William Retlaw Williams

cyfreithiwr, achydd a hanesydd

Roedd William Retlaw Jefferson Williams (tua 186320 Mawrth 1944) yn gyfreithiwr, achydd a hanesydd a gyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes cynrychiolaeth seneddol Cymru a gwahanol siroedd a bwrdeistrefi’r gororau[1].

William Retlaw Williams
Ganwyd1863 Edit this on Wikidata
Aberclydach Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethachrestrydd, cyfreithiwr, llenor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Williams yn Aberclydach, Llanfeugan, Sir Frycheiniog yn fab i John James Williams, meddyg, a Jane (née Robertson) ei wraig. Roedd John James yn aelod o’r orsedd gan ddefnyddio’r llysenw Brychan. Roedd William yn frawd i'r Fonesig Mallt Williams (Alice Mallt) awdur ac arbenigwr ar ddiwylliant rhyng Geltaidd a Gwenfrida Williams awdur.

Priododd Mary Jones ym 1890, yr oedd hi yn ferch i William Morgan (bu farw ei thad pan oedd hi’n ifanc ac ailbriododd ei mam a gŵr o’r enw Jones). Ni fu iddynt blant.

Cofrestrwyd Williams yn gyfreithiwr ym 1884 a bu’n cadw swyddfeydd cyfreithiwr yn Aberhonddu a Thal-y-bont-ar-Wysg hyd 1930, er na fu yn ymarfer lawer ar y gyfraith.

Am gyfnod bu’n cynnal busnes hel achau a gwerthu llyfrau Cymreig yn Nhal-y-bont ar Wysg gyda chysylltiad agos â llyfrwerthwyr o fri megis Henry Blackwell, Efrog Newydd.

Golygodd a chyhoeddodd gylchgrawn o’r enw Old Wales rhwng 1905 a 1907[2]

Daeth yn dirfeddiannwr Ystâd Aberclydach ar farwolaeth ei dad ym 1906

Cyhoeddiadau

golygu
  • The Parliamentary History of the Principality of Wales, 1541-1895 , Aberhonddu , 1895[3].
  • The Parliamentary History of Hereford, 1213-1896 , Aberhonddu , 1896;
  • The Parliamentary History of Worcester, 1213-1897 , Henffordd , 1897;
  • The Parliamentary History of Gloucester, 1213-1898 , Henffordd , 1898;
  • The Parliamentary History of Oxford, 1213-1899 , Aberhonddu , 1899 .

Mae’r llyfrau uchod yn cynnwys byr fywgraffiadau o bob unigolyn a chynrychiolodd yr ardaloedd dan sylw fel Aelod Seneddol ac yn fan cychwyn i unrhyw un sydd am ymchwilio i hanes aelodau seneddol Cymru a’r Gororau. Mae’r cyfan o’r llyfrau uchod ar gael ar wefan Internet Archive

  • The History of the Great Sessions in Wales, 1542-1830, together with the Lives of the Welsh Judges, Aberhonddu ,
  • Official Lists of the Duchy and County of Lancaster, 1901.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, Brynoyre, Tal-y-bont ar wysg ar 20 Mawrth 1944 , a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent eglwys Llansanffraid ar Wysg.

Cyfeiriadau

golygu