ac arbrofol, does neb wir yn gwybod sut mae am droi allan, hyd yn oed ni. Byddai'n bendant yn gwylio ddydd Mercher. Ond, rwy' newydd sylweddoli mai fy nhŷ i yw'r set, a chan fod yr olygfa gyntaf yn fy nghegin, well i mi lanhau mae'n debyg!".
Bydd Cyswllt yn defnyddio'r un dechnoleg sy'n ein cadw ni i gyd mewn cysylltiad â'n gilydd wrth hunan-ynysu i adlewyrchu'r newidiadau sy'n digwydd yn ein bywydau, ar y pryd.
23 Ebrill 2020 - Cyfle i fwynhau gemau cofiadwy o archif chwaraeon S4C
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37245/cyfle-i-fwynhau-gemau-cofiadwy-o-archif-chwaraeon-s4c/
Bydd S4C yn dychwelyd i'r archif i roi cyfle arall i wylwyr fwynhau sawl achlysur gofiadwy yn hanes chwaraeon Cymru.
Wrth i'r pandemig COVID-19 orfodi gwaharddiad i'r tymor chwaraeon am y tro, bydd y sianel genedlaethol yn llenwi'r bwlch chwaraeon gydag ail-ddarllediadau o gemau rygbi a phêl-droed, rhaglenni dogfen chwaraeon a chyfresi sy'n edrych ar y datblygiadau diweddaraf ym myd y campau.
Bydd detholiad o gemau cofiadwy y tîm rygbi cenedlaethol a'r tîm Dan 20 i'w weld yn y gyfres Dyddiau Da. Bydd y gyfres yn canolbwyntio ar gemau o dair gystadleuaeth wahanol:
- Y Pump a'r Chwe Gwlad - Pedwar rhaglen, yn cychwyn ar nos Wener 8 Mai am 9.00, sy'n edrych yn ôl dros Loegr v Cymru 1988, Cymru v Ffrainc 1994, Cymru v Lloegr 2005 a Chymru v Lloegr 2013, yng nghwmni rhai o'r sêr a chwaraeodd yn y gemau.
- Cwpan Rygbi'r Byd - Dwy raglen yn bwrw golwg dros bedwar gêm glasur; Cymru v Seland Newydd 2003 a Chymru v Ffrainc 2011, Cymru v Lloegr 2015 a Chymru v Awstralia 2019.
- Pencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan 20 – Yn cychwyn ar nos Lun 4 Mai am 10.00, golwg dros chwe gêm gofiadwy i dîm Cymru, o'r gystadleuaeth gyntaf yn 2008 i'r un ddiweddaraf y llynedd, gan gynnwys buddugoliaeth Cymru dros Seland Newydd yn 2012.
Beth sy'n mynd ymlaen yn y byd rygbi yn ystod y pandemig? A sut mae chwaraewyr a chefnogwyr yn cadw eu hunain yn brysur yn ystod y cyfnod clo?
Yn y Tŷ Rygbi, sy'n cychwyn ar nos Lun 27 Ebrill am 9.30, bydd Rhys ap William yn sgwrsio gyda sawl enw mawr yn y byd rygbi, gan gynnwys Mike Phillips, Shane Williams a Sioned Harries, i gael eu barn ar y newyddion diweddaraf ac i glywed rhai o'u hanesion lliwgar nhw. Bydd digon o eitemau ysgafn hefyd i ddiddanu'r gymuned rygbi.
Bydd Clasuron Cwpan Ewrop, sy'n cychwyn ar nos Sadwrn 30 Mai, yn edrych dros rhai o glasuron rhanbarthau Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Heineken Ewrop - Toulouse v Scarlets 2006, Gleision Caerdydd v Caerlŷr 2009 a Gleision Caerdydd v Toulon 2010.
Mae'r Clasur Rygbi Bermuda yn gystadleuaeth chwedlonol ble mae cyn chwaraewyr proffesiynol yn mynd benben âi gilydd ar yr ynys yn y Caribî.
Bydd Clasuron Bermuda, sy'n cychwyn ar nos Fercher 8 Mehefin am 9.30, yn dangos uchafbwyntiau o'r gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymysg y Cymry i gynrychioli tîm y Llewod yn y gystadleuaeth, mae Dafydd James, Chris Wyatt, Shane Williams a Ceri Sweeney, ac yn y gyfres hon, cawn weld sut maen nhw'n cymharu gyda chwaraewyr o saith gwlad arall.
Ymysg y rhaglenni dogfen unigol sy'n cael eu dangos dros y misoedd nesaf, mae:
Y Gamp Lawn 2019 - cyfle i fwynhau ymgyrch hynod lwyddiannus tîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019;
Cofio Dydd y Farn – Dydd Gwener 1 Mai am 9.00 - rhaglen sy'n dangos y gorau o Dydd y Farn dros y blynyddoedd, o safbwynt pob un o ranbarthau rygbi Cymru;
Syr Gareth Edwards – Dydd Gwener 5 Mehefin am 9.00 - golwg arall dros yrfa'r mewnwr athrylithgar, a;
Clasuron y Clybiau – Dydd Sadwrn 23 Mai am 9.00 - rhaglen sy'n ail-ddangos atgofion arbennig o gemau rownd terfynol y cwpanau cenedlaethol, y Gwpan, Y Plât a'r Bowlen. Bydd cyfle i gefnogwyr tîm cenedlaethol Cymru i hel atgofion melys o'r ddwy flynedd diwethaf wrth i Sgorio Rhyngwladol ddangos detholiad o gemau mwyaf cofiadwy'r cyfnod yn eu cyfarwydd.
Cychwynnodd y gyfres gyda Chymru v Gweriniaeth Iwerddon 2018, sydd ar gael i'w wylio nawr ar S4C Clic.
O nos Sadwrn 25 Ebrill ymlaen am 5.30, mi fydd y gyfres yn parhau gyda ail-ddangosiadau o: Slofacia v Cymru 2019, Cymru v Croatia 2019, Azerbaijan v Cymru 2019 a Chymru v Hwngari 2019.
Bydd Sgorio hefyd yn dangos Clasuron Uwch Gynghrair Cymru, cyfres o gemau cofiadwy o'r gynghrair a Chwpan Cymru.
