Aberteifi
Tref farchnad hanesyddol a chymuned yn ne Ceredigion yw Aberteifi (Saesneg: Cardigan); saif ar lôn yr A487 hanner ffordd rhwng Aberaeron i'r gogledd ac Abergwaun i'r de. Fel mae'r enw yn ei awgrymu, saif y dref ar lan ogleddol Afon Teifi ger aber yr afon honno ym Mae Ceredigion. Yr ochr arall i'r aber mae pentref hanesyddol Llandudoch. Yn 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 4,184 (Cyfrifiad 2011).
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,184, 4,217 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,293.45 ha |
Cyfesurynnau | 52.0842°N 4.6579°W |
Cod SYG | W04000363 |
Cod OS | SN175465 |
Cod post | SA43 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguCodwyd castell yn Aberteifi tua dechrau'r 12g yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwir Hen Gastell Aberteifi). Yn y flwyddyn 1176 cynhaliodd Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth eisteddfod yn ei lys yno adeg y Nadolig, yr eisteddfod gyntaf sy'n hysbys. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Aberteifi yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188. Arhosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddi Deheubarth y rhan fwyaf o'r amser hyd 1240 pan syrthiodd i'r Saeson. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell o ddwylo'r Saeson ym 1405.
Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y 18g. Erbyn dechrau'r 19g roedd dros 300 o longau hwylio yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechi Cilgerran o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r 20g roedd dyddiau'r porthladd ar ben.
Adeiladwyd y bont bum bwa ar draws afon Teifi yn 1726.[1]
Adeiladau
golyguUn o adeiladau mwyaf adnabyddus y dref yw'r Guildhall.
Capeli ac eglwysi
golyguCapeli
golygu- Capel Bethania, Aberteifi, yw un o gapeli pwysicaf y Bedyddwyr yng Nghymru.
- Capel Mount Zion, Bedyddwyr Saesneg [2][3]
Rhai o'r Gweinidogion: George Hughes (1881-1924); Y Parchg J. Arthur Jones 1927- ; Y Parchg Dr. Leighton James; Y Parchg Roland Bevan; Y Parchg David P. Kingdon; Y Parchg Ifan Mason Davies (1986- ); Y Parchg Dr. Gareth Edwards
- Tabernacl, Capel y Methodistiaid Calfinaidd
Dyma enwau rhai o'r Gweinidogion: Robert Roberts, Penllwyn (1857-1862); Daeth Y Parchg W. Meidrym Jones ar 24 Hydref 1870; Mydrim Jones (1870-77); Griffith Davies (1881-74?; 1889-96); Y Parchg J. G. Moelwyn Hughes MA, PhD o Gastell Nedd (Ion 1896-1917/18); R. R. Williams (1923– ); Y Parchg Currie Hughes BA (1929- ); Y Parchg Richard Jones MA BSc, Charing Cross (Ion 1969– ); Y Parchg Thomas Roberts (1973-84) (1982?); Y Parchg Ifor ap Gwilym
- Capel Mair, Annibynwyr. 1803+
Dyma rhai o'r Gweinidogion: Y Parchg Daniel Davies (1812–64); David Owen; David Owen arall; Y Parchg William Davies (1865-74); Y Parchg T. J. Morris (1876–1908); Y Parchg T. Esger James (1910–35); Y Parchg D. J. Roberts (1939–77); Y Parchg Ieuan Davies (1977-84); Y Parchg J. Arwyn Phillips (1986–93); Y Parchg Irfon Roberts (rhannu â Bethania).
Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1803. Ail adeiladwyd ym 1869; ail agorwyd 20-21 Medi 1870. Adeiladwyd y festri ym 1881, a thŷ'r capel. Ym 1905 roedd gan y Capel 344 o aelodau.
- Hope Chapel, Annibynwyr Saesneg. 1830+ (wedi cau)
Dyma enwau'r Gweinidogion: David Phillips; Richard Hancock ( -1850); Robert Breeze (1854); David Jones (1861-67); John Newman Richards (1867-73); Lewis Beynon (1873-); Melchizedek Evans (1884); T. C. Evans; Garro Jones (1895-1902); Evan Evans (1902-05); Morda Evans (1905-1911); W. Whittington (1911-1923); T. J. Walters (1928- ); T. E. Morris; Chwe 1946 Thomas Perkins. Ailadeiladwyd mis Hydref 1880.
- Ebenezer, Wesle. 1867+ (wedi cau)
Eglwysi
golygu- Yr Eglwys Gatholig
Eglwys Mair y Tapyr Archifwyd 2011-09-19 yn y Peiriant Wayback Agorwyd yr Eglwys bresennol ar 23 Gorffennaf 1970. Offeiriaid: Joseph Higgins (1930-32); John Tole (1932); Wilfred Brodie (1932-3); Basil Rowlands (1933-36); Thomas Williams (1936); Joseph Wedlake (1937-9); Thomas Canning (1940); James McAniff (1941); J. B. O’Connell (1942-5); Phillip Dwyer (1946-7); William Andrews (1947); Albin Kaltenbach (1947-51); George A. Anwyll (1951-9); Raymond Joyce (curad) (1951-9); John McHugh (1950-61??); Arthur Davies (1961); Seamus Cunanne (1962-99); Augustine Paikkatt (1999-2003); Jason Jones (2003–31/1/2011);
- Eglwys y Santes Fair
Offeiriaid: 450 AD St Mathaiarn, mab Brychan; 1114; Edward y Presbyter; 1349 John de Whittle; 1411 John Barnett; 1413 Thomas Day; 1434 John Thornbury; John Frodsham; 1497 Richard Robyns; 1502 Hugh Wenty; 1524 Thomas Hore (y prior olaf); 1534 Morgan Meredith; 1553 Griffin Williams (? - 1555); 1555 Philip Howell ap Rice; 1563 Peregrine Daindle; Nicholas Harry; 1660 Gwilliomo Owens; Charles Price; 1662 Johannus Morgan; 1666 Richard Harries; 1693 David Jenkins MA; 1717 Thomas Richards MA; 1729 Jacobus Phillips BA; 1730 Jacobus Thomas; 1731 Rice neu Rees (Audelnus?Audoernis) Evans; 1737 Hugh Pugh BA; 1747 John Davies; 1748 William Powell; 1756-77 John Davies; 1778 John Evans; 1789 John Evans (yr un un mwy na thebyg); 1824-76 Griffith Thomas; 1876-1900 William Cynog Davies BD; 1900-12 David John Evans MA RD; 1912-16 David Timothy Alban BA RD; 1917-31 David Morgan Jones BA RD (Canon St Davids); 1931-51 Edward Lee Hamer BA; 1951- David Thomas Price BA; Ernest Jones; William Richards.
Enwogion
golygu- Derrick Greenslade Childs, Archesgob Cymru. Ganed yn 17 William St., Ionawr 1918. Bu farw 1987.
- John Davies (Ossian Dyfed), bardd.
- John Davies (Ossian Gwent), bardd.
- Rosina Davies (g. Tachwedd 1895 Tanybonfyl, Llandudoch). Maer y dref 1943–44. Y ddynes gyntaf.
- David R. Edwards (Dave Datblygu), bardd, cyfansoddwr ac awdur.
- Thomas Evans (Telynog) (1840–1865), bardd.
- William Gambold (1672–1728), gramadegydd a geiriadurwr.
- Richard Jones, Wyn Jones (Ail Symudiad), grŵp pop. Cwmni Recordiau Fflach
- Lenny V D Owen, athro Prifysgol Nottingham (1943).
- William Roberts, cyfansoddwr y dôn Bryngogarth.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Gŵyl Fawr Aberteifi
golyguGalwyd Gŵyl Fawr Aberteifi yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi a gynhaliwyd yn gyntaf yn 1953.[7]
Eisteddfodau
golygu1176 Eisteddfod gyntaf
1-2 Awst 1866
Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn pafiliwn pren mewn cae tu ôl i Gapel Bethania. Enillodd J R Phillips wobr o £10 am sgrifennu hanes Cilgerran.
Côr Felindre (Drefach), yr unig gystadleuwyr, enillodd £10 yn ‘Achub Fi, O Dduw’.
Bu cystadlu rhwng Côr Brynberian ac Aberteifi am wobr o £8 am ganu ‘Blessed be Thou, Lord God of Israel’. Aberteifi enillodd. Bu'r eisteddfod yn fethiant ariannol oherwydd salwch colera yn yr ardal.
12 Mehefin 1878
Cynhaliwyd mewn pafiliwn yn dal 5,000. Y llywydd oedd T. E. Lloyd, Coedmore AS, a David Davies AS y Fwrdeistref.
Y côr buddugol oedd Bargoed Teifi.
14 Gorffennaf 1880
Bell Court – tu ôl Pendre. Pafiliwn yn dal 5,000. Prif fardd oedd Thomas Davies, Llwynysgaw (Ysgawenydd).
7 Awst 1895 Pabell ym Mhontycleifion.
4 Awst 1909
7 Awst 1942: cafwyd ymweliad gan Lloyd George, Megan, D. O. Evans AS, Mrs D. O. Evans YH
Mai 1954: enillwyd y gadair gan James Nicholas.
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi ym 1942 a 1976. Am wybodaeth bellach gweler:
Gefeilldref
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Christopher Winn; addasiad: Sian Osawa (2008). Wyddwn i mo hynna am Gymru. Cymdeithas Llyfrau Ceredigion
- ↑ Gwefan Capel Mount Zion Archifwyd 2013-04-09 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 21-03-2009
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-20. Cyrchwyd 2008-05-04.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r ganran hon yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Archifau Cymru
Gweler hefyd
golyguTrefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pontsiân · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen