William Laud
archesgob Caergaint (1573-1645)
Clerigwr o Sais a ddaeth yn Archesgob Caergaint ac yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn Lloegr ei ddydd oedd yr Archesgob William Laud (7 Hydref, 1573 – 10 Ionawr, 1645). Roedd yn gefnogwr selog i'r Brenin Siarl I o Loegr, a anogwyd ganddo i gredu mewn hawl dwyfol brenhinoedd. Arweiniodd ei gefnogaeth i Siarl, brenhiniaeth absoliwt, a'i erledigaeth ar bobl a ddaliai farn wahanol, i'w ddienyddio trwy dorri ei ben yng nghanol Rhyfel Cartref Lloegr.
William Laud | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1573 Reading |
Bu farw | 10 Ionawr 1645 o pendoriad Tower Hill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, diwinydd, ysgrifennwr |
Swydd | Archesgob Caergaint, Esgob Llundain, Esgob Caerfaddon a Wells |
Dydd gŵyl | 10 Ionawr |
llofnod | |
Gwasanaethodd Laud fel Esgob Tyddewi rhwng 1621 a 1627. Ei gaplan oedd y Cymro Morgan Owen, o Fyddfai, a ddaeth yn Esgob Llandaf yn ddiweddarach diolch i Laud.