Bydd y gyfres, sy'n dechrau ar ddydd Sul 10 Mai, yn cynnwys Bangor v Y Seintiau Newydd 2010, Caernarfon v Y Seintiau Newydd 2014 ac Y Bala v Y Seintiau Newydd 2017.
Bydd Geraint Thomas: Vive le Tour, yn rhoi cyfle i wylwyr fwynhau'r stori tu ôl i lwyddiant bythgofiadwy'r Cymro yn y ras feics Tour de France yn 2018, am 9.00 ar nos Wener 24 Ebrill.
Bydd cefnogwyr pêl-rwyd hefyd yn gallu mwynhau uchafbwyntiau o gemau tîm Cymru yng nghyfres yr haf 2019, yn Pêl-Rwyd: Uchafbwyntiau Cyfres Cymru 2019, ar nos Fercher 20 Mai.
21 Ebrill 2020 - S4C yn cyhoeddi degau o gomisiynau newydd dros gyfnod COVID-19
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37140/s4c-yn-cyhoeddi-degau-o-gomisiynau-newydd/
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw bwriad i gomisiynu degau o raglenni unigol a chyfresi newydd gwerth sawl miliwn i'w darlledu cyn diwedd mis Gorffennaf.
Yn ystod cyfarfod gyda'r sector ar 8 Ebrill, cyhoeddodd S4C becyn i'r sector gynhyrchu ar gyfer rownd gomisiynu frys.
Gan edrych yn benodol am syniadau yn codi o'r sefyllfa bresennol, roedd S4C yn chwilio am raglenni dogfen a oedd yn dibynnu ar fynediad, a rhaglenni a chomedïau i godi ysbryd gwylwyr yn ystod argyfwng Covid-19.
Daeth dros gant o syniadau i law oddi wrth gwmnïau cynhyrchu led led Cymru. Nawr mae S4C yn falch o gadarnhau y comisiynau sydd wedi bod yn llwyddiannus.
Un o'r rheiny yw rhaglen Syrjeri Amlwch gan gwmni cynhyrchu Darlun fydd yn dilyn cleifion meddygon a staff canolfan iechyd Amlwch.
Y ganolfan hon fydd prif hwb achosion coronafeirws y Gogledd Orllewin a bydd y rhaglen bry ar y wal yma yn dangos sut mae'r syrjeri a'r gymuned leol yn ymdopi gyda sefyllfa Covid -19.
Bydd y cyfan yn cael ei ffilmio mewn dull diogel a'r rig camerâu wedi ei gosod yn y feddygfa ers cyn cyfnod y lockdown er mwyn sicrhau proses o saethu saff.
Rhaglen arall sydd wedi derbyn comisiwn yw Priodas Dan Glo gan gwmni gynhyrchu Boom Cymru.
Wrth i briodasau led led y wlad gael eu gohirio, o dan brand Priodas Pum Mil byddwn yn dilyn ac yn cynnal priodas wahanol iawn i un cwpwl arbennig sy'n ysu i briodi ers tro byd.
Bydd Trystan ac Emma yn helpu i drefnu priodas yn llawn sypreisys gyda chymorth nifer o selebs adnabyddus a llwythi o westeion yn ymddangos ar sgrin.
Comisiwn arall fydd drama CYSWLLT (mewn Covid) gan Vox Pictures sydd hefyd yn cynhyrchu Un Bore Mercher/ Keeping Faith.
Bydd y ddrama dair rhan hon yn adlewyrchu bywyd yn ystod cyfnod 'lockdown' dros dair wythnos ac yn trafod unigedd a gobaith y cyfnod rhyfedd hwn a hynny wrth i bob cenhedlaeth gael eu heffeithio.
Bydd y ffilmio yn digwydd yn bennaf yn nhai yr actorion ar liniaduron a ffonau symudol, ond hefyd gyda deunydd ychwanegol ar gamera.
Mae'r comisiynau eraill yn cynnwys, Babis Covid fydd yn dogfennu cyfnod hapus ond anodd wrth i deuluoedd fethu dod ynghyd i ddathlu, Ffarwelio yn dilyn teulu o ymgymerwyr angladdau, Ffermwyr Ifanc yn Cicio'r Corona yn edrych ar rai o gynlluniau Mudiad y Ffermwyr Ifanc i ymdopi, Natur a Ni sef rhaglen gylchgrawn naturiaethol wedi ei hangori mewn gardd a Tŷ Bach Mawr fydd yn edrych ar greu pob math o adeiladau bach trawiadol yn ein gardd gefn.
Yn ychwanegol mae cynlluniau ar waith gyda chymeriadau Pobol y Cwm, Goreuon Priodas Pum Mil, Goreuon Gwesty Aduniad ac Ysgol Ni Maesincla: Diwedd Tymor er mwyn sicrhau bod nhw'n parhau i ymddangos ar y sianel.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae wedi bod yn her sylweddol i gadw amserlen llawn wrth i gyfresi a digwyddiadau sy'n gonglfeini i'r amserlen fethu cyfleu yn ystod y cyfnod yma am resymau amlwg.
"Mae colli oriau o sebon, drama, chwaraeon a digwyddiadau wedi gadael tyllau yn yr amserlen i'w llenwi. Nawr bydd gwylwyr yn medru mwynhau amrywiaeth eang o raglenni fydd yn ymateb i sefyllfa'r coronafeirws.
"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'r cwmnïau cynhyrchu ddangos dyfeisgarwch aruthrol wrth ymateb i'n galwad, gan fwrw ati i droi syniadau creadigol yn gynnwys perthnasol a safonol, a hynny o fewn amserlen eithriadol o dynn."
20 Ebrill 2020 - Sgil Alexa arloesol yn gam cyffrous i’r Gymraeg
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37126/sgl-alexa-arloesol-yn-gam-cyffrous-ir-gymraeg-/
Gyda o leiaf un mewn pump o gartrefi Prydain yn defnyddio seinydd clyfar (smart speakers), mae'n dechnoleg sy'n rhan o fywyd dyddiol mwy a mwy ohonom.
Mae S4C yn falch felly, o lansio sgíl newydd o'r enw Welsh Language Podcasts sy'n caniatáu i ddefnyddwyr Alexa chwilio am gynnwys penodol trwy siarad Cymraeg.
"Fel mae'r enw yn awgrymu, casgliad o bodlediadau Cymraeg eu hiaith yw Welsh Language Podcasts. Ond, y peth mwya arbennig yw, unwaith mae'r sgíl ar agor, gallwch bori trwy'r cynnwys trwy sgwrsio hefo Alexa yn Gymraeg" meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C.
