Myddfai

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Myddfai. Saif ar odre gogleddol y Mynydd Du ac ychydig i'r de o dref Llanymddyfri, gyda Mynydd Myddfai i'r dwyrain.

Myddfai
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth398 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,426.9 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.956°N 3.788°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000548 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map
Ardal Mynydd Myddfai- Sir Gâr

Cynrychiolir ardal Myddfai yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd Myddfai yn un o faenorau y Cantref Bychan ac yn ddiweddarach yn rhan o Arglwyddiaeth Llanymddyfri.

Daeth y pentref yn enwog fel cartref Meddygon Myddfai, a gysylltir â chwedl Llyn y Fan Fach. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Mihangel, ac mae Morgan Owen, Esgob Llandaf yn y 17g, oedd yn frodor o'r pentref, wedi ei gladdu o'i mewn.

Yn 2007 adroddwyd bod y Tywysog Siarl wedi prynu tŷ Llwynywermwd gerllaw. Cafwyd cryn feirniadu ar ei fwriad i osod y tŷ fel cartref gwyliau.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Myddfai (pob oed) (398)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Myddfai) (196)
  
49.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Myddfai) (261)
  
65.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Myddfai) (52)
  
31.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu