Teyrnas Gwent
Roedd Teyrnas Gwent yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd yn gorwedd yn ne-ddwyrain y wlad gyda thiriogaeth debyg i'r hen sir Gwent.
Yn yr Oesoedd Canol rhannwyd Gwent yn ddau gantref, sef:
Weithiau mae Gwynllŵg yn cael ei chynnwys gyda Gwent.
Mewn rhai ffynonellau o'r Oesoedd Canol Diweddar, mae trydydd cwmwd neu arglwyddiaeth, ar y ffin rhwng Brycheiniog, Gwent ei hun a Swydd Henffordd, yn cael ei ychwanegu, sef
- Ewias ('Ewias Lacy' yn nes ymlaen).
Cymhlethir ein darlun o Went yn yr Oesoedd Canol am fod y Normaniaid wedi creu sawl arglwyddiaeth yno, rhai ohonynt yn seiliedig ar hen unedau Cymreig ac eraill yn greadigaethau newydd. Daeth y rhan fwyaf o dir teyrnas Gwent yn rhan o'r hen Sir Fynwy ac wedyn yn rhan o'r sir newydd Gwent. Heddiw mae rhan ddwyreiniol yr hen deyrnas yn gorwedd yn y Sir Fynwy newydd.
Brenhinoedd Gwent
golygu(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
- Caer-Went
- Ynyr ap Dyfnwal ap Ednyfed ap Anwn - St Madrun ferch Gwerthefyr
- Iddon fab Ynyr Gwent (480 - 490)
- Caradog ap Ynyr
- Meurig ap Caradog - Dyfwn ferch Glywys
- Erbic ap Meurig ?
- Caer-Leon
- Anwn ap Macsen
- Tudwal ap Anwn
- Teithrin ap Tudwal
- Teithfallt ap Teithrin
- Tewdrig ap Teithfallt (490 – 493/517)
- Meurig ap Tewdrig (493/517 – 530–540)
- Athrwys ap Meurig (530–540 - 573)
- Frioc ap Meurig - Idnerth ap Meurig ?
- Ithel ap Athrwys ?
- Morgan Mawr ?
- Morgan Mwynfawr ? (-654)
- Anthres ap Morcant ? (654-663)
- Morgan Hael (- 715/730)
- Ithel ap Morgan Hael (710/715 - 735/740/745/755)
- Brochfael ap Rhys (-755), gor-ŵyr Morgan Mawr
- Ffernfael ap Ithel (755-774)
- Gwrgant ap Ffernfael (774-805)
- Artwyr ap Ffernfael (805-800/810?)
- Idwallon ap Gwrgant (805-842/848)
- Ithel ap Artwyr (842/848-848)
- Meurig ap Ithel (848-849)
- Meurig ap Arthfael Hen (849-874?)
- Ffernfael ap Meurig (874-880)
- Brochfael ap Meurig (880-920?)
- Arthfael ap Hywel (?-916/927?)
- Owain ap Hywel ap Rhys (927-930)
- Cadell ap Arthfael (930-942)
- Cadwgan ap Owain (930-949)
- Morgan Hen ap Owain (942-955)
- Nowy ap Gwriad ap Brochfael (955-970)
- Arthfael ap Nowy (970-983)
- Rhodri ap Elisedd ap Nowy (983-1015)
- Edwyn ap Gwriad (1015-1045),gor-ŵyr Gwriad ap Brochfael
- Meurig ap Hywel (1045-1055)
- Gruffudd ap Llywelyn (1055-1063)
- Cadwgan ap Meurig (1063-1074)
- Caradog ap Gruffudd (1074-1081)
- Iestyn ap Gwrgant (1081-1093)