"Dyma'r tro cyntaf erioed i dechnoleg o'r fath gael ei ddatblygu ar system Alexa, felly mae'n rhywbeth mae S4C, Mobilise Cloud Services - sef y cwmni o Abertawe a wnaeth ddatblygu'r technoleg ac Y Pod - sy'n darparu'r cynnwys, yn falch iawn ohono.
"Mae'r sgíl arloesol yma ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd gyda dyfais Alexa, fel Echo neu Dot. Mae'n gweithio mewn ffordd tebyg i Ap, felly yr oll sydd angen gwneud i'w ddefnyddio yw gosod y sgíl ar eich dyfais."
"Ar ôl misoedd o gynllunio a threialu mae'n wych gweld Welsh Language Podcasts yn fyw" meddai James Carnie o'r cwmni Mobilise.
"Cawsom ambell her wrth geisio gwneud yn siŵr bod Alexa yn deall gorchmynion Cymraeg, ond mae'r holl waith wedi talu ar ei ganfed nawr fod Amazon wedi cymeradwyo Welsh Language Podcasts.
"Er nad yw Cymraeg yn cael ei chefnogi'n swyddogol gan Alexa, rydym wedi gweithio gydag Amazon i gael ein datblygiad i weithio y tu mewn i'r sgil newydd benodol hon. Credwn na wnaed hyn erioed o'r blaen, felly diolch i Amazon am ein cefnogi.
"Gobeithio bydd pobl yn defnyddio'r sgíl i ddangos fod galw am wasanaethau pellach o'r fath ar Alexa. Mae'n gyffrous meddwl gall hyn sbarduno mwy o ddatblygiadau technoleg llais yn y Gymraeg" ychwanegodd James.
"Buodd fy mab a merch sydd yn eu harddegau yn helpu gyda'r profi – dydyn nhw methu aros i'w ffrindiau gael tro. Gan fod fy ngwraig a fy mhlant i gyd yn siarad Cymraeg yn rhugl, mae'r sgwrs gartref yn Saeneg yn aml er fy mudd i. Ond bydd hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud gyda'n gilydd, yn Gymraeg, gan ei fod yn ffordd wych i mi ddysgu ac ymarfer."
Gwasanaeth sy'n tynnu podlediadau Cymraeg at ei gilydd mewn un lle yw Y Pod. Gyda dros 70 o bodlediadau, mae rhywbeth at ddant pawb.
Dywed Aled Jones o Y Pod "Gyda mwy ohonom yn chwilio am bethau i'n difyru wrth aros gartref, mae Ffit Cymru a Clic o'r Archif yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, yn ogystal â Phodlediadau sy'n helpu dysgwyr fel Gair Cymraeg y Dydd a Pigion (Highlights for Welsh learners).
"Mae podlediadau cerddoriaeth, chwaraeon, materion cyfoes, comedi a mwy wedi eu casglu ar Y Pod. Gallwch chwilio fesul categori, neu ofyn i Alexa ddewis rhywbeth drosoch chi os ydych chi'n teimlo'n lwcus."
Mae datblygiad o'r fath yn amserol iawn, gan fod disgwyl y bydd cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy'n defnyddio technoleg llais oherwydd y coronafeirws. Mae dyfais o'r fath yn cael ei gweld fel rhywbeth sy'n llawer mwy hylaw na dyfais sydd angen ei gyffwrdd.
"Os oes gennych ddyfais Echo neu Dot, dyma gyfle gwych i fod yn rhan o rhywbeth arbennig a siarad Cymraeg gyda Alexa. Gallwch hyd yn oed ei wneud drwy ap Alexa ar eich ffôn clyfar. Ma'n swreal!
"Rhowch gynnig arni, archwiliwch y cynnwys gwych sydd ar gael a gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael sêr neu adolygiad" meddai Aled.
Mae Welsh Language Podcasts ar gael yn https://www.amazon.co.uk/dp/B0876JFYX8/.
Am ragor o wybodaeth ewch i http://ypod.cymru/alexa
Gallwch ddod o hyd i bodlediadau S4C ar http://s4c.cymru/podlediadau
9 Ebrill 2020 - Lle hoffech chi fod? S4C yn lansio cefndiroedd Zoom
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/37029/lle-hoffech-chi-fod-s4c-yn-lansio-cefndiroedd-zoom/
Soffa enwog Priodas Pum Mil, ar set Oci Oci Oci , gyda Gareth yr Orangutan neu'n gorwedd gyda Maggi Noggi yn ei gwely a brecwast glam!
Mae S4C wedi lansio cyfres o gefndiroedd y gall pobl eu defnyddio ar gyfer defnydd cyfarfodydd Zoom.
Gyda phobl o bob oed bellach yn gorfod defnyddio technoleg i gyfathrebu gyda ffrindiau a theuluoedd mae cyfarfodydd dros y we wedi dod yn rhywbeth cyfarwydd iawn i lawer.
Nawr, mae S4C yn rhoi'r cyfle i chi guddio llanast y tŷ gyda un o gefndiroedd adnabyddus y sianel.
Mae digonedd o ddewis gan gynnwys cefndiroedd o raglen Sgorio, soffa felen Heno, Deian a Loli, Hansh, Rownd a Rownd i enwi dim ond ychydig. Gall gwylwyr ddewis ymhlith eu hoff raglenni.
Mae modd lawrlwytho rhain oddi ar safle Facebook S4C neu wefan S4C: http://www.s4c.cymru/cy/zoom/.
9 Ebrill 2020 - Yma i Chi: sianel newydd S4C Clic sy’n cynnig cymorth a chysur
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36964/yma-i-chi-sianel-newydd-s4c-clic-syn-cynnig-cymorth-a-chysur/
Mae sianel newydd wedi ei lansio ar S4C Clic sy'n ymateb i'r argyfwng COVID-19 ac sy'n adlewyrchu'r ffordd mae ein bywydau wedi newid am y tro.
Mae Yma i Chi yn blatfform fydd yn eistedd ymhlith sianeli eraill S4C Clic, megis Walter Presents, Cyw, Hansh a Sianel Dysgwyr, er mwyn cynnig gwybodaeth, straeon cyfoes a lleisiau'r gwylwyr.
Yn ogystal â rhaglenni newydd bydd y rhaglenni y mae gwylwyr S4C wedi gofyn amdanynt fel C'Mon Midffîld a'r bedwaredd a'r bumed cyfres o'r ddrama rygbi hynod boblogaidd Amdani!, ar gael i'w wylio.
Ymhlith y cynnwys sydd yn ecsgliwsif i Yma i Chi, bydd cyfres o ffilmiau byrion o'r enw Bwrw 'Mlaen, sydd yn dilyn amryw o weithwyr allweddol yn ystod diwrnod o waith.
Cawn glywed gan wirfoddolwr sy'n ymdrechu pob dydd i gadw banc bwyd ar agor, gan heddwas yn ystod ei shifft nos a gweithwyr iechyd allweddol o ysbytai Cymru.
Yn I.T a Fi, cawn gyngor gan y genhedlaeth iau ar sut i ddefnyddio technoleg fel Skype, WhatsApp a Facetime i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau tra rydym yn gaeth i'r tŷ.
A thros benwythnos y Pasg, bydd cyfres o chwe rhaglen o'r enw Cymru o'r Awyr, yn rhannu rhai o olygfeydd gorau o fynyddoedd ac arfordir Cymru i ni ei fwynhau heb gorfod symud yr un cam o ddiogelwch ein cartrefi.
Ar Yma i Chi hefyd gellir dod o hyd i gyfresi newyddion a materion cyfoes fydd yn ein diweddaru ar y sefyllfa COVID-19, gan gynnwys: y Newyddion diweddaraf, Y Byd ar Bedwar, Y Byd yn ei Le, Ffermio, Heno, Prynhawn Da a Cadwch yn Ddiogel, cyfres o ffilmiau byr yn cynnwys sawl wyneb cyfarwydd, sy'n pwysleisio'r pwysigrwydd o gadw'n ddiogel rhag y feirws ac aros adref.
Ac wrth i S4C gomisiynu cyfresi a rhaglenni newydd i ddarparu gwasanaeth a chodi gwen dros yr wythnosau nesaf, fe fyddan nhw'n cael eu hychwanegu i'r sianel. Ymysg y cyfresi yma bydd Yr Oedfa, Neges Y Pasg gan Esgob Bangor, FFIT Cymru, Cwpwrdd Epic Chris a Côr Digidol Rhys Meirion.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae COVID-19 wedi effeithio ar bawb yng Nghymru mewn rhyw ffordd, ac fel Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus, mae'n bwysicach nag erioed bod S4C yn medru cynnig gwybodaeth, cysur ac ymdeimlad o gymuned i'n gwylwyr ar y brif sgrin ac ar lein.
"Dros y cyfnod anodd yma 'ry ni am i'n gwylwyr ni wybod y gallen nhw fynd at Yma i Chi ar ein gwasanaeth Clic a chael amrywiaeth o gynnwys cyfredol, difyr a defnyddiol yn ogystal â chlasuron o'r archif. Mae S4C yma i chi yn ystod y cyfnod yma a'r gobaith yw y bydd yn cynnig ychydig o gysur i'n gwylwyr adref."
8 Ebrill 2020 - S4C yn cyhoeddi pecyn gwerth £6m i'r sector annibynnol
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36825/s4c-yn-cyhoeddi-pecyn-gwerth-6m-ir-sector-annibynnol/
Mae S4C heddiw yn cyhoeddi pecyn o fesurau gwerth hyd at £6 miliwn i'r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru.
Gan ymateb i'r angen i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol ar y sgrin, a'r pwysau sydd ar y sector cynhyrchu yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19, mae'r sianel wedi cychwyn strategaeth tair rhan.
1) Cylch comisiynu cyflym
Mae S4C wedi dyrannu £2.8miliwn ar gyfer rownd gomisiynu ar unwaith. Gan edrych yn benodol am syniadau sy'n codi o'r sefyllfa bresennol, mae'r sianel yn chwilio am raglenni dogfen sy'n dibynnu ar fynediad a rhaglenni a chomedïau i godi ysbryd gwylwyr yn ystod argyfwng Covid-19.
Rôl Darlledwr Sector Cyhoeddus
Meddai'r Cyfarwyddwr Cynnwys Amanda Rees: "Mae gan S4C rôl unigryw yn ystod y cyfnod hwn.
"Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym gyfrifoldeb i wasanaethu ein cynulleidfaoedd gyda gwybodaeth ac adloniant.
"Mae angen i ni adlewyrchu realiti bywydau pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn a bydd pobl hefyd yn edrych atom am gysur a chwmni."
Mae ffigyrau gwylio'r sianel wedi codi'n gyffredinol yn ystod yr argyfwng, gyda ffigyrau'r rhaglen gylchgrawn nosweithiol HENO i fyny 23% a'r bwletin newyddion nosweithiol Newyddion S4C wedi codi 21%
"Felly," meddai Amanda Rees, "rydym am gomisiynu gwerth hyd at £2.8miliwn o raglenni ar gyfer eu darlledu cyn gynted â phosibl. Rydyn ni eisiau i gynhyrchwyr fod mor ddychmygus â phosibl ac yn hyblyg yn y ffordd maen nhw'n mynd ati i gynhyrchu, heb beryglu iechyd eu timau cynhyrchu na'r cyhoedd. Rydym am gomisiynu rhaglenni sy'n cofnodi ac yn adlewyrchu ein sefyllfa bresennol, a rhaglenni sy'n helpu i dynnu ein sylw oddi ar ein problemau dydd i ddydd.
2) Cymorth i'r sector cynhyrchu.
Mae S4C yn ymwybodol bod cwmnïau cynhyrchu, eu staff a'r gweithwyr llawrydd sy'n gwasanaethu'r sector i gyd yn wynebu cyfnod anodd.
Mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan gan danlinellu'r angen am gymorth ariannol i gwmnïau a gweithwyr llawrydd yn y sector cynhyrchu a chreadigol.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C : "Yn fy ngalwadau gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Oliver Dowden ac Eluned Morgan, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, yr wythnos diwethaf, pwysleisiais bwysigrwydd helpu'r sector.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ill dau wedi cyhoeddi rhaglenni amrywiol i helpu cwmnïau a gweithwyr llawrydd, ac mae S4C yn annog y sector cynhyrchu yng Nghymru i fanteisio ar y rhain.
