William FitzOsbern
iarll Henffordd ac arglwydd Breteuil yn Normandi
(Ailgyfeiriad o William fitz Osbern)
Arglwydd Normanaidd a Iarll cyntaf Henffordd oedd William fitzOsbern (tua 1020 – 22 Chwefror 1071). Roedd yn arglwydd Breteuil, yn Normandi, ac yn berthynas a chynghorydd i'r brenin Gwilym Goncwerwr.
William FitzOsbern | |
---|---|
Ganwyd | 1020 Fflandrys |
Bu farw | 22 Chwefror 1071 o lladdwyd mewn brwydr Cassel |
Galwedigaeth | person milwrol |
Tad | Osbern Y Stiward |
Mam | Emma D'ivry |
Priod | Richilde de Valenciennes, Alice de Toeni |
Plant | William o Breteuil, Roger de Breteuil, Emma de Guader |
Llinach | Llinach Normandi |
Wedi buddugoliaeth y Normaniaid ym Mrwydr Hastings yn 1066, crewyd fitzOsbern yn Iarll Henffordd cyn 22 Chwefror 1067. Ef oedd y cyntaf o'r aglwyddi Normanaidd i feddiannu rhan o Gymru, pan oresgynnodd Gwent cyn 1070. Adeiladodd nifer o gestyll, yn cynnwys rhai yng Nghas-gwent a Threfynwy.
Lladdwyd ef ym Mrwydr Cassel wrth geisio cymryd meddiant o Fflandrys. Daeth ei diriogaethau yn Normandi yn eiddo ei fab hynaf, William o Breteuil, a'i diriogaethau yng Nghymru a Lloegr yn eiddo ei ail fab, Roger de Breteuil.