William Gambold

geiriadurwr, gramadegydd (1672-1728)

Gramadegydd Cymreig o Geredigion oedd William Gambold (10 Awst 167213 Medi 1728).[1]

William Gambold
Ganwyd10 Awst 1672 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 1728 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgramadegydd, geiriadurwr Edit this on Wikidata
PlantJohn Gambold Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd William Gambold yn Aberteifi yn 1672. Daeth yn gyfaill i'r ieithydd enwog Edward Lhuyd, un o'i gyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Rhydychen.

Ar ôl mynd yn offeiriad Anglicanaidd, gan wasanaethu fel rheithor yn Sir Benfro a threulio cyfnodau fel athro ysgol hefyd, dechreuodd ymroi i'r dasg o astudio'r iaith Gymraeg. Bu wrthi am flynyddoedd, o 1707 hyd 1722, yn llunio geiriadur Cymraeg, ond ni chafodd gefnogaeth ariannol ac arosodd y gwaith heb ei gyhoeddi. Mae'n cynnwys miloedd o eiriau Cymraeg, llawer ohonynt wedi eu codi o'r iaith lafar, ac felly mae'n ffynhonnell bwysig i'r rhai sy'n astudio hanes yr iaith Gymraeg.

Ymddiddorai yng ngramadeg yr iaith Gymraeg hefyd. Yn 1727 cyhoeddodd ei Welsh Grammar, y llyfr Saesneg cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru. Am weddill y 18g arosodd gwaith Gambold yn ramadeg poblogaidd.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gramadeg, mewn llawysgrif yn llaw yr awdur ei hun a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
  • A Welsh Grammar or a Short and Easie Introduction to the Welsh Tongue, in two parts (Caerfyrddin, 1727; argraffiad newydd, Y Bala, 1817 a 1833)

Cyfeiriadau

golygu