"Fodd bynnag", parhaodd Mr Evans: "gallwn ni hefyd wneud ein rhan.
"I'r perwyl hwn, yn ogystal â'r comisiynau newydd, rydym yn cyhoeddi trefniadau i ryddhau hyd at £2.9 miliwn i gefnogi cwmnïau.
"Mae rhain yn cynnwys rhyddhau arian i gwmnïau sy'n datblygu rhaglenni er mwyn eu cynhyrchu cyn gynted ag y bydd argyfwng Covid-19 yn caniatáu.
Mae'r sianel hefyd yn cyflymu trefniadau talu ar gynyrchiadau sydd â chontractau yn eu lle, a bydd yn edrych yn gydymdeimladol ar sefyllfaoedd ble nad yw cerrig milltir cynhyrchu wedi'u cyrraedd yn llawn oherwydd problemau a achoswyd gan Covid.
"Gyda'i gilydd" medd Owen Evans "mae'r ddau fesur yma yn chwistrellu bron i £6miliwn i'r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru ar adeg o helbul ac ansicrwydd."
3) Porth cymorth ar-lein.
Mae S4C hefyd wedi creu adnodd ar-lein sy'n dwyn ynghyd holl gyhoeddiadau cymorth y Llywodraeth, cyngor ar Iechyd a Diogelwch ac adnoddau eraill sy'n gysylltiedig â Covid-19 ar gyfer cwmnïau ar wefan cynhyrchu S4C.
"Fel darlledwr cenedlaethol Cymru," gorffennodd Owen Evans, "Mae ond yn iawn i ni wneud ein gorau glas i ddifyrru a dosbarthu gwybodaeth i'n cynulleidfaoedd ac i amddiffyn ein diwydiant. Credaf fod y mesurau hyn yn gwneud hynny."
Bydd manylion y galwad am syniadau yn cael eu cyhoeddi'n llawn mewn cyfarfod ar-lein i'r sector gynhyrchu bore Mercher yma.
6 Ebrill 2020 - Comisiynu ffilmiau 'Cadwch yn Ddiogel'
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36772/cadwn-ddiogel-a-chodi-gwn-/
Robin McBryde yn dawnsio, Emma a Trystan o Priodas Pum Mil yn cadw pellter a'r cyn brifathro Ken Hughes yn gorfod derbyn rheolau yn lle eu gosod? Mae Covid 19 wedi gwneud ein byd yn lle rhyfedd iawn.
Ac er fod Robin a'i ddau fab yn amlwg yn mwynhau'r dawnsio yn y ffilm - mae'r neges yn un ddifrifol - Cadwch yn Ddiogel.
Mae S4C wedi comisiynu cyfres o negeseuon gan rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru er mwyn pwysleisio'r pwysigrwydd o gadw'n ddiogel rhag Covid 19 - i osgoi'r salwch, peidio gorfod mynd i'r ysbyty ac fel canlyniad lleihau'r pwysau ar staff GIG.
Dywedodd Amanda Rees Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: "Mae S4C yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus ac felly mae'n bwysig ein bod yn rhannu canllawiau'r Llywodraeth Cymru a'r DU ar sut i ymddwyn er mwyn sicrhau fod pawb yn cadw'n saff ac yn iach ar amser fel hyn."
"Ond hefyd, mae'n bwysig i ni ein bod yn trosglwyddo'r neges mewn ffordd sy'n hwyl ac sy'n codi gwên gyda'n gwylwyr sydd yn aros yn eu cartrefi. Mae S4C yma i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae Ken Hughes dros ei 70, ac felly yn cael ei ystyried o dan risg uchel - felly mae e'n aros yn ei gartref ac yn cael help gyda'i siopa. Mae Emma a Trystan yn sôn am bwysigrwydd y rheol dwy medr - tua maint soffa Priodas Pum Mil - wrth fentro allan.
Neges Robin yw pa mor bwysig yw cadw'n heini - yn gorfforol ac yn feddyliol - trwy ymarfer corff - neu ddawnsio yn yr ystafell fyw - beth bynnag sydd yn eich plesio chi!
Bydd mwy o fideos yn ymddangos dros yr wythnosau nesaf gyda negeseuon gan wynebau adnabyddus sy'n cynnwys Carol Vorderman, yn siarad yn y Gymraeg, yr athro Mr Wyn o Ysgol Ni: Maesincla a Dr Mair Parry o Ysbyty Gwynedd.
Mae'r fideos Cadwch yn Ddiogel wedi cael eu cynhyrchu gan gwmnïoedd cynhyrchu o Gymru gan gynnwys, Rondo, Boom a Darlun.
Bydd fideo Cadwch yn Ddiogel yn cael ei ddarlledu ar nos Fawrth, Mercher ac Iau wythnos yma am 7.30 rhwng Heno a'r Newyddion. Byddant hefyd ar gael i wylio ar S4C Clic - s4c.cymru/clic.
3 Ebrill 2020 - ‘Mae amser gwell yn dyfod’: Neges o obaith mewn ffilm fer newydd
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36715/mae-amser-gwell-yn-dyfod/
Mewn amser heriol ac o newid mawr, mae S4C am rannu neges o obaith i'w gwylwyr mewn ffilm fer newydd.
Mae 'Mae' yn ffilm ddwy funud o hyd ac yn gomisiwn arbennig gan S4C, fydd yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar Heno nos Wener, 3 Ebrill.
Mae'r ffilm wedi ei chreu o gwmpas cerdd y prifardd Mererid Hopwood, Mae - cerdd sydd wedi ei chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y ffilm.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Roedden ni eisiau rhannu'r neges o obaith gyda'r gynulleidfa. Ni'n byw mewn amser ble mae angen gobaith mwy nag erioed, ac mae neges y ffilm yn mynd at galon.
"Mae Mae yn plethu popeth sy'n wych am Gymru gyda'i gilydd - creadigrwydd, celfyddyd ac undod. Mae'r pŵer i'r gair 'Mae' sydd ddim yn perthyn i run iaith arall. Mae Mererid Hopwood yn ein hargyhoeddi - mae haul ar fryn; mae amser gwell yn dyfod."
