Wilfried Bony
Pêl-droediwr o Arfordir Ifori ydy Wilfried Bony (ganwyd Wilfried Guemiand Bony 10 Rhagfyr 1988) sy'n chwarae i glwb Manchester City yn Uwch Gynghrair Lloegr a thîm pêl-droed cenedlaethol Arfordir Ifori.[2]
2012 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Wilfried Guemiand Bony[1] | ||
Dyddiad geni | 10 Rhagfyr 1988 | ||
Man geni | Bingerville, Arfordir Ifori | ||
Taldra | 1.82m | ||
Safle | Ymosodwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Manchester City | ||
Rhif | 14 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
Cyrille Domoraud Academy | |||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2006–2008 | Issia Wazi | ||
2007–2008 | → Sparta Prague B (benthyg) | 14 | (2) |
2008–2011 | Sparta Prague | 59 | (22) |
2011–2013 | Vitesse | 65 | (46) |
2013–2015 | Dinas Abertawe | 54 | (25) |
2015- | Manchester City | 5 | (1) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2010– | Arfordir Ifori | 37 | (13) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 26 Ebrill 2015. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Dechreuodd Bony ei yrfa gyda chlwb Issia Wazi yn Uwch Gynghrair Arfordir Ifori a llwyddodd i ddenu sylw Lerpwl lle cafodd gyfnod ar brawf yn 2007. Ond ar ôl methu sicrhau cytundeb, ymunodd Bony â Sparta Prague o'r Weriniaeth Tsiec ar fenthyg cyn sicrhau cytundeb parhaol yn 2008[3].
Ar ôl sgorio 17 gôl yn hanner cyntaf tymor 2010/11[4] gan gynnwys pum gôl mewn chwe ymddangosiad yng Nghynghrair Europa, ymunodd Bony â chlwb Vitesse yn Eredivisie, Yr Iseldiroedd ym mis Ionawr 2011[5].
Yn nhymor 2012/13 llwyddodd i rwydo 31 gôl mewn 30 gêm i fod yn brif sgoriwr yr Eredivisie a chafodd ei urddo fel Chwaraewr y Flwyddyn yn Yr Iseldiroedd cyn ymuno ag Abertawe am £12m - record i'r clwb Cymreig[6] ym mis Gorffennaf 2013.
Ym mis Ionawr 2015 symudodd Bony i Manchester City am ffi o £25m - all godi i £28m, fyddai'n golygu mai Bony fydai'r chwaraewr drytaf erioed o Affrica.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Barclays Premier League Squad Numbers 2013/14". Premier League. 16 August 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-25. Cyrchwyd 17 August 2013.
- ↑ "Bony's the boy for Swans". swanseacity.net. Swansea City A.F.C. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2013.
- ↑ "Bony adds weight to Sparta challenge". 2010-11-30. Unknown parameter
|Published=
ignored (help) - ↑ "Cote D'Ivoire Striker Bony Wilfred Joins Vitesse Arnhem - Report". 2011-01-31. Unknown parameter
|Published=
ignored (help) - ↑ "New twist to Andy Carroll's legal battle with agent". 2011-02-02. Unknown parameter
|Published=
ignored (help) - ↑ "Wilfried Bony: Swansea complete club-record £12m signing". 2013-07-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Wilfried Bony to Manchester City: Striker joins for reported £28m from Swansea". The Independent. 2015-01-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-22. Cyrchwyd 2015-02-23.