Llansantffraed (Aberhonddu)

Pentref yng nghymuned Tal-y-bont ar Wysg, yn ardal Brycheiniog, de Powys

Pentref yng nghymuned Tal-y-bont ar Wysg, Powys, Cymru, yw Llansantffraid. Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, 29.4 milltir (47.4 km) o Gaerdydd a 137.5 milltir (221.3 km) o Lundain. Gorwedd y pentref ar bwys y ffordd A40 tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu mewn cwm mynyddig rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain. Fel sawl lle arall o'r un enw yng Nghymru, enwir y pentref ar ôl y Santes Ffraid.

Llansantffraed (Aberhonddu)
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFfraid Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTal-y-bont ar Wysg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.902°N 3.277°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO123235 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Llansantffraid" (neu enwau tebyg) ym Mhowys a siroedd eraill, gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).

Gwasanaethodd yr athronydd Thomas Vaughan yn offeiriad Eglwys y Santes Ffraid yn Llansantffraed, gan astudio meddygaeth yr un pryd. Roedd yn synnu'n fawr nad oedd llawer o feddygon yng Nghymru. Fe'i taflwyd o'r plwyf yn 1650 dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru oherwydd ei gydymdeimlad â'r Brenin. Ganed Thomas a'i efaill Henry yn Sgethrog, tua milltir a hanner i'r gogledd o Lansantffraed. Claddwyd Henry Vaughan ym mynwent eglwys Llansantffraed.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Henry Vaughan", Gwefan BBC; adalwyd 1 Tachwedd 2014
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.