Cynhyrchwyd y ffilm gan Griff Lynch, ac mae'n cynnwys sgôr gerddorol wreiddiol gan Ifan Davies, o'r band Sŵnami a Rich Roberts, Stiwdio Ferlas, gyda Georgia Ruth a'i gŵr Iwan Huws, o'r band Cowbois Rhos Botwnnog, yn adrodd y gerdd Mae.
Bydd y ffilm hefyd ar gael i'w gwylio ar draws holl blatfformau digidol S4C.
25 Mawrth 2020 - Hansh yn denu 1 miliwn o sesiynau gwylio mewn mis
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36569/hansh-yn-denu-1-miliwn-o-sesiynau-gwylio-mewn-mis/
Mae gwasanaeth S4C i bobl ifanc Hansh wedi denu un miliwn o sesiynau gwylio mewn un mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube am y tro cyntaf erioed.
Lansiwyd Hansh ym mis Mehefin 2017 er mwyn cynnig platfform a chynnwys unigryw i bobl ifanc rhwng 16 – 34.
Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi datblygu o fod yn gweithredu ar Facebook ac YouTube yn unig i fod yn creu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau.
Mae'r cynnwys mis hwn wedi cyrraedd ystadegau uchel ar draws y platfformau. Llwyddodd fideo 'Tisio Salwch' i ddenu 110,000 o sesiynau gwylio ar Facebook gyda Fideo Bootlegger yn denu 280,000 o sesiynau gwylio ar Twitter.
Bellach mae rhai o gymeriadau Hansh yn gyfarwydd i Gymry led led y byd gan gynnwys Gareth yr Orangutan, 'Tishio grêp' a chymeriadau dychanol yr actor Geraint Rhys Edwards. Yn dilyn llwyddiant fideos cymeriadau Geraint Rhys Edwards ar y cyfryngau cymdeithasol mae rhaglen gomedi newydd ar y gweill gan S4C o'r enw Cymry Feiral lle bydd gwylwyr yn mwynhau dod i adnabod y cymeriadau yma'n well.
Yn ogystal ag elfennau comedi mae Hansh yn ddiweddar wedi cynhyrchu cyfres o raglenni dogfen gan gynnwys rhaglen am y dylanwadwr Niki Pilkington, Garmon Ion a phobl Patagonia a Ffoadur Maesglas yn dilyn hanes dau ffoadur o Syria sef Muhaned a'i fab Shadi.
Mae Hansh hefyd wedi datblygu Hansh Dim Sbin, er mwyn cynnig cynnwys newyddiadurol, Newyddion a Materion Cyfoes i'r gynulleidfa.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C:
"Dwi'n falch iawn o weld sut mae Hansh wedi datblygu ac mae'r ffigurau yma yn profi fod y cynnwys sy'n cael ei greu yn taro deuddeg gyda'n cynulleidfa.
"Mae'n bwysig fod Hansh yn ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn y byd ac yn trafod pynciau o bwys gyda'n cyfranwyr.
"Bydd Hansh Dim Sbin yn rhoi gwybodaeth ac adroddiadau dyddiol am y sefyllfa Covid-19 a bydd hefyd cynnwys iechyd meddwl bob dydd Mercher dan #MercherMeddwl.
"Ac yn ôl yr arfer bydd digonedd o adloniant a chomedi a chynnwys dogfen i adlewyrchu bywydau ein cynulleidfa ni ledled Cymru a'r byd yn ystod y cyfnod anodd yma."
24 Mawrth 2020 - Selebs yn mynd ar daith i ddysgu Cymraeg
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36536/selebs-yn-mynd-ar-daith-i-ddysgu-cymraeg/
Pum seleb, pum mentor a phum rheswm gwahanol dros ddysgu'r Gymraeg - dyna beth sydd wrth galon Iaith ar Daith - cyfres newydd sbon sydd yn dechrau ar S4C ym mis Ebrill.
Pob wythnos, yn dechrau ar nos Sul, 19 Ebrill, bydd un seleb ac un mentor Cymraeg ei iaith, sydd hefyd yn wyneb adnabyddus, yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o'r iaith - ac fe fydd sawl her ar y ffordd.
Dewch i gwrdd â'r selebs:
Carol Vorderman - Y cyn-gyflwynydd Countdown, cyflwynydd teledu a radio.
Colin Jackson - Enillydd medal Olympaidd am wibio a chlwydo a chyflwynydd BBC.
Ruth Jones - Actores ac awdur.
Adrian Chiles - Cyn-gyflwynydd The One Show a chyflwynydd chwaraeon ITV.
Scott Quinnell - Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru a sylwebydd chwaraeon.
A dyma'r mentoriaid sydd wedi bod ar yr hewl gyda nhw i'w helpu i ddatblygu eu gallu i siarad Cymraeg.
Mentor Carol yw'r cyflwynydd y tywydd ar BBC North West Tonight Owain Wyn Evans.
Mentor Colin yw'r cyflwynydd radio a theledu Eleri Siôn.
Mentor Ruth yw'r actores a'r gomediwraig Gillian Elisa.
Mentor Adrian yw'r newyddiadurwr teledu a radio BBC, Steffan Powell.
Mentor Scott yw'r cyflwynydd a sylwebydd chwaraeon Sarra Elgan.
Mae gan bob un o'r selebs reswm gwahanol dros ddysgu Cymraeg.
CAROL: "Dw i'n symud nôl i Gymru i fyw - mae gen i dŷ bach yn Sir Benfro ar y clogwynau a dw i'n symud i Gaerdydd yn yr haf o Fryste, lle dw i wedi byw ers sbel. Dw i wir yn teimlo bod cyfrifoldeb arna' i ddod adref a gwneud beth bynnag galla i ddangos fy Nghymreictod ac mae siarad ein hiaith yn rhan o hyn."
COLIN: "Mae fy chwaer (yr actores Suzanne Packer) yn dysgu Cymraeg ac yn gwneud yn dda iawn a dw i ychydig bach yn genfigennus ohoni! Mae gen i real chwant i ddysgu Cymraeg - dw i'n meddwl bod rhaid i chi wir eisiau gwneud e - mae'n rhywbeth sy' tu fewn i chi."
RUTH: "Doedd dim penderfyniad, fel y cyfryw. Rydw i wedi bod yn ceisio i barhau dysgu Cymraeg ers fy nyddiau ysgol ond mewn ffordd weddol anffurfiol. Gwnaeth fy llysblant i gyd fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae sawl un o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg. Mae rhywbeth trist am fod yn Gymreig ond dim a'r gallu i siarad Cymraeg."
