Wishaw
Tref yng Ngogledd Swydd Lanark, yr Alban, yw Wishaw[1] (Sgoteg: Wishae).[2] Fe'i lleolir tua 15 milltir (24 km) i'r de-ddwyrain o ganol Glasgow. Hyd at 1975 roedd yn rhan o'r un burgh â Motherwell, sy'n gyfagos. Arferai fod yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu haearn a dur, ond diflannodd diwydiant trwm yn y 1990au.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 30,290 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Lanark |
Gwlad | Yr Alban |
Yn ffinio gyda | Airdrie |
Cyfesurynnau | 55.7742°N 3.9183°W |
Cod SYG | S19000518 |
Cod OS | NS795555 |
Cod post | ML2 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 30,390.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 8 Hydref 2019
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 16 Ebrill 2022
- ↑ City Population; adalwyd 8 Hydref 2019