Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o dros 9,668,465 (2020)[1] ac mae gan Seoul Fwyaf boblogaeth o 24,105,000 (2016)[2].

Seoul
Mathnational capital Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlprifddinas Edit this on Wikidata
PrifddinasJung District Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,668,465 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Mehefin 1395 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOh Se-hoon Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Coreeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSeoul Fwyaf Edit this on Wikidata
GwladBaner De Corea De Corea
Arwynebedd605.25 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Han, Cheonggyecheon, Jungnangcheon, Anyangcheon, Tancheon, Yangjaecheon Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Gyeonggi, Incheon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.56°N 126.99°E Edit this on Wikidata
KR-11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Fetropolitan Seoul Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor trefol Seoul Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Seoul Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOh Se-hoon Edit this on Wikidata
Map

Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffin â Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong. Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.

Yn 2014, dinas Seoul oedd y 4edd dinas fetropolitan fwyaf ei heconomi yn y byd ar ôl Tokyo, Efrog Newydd a Los Angeles.[3] Yn 2017, roedd costau byw yn y ddinas y 6ed uchaf yn y byd.[4][5] Gyda chanolfannau technoleg enfawr wedi eu canoli yn Gangnam a'r Ddinas Cyfryngau Digidol, mae Seoul Fwyaf yn gartref i bencadlys 14 o gwmniau mwya'r byd, sef y Fortune Global 500, gan gynnwys Samsung, LG, a Hyundai.[6][7]

Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1988 a gêm derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 2002; yma hefyd oedd cynhadledd y G-20 yn 2010.

Wedi'i lleoli'n strategol ar hyd glannau Afon Han, mae hanes y ddinas yn ymestyn yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd, ers ei sefydlu yn 18 CC gan bobl Baekje, un o Dair Teyrnas Corea. Yn 1394 dynodwyd y ddinas yn brifddinas Corea o dan y Brenhinllin Joseon (1392-1897), ac yn 1948 yn brifddinas De Corea. Amgylchynir y ddinas gan ardal fynyddig a bryniog, gyda Mynydd Bukhan ar ymyl ogleddol y ddinas. Mae gan Seoul Fwyaf (neu weithiau 'Ardal Prifddinas Seoul') bum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Changdeok Palace, Caer Hwaseong, Cysegrfa Jongmyo, Namhansanseong a Beddrodau Brenhinol y Brenhinllin Joseon.[8]

Geirdarddiad

golygu

Mae enwau blaenorol y ddinas yn cynnwys: Wiryeseong (Coreeg위례성; Hanja慰禮城, yn y Cyfnod Baekje), Hanyang (한양; 漢陽, yn y Cyfnod Goryeo), Hanseong (한성; 漢城, y Cyfnod Joseon), a Keijō (京城) neu Gyeongseong (경성) yn ystod y cyfnod pan meddiannwyd Corea gan Japan.[9]

Dan reolaeth Japan, newidiwyd yr enw o Hanseong (漢城) i Keijō (京城) gan yr awdurdodau imperialaidd i atal dryswch gyda'r gair cyffelyb 'hanja' '' (cyfieithiad o'r gair Coreeg Han () sef "gwych"), sydd hefyd yn cyfeirio at y bobl Han o'r Frenhinlyn Han ac sy'n golygu 'Tsieina' mewn Tsieineeg a Japaneg.[10]

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a c annibyniaeth De Corea, cymerodd y ddinas ei henw presennol, sy'n tarddu o'r gair Corea sy'n golygu "prifddinas". Mae'r gair yma'n tarddu o Seorabeol (Coreeg서라벌; Hanja徐羅伐), a gyfeiriai'n wreiddiol at Gyeongju, sef prifddinas Silla.[11]

Hanes cynnar

golygu

Cofnodir enw gwreiddiol y ddinas yn gyntaf fel 'Wiryeseong', prifddinas Baekje (a sefydlwyd yn 18 CC) yn ardal gogledd-ddwyrain o ddinas fodern.[12] Ceir nifer o waliau gwreiddiol y ddinas o'r cyfnod hwn. Gelwir un o'r rhain yn "Pungnaptoseong", yn ne-ddwyrain y ddinas, a chredir fod y wal yma'n dyddio o gyfnod y Wiryeseong.[13] Gan i'r Dair Teyrnas gystadlu am yr ardal strategol hon, trodd rheolaeth o'r ddinas o Baekje i Goguryeo yn y 5g, ac o Goguryeo i Silla yn y 6g.[14]

Y canoloesoedd

golygu

Yn y 11g adeiladodd Goryeo, a olynnodd Silla, balas enfawr yn Seoul, y cyfeiriwyd ato fel y "Prifddinas y De". Dyma'r cyfnod pan dyfodd y ddinas fwyaf.[12] Pan ddisodlwyd Goryeo gan Joseon, symudwyd y brifddinas i Seoul, lle arhosodd tan cwymp y frenhinllyn. Gwasanaethodd Palas Gyeongbok, a adeiladwyd yn y 14g, fel y breswylfa frenhinol tan 1592. Gwasanaethodd palas mawr eraill, Changdeokgung, a adeiladwyd ym 1405, fel y prif Palas Brenhinol rhwng 1611-1872. Ar ôl y cyfnod Joseon newid ei enw i Ymerodraeth Corea ym 1897.[12]

Awdurdodau Dosbarth

golygu

Rhennir Seoul yn 25 awdurdod dosbarth, neu gu (구) yng Nghoreeg.[15]

 
Awdurdodau dosbarth Seoul

Cyfeiriadau

golygu
  1. "행정구역(읍면동)별/5세별 주민등록인구(2011년~)".
  2. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  3. "The World According to GaWC 2020". GaWC - Research Network. Globalization and World Cities. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Awst 2020. Cyrchwyd 26 Awst 2020.
  4. Solutions, EIU digital. "Worldwide Cost of Living 2017 – The Economist Intelligence Unit". www.eiu.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2017. Cyrchwyd 13 Hydref 2017.
  5. Sustainable Cities Index, 2015 Archifwyd 30 Awst 2016 yn y Peiriant Wayback. Arcadis.
  6. "Tech capitals of the world". The Age. Melbourne. 2009-06-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Medi 2009. Cyrchwyd 2013-08-07.
  7. "Samsung Electronics". Fortune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Hydref 2014. Cyrchwyd 24 Hydref 2014.
  8. "Lists: Republic of Korea". UNESCO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2019.
  9. Yu, Woo-ik; Lee, Chan (6 Tachwedd 2019). "Seoul". Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mehefin 2015. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2020. The city was popularly called Seoul in Korean during both the Chosŏn (Yi) dynasty (1392–1910) and the period of Japanese rule (1910–45), although the official names in those periods were Hansŏng (Hanseong) and Kyŏngsŏng (Gyeongseong), respectively.
  10. Kim, Dong Hoon (22 Mawrth 2017). Eclipsed Cinema: The Film Culture of Colonial Korea. ISBN 9781474421829.
  11. "Yahoo holiday travel guide". Uk.holidaysguide.yahoo.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2007.
  12. 12.0 12.1 12.2 "Seoul". Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 2014-02-07.
  13. "Pungnap-toseong (Earthen Ramparts)". Seoul Metropolitan Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2014-02-07.
  14. Tennant (12 Tachwedd 2012). History Of Korea. ISBN 9781136166983. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2020.
  15. Seoul Organizational Chart - Districts (Saesneg) Archifwyd 2014-07-21 yn y Peiriant Wayback Gwefan Llywodraeth Dinas Seoul; Adalwyd 6 Ebrill 2014