Caerwys
Tref fechan a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Caerwys.[1][2] Saif 8 km (5 milltir) i'r de-orllewin o Dreffynnon. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 1,315.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,243 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.246°N 3.307°W |
Cod SYG | W04000183 |
Cod OS | SJ128729 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Hanes
golyguCredai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis, ond erbyn heddiw credir mai ger Llanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y 16g.
Cynhaliwyd dwy eisteddfod bwysig yng Nghaerwys yn 1523 a 1567 i bennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac i roi trefn ar feirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, fel Tudur Aled, Simwnt Fychan a Gruffudd Hiraethog, yn bresennol. (Am fanylion pellach gweler: Eisteddfod Caerwys 1523 ac Eisteddfod Caerwys 1567).
Mae cysylltiad agos rhwng Caerwys â Philadelphia. Hwyliodd meddyg lleol, Thomas Wynne, mewn llong o'r enw Welcome yn 1682 gyda William Penn. Roedd Wynne yn un o sefydlwyr Philadelphia a daeth yn gadeirydd (neu 'Siaradwr') cyntaf y cynulliad cenedlaethol yno yn ogystal â bod yn farnwr rhanbarthol. Seiliwyd cynllun stryd gwreiddiol Philadelphia ar Gaerwys.[5] Mae enwau Cymraeg i'w gweld ym mhobman yno, ac mae llawer o'r adeiladau yn gopiau o adeiladau a geir yng Nghaerwys.[6]
Yr eglwys
golyguEr nad yw'r eglwys bresennol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir i Fihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o 1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r 13g. Yn ôl traddodiad lleol, claddwyd Elizabeth Ferrers, sef gwraig i Dafydd ap Gruffudd, yn yr eglwys.
Enwogion
golygu- Ganed y llenor a diwinydd Methodistaidd Thomas Jones o Ddinbych ym Mhenucha, ger Caerwys, ym 1756.
- Angharad Llwyd (1780–1866), hanesydd
- Myfanwy Talog (1944–1995), actores
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-08. Cyrchwyd 2009-03-22.
- ↑ [1] Papur lleol - Vale Advertiser
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog