William Herbert, 3ydd Iarll Penfro (1580–1630)
Mab ac etifedd Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (1534-1601) a Mary Sidney oedd William Herbert, 3ydd Iarll Penfro (8 Ebrill 1580 – 10 Ebrill 1630). Bu farw heb blant cyfreithlon a throsglwyddwyd ei deitl i'w frawd, Philip Herbert, 4ydd Iarll Penfro. Sefydlodd Goleg Penfro, Rhydychen pan oedd yn Ganghellor Prifysgol Rhydychen gyda Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI). Bu'n Arglwydd Ganghellor o 1615 hyd at 1625. Cyflwynodd William Shakespeare y First Folio o ddramâu iddo ef a'i frawd Philip.[1]
William Herbert, 3ydd Iarll Penfro | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1580 |
Bu farw | 10 Ebrill 1630 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Arglwydd Raglaw Cernyw, Lord Lieutenant of Wiltshire, Arglwydd Raglaw Gwlad yr Haf |
Cyflogwr | |
Tad | Henry Herbert |
Mam | Mary Sidney |
Priod | Mary Herbert |
Partner | Mary Fitton, Lady Mary Wroth |
Plant | Anhysbys Herbert, Henry Herbert |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Priodi a phlant
golyguPriododd Mary Talbot, merch fechan o ran corff, gydag anabledd, a merch Gilbert Talbot, 7fed Iarll Shrewsbury, ar 4 Tachwedd 1604. ni chawsant blant. Cafodd fab anghyfreithlon gyda Mary Fitton cyn hynny, a charchar am gyfnod gan iddo wrth ei phriodi. Cafodd blant anghyfreithlon wedi affer gyda'i gyfneither cyntaf yr Arglwyddes Mary Wroth, hefyd. Roedd hi'n ferch i Robert Sidney, brawd i fam William. The relationship produced at least two illegitimate children, a daughter, Catherine, and a son, William. Ond gan fod y rhain y tu allan i'r briodas, ni throsglwyddwyd y teitl i'r mab ychwaith. Ac ar ei farwolaeth, i'w frawd Philip yr aeth yr iarllaeth.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Brian O'Farrell (10 Chwefror 2011). Shakespeare's Patron: William Herbert, Third Earl of Pembroke, 1580 - 1630: Politics, Patronage and Power (yn Saesneg). Bloomsbury Publishing. t. 1. ISBN 978-1-4411-9158-8.
- ↑ Mary Ellen Lamb, Wroth, Lady Mary (1587–1651/1653), Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004; fersiwn arlein, 2008.