Wonder Girls
Grŵp merched o De Corea
Grŵp pop o Dde Corea yw Wonder Girls. Eu cynhyrchydd a'u rheolwr yw'r canwr-cyfansoddwr Park Jin-Young ac mae gan y Wonder Girls gytundeb â'i asiantaeth dalentau ef, sef JYP Entertainment. Dewiswyd pob aelod drwy gyfres o glyweliadau. Dechreuodd y grŵp gydweithio ar ddechrau 2007, gan ddod yn boblogaidd yn nhymor yr hydref y flwyddyn honno gyda'r gân "Tell Me".[1] Maent wedi cael tair sengl sydd wedi mynd i rif un yn olynol sef: "Tell Me", "So Hot", a "Nobody".
Wonder Girls | |
O'r chwith i'r dde: Sun-Ye, Yu-Bin, Ye-Eun, Hye-Rim a So-Hee yn perfformio yn Fillmore yn San Francisco, CA; Mehefin 2010. | |
---|---|
Gwreiddiau | Seoul, De Corea |
Cefndir | Grŵp / band |
Math | pop |
Blynyddoedd | 2007 - presennol |
Label | JYP Entertainment United Asia Management |
Aelodau presennol | Sun-Ye (Sun) Ye-Eun (Yenny) So-Hee Yu-Bin Hye-Rim (Lim) |
Cyn aelodau | Hyuna Sun-Mi (MiMi) |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yang, Jeff. ASIAN POP: Next stop, Wonderland. San Francisco Chronicle. 9 Ebrill, 2008. Adalwyd ar 2 Mawrth, 2009.