ADRIAN: "Galla i ddim gor-ddweud faint dw i'n hoffi bod yng Nghymru - y Gwŷr yn enwedig. Dw i eisiau gwasgaru fy llwch ar un o'r traethau yna! Mae'n teimlo'n hollol chwith i mi i dreulio cymaint o amser yng Nghymru a heb unrhyw ddealltwriaeth o'r iaith."
SCOTT: "Mae dysgu Cymraeg yn rhywbeth dw i wedi eisiau ei wneud erioed a nawr, trwy Iaith ar Daith, mae gen i'r cyfle perffaith. Dw i'n gwybod rhai geiriau Cymraeg drwy wylio y Clwb Rygbi ar S4C, felly dw i'n gwybod geiriau fel 'cais'! Gobeithio bydda i'n gwybod tipyn mwy ar ôl wythnos ar yr hewl gyda Sarra Elgan."
Ar eu taith, mae'r selebs yn ymweld â llefydd yng Nghymru sydd yn berthnasol iddyn nhw.
Felly treuliodd Carol Vorderman ac Owain Wyn Evans eu dyddiau nhw yn teithio o amgylch gogledd Cymru lle cafodd Carol ei magu.
Yn achos Adrian Chiles a Steffan Powell - ymwelodd y ddau a phenrhyn Gwŷr, sef ardal sy'n gyfarwydd iawn i Adrian.
Aeth Colin Jackson ac Eleri Siôn i ardal Ceredigion ac yna i Gaerdydd lle mae Colin yn byw.
Mae tref Llanelli yn agos iawn i galon Scott Quinnell ar ôl iddo chwarae i glwb rygbi y Scarlets am sawl blynedd.
Atgofion melys o raglenni teledu 'Drover's Gold' ac 'Ar y Tracs' a ddenodd Ruth Jones a Gillian Elisa i ardal Llanymddyfri a Merthyr.
Mae Iaith ar Daith yn dechrau ar ddydd Sul, Ebrill 19 am 8.00 ar S4C gyda thaith Carol ag Owain Wyn Evans.
Felly dewch i ymuno â Carol, Ruth, Colin, Adrian, Scott a'u mentoriaid - yr heriau, yr hwyl a'r helynt - wrth iddynt ddechrau ar daith fythgofiadwy i ddysgu Cymraeg.
Noddir Iaith ar Daith gan dysgucymraeg.cymru.. Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg, cyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg ac adnoddau dysgu digidol rhad ac am ddim, ewch i dysgucymraeg.cymru.
22 Mawrth 2020 - Côr-ona a Rhys Meirion yn uno i godi gwên
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36515/cr-ona-a-rhys-meirion-yn-uno-i-godi-gwen/
Mae S4C wedi comisiynu rhaglen newydd sydd wedi ei hysbrydoli gan dudalen Facebook Côr-ona.
Mae'r grŵp cyhoeddus Côr-ona ar Facebook o dan arweiniad Catrin Angharad Jones wedi llwyddo i ddenu bron i 17,000, gyda channoedd o unigolion yn cyfrannu fideos a phrofi bod modd cymdeithasu o bell oll trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y rhaglen hon a gynhyrchir gan Cwmni Da, yn adeiladu ar ymgyrch Côr-ona lle bydd Rhys Meirion yn cynnal arbrawf cymdeithasol trwy ddod â phobl o bell ac agos at ei gilydd i fwynhau'r wefr o gyd ganu boed hynny ar laptop yn y gegin, ipad yn y shed neu PC yn yr atig.
Byddwn yn gweld Rhys yn cysylltu dros y ffôn, trwy ffenestr y tŷ a sgrîn y cyfrifiadur, cawn glywed hanesion y nyrs sy'n parhau i weithio'n galed yn wyneb y feirws; y teulu gwasgaredig; yr athro cerdd sy'n dysgu dros y wê a'r unigolion bregus sy'n ceisio dygymod gyda'r broses o hunan ynysu.
Meddai Rhys Meirion: "Mae'r hyn mae Catrin wedi ei gyflawni ar dudalen Facebook Côr-ona yn ffenomenon!
"Mae'n profi ein bod ni'r Cymry yn gweld ein diwylliant fel achubiaeth, ac yn dangos bod canu yn rhywbeth y mae pawb yn medru bod yn rhan ohono, o'r plant lleiaf un, i bob hŷn yn ein cymdeithas.
"Mae'n wych bod modd cymdeithasu drwy dechnoleg erbyn hyn."
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant: "Mae gan S4C ran bwysig i chwarae yn yr argyfwng hwn, ac mae'r ffaith ein bod yn gallu cynnig adloniant o'r safon uchaf a gwneud i bobl wenu mewn cyfnod digon anodd yn holl bwysig.
"Rydym hefyd yn falch o allu ymateb i syniad positif Catrin a thynnu pawb at ei gilydd gyda'r rhaglen arbennig hon. Mae S4C Yma i Chi"
Bydd hon yn brosiect aml gyfrwng gyda chlipiau pry ar y wal a gwersi cerddoriaeth gan Rhys yn cael eu rhannu ar blatfformau digidol, a chyfle i bawb gyfrannu o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
20 Mawrth 2020 - Ysgolion yn cau, ond mae'r dysgu'n parhau gyda Cyw
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36499/ysgolion-yn-cau-ond-maer-dysgun-parhau-gyda-cyw/
Gyda phryderon am Covid-19 yn gorfodi ysgolion dros Gymru i gau eu drysau heddiw (Dydd Gwener, 20 Mawrth 2020) mae S4C wedi ymateb trwy lansio Ysgol Cyw - pecyn o raglenni addysgiadol i blant ifanc.
Mae S4C wedi pori trwy raglenni Cyw a Stwnsh i greu casgliad o deunyddiau addysgiadol ar gyfer plant oed meithrin a chyfnod sylfaen er mwyn sicrhau bod y dysgu yn parhau, tra bod yr ysgolion ar gau.
