William FitzOsbern

iarll Henffordd ac arglwydd Breteuil yn Normandi
(Ailgyfeiriad o William fitzOsbern)

Arglwydd Normanaidd a Iarll cyntaf Henffordd oedd William fitzOsbern (tua 102022 Chwefror 1071). Roedd yn arglwydd Breteuil, yn Normandi, ac yn berthynas a chynghorydd i'r brenin Gwilym Goncwerwr.

William FitzOsbern
Ganwyd1020 Edit this on Wikidata
Fflandrys Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1071 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Cassel Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwarogwr, rhaglyw Edit this on Wikidata
TadOsbern Y Stiward Edit this on Wikidata
MamEmma D'ivry Edit this on Wikidata
PriodRichilde de Valenciennes, Alice de Toeni Edit this on Wikidata
PlantWilliam o Breteuil, Roger de Breteuil, Emma de Guader Edit this on Wikidata
LlinachQ729234 Edit this on Wikidata

Wedi buddugoliaeth y Normaniaid ym Mrwydr Hastings yn 1066, crewyd fitzOsbern yn Iarll Henffordd cyn 22 Chwefror 1067. Ef oedd y cyntaf o'r aglwyddi Normanaidd i feddiannu rhan o Gymru, pan oresgynnodd Gwent cyn 1070. Adeiladodd nifer o gestyll, yn cynnwys rhai yng Nghas-gwent a Threfynwy.

Lladdwyd ef ym Mrwydr Cassel wrth geisio cymryd meddiant o Fflandrys. Daeth ei diriogaethau yn Normandi yn eiddo ei fab hynaf, William o Breteuil, a'i diriogaethau yng Nghymru a Lloegr yn eiddo ei ail fab, Roger de Breteuil.