Cynghrair Europa UEFA
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Cystadleuaeth bêl-droed flynyddol i glybiau pêl-droed Ewrop sy'n cael ei threfnu gan UEFA yw Cynghrair Europa UEFA. Mae clybiau yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar sail eu perfformiadau yn eu cynghreiriau a chwpanau cenedlaethol.
Ffurfiwyd | 1971 (2009 yn ei ffurf bresennol) |
---|---|
Ardal | UEFA (Ewrop) |
Nifer o dimau | 48 (rownd y grwpiau) +8 clwb yn ymuno yn dilyn grwpiau Cynghrair y Pencampwyr 160 (cyfanswm) |
Presennol | Atalanta (1af tro) |
Clybiau mwyaf llwyddiannus | Sevilla (4 pencampwriaeth) |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Fe'i hadnabyddwyd fel Cwpan UEFA tan 2009-10[1] pan ad-drefnwyd y gystadleuaeth. Mae UEFA yn ystyried Cwpan UEFA a Chynghrair Europa UEFA i fod yr un gystadleuaeth.[2].
Ym 1999 cafodd Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA ei diddymu gydag enillwyr cwpanau cymdeithasau Ewrop yn sicrhau eu lle yng Nghwpan UEFA o 2000-01 ymlaen[1] ac ers yr ailfrandio yn 2009, mae Tlws Intertoto UEFA hefyd wedi ei ddiddymu gyda'r gystadleuaeth yn cael ei huno gyda Chynghrair Europa.
Mae enillwyr Cynghrair Europa yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Super Cup UEFA ac ers 2014-15 mae'r enillwyr hefyd yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA ar gyfer y tymor canlynol.
Mae'r tlws wedi ei godi gan 27 o glybiau gwahanol gyda 12 o'r rhain yn ennill y gystadleuaeth ar fwy nag un achlysur. Sevilla yw'r clwb mwyaf llwyddiannus ar ôl ennill y gystadleuaeth ar bedair achlysur[3]
Hanes
golyguCymerodd Gwpan UEFA le'r Inter-Cities Fairs Cup ym 1971 gyda Tottenham Hotspur yn codi'r tlws cyntaf un ar ôl trechu Wolverhampton Wanderers dros ddau gymal yn y rownd derfynol. Parhaodd y gystadleuaeth i gael ei chwarae dros ddwy gymal hyd nes 1997-98 pan benderfynwyd cynnal y rownd derfynol ar faes niwtral a llwyddodd Internazionale i drechu Lazio 3-0 ar faes Parc des Princes, Paris.
Enillwyr
golyguClwb | Enillwyr | Ail | Blynyddoedd buddugol | Blynyddoedd ail |
---|---|---|---|---|
Juventus | 3 | 1 | 1977, 1990, 1993 | 1995 |
Internazionale | 3 | 1 | 1991, 1994, 1998 | 1997 |
Lerpwl | 3 | 0 | 1973, 1976, 2001 | |
Sevilla | 3 | 0 | 2006, 2007, 2014 | |
Borussia Mönchengladbach | 2 | 2 | 1975, 1979 | 1973, 1980 |
Tottenham Hotspur | 2 | 1 | 1972, 1984 | 1974 |
Feyenoord | 2 | 0 | 1974, 2002 | |
IFK Göteborg | 2 | 0 | 1982, 1987 | |
Real Madrid | 2 | 0 | 1985, 1986 | |
Parma | 2 | 0 | 1995, 1999 | |
Porto | 2 | 0 | 2003, 2011 | |
Atlético Madrid | 2 | 0 | 2010, 2012 | |
Anderlecht | 1 | 1 | 1983 | 1984 |
PSV Eindhoven | 1 | 0 | 1978 | |
Eintracht Frankfurt | 1 | 0 | 1980 | |
Ipswich Town | 1 | 0 | 1981 | |
Bayer Leverkusen | 1 | 0 | 1988 | |
Napoli | 1 | 0 | 1989 | |
Ajax | 1 | 0 | 1992 | |
Bayern Munich | 1 | 0 | 1996 | |
Schalke 04 | 1 | 0 | 1997 | |
Galatasaray | 1 | 0 | 2000 | |
Valencia | 1 | 0 | 2004 | |
CSKA Moscow | 1 | 0 | 2005 | |
Zenit St. Petersburg | 1 | 0 | 2008 | |
Shakhtar Donetsk | 1 | 0 | 2009 | |
Chelsea | 1 | 0 | 2013 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Uefa Cup given new name in revamp". 2008-09-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "New format provides fresh impetus". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Sevilla out on their own in all-time standings". Unknown parameter
|published=
ignored (help)