William Price (meddyg)

meddyg, derwydd a hyrwyddwr amlosgiad Cymreig
(Ailgyfeiriad oddi wrth Willliam Price)

Siartydd, meddyg ac arloeswr rhyddid personol oedd y Dr. William Price (4 Mawrth 180023 Ionawr 1893), a aned yn Rhydri,[1] ger Llantrisant, Bro Morgannwg (bwrdeisdref sirol Caerffili). Daeth yn aelod o'r Coleg Llawfeddygol Brenhinol.

William Price
William Price (manylyn).jpg
Ganwyd 4 Mawrth 1800 Edit this on Wikidata
Rhydri Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Ionawr 1893 Edit this on Wikidata (92 oed)
Llantrisant Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Brenhinol Llawfeddygon
  • Ysgol Gynradd Machen Edit this on Wikidata
Galwedigaeth meddyg, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau Edit this on Wikidata
Cerflun o William Price a godwyd ym Mhontypridd

Roedd o flaen ei amser yn ei syniadau cymdeithasol a safbwynt athronyddol. Daeth yn gymeriad adnabyddus yn ardal Pontypridd. Roedd yn llysieuwr ac yn noethlymunwr, er enghraifft. Roedd yn gefnogol i'r Siartwyr yn eu hymdrechion i ennill hawliau i'r gweithwyr a chodi eu safonau byw. Yn sgîl ymdaith y Siartwyr ar Gasnewydd ym 1839 ffoes i Ffrainc. Daeth i adnabod y bardd Heine ym Mharis.

Enwodd ei fab yn Iesu Grist, gan fwriadol dorri tabŵ crefyddol; enillodd achos llys enwog i gael yr hawl i amlosgi ei fab a fu farw yn chwe mis oed. Ar 14 Mawrth 1884 pan oedd ar ganol paratoi i gorfflosgi ei fab fe'i arestiwyd gan yr heddlu. Dywedodd yn y Llys nad oedd deddf dros gorff losgi, ond nad oedd ychwaith unrhyw ddeddf yn gwahardd corfflosgi. Cytunodd y llys gydag ef a dychwelodd at y gwaith o gorfflosgi ei fab. Paratodd yr achos llys hwn y ffordd i ddeddfau Corfflosgiad 1902.

LlyfryddiaethGolygu

  • Islwyn ap Nicholas, A Welsh Heretic (1973).

CyfeiriadauGolygu