Roedd William Squire (29 Ebrill 19173 Mai 1989) yn actor llwyfan, ffilm a theledu o Gymru.

William Squire
Ganwyd29 Ebrill 1917 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 1989 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodJuliet Harmer Edit this on Wikidata

Ganwyd Squire yng Nghastell Nedd, Morgannwg, yn fab i William Squire a'i wraig Martha (née Bridgeman).

Fel actor llwyfan, perfformiodd Squire yn Stratford-upon-Avon ac yn yr Old Vic, gan gymryd lle ei gyd-wladwr Richard Burton fel Brenin Arthur yn Camelot yn y Majestic Theatre ar Broadway. Un o'i ymddangosiadau ffilm gyntaf oedd yn y ffilm Alexander the Great yn 1956, gyda Burton yn serennu yn y brif rôl.

Roedd ei rolau sgrin amrywiol yn cynnwys Thomas More yn fersiwn ffilm 1969 o ddrama Maxwell Anderson, Anne of the Thousand Days, Syr Daniel Brackley yn addasiad teledu 1972 o The Black Arrow gan Robert Louis Stevenson, llais Gandalf yn fersiwn animeiddiedig 1978 o'r The Lord of the Rings[1] a Shadow yn y gyfres The Armageddon Factor, Doctor Who 1979. Efallai ei fod yn fwy adnabyddus yn ei rol fel Hunter, uwch yr asiant cyfrinachol David Callan, yn y gyfres ysbiwr Callan yn y 1970au cynnar; Cymerodd Squire y rôl drosodd o Derek Bond.

Mewn set o ffilmiau addysgol a gynhyrchwyd gan Encyclopædia Britannica am Macbeth gan  William Shakespeare, chwaraeodd Squire rôl Macbeth. Roedd hyn yn cyd-fynd â'i yrfa hir fel actor Shakespeare, a oedd yn cynnwys rolau yn y gyfres deledu clasurol Age of Kings yn 1960.

Ym 1967 cydweithiodd William Squire â George Guest, cyd-Gymro ac organydd a Chyfarwyddwr Cerdd Coleg Sant Ioan, Caergrawnt  ar recordiad LP o ddarlleniadau a charolau,  A Meditation on Christ's Nativity[2] (Argo Records [UK] ZRG 550, a ryddhawyd yn 1968). Roedd y darlleniadau yn cynnwys cerddi: The Annunciation, John Donne; Dialogue, George Herbert; On the Morning of Christ's Nativity (detholiad), John Milton; Chanticleer, William Austin; The Burning Babe, Robert Southwell; The Guest, Thomas Ford a Journey of the Magi, T.S. Eliot. Darllenwyd hefyd ddarnau o Hamlet I.i Shakespeare: "Some say that ever 'gainst that season comes" a chyfieithiad New English Bible o 1 Ioan 1: 1-10.[3] Gellir clywed y recordiad hwn yma.

Bywyd personol

golygu

Roedd ei briodas gyntaf gyda'r actores Betty Dickson. Priododd yr actores Juliet Harmer ym 1967.

Mae yna fainc ar Hampstead Heath sy'n ymroddedig iddo.

Bu farw Squire yn Llundain, Lloegr, o achosion anhysbys ar 3 Mai 1989, bedwar diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 72 oed.

Ffilmyddiaeth

golygu
  • The Long Dark Hall (1951) - Sgt. Cochran
  • The Man Who Never Was (1956) - Lt. Jewell
  • Alexander the Great (1956) - Aeschenes
  • The Battle of the River Plate (1956) - Ray Martin
  • Dunkirk (1958) - Captain (heb gydnabyddiaeth)
  • Innocent Sinners (1958) - Father Lambert (heb gydnabyddiaeth)
  • A Challenge for Robin Hood (1967) - Sir John
  • Where Eagles Dare (1968) - Capt. Lee Thomas
  • Anne of the Thousand Days (1969) - Thomas More
  • The Lord of the Rings (1978) - Gandalf (llais)
  • The Thirty Nine Steps (1978) - Harkness
  • Blake's 7 (1979) - Kommissar
  • Marco Polo (1982) - Inn-Keeper
  • Testimony (1988) - Khatchaturyan

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tolkien Gateway. Accessed 19 April 2013
  2. "St. John's College Choir". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-09-21.
  3. "WebVoyage Titles". catalog.princeton.edu. Cyrchwyd 2017-09-21.