Mae hyn yn cynnwys cyfresi teledu S4C Cyw a Stwnsh yn ogystal â deunydd digidol ac apiau i helpu rhieni sydd adref gyda phlant ifanc ac yn edrych am ddeunydd o safon i'w diddanu yn ogystal â'u haddysgu.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C: "Oherwydd bod yr ysgolion ar gau bydd nifer fawr o rieni adre gyda'r plant ac yn poeni am eu haddysg. Un o'r pethau mwyaf defnyddiol gallwn ni yn S4C wneud yn ystod y cyfnod anodd hwn yw cynnig cyfleoedd i blant ifanc i barhau i ddysgu tra bod yr ysgolion ar gau.
"Mae comisiynu cynnwys sy'n helpu plant i ddysgu trwy chwarae wedi bod yn allweddol i'r gwasanaeth erioed, felly y bwriad gyda Ysgol Cyw yw tynnu sylw rhieni a theuluoedd at y cyfresi a'r cynnwys digidol hwnnw. Mae Stwnsh hefyd, yn cynnig cyfresi adloniant ffeithiol sy'n cyflwyno gwybodaeth ac sy'n hwyl. Mae S4C yma i chi."
Mae rhaglenni Ysgol Cyw yn cynnig help gyda llythrennedd a rhifedd gyda rhai wedi eu creu ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm i blant Cyfnod Sylfaen (cyfresi Jen a Jim) . Mae rhaglenni hanes sydd wedi cael eu cynhyrchu gyda chyngor haneswyr (Amser maith, maith yn ôl).
Yn ogystal â'r cyfresi addysgiadol mae sawl rhaglen sydd yn canolbwyntio ar iechyd a lles sef cadw'n heini (Heini), meddwlgarwch (Shwshaswyn), coginio a bwyta'n iach (Siôn y Chef).
Bydd taflenni gwaith a phecyn cynorthwyo ar gael i rieni lawr lwytho i gyd-fynd gyda'r rhaglenni.
Gallwch ddarganfod mwy o fanylion am Ysgol Cyw a rhestr lawn o'r cyfresi dysgu wrth chwarae a mwy, trwy ymweld â: http://www.s4c.cymru/cy/ysgol-cyw/ .
23 Mawrth 2020 - Prif Weithredwr S4C yn cyhoeddi ‘Oedfa’r Bore’ mewn e-bost at wylwyr y sianel
Ffynhonnell: http://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/36518/prif-weithredwr-s4c-yn-cyhoeddi-oedfar-bore-mewn-e-bost-at-wylwyr-y-sianel/
Wrth i S4C addasu ei hamserlen yng nghanol datblygiadau covid-19, mae Owen Evans, Prif Weithredwr y sianel wedi cyhoeddi heddiw y bydd S4C yn darlledu oedfa'r bore, bob bore Sul am 11:00 i'r rhai sy'n methu mynychu'r Capel neu'r Eglwys.
Bydd Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol dan ofal Parchedig John Gwilym Jones gyda'r emynau'n cael eu dewis o archif Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dechrau dydd Sul 29 Mawrth.
Bydd hefyd darllediad o Dechrau Canu Dechrau Canmol cyn hynny am 10.30 ar foreau Sul.
Mewn neges e-bost at wylwyr y sianel dywedodd Owen Evans: "Rydym yn byw mewn amseroedd anodd, ac rwy'n gwybod fod pawb yn poeni am eu hiechyd, iechyd eu teuluoedd a'u swyddi.
"Ond yng nghanol hyn i gyd hoffwn i'ch sicrhau fod S4C yma i chi dros y dyddiau ac wythnosau sydd i ddod.
"Dros y cyfnod yma – ein blaenoriaethau fydd; sicrhau fod y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gennych chi, cynnig syniadau a chymorth i chi ar sut mae ymdopi ac yn olaf cynnig adloniant a diddanwch fel bod modd anghofio am Covid-19 am ychydig."
Yn ddiweddar bu'n rhaid i S4C ohirio ei Noson Gwylwyr oedd i fod i gael ei chynnal yn Aberystwyth, ond yn hytrach cynhaliwyd sesiwn Facebook live gyda Owen Evans ac Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel.
Cafwyd nifer fawr o awgrymiadau am raglenni yr hoffai y gwylwyr weld dros yr wythnosau nesaf, ac mae S4C yn gobeithio gallu ymateb i'r ceisiadau hyn.
Yn rhan o'r neges hefyd eglurodd Owen sut fyddai amserlen S4C yn addasu yn ystod y cyfnod hwn: "Ein nod yw dod a'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy ei gwasanaeth Newyddion am 7:30 bob nos.
Hefyd bydd Y Byd ar Bedwar yn dychwelyd ar 1 Ebrill gyda Dot Davies yn cyflwyno. Tra bydd Covid-19 yn cael sylw amlwg, bydd pynciau eraill yn cael eu trafod hefyd byddwch yn falch o glywed.
Ac wrth gwrs bydd Pnawn Da a Heno yma'n ddyddiol efo gwybodaeth ymarferol ac yn falch o glywed gennych chi."
Nododd hefyd bod nifer o gomisiynau newydd ar y gweill, gan gynnwys rhaglen wedi ei hysbrydoli gan grŵp Facebook Côr-ona.
Mae'r grŵp wedi denu bron i 30,000 o ddilynwyr a bydd Rhys Meirion yn mynd ar hynt y ffenomenwm hwn.
Yn ogystal bydd rhaglen Rygbi a Coronafeirws yn cael ei dangos nos Wener, 27 Mawrth sydd yn edrych ar y sgil effeithiau y bydd Covid-19 yn cael ar bedwar rhanbarth rygbi Cymru a rygbi ar lawr gwlad, a'r effaith sylweddol bydd y seibiant yn cael ar gymunedau a chefnogwyr a gwirfoddolwyr rygbi ar draws Gymru.
Bydd cyfle hefyd i fwynhau hen ffefrynnau o'r archif ar ffurf bocs-set ar S4C Clic. Bydd digon o raglenni i'r plant ar S4C Clic a Cyw Tiwb, ac mae Cyw newydd lansio Ysgol Cyw sy'n cynnwys nifer o adnoddau a rhaglenni addysgol.
Meddai Owen Evans: "Mae gan S4C ran allweddol i chwarae ym mywydau pobl Cymru dros y misoedd nesaf. on a "Bydd ein gwasanaethau newyddir flaen y gad yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i'n gwylwyr.
"Yn ogystal â hynny rydym yn gobeithio bydd ein sianel yn medru cynnig cysur a chwmni i'n gwylwyr yn ystod y misoedd anodd sydd i ddod."