Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (1534-1601)
Uchelwr Cymreig oedd Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (c.1534 - 19 Ionawr 1601). Ef a fu'n gyfrifol am gryfhau Castell Caerdydd. Roedd yn ddyn diwylliedig ac roedd yr achau Cymreig yn bwysig iddo.[1] Ysgrifennydd iddo oedd y bardd a'r milwr Wiliam Midleton o Lansannan.
Henry Herbert, 2il Iarll Penfro | |
---|---|
Ganwyd | c. 1538 |
Bu farw | 19 Ionawr 1601 (yn y Calendr Iwliaidd) Wilton |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Lord Lieutenant of Wales, Lord Lieutenant of Wiltshire, Arglwydd Raglaw Gwlad yr Haf, Arglwydd Raglaw Sir Fynwy |
Tad | William Herbert |
Mam | Anne Herbert |
Priod | Katherine Grey, Katherine Talbot, Mary Sidney |
Plant | Philip Herbert, 4ydd Iarll Penfro, William Herbert, merch anhysbys Herbert |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Roedd Henry yn fab i William Herbert, Iarll 1af Penfro (1501–1570) ac Anne Parr, Iarlles Penfro. Ei fodryb oedd Catherine Parr, gwraig olaf Harri VIII. Roedd ei ewyrth William Parr, ardalydd 1af Northampton yn ddyn pwerus iawn yn ystod teyrnasiad Edward VI ac yna Elisabeth I.
Ar farwolaeth ei dad yn 1570 fe'i gwnaed yn Iarll Penfro ac ar 4 Ebrill 1570 dyrchafwyd ef yn Lord Lieutenant of Wiltshire. Ar farwolaeth ei fam fe'i gwnaed yn Arglwydd Parr a Ros o Kendal, Arglwydd FitzHugh, Arglwydd Marmion ac yn Arglwydd Quentin ar 1 Awst 1571.
Tair priodas a phlant
golyguPriododd Catherine Grey, chwaer ieuengaf Yr Arglwyddes Jane Grey ac wyres i Mari Tudur ar 25 Mai 1553.[2] ond diddymwyd y briodas ac ni chafwyd plant.
Ei ail wraig oedd Arglwyddes Catherine Talbot, merch George Talbot, 6ed iarll Shrewsbury, a'i wraig Gertrude Manners.[1] She died in 1575 leaving no children by Herbert.[1] Bu'n wael ac ni fu plant o'r briodas hon ychwaith.
Erbyn Ebrill 1577 roedd Henry wedi priodi Mary Sidney, merch Syr Henry Sidney a Mary Dudley a ganwyd William Herbert, 3ydd Iarll Penfro an Philip, a bu'r ddau yn ieirll Penfro ar ôl eu tad. Cafwyd dwy ferch hefyd ond bu'r ddwy farw'n ifanc: Katherine ac Anne.[1][3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Lee, Sidney, gol. (1891). . Dictionary of National Biography. 26. Llundain: Smith, Elder & Co. tt. 189–90.
- ↑ Eric Ives, Lady Jane Grey: A Tudor Mystery (Rhydychen, 2009), t. 321
- ↑ "Mary Sidney Herbert, Countess of Pembroke (1561-1621)", gan Margaret P. Hannay