William Edwards (Gwilym Callestr)
bardd Cymraeg
Bardd Cymraeg oedd William Edwards (1790 - 1855). Roedd yn adnabyddus wrth ei enwau barddol Gwilym Callestr neu, yn llai aml, Wil Ysgeifiog.
William Edwards | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Callestr |
Ganwyd | 1790 Caerwys |
Bu farw | 1855 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ganed y bardd ym Mhlas Iolyn ger Caerwys, Sir y Fflint yn 1790. Saer melin oedd wrth ei alwedigaeth. Cystadleuai yn eisteddfodau'r cyfnod a daeth yn adnabyddus am ei ffraethineb. Dioddefai amhariad ar ei feddwl, o ganlyniad i oryfed efallai, a diweddodd ei oes yng ngwallgofdy Dinbych lle bu farw yn 1855.[1]
Cyfansoddodd englyn am gath dafarn:
Cath fraith, cath ddiffaith, cath ddu - cath lygod,
Cath Loegr a Chymru:
Cath, cath, cath, ei bath ni bu,
Cath y fall, cei wyth felly.
Llyfryddiaeth
golygu- Cell Callestr (1815)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru