Winifred Emery
Roedd Winifred Emery (1 Awst 1861 - 15 Gorffennaf 1924), a anwyd Maud Isabel Emery, yn actores ac yn actor reolwr o Loegr ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20g. Roedd hi'n wraig i'r actor Cyril Maude.
Winifred Emery | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1861 Manceinion |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1924 Bexhill-on-Sea |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor |
Tad | Samuel Anderson Emery |
Priod | Cyril Maude |
Plant | Margery Maude, Pamela Cynthia Maude, John Maude |
Wedi'i eni i deulu o actorion, dechreuodd Emery actio fel plentyn.[1] Tyfodd ei gyrfa trwy'r 1880au a'r 1890au wrth iddi chwarae rolau blaenllaw yn y West End yn Llundain. Ar ôl cyfnod i ffwrdd o'r llwyfan, dychwelodd gyda rolau blaenllaw yng nghwmni Herbert Beerbohm Tree yn Theatr Ei Fawrhydi. Parhaodd i actio'n gyson gyda'i chwmni theatr deithiol ei hun a'i gŵr ac yn theatrau Llundain hyd 1922.
Bywyd a gyrfa gynnar
golyguGaned Emery ym Manceinion, Sir Gaerhirfryn, yn ferch i Samuel Anderson Emery ac yn wyres i John Emery, y ddau yn actorion adnabyddus yn eu dydd. Ymddangosodd ar y llwyfan am y tro cyntaf ym 1870, yn 8 oed, yn The Green Bushes gan J B Buckstone yn Theatr Alexandra, Lerpwl . Roedd ei hymddangosiad cyntaf yn Llundain ar 23 Rhagfyr 1874 pan chwaraeodd y cymeriad Happy New Year yn y pantomeim Beauty and the Beast [2] yn Theatr y Dywysoges, Llundain. Ym 1879 ymunodd â chwmni Marie Litton cyn ymddangos gyda Wilson Barrett yn Grand Theatre, Leeds. Symudodd gyda Barrett i'r Court Theater yn Llundain ym mis Hydref 1879.[3] Yno, sylwodd y beirniaid arni gyntaf pan ymddangosodd yn y ddrama un act A Clerical Error .[4]
Ymddangosodd Emery yn A Bridal Tour yn Theatr yr Haymarket ym mis Awst 1880, a pherfformiodd yn Theatr St James gyda Syr John Hare, William Hunter Kendal a Madge Kendal. Ym mis Gorffennaf 1881 ymunodd â chwmni Henry Irving yn Theatr y Lyceum, ac yno ymddangosodd yn The Bells a The Merchant of Venice. Yn ddiweddarach, chwaraeodd yn Toole's Theatre ac yn y Theatr Vaudeville gyda Thomas Thorne yn The Rivals. Ym 1884 daeth yn ddirprwy actores i Ellen Terry yn Theatr y Lyceum a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau gyda Henry Irving, gan chwarae yn Twelfth Night, Much Ado About Nothing a The Merchant of Venice . Hefyd i Irving, ym mis Hydref 1885 chwaraeodd Emery rôl y teitl yn Olivia gan WG Wills, a theithiodd yr Unol Daleithiau eto ym 1887-8.[3]
Priododd Emery â'r actor Cyril Maude [5] ar 28 Ebrill 1888 yn Swyddfa Gofrestru Kensington, a chawsant seremoni briodas arall yng Nghapel y Savoy ar 2 Mehefin 1888.[6] Ymddangosodd nesaf yn Theatr y Vaudeville ac, ar gyfer Augustus Harris, yn y Theatre y Royal, Drury Lane. Gan ddychwelyd i Theatr y Vaudeville ym mis Chwefror 1890, chwaraeodd y rôl deitl yn Clarissa, wedi'i haddasu gan Robert Williams Buchanan o'r nofel gan Samuel Richardson.[7] Yn yr un flwyddyn, ac yn yr un theatr, chwaraeodd rolau blaenllaw yn The School for Scandal a She Stoops to Conquer, ymhlith eraill.[3] Roedd hi'n serennu yn Judah gan Henry Arthur Jones yn Theatr Shaftesbury ym mis Medi 1890 cyn ymddangos yn y Theatr Olympaidd gyda Wilson Barrett ym mis Rhagfyr 1890.
Ym mis Mai 1891 gwelwyd Emery yn ôl yn Theatr Shaftesbury, ac ym mis Chwefror 1892 cymerodd y rôl deitl yng nghynhyrchiad gwreiddiol Lady Windermere's Fan gan Oscar Wilde yn Theatr St James. Rhwng 1893 a 1895 chwaraeodd Emery y prif rolau benywaidd i J. Comyns Carr yn y Theatr Gomedi, lle ymddangosodd yn The New Woman a Sowing the Wind gan Grundy a The Benefit of the Doubt gan Pinero. Cymaint oedd ei enwogrwydd erbyn hyn fel y tynnwyd ei phortread gan Aubrey Beardsley, gan ymddangos yn rhifyn Ionawr 1895 o The Yellow Book. Ym mis Chwefror 1896 ymddangosodd yn Theatr Lyceum dan reolaeth Syr Johnston Forbes-Robertson.[3]
Blynyddoedd diweddarach
golyguYm 1896 daeth ei gŵr yn actor reolwr Theatr yr Haymarket, ac aeth Emery gydag ef, gan ddod yn brif actores iddo. Fodd bynnag, oherwydd cyfnod o salwch a genedigaeth ei mab, gwnaeth un ymddangosiad yn unig yno rhwng 1898 a 1905, yn The Second in Command, gan Robert Marshall, ym mis Gorffennaf 1901. Gwnaeth ei 'dychweliad' theatraidd ym mis Chwefror 1905, pan chwaraeodd Beatrice yn Much Ado about Nothing gyferbyn â Herbert Beerbohm Tree yn Theatr Ei Mawrhydi . Ym mis Ionawr 1906 ymddangosodd yn Theatr yr Waldorf fel Mrs Pellender yn The Superior Miss Pellender. Ffurfiodd Emery ei chwmni theat ei hun a chyda hi aeth hi a'i gŵr ar daith i theatrau taleithiol, y ddau ohonyn nhw'n serennu yn Olivia and Her Son gan Horace Annesley Vachell. Trosglwyddodd y ddrama hon i Theatr y Playhouse, oedd dan reolaeth Cyril Maude, ym mis Mawrth 1907.[3]
Rhwng 1907 a 1922 chwaraeodd Emery rolau blaenllaw mewn nifer o gynyrchiadau yn theatrau'r West End, gan gynnwys Theatr y Playhouse gyda'i gŵr. Chwaraeodd ran yn The Merry Wives of Windsor yn Theatr Ei Fawrhydi yn; The Bunking of Betty yn Drury Lane; Caste gan TW Robertson yn Theatr St James; Syr Walter Ralegh yn Theatr y Lyric; The Schoolmistress gan Pinero yn y Theatr Vaudeville; Never Say Die gan WH Post yn Theatr yr Apollo. Ym mis Mai 1911 gwnaeth Perfformiad Gorchymyn Brenhinol yn Drury Lane o flaen Wilhelm II, ac mewn Perfformiad Gala Coroni i'r brenin newydd Siôr V, a gynhaliwyd yn Theatr Ei Fawrhydi ar 27 Mehefin 1911, chwaraeodd Elisabeth I yn The Critic gan Sheridan, a gyfarwyddwyd gan Syr Squire Bancroft .[3] Roedd ei pherfformiad olaf yn Theatr Ei Fawrhydi ar 26 Chwefror 1923 mewn cynhyrchiad elusennol o The Ballad Monger.
Marwolaeth
golyguBu farw Emery o ganser y stumog yn ei chartref yn Bexhill-on-Sea Sussex, yn 62 oed, a chladdwyd hi yn Eglwys Sant Marc yn Bexhill.
Teulu
golyguYmhlith ei phlant gyda Maude roedd Margery Maude, a ddaeth yn actores;[2] Pamela Cynthia Maude (1893-1975); a John Cyril Maude,[8] a ddaeth yn fargyfreithiwr, barnwr ac Aelod Seneddol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "APPEARANCEOFAFAVOURITEACTRESS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1905-02-04. Cyrchwyd 2020-07-01.
- ↑ 2.0 2.1 The Stage Beauty - Winifred Emery (1862-1924) adalwyd 1 Gorffennaf 2020
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Emery, Winifred (1861–1924), actress. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020
- ↑ Cyfweliad yn The Sketch, 7 Rhagfyr 1911
- ↑ Maude, Cyril Francis (1862–1951), actor and theatre manager. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020
- ↑ "ATHEATRICALMARRIAGEII - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-06-04. Cyrchwyd 2020-07-01.
- ↑ Clarissa, The Times, 7 Chwefror 1890
- ↑ Maude, His Honour John Cyril, (3 April 1901–16 Aug. 1986), QC 1942. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020