Llaniestyn, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Pentref yn Llŷn yw Llaniestyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ), a leolir 8 milltir i'r gorllewin o Bwllheli, Gwynedd. Mae Llaniestyn yn blwyf eglwysig hefyd.

Llaniestyn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.874°N 4.573°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH268338 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref o'r un enw yn Ynys Môn, gweler Llaniestyn, Ynys Môn.

Mae'r pentref yn gorwedd yng ngodre Carn Fadryn mewn dyffryn cysgodol. Rhai blynyddoedd yn ôl sefydlodd y pentrefwyr ardd gymunedol. Mae croeso i unrhyw un droi i mewn, eistedd a gwerthfawrogi harddwch y bywyd gwyllt o gwmpas, gwrando ar gân yr adar ac ymlacio yn y llonyddwch. Mae'n safle ddelfrydol i gerddwyr gymeryd hoe a chael picnic ar eu taith o gwmpas Llŷn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Eglwys Sant Iestyn golygu

Mae eglwys y plwyf yn hen a diddorol. Mae corff yr eglwys a'i siansel yn dyddio o'r 13g. Ceir ynddi nifer o ffenestri lanset cynnar, rhai ohonynt yn dyddio o'r 12g, oes Owain Gwynedd.

Yn y pen gorllewinol ceir oriel i gerddorion o ddechrau'r 19g. Mae'r bedyddfaen gwyngalchog yn dyddio o'r 16g. Yn ogystal mae nifer o gofebion o'r 18g yn yr eglwys.

Arferid claddu tlodion yr ardal yn yr ochr ddeheuol ar y llaw dde wrth fynd drwy'r giat gyda'r wal derfyn efo Ty'n Llan. Ychydig iawn o olion y beddau sydd i'w gweld heddiw. (pauper's graves)

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu