William Lloyd (cerddor)
cerddor
Cerddor ac athro cerddoriaeth o Gymro oedd William Lloyd (1786 – 7 Mehefin 1852). Ganwyd yn Rhos-goch, Llaniestyn, Llŷn. Credir ei fod yn borthmon. Byddai Lloyd yn cynnal dosbarthiadau cerdd o amgylch Llŷn ac arwain cymanfaoedd; hefyd rhoddai hyfforddiant yn ei gartref.[1]
William Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 1786 Llaniestyn |
Bu farw | 7 Mehefin 1852 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Cyfansoddodd lawer o emyn-donau, ond y dôn y mae'n fwyaf adnabyddus amdani heddiw yw Meirionydd, sy'n ymddangos yn holl lyfrau emynau Cymraeg a nifer o casgliadau Saesneg hefyd. Yn wreiddiol, galwodd Lloyd y dôn yn Berth, ac o dan yr enw hwn yr ymddangosodd gyntaf mewn print, yn Caniadaeth Seion (Llanidloes: Richard Mills, 1840).
Yn ôl ei garreg fedd ym mynwent eglwys Llaniestyn bu farw 7 Mehefin 1852, yn 66 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Thomas Jenkins (1970), "LLOYD, WILLIAM (1786-1852), cerddor", Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 17 Chwefror 2021
- ↑ Maggie Humphreys; Robert Evans (1 January 1997). Dictionary of Composers for the Church in Great Britain and Ireland (yn Saesneg). A&C Black. t. 211. ISBN 978-0-7201